
Mi gafodd John Owen ei eni yn Tŷ’n Coed, Tregaian ar Ynys Môn yn Awst 1940. Roedd llawer yn dal i’w ’nabod fel ‘John Tŷ’n Coed’, ac roedd y fferm a’r filltir sgwâr yng nghysgod Mynydd Bodafon yn bwysig iawn iddo fo ar hyd ei fywyd. Mi aeth i ysgol Capel Coch a chafodd sylfaen gadarn hefyd yng nghapel Tŷ Mawr yn y pentref. Bu ei dad a’i frawd yn flaenoriaid yno, ac mae ei nai Trystan bellach yn eistedd yn y set fawr yno.
Ar ôl ei addysg uwchradd yn Ysgol Llangefni mi aeth yn ei flaen i astudio Cymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth. Ond ar ôl mynd i Fangor i astudio diwinyddiaeth y daeth un o drobwyntiau mwyaf ei fywyd, oherwydd yno wnaeth o gyfarfod Mam, sef Ann Ellis o Aberdaron.
Ym Mangor hefyd ddechreuodd ei berthynas o ddifri efo cariad mawr arall – byd y ddrama. Un fraint fawr gafodd o oedd chwarae’r brif ran, hynny yw Morgan Llwyd, yng nghynhyrchiad Prifysgol Bangor o ddrama John Gwilym Jones ‘Hanes Rhyw Gymro’ ym 1964. Ond er gwaethaf tynfa’r theatr, roedd yna lais arall yn galw.
Cafodd ei sefydlu yn weinidog yn Llanberis, a buan y daeth o a Mam i chwarae rhan ganolog ym mywyd y pentref. Roedd o’n falch iawn ei fod wedi medru mewn ffordd fechan helpu rhai o fechgyn ifanc, talentog Llanber ar ddechrau eu taith gerddorol. Ond mae’n siŵr bod gan Gymru le i fod yn ddiolchgar na wnaeth Hogia’r Wyddfa ei wahodd i ganu efo nhw! Roedd Arwel a Myrddin o’r grŵp ymhlith aelodau cyntaf Cwmni Drama Llanberis gafodd ei sefydlu gan Dad yn 1964. Mae’r fenter lwyddiannus honno bellach wedi ei ymgorffori yng ngofod diwylliannol Y Festri, ar safle capel Gorffwysfa ble bu’n weinidog.
Roedd hefyd yn aelod gweithgar o gangen Plaid Cymru Llanberis. Mi gafodd o a’r tîm brwdfrydig hwnnw’r wefr o helpu i ethol Dafydd Wigley yn Aelod Seneddol dros Arfon yn y ddau Etholiad Cyffredinol yn 1974. Yn y Saithdegau bu’n aelod hefyd o’r ymgyrch am sianel deledu Cymraeg, a bu o flaen llys am wrthod talu ei drwydded deledu.
Wedi symud i ofalaeth newydd yn Nyffryn Clwyd yn 1977 taflodd ei hun i fywyd diwylliannol Cymraeg Rhuthun gan helpu i sefydlu papur bro ‘Y Bedol’. Defnyddiodd ei brofiad o fod ymhlith sefydlwyr ‘Eco’r Wyddfa’ i roi tîm gweithgar Dyffryn Clwyd ar ben ffordd. Yma sefydlodd gwmni drama arall, Cwmni Drama Rhuthun, ac fe roddodd y cyfle cyntaf i fachgen ifanc pen melyn i actio ar lwyfan. Rhys Ifans oedd hwnnw, a bu’n dilyn ei yrfa ddisglair gyda diddordeb mawr.
Ganol yr 80au roedd yr ymgyrch yn erbyn arfau niwclear ar ei hanterth. Yn 1985 fe gafodd o ynghyd â thri gweinidog arall – Pryderi Llwyd Jones, John Tudor ac Islwyn Lake – eu harestio am geisio torri rhan o’r ffens o amgylch gwersyll llu awyr RAF Molesworth, yn Sir Caergrawnt. Roedd y weithred symbolaidd yn enw Cymdeithas y Cymod, mudiad y bu Dad, fel heddychwr, yn gefnogol iddo am ddegawdau.
Parhaodd hefyd i fod yn weithgar efo Plaid Cymru, gan ganfasio ac ymgyrchu ar ran sawl ymgeisydd, o Ieuan Wyn Jones yn etholaeth Dinbych yn 1979 hyd at gyfnod mwy diweddar Llŷr Gruffydd yn Aelod Senedd Cymru.
Fel un o gefnogwyr selog clwb pêl-droed Wrecsam bu’n rhan o ymgyrch i sicrhau mwy o sylw i’r Gymraeg ar ddiwrnod gêm. Gyda chefnogaeth Dai Davies, gôl-geidwad y clwb ar y pryd, mi gafodd cyhoeddiadau Cymraeg eu cyflwyno dros yr uchelseinydd ac roedd yna erthyglau Cymraeg yn y rhaglen swyddogol.
Ond fe gafodd sawl ergyd drom yn ystod ei gyfnod yn Rhuthun. Yn gyntaf collodd ei frawd iau, Emyr, a oedd yn gefn iddo bob amser gyda’i gyngor doeth a’i gyfeillgarwch. Ac yna yn 1992, colli Mam. Doedd gennym ni fel teulu ddim syniad sut y byddai o yn gallu ymdopi heb gariad ac ysbrydoliaeth Mam wrth ei ochr. Ond drwy ffawd mi wnaeth o gyfarfod Gwenda. Ac fe ddaeth athrawes arall i ail gynnau’r fflam yn ei galon. Fe gawson nhw chwarter canrif dedwydd gyda’i gilydd cyn i Gwenda colli ei brwydr gyda chlefyd blin Motor Niwron (MND).
Un o themâu parhaol dramâu’r Dr. John Gwilym Jones, a oedd yn arwr a chyfaill da i Dad, ydy’r syniad o ganol llonydd. Yn aml mae’r brif cymeriad yn ceisio dod o hyd i dawelwch meddwl wrth i densiynau a stormydd allanol ruo o’u cwmpas. Mae’n ddirgelwch i ni sut y llwyddodd Dad i ddod o hyd i’r canol llonydd hwnnw er gwaetha’r profedigaethau cynamserol ac ysgytwol rhain. Yn naturiol, ar ôl colli Mam a Gwenda, daeth elusennau Tenovus a Chymdeithas MND yn bwysig iddo. Trwy gyhoeddi ei gyfrol o englynion ‘Colli Briwsion’ fe lwyddodd i godi dros £3,000 i’w rannu rhwng y ddwy elusen.
Yn ystod ei yrfa fel gweinidog cafodd y fraint o fod yn Llywydd Cymdeithasfa’r Gogledd. Yn goron ar y cwbl bu’n Llywydd y Gymanfa Gyffredinol yn 2004. Yn y swydd honno mi wnaeth o gynrychioli Eglwys Bresbyteraidd Cymru yn yr India. Fe gymerodd ran mewn digwyddiadau i nodi canmlwyddiant marwolaeth John Roberts, un o’r cenhadon cynnar o Gymru. Yn nhre Shillong ym Mryniau Casia (Khasi Hills) mae yna gofeb, ac enw John Owen wedi ei naddu arni.
O gowt Tŷ’n Coed i Fryniau Casia, mi fuodd hi’n dipyn o daith. A nid ofer fu’r daith honno. Gyda phenderfyniad di-ffỳs a diffwdan ac ymgyrchu diflino, do, mi gawson ni sianel deledu. Do, fe gafodd taflegrau niwclear Cruise yr Unol Daleithiau eu symud o RAF Molesworth. Do, mi gawson ni ragor o Gymraeg ar y Cae Ras. A do, mi gafodd Dad yn wythnosau olaf ei fywyd y wefr o weld llywodraeth Plaid Cymru yn cael ei hethol ym Mae Caerdydd.
A do, mi gafodd Huw a finnau Dad arbennig. Diolch Dad.
Dafydd Owen