Cofio John Harries 1925 – 2018

Talwyd teyrngedau i John Harries, Tycoch, Abertawe, aelod ffyddlon o Blaid Cymru, a fu farw yn 93 oed yn ystod Mis Awst.

Bu John yn beilot gyda’r RAF tua diwedd y rhyfel pan wasanaethodd yn y Dwyrain Pell cyn dychwelyd i gymhwyso’n bensaer, a gweithio yn Llundain ac yna Abertawe.  Daeth yn bensaer parhaol gyda’r Brifysgol yn Abertawe nes ymddeol yn gynnar yn 1982.

Mae’i deulu’n hanu o ardal Dinas Cross yn Sir Benfro, a byddai John yn atgoffa pobl taw fe oedd aelod hynaf Capel Tabor yn y pentref.  Cafodd ei fagu mewn nifer o leoedd yn ne a gorllewin Cymru nes i’w deulu symud i Lundain, ble addysgwyd John yn ysgol Streatham. 

Priododd ei wraig gyntaf, Gwenda, yn 1956 a ganwyd dau fab – Huw, sydd bellach yn byw yn y Swistir a Bryn, sydd wedi setlo yn Llundain.  Yn drist iawn, bu farw Gwenda yn ifanc, ac yn 1970 priododd Joy nes ei marwolaeth hithau yn 1996.  Daliodd John yn weithgar tan y blynyddoedd diweddar, gan helpu’n gyson gydag ymgyrchoedd y Blaid yn ei wyth-degau. 

Yn ei angladd, dywedodd cyn-Ysgrifennydd Cyffredinol Plaid Cymru Dafydd Williams y byddai John ymhlith y cyntaf i ddod i helpu mewn isetholiadau – fel arfer gyda’r Ddraig Goch yn cyhwfan o’i gar a chorn siarad yn atseinio neges y Blaid.

John Harries (chwith) gydag Ymgeisydd Seneddol Plaid Cymru Gorllewin Abertawe, Guto ap Gwent, yn y cyfrif yn y 1970au.

Gyda’i ddawn dechnegol, fe ddaeth John yn gyfrifol am ddarparu set llwyfan Cynhadledd Flynyddol Plaid Cymru ac yn creu gorchestwaith y byddai’r pleidiau mawr yn talu cannoedd o filoedd o bunnau am rywbeth tebyg – gan ddylunio, cynllunio ac adeiladau set llwyfan uchelgeisiol mewn caban yn ei ardd yn Nhycoch.

“Roedd John yn genedlaetholwr ymroddedig gyda syniadau radical – ac fe gredodd  mewn gweithio i droi ei weledigaeth yn ffaith”, meddai.