Mae gwefan Cymdeithas Hanes Plaid Cymru’n cyhoeddi teyrnged i’r diweddar gyn-gynghorydd Brian Arnold, Ynysybwl, aelod ffyddlon o’r Blaid a chynghorydd gweithgar ac ymroddedig i’w gymuned.
Ymunodd Brian â’r Blaid yn 1957 pan oedd 16 mlwydd oed ac fe’i etholwyd yn aelod Plaid Cymru o Gyngor Gymuned Ynysybwl yn 1986, gan wasanaethu ar y cyngor hwnnw am gyfnod o 26 o flynyddoedd.
Nes ymlaen fe ddaeth yn aelod o Gyngor Bwrdeistref Cwm Cyngor a Chyngor Sir Rhondda Cynon Taf ac fe gadwodd ei sedd ar y cyngor am gyfnod o dair blynedd ar ddeg ac ennill parch gan bobl o bob plaid wleidyddol.
Awdur y deyrnged yw cyd-aelod o’r Blaid yng Nghwm Cynon, yr hanesydd D. Leslie Davies ac fe gewch ei darllen yma.