Americanes ddawnus a ddaeth yn Gymraes frwd
Dafydd Williams
Rywbryd yng nghanol y saithdegau, cerddodd Americanes ifanc i mewn i brif swyddfa Plaid Cymru yng Nghaerdydd. Yr oedd Charlotte Aull a’i bryd ar ddarganfod popeth am Gymru a’i mudiad cenedlaethol. Bu disgwyl iddi ddychwelyd dros yr Iwerydd ar ôl cwblhau’i PhD, ond – yn ffodus i Gymru – fel arall y bu.
Cafodd Charlotte ei geni yn Lexington, Kentucky, un o dri o blant. Enillodd radd mewn mathemateg ac yna MSc ym Mhrifysgol Mississippi cyn troi at anthropoleg gymdeithasol, hynny yw astudio cymunedau a’u diwylliant. Ac ar gyfer ei PhD yng Ngogledd Carolina, Cymru oedd y wlad y dewisodd i’w hastudio.
Ynghyd â phersonoliaeth hyfryd, roedd gan Charlotte benderfyniad tawel. Oriau ar ôl glanio yng ngwledydd Prydain, bu yn Nhŷ’r Cyffredin yn cyfweld â Gwynfor Evans, Aelod Seneddol cyntaf Plaid Cymru. Nes ymlaen mewn siop lyfrau sylwodd ar ŵr bonheddig yn craffu ar res o lyfrau Cymreig – neb llai na’r bardd Harri Webb, ac fe gafodd yntau ei gyfweld yn y fan a’r lle!
Diau mai Gwynfor a awgrymodd ymweliad â mi yn swyddfa’r Blaid i ddarganfod mwy a chael rhestr o bobl eraill i’w holi. Ond go brin y gwelodd neb y canlyniad hapus – y byddai Charlotte yn priodi fy ffrind Hywel Davies, newyddiadurwr, cenedlaetholwr ac awdur llyfr safonol ar hanes ugain mlynedd gyntaf Plaid Cymru. Daeth Charlotte yn rhugl yn y Gymraeg wrth gyflawni gwaith maes ar gyfer ei PhD ym Mangor a Chaerdydd.
Mudodd y pâr i’r Unol Daleithiau yn 1985 pan gafodd Charlotte gynnig swydd darlithydd ym Mhrifysgol De Carolina. Erbyn hyn, roedd gyda nhw ferch ddyflwydd oed – Elen Gwenllian, a fabwysiadwyd yn 1983. Yn ôl i Gymru daeth y teulu bach yn 1988, gan fyw mewn nifer o fannau yn y Gogledd a’r De cyn setlo yn Nhreforys – Hywel yn dilyn ei yrfa yn y byd teledu a Charlotte ym Mhrifysgol Abertawe.
Bydd nifer yn gyfarwydd â’i chlasur Welsh Nationalism in the Twentieth Century (1989). Er i’r llyfr ymddangos ar adeg ddigon tywyll i obeithion Cymru, torrodd dir newydd drwy olrhain y perthynas rhwng cenedlaetholdeb a ffactorau strwythurol, megis datblygiad y wladwriaeth Gymreig.
Yn 1992, penodwyd Charlotte yn ddarlithydd, ac yn 2000 yn uwch-ddarlithydd mewn cymdeithaseg ac anthropoleg. Bu’n awdur toreithiog, a’i llyfr Reflexive Ethnography (1998) yn dal yn destun allweddol i’r sawl sy’n astudio pobloedd a’u diwylliannau. Mae ei chydweithwyr yn cofio’i charedigrwydd, ei hysbryd cydweithredol a’i hymroddiad llwyr i gyfiawnder cymdeithasol. Roedd yn awdurdod yn ei phwnc, ac yn hynod agos atoch chi ac yn boblogaidd ymhlith ei myfyrwyr.
Ysgrifennai nifer helaeth o bapurau academaidd, yn ogystal â chyfrannu at Barn a’r cylchgrawn Planet. Rhwng 2007 a 2012 bu Hywel a hithau’n cynhyrchu’r Papur Gwyrdd, cylchgrawn amgylcheddol a gyflwynai’r frwydr fawr dros y blaned yn yr iaith Gymraeg. Ail-lansiwyd y Papur Gwyrdd yn wefan yn 2021. Roedd hi hefyd yn aelod gweithgar o Blaid Cymru, gan wasanaethu yn Ysgrifennydd ac yn Drysorydd i Gangen Dwyrain Abertawe. Safodd yn ymgeisydd dros y Blaid ar gyfer sedd ar Gyngor Abertawe yn ward Treforys.
Arhosodd Charlotte yn Americanes frwd, gan gadw ei dinasyddiaeth Americanaidd, ymweld â’i theulu’n aml a dathlu Dydd Annibyniaeth a’r Diolchgarwch mewn steil. Cadwai olwg barcud ar wleidyddiaeth ei mamwlad – mae’n deg nodi nad oedd yn deyrngar i Donald Trump! Yn ogystal â dwli ar jazz, roedd gyda hi ddiddordeb oes mewn ceffylau a marchogaeth, cariad a gyflwynodd i Hywel ac Elen – i’r fath raddau bod Hekkla,merlyn Ynys yr Iâ oedd yn rhodd i Elen, wedi croesi’r Iwerydd i fyw yng Nghymru!
Bu Charlotte yn frwd ei chefnogaeth i achos Cymru a’r iaith Gymraeg, i gyfiawnder cymdeithasol a heddwch. Bu’n llywodraethwr Ysgol Gynradd Gymraeg Tan-y-Lan, Treforys. Bu’n hoff o gerdded mynyddoedd, beicio a garddio, fel y nododd cyfaill a chymydog, y Prifardd Robat Powell:
Ein Charlotte ddoeth, Charlotte dda – a gofiwn
drwy nos gyfyng gaeaf’,
ac o’r ardd daw atgo’r ha’
i ddyn, a bydd hi yna!
Estynnwn ein cydymdeimad i Hywel ac Elen, a’i gŵr hithau Adam.
Ganed Charlotte Aull Davies ar 8 Hydref, 1942. Bu farw ar 18 Chwefror, 2023.
Mae’r deyrnged hon yn fersiwn estynedig o’r erthygl a ymddangosodd yn rhifyn Mis Mehefin 2023 o’r cylchgrawn Barn. Diolchwn i’r golygydd Menna Baines am ei chydweithrediad caredig.