Cofio Phil Williams Teyrnged Dafydd Williams

Yn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd dydd Iau, 9 Awst 2018, bu Plaid Cymru’n dathlu bywyd y diweddar Athro Phil Williams, ei hymgeisydd yn is-etholiad Caerffili hanner can mlynedd

Trefnwyd y cyfarfod gan Gymdeithas Hanes Plaid Cymru a rhoddwyd teyrngedau gan Dafydd Williams a Cynog Dafis a chyfraniad gan Dafydd Wigley.

Cofio Phil Williams

Teyrnged gan Dafydd Williams, Cadeirydd Cymdeithas Hanes Plaid Cymru

Mae’n anodd credu ei bod yn bymtheng mlynedd ers colli Phil Williams.  Ac i’m cenhedlaeth i, anodd hefyd yw credu bod hanner can mlynedd wedi carlamu heibio ers yr isetholiad hanesyddol hwnnw yn etholaeth Caerffili.  Rydyn ni’n dal i aros am gofiant teilwng ohono fe, a gobeithio y daw hwnnw maes o law.  Ond mae llawer ar gof a chadw am y gŵr hwn o’r cymoedd a’i yrfa hynod – cymaint yn wir nes ei bod yn broblem penderfynu beth i’w  adael allan.  Diolch byth bod Cynog Dafis yma i edrych ar gyfraniad Phil i’n dealltwriaeth o bwysigrwydd yr amgylchedd, un o achosion mawr ei fywyd gorlawn. 

Roedd Phil yn bedair blynedd yn hyn na mi – cafodd ei eni yn Nhredegar, ar flaenau cymoedd glofaol Gwent, a’i fagu ym Margoed – a oedd, meddid, yn lleoliad i’r domen lo ail fwyaf yn y byd, ond bod neb yn siŵr iawn ble oedd y mwyaf!  Byddai’n hoff o olrhain ei achau ar y ddwy ochr, ei fam a’i dad i odre’r Mynydd Du yn Sir Gaerfyrddin.  Roedd hyn yn bwysig iddo – achos roedd stori ei dylwyth yn portreadu hanes ei wlad.  Dyma rieni ei dad yn dechrau eu bywyd priodasol ar fferm fach ucheldir Bryn Merched ger Llyn-y-fan.  Flynyddoedd wedyn, ceisiodd Phil gael hyd iddi, gan ddefnyddio hen fap 1870 – ond y cwbl oedd ar ôl oedd pentwr o gerrig.  Symudodd teulu ei dad i fferm yng Nghwm Rhymni – fferm a ddibynnai ar ffyniant y gymuned lofaol gerllaw.  Rhywbeth tebyg oedd hanes teulu ei fam – ei thad hi’n symud o waith mewn ffatri wlân yn ardal Llangadog i weithio yn y pyllau glo, gan ddibennu ei yrfa ym Margoed.

Felly cafodd Phil ei blentyndod yn un o dri o blant, David, Phil a Jennifer, yng Nghwm Rhymni, ble gweithiai ei dad yn athro, a nes ymlaen yn brifathro.  Roedd ei fam hefyd yn athrawes, oedd wedi mynd i’r Coleg Normal ­ – a dyma hanes drist – dywedai Phil bod ei chydfyfyrwyr yno yn gwatwar ei thafodiaith Gymraeg Wenhwyseg, a wnaeth hi ddim trosglwyddo’r iaith i’r plant.

Aeth Phil i Ysgol Lewis, Pengam ble daeth yn amlwg ei fod yn eithriadol o ddisglair.  Clywais ei frawd David yn ddiweddar yn adrodd hanes am roi lifft i Phil ar gyfer cyfweliad yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen – a dweud wrth y panel ei fod mewn gwirionedd a’i fryd ar Gaergrawnt i ddarllen gwyddoniaeth.  Ac roedd ei berfformiad gystal nes bod y dons yn Rhydychen yn fodlon cadw lle ar agor iddo, jyst rhag ofn!  Felly i Goleg Clare yng Nghaergrawnt yr aeth, fel David ei frawd – Phil  i ddarllen gwyddoniaeth, yn debyg i’w wncl, R.M. Davies, a fu wedyn yn Athro’r adran ffiseg yn Aberystwyth – a difyr meddwl y byddai Phil yn dilyn ôl traed ei ewyrth rai degawdau wedyn.  Buan iawn yng Nghaergrawnt y daeth ar draws defnydd cyfrifiadur – 1957 oedd hyn, cofiwch.  Ac o hynny ymlaen, byddai ar flaen y gad gyda thechnoleg.  Rwy’n cofio cael fy llorio ganddo, rywbryd yn y saithdegau gan ei osodiad treiddgar “All you need’s a modem”!  Doedd gen i fawr o syniad ar y pryd beth oedd modem neu e-bost – rown i’n credu ein bod ni yn Swyddfa’r Blaid ar frig y don gyda’n peiriant ffacs blaengar newydd!  Ac nes ymlaen, yn y chwedegau, pan alwodd am i bob cartref yng Nghymru feddu ar gyfrifiadur roedd pobl yn meddwl ei bod yn awgrym afrealistig – heddiw wrth gwrs mae’n cael ei gymryd yn ganiataol.

Ie, roedd Phil yn ddisglair, dim amheuaeth am hynny.  Ond roedd ganddo fwy i’w gynnig i’r byd na disgleirdeb yn unig.  Roedd gydag ef galon ac enaid a chydwybod – ac yn ffodus iawn i ni, fe ddaeth Cymru’n ganolbwynt i’w ddyheadau.  Fel un o blant y cymunedau glofaol, roedd ganddo ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth radical y cymoedd – ac yn 16 mlwydd oed, fe ymunodd â’r Blaid Lafur.  Yng Nghaergrawnt, bu’n gydawdur maniffesto Socialism for Tomorrow a alwodd am bwysigrwydd datganoli grym o Lundain, hynny ar ôl gweld dros ei hunan faint oedd y bwlch deallusol rhwng elit y Blaid Lafur a sosialaeth gwerin Cymru.

Rwy’n siŵr na fyddai Phil yn hoffi i mi ei gymharu mewn unrhyw ffordd â’r Apostol Pawl!  Ond mae rhaid y digwyddodd rhyw ‘eiliad ar y ffordd i Damascus’ iddo.  Mae’n debyg y bu dadleuon eithaf ffyrnig am wleidyddiaeth Cymru rhyngddo ef ag un o’i gyd-fyfyrwyr yng Nghaergrawnt, y diweddar Dr John Davies, a ddaeth i fod yn  un o’i ffrindiau agosaf.  Er gwaetha’r rheiny, er bod yr hadau wedi’u plannu siŵr o fod, i lawr ag ef i Gaerffili i helpu ymgyrch y Blaid Lafur yn etholiad cyffredinol 1959.  Ac yna, sioc.  Yna fe ddaeth ar draws ymgeisydd Plaid Cymru, John Howells.  Dyn wedi’i fagu ym Mhacistan, yn ddi-Gymraeg ac y gweithio i’r diwydiant awyrofod yng Nghaliffornia.  Fe chwalodd John Howells unrhyw ragfarn oedd ar ôl am Blaid Cymru a’i gweledigaeth.  Ac ar ôl darllen maniffesto’r Blaid, Cymru Rydd, daeth Phil Williams yn aelod ohoni.  Penderfynodd fod rhaid wrth sefydlu cangen o’r Blaid yng Nghaergrawnt gyda dau aelod i ddechrau – Phil a benododd John Davies yn ysgrifennydd, a John a benododd Phil yn gadeirydd!

O hyn ymlaen, byddai gwyddoniaeth yn gorfod ymgiprys â gwleidyddiaeth am ei sylw a’i amser.  Ar yr ochr wleidyddol, roedd drws Plaid Cymru yn llydan agored iddo, a dim prinder o alw am ei ddawn, a’i egni a’i amser.  Ond byddai gwyddoniaeth hefyd yn dynfa gyson – a, dwi’n meddwl, weithiau hefyd yn falm i’w enaid ar ôl unrhyw siomedigaethau gwleidyddol.  Yn 1962 priododd ag Ann Green a hanai o ardal Coed Duon yng Nghwm Sirhywi – ac fe ddaeth mab a merch, Iestyn a Sara.  Mae Ann yn artist o fri sy’n parhau i arddangos ei gwaith – ac roedd gan Phil ei hun ddiddordeb mawr yn y celfyddydau, yn ogystal â chwarae’r sacsoffon mewn sawl grŵp jazz dros y blynyddoedd, gan sefydlu grŵp Assembly Broadband yn y Cynulliad.

Yn 1964, safodd fel ymgeisydd Seneddol yng Nghaerffili, etholaeth y byddai’n ymladd dros y Blaid chwe gwaith.  Dyma’r ‘Dr Phil’ y deuthum i’w adnabod fel cyd-aelod o Grŵp Ymchwil Plaid Cymru, grŵp newydd yr oedd ef a Dafydd Wigley yn ei arwain.  Byddwn ni’n cyfarfod yn Llundain, a Phil yn dod o Gaergrawnt i gwrdd â ni.  Erbyn hyn, roedd e wedi’i benodi yn Gymrawd yn ei hen goleg, Clare, ac yn torri tir newydd yng  ngwyddoniaeth y gofod, gan helpu darganfod quasars.

Digon ar ei blât yn ei waith academaidd felly, ond roedd hi’n adeg o gynnwrf yng Nghymru, ac roedd e am chwarae rhan gyflawn.  Roedd Gwynfor yn y Senedd, ond heb yr adnoddau byddai rhywun y dyddiau hyn yn cymryd yn ganiataol – heb ddesg hyd yn oed ar y dechrau.  Ceisiodd y Grŵp Ymchwil, Dafydd a Phil yn enwedig, i lenwi’r bwlch rywfaint – gan helpu cael hyd i wybodaeth a llunio cwestiynau i’w rhoi ar lafar ac ar bapur yn y Senedd. 

Ac wedyn, daeth isetholiad Caerffili.  Roedd Phil wedi symud i swydd newydd yn Aberystwyth a minnau erbyn hyn ar staff y Blaid.  Roeddwn wedi ymgyrchu fel milwr troed o’r blaen, gan gynnwys yr isetholiadau yn Abertyleri, Caerfyrddin a Gorllewin y Rhondda, ond dyma’r tro cyntaf i mi helpu trefnu isetholiad o’r dechrau tan y diwedd.  Ac isetholiad i’w chofio oedd hi – pencadlys amlwg ar y Twyn gyferbyn â chastell Caerffili, sustem canfasio drylwyr, tîm lleol ardderchog – a’r fodurgad honno, pedwar cant o geir, medden nhw.

Ond beth wnaeth yr ymgyrch yn wirioneddpol gofiadwy oedd y ffordd aeth Phil ati i roi drosodd y neges o Gymru’n rhedeg ei bywyd ei hun yn genedl rydd.  Roedd cyfarfodydd ymhob rhan o’r etholaeth – y rheiny’n fwy fel ei seminarau yn y brifysgol na ralïau pleidiol, a chyfle i bobl holi a thrafod syniadau.  Daeth Phil o fewn 1,800 o bleidleisiau i ennill, gyda deugain y cant o’r bleidlais, gogwydd o 29 y cant, ar y pryd yr ail fwyaf erioed yn y Deyrnas Gyfun.

Hanner can mlynedd wedyn, mae’n bwysig cydnabod effaith pellgyrhaeddol yr ymgyrch hwnnw.  Isetholiad Caerffili a wthiodd llywodraeth Harold Wilson i symud ymlaen i sefydlu Comisiwn ar y Cyfansoddiad, proses yn y pendraw a arweiniodd at ddatganoli grym o Lundain.  Nid taw hwnnw oedd ei nod – pwysleisiodd Phil yr angen i Gymru ennill hunanlywodraeth gyflawn, a byddai’n barod iawn i arddel y term annibyniaeth.  Ond heb os, yn dilyn yr isetholiadau yng Nghaerfyrddin gyda Gwynfor, Gorllewin y Rhondda gyda Vic Davies a Hamilton yn yr Alban gyda Winnie Ewing – rhoddodd Caerffili hwb sylweddol ymlaen.

Bu gan Phil rôl allweddol wrth ddatblygu un o gyhoeddiadau pwysicaf y Blaid, y Cynllun Economaidd i Gymru, a gyflwynwyd i’r Comisiwn Brenhinol ar y Cyfansoddiad yn 1970.  Yn sail i’r Cynllun oedd dadansoddiad cadarn o’r economi a gafodd ei lunio gan yr Athro Edward Nevin – dadansoddiad ‘mewnbwn-allbwn’ a fesurai sut byddai sectorau gwahanol o’r economi’n effeithio ar ei gilydd.  Roedd Nevin eisoes wedi llunio adroddiad pwysig yn 1957 a brofodd fod mwy o drethi’n cael eu casglu yng Nghymru na’r cyfanswm o wariant cyhoeddus, gwaith a wnaeth argraff fawr ar Phil cyn iddo ymuno â Phlaid Cymru.  Gyda bygythiadau i’r diwydiannau glo a dur, a’r miloedd o swyddi ynddyn nhw, roedd dadansoddiad fel hwn yn amlwg yn hollol ganolog i unrhyw strategaeth ar gyfer y dyfodol – ac yn wir roedd Nevin yn awyddus i’w waith gael ei ddefnyddio i’r perwyl hynny gan lywodraeth Harold Wilson.  Ond gwrthod a wnaeth y llywodraeth Lafur, gan gyhoeddi dogfen dila iawn, Cymru – Y Ffordd Ymlaen – a gwylltio Nevin!

Gwelodd  Dafydd Wigley a Phil eu cyfle, a pherswadio Nevin i adael i ni ddefnyddio’i waith i roi amcangyfrif cadarn o’r problemau diweithdra a fyddai’n debyg o daro Cymru yn y blynyddoedd i ddod.  Dyna un rhan o’r cynllun – diffinio maint y broblem.  Aeth ymlaen i gynnig patrwm o ganolfannau twf, diwydiannau newydd a sustem trafnidiaeth effeithiol i’w cysylltu.  Cynllun chwyldroadol a gipiodd sylw – rwy’n cofio ar ôl treulio noson gyfan wrth y llungopiwr Gestetner i gynhyrchu copïau ar gyfer y Wasg y wefr o weld prif stori dudalen flaen y South Wales Echo a’i phennawd bras – ‘We’ll make you rich if you let us – Plaid Cymru’.  A’r boddhad nes ymlaen o fod yno i glywed canmoliaeth i safon y cynllun gan yr Arglwydd Geoffrey Crowther, Cadeirydd y Comisiwn ar y Cyfansoddiad ac economegydd o fri.  Gwrthod gwrando gwnaeth Llundain, wrth gwrs.  Fe gollodd glo, dur ac amaethyddiaeth filoedd o swyddi, gan greu’r union drybini economaidd yr oedd Plaid Cymru’n rhagweld – ond heb y datblygiadau yn ein seilwaith a fyddai’n lliniaru’r effeithiau negyddol.

Tua’r un pryd â’i waith ar y Cynllun Economaidd, chwaraeodd Phil ran bwysig wrth berswadio Prydain i ymuno ag EISCAT, prosiect Ewropeaidd i astudio haenau uchaf yr atmosffer.  Cafodd ei benodi yn un o gyfarwyddwyr ac yna’n Gadeirydd y prosiect yn Kiruna, uwchben y cylch Arctig yn Sweden lle treuliai gryn dipyn o amser.  Unwaith eto, byddai gwleidyddiaeth yn gorfod cyd-redeg â gwyddoniaeth – ond roedd y profiad hwn yn cyfoethogi ei waith dros Gymru.  Byddai’n aml yn cymharu sefyllfa’r economi neu’r gwasanaeth iechyd yng Nghymru gyda gwledydd Llychlyn.  Kiruna oedd hen ganolfan mwyngloddio haearn yn Sweden ond diolch i weledigaeth  ei llywodraeth annibynnol fe ddaeth y dre’n bencadlys ymchwil newydd i’r gofod.   Ac wrth ymweld ag arddangosfa am y trawsnewid yma fe welodd Phil sôn am dref ei mebyd – Bargoed – fel enghraifft o sut i beidio â thrin dirywiad economaidd!

Rywbryd yn y saithdegau, fe aeth Phil a mi ar daith i Ffrainc – gwaith gwyddonol iddo fe, gwyliau chep i mi!  Er nad oedd y tywydd mor wych ar y dechrau, a’i gar yn dioddef ambell i bwl o dro i dro, fe gyrhaeddon ni’r gyrchfan gyntaf – observatory EISCAT mewn lle anghysbell yng nghanol y Massif Centrale, filltiroedd o unrhyw far neu fwyty, ond Phil wrth ei fodd y trafod y darganfyddiadau diweddaraf gyda’i gyd-wyddonwyr – dynion ifanc i gyd yn gwisgo jeans a barfau!  Yna ymlaen at Grenoble am gynhadledd yn y brifysgol, ble roedd Phil yn cyfrannu i’r trafodaethau a minnau’n rhydd i grwydro’r ddinas.  Bob hyn a hyn ar hyd y ffordd drwy Ffrainc, byddai’r car yn dod i stop yn ddisymwth – a Phil yn neidio mas i dynnu llun – nid o gastell, na llyn na mynydd, ond wal – roedd gydag ef gasgliad helaeth o luniau close-up o gerrig neu briciau mur o bob man.

Byddai Phil wastad yn mynnu cywirdeb – mewn gwleidyddiaeth fel mewn gwyddoniaeth – a doedd e ddim yn fodlon derbyn ffeithiau neu ffigurau heb eu profi drosto fe ei hun.  Roedd yn anghyfforddus gydag ambell i osodiad gan y Blaid – am faint o ddŵr oedd yn cael ei allforio mewn blwyddyn er enghraifft – mae’n debyg bod hyn yn fwy na’r cyfanswm o law oedd yn syrthio ar ein gwlad!

Byddai’n cadw pob darn o bapur oedd yn berthnasol.  Rwy’n cofio unwaith yn yr wythdegau y bu tipyn o helynt am ddewis ymgeisydd isetholiad yng Nghwm Cynon – a’r cwbl yn dibynnu ar statws Adran y Menywod a’i chynrychiolaeth ar y Pwyllgor Gwaith – a oedd wedi’i sefydlu’n ddilys yn ôl rheolau’r Blaid ai peidio.  Phil ddaeth i’r adwy, gan ddarganfod y dystiolaeth o’r 1950au rywle yng nghanol tomen o bapur yn ei atig!  Fel canlyniad efallai, byddai bob amser yn teithio gyda sawl briffces – un ar gyfer gwaith y Blaid, un arall ar gyfer ei waith gwyddonol ac yn y blaen.

Wrth gwrs fyddai ddim yn hawdd cyflawni pob gorchwyl ar ei restr gwaith – ac weithiau fel Ysgrifennydd Cyffredinol byddwn i’n teimlo bod rhaid pwyso arno fe i gwblhau rhyw bapur polisi neu’i gilydd ar gyfer y Pwyllgor Gwaith neu’r Cyngor Cenedlaethol.  Yn amlach na heb, byddai’n dod yn ôl ar y ffôn gydag un o’i hoff gwestiynau, “Whats the absolute deadline?”.  Fel arfer, byddai’r ‘absolute deadline’ honno’n mynd heibio, ond rywsut neu’i gilydd fe fyddai’n ddi-ffael yn ei gynhyrchu mewn pryd.  Sawl gwaith fe arhosodd yn Swyddfa’r Blaid drwy’r nos i orffen rhyw waith felly, a chwdyn cysgu gydag ef i gael awr neu ddwy o gwsg cyn codi i’w gwblhau.   Ac wrth gwrs roedd y gwaith hwnnw o’r ansawdd uchaf – dyna paham y bydden ni yn y Blaid yn troi ato fe dro ar ôl tro am arweiniad.

Wrth wrando ar y newyddion y dyddiau hyn, bydda i’n aml yn pendroni beth fuasai barn Dr Phil pe byddai’n dal gyda ni?  Brexit, er enghraifft.  Roedd Phil yn Gymro Ewropeaidd i’r carn, ac er yn cefnogi agwedd y Blaid yn Refferendwm 1975, roedd e’n falch iawn pan fu’r holl ymrafael drosodd.  Flwyddyn wedyn, mewn araith bwysig i’r Ysgol Haf yn Llanbedr Pont Steffan, pwysleisiodd ei gefnogaeth i’r cysyniad o ‘Ewrop y Can Baner’, cymdeithas o wledydd rhydd.  Safodd fel ymgeisydd i Senedd Ewrop ddwywaith, yng Nghanol a Gorllewin Cymru yn 1984 a 1989, a chwarae rhan weithgar wrth ddatblygu cysylltiadau rhwng Plaid Cymru a phleidiau’r cenhedloedd a rhanbarthau bychain yn Ewrop.  Fe welodd yn glir beth sydd gyda ni fel gwledydd yn gyffredin, sef ein bod ni’n i gyd yn drefedigaethau mewnol o’r pwerau mawr.  Trueni na dderbyniwyd ei weledigaeth gan y sefydliad yn Llundain a’r prifddinasoedd eraill – go brin byddai sôn am Brexit ac y byddai pethau’n bur wahanol yng Nghatalunya a’r Alban – ac yng Nghymru o bosibl.

Daliodd Phil nifer o swyddi cenedlaethol gyda’r Blaid yn ystod ei yrfa, gan gynnwys swyddi’r Cadeirydd ac Is-lywydd, a bu sôn amdano nifer o weithiau fel arweinydd posibl.  Dwi ddim yn meddwl ei fod a’i bryd erioed ar hynny – heblaw am dynfa ei yrfa fel gwyddonydd, fuodd erioed yn ysu am rôl fel gwleidydd, er iddo ddweud mai cael ei ethol i’r Cynulliad Cenedlaethol oedd anrhydedd fwyaf ei fywyd.

Fyddai byth chwaith yn poeni ormod am ei ddelwedd ei hun.  Soniodd y diweddar Patrick Hannan am y tro pan oedd y ddau ohonyn nhw’n cerdded i ginio prifysgol  mewn gwesty crand, Phil â helmet ar ei ben ac yn pwsho beic.  Pan gyrhaeddon nhw, dyma fe’n gadael y beic mewn toiled, gan ddweud taw fan yna byddai fe’n ei barcio’n aml!

Yn ddi-Gymraeg cafodd Phil ei fagu, er mai’r Gymraeg oedd iaith ei gyndeidiau ar y ddwy ochr.  Ond fe ddysgodd yr iaith yn drylwyr  – rhoddodd araith gymhleth yn y Gymraeg ar ddatblygu cynaliadwy i’r Cynulliad yn 2003.  Ond wrth dreulio bywyd yn ceisio rhagoriaeth, roedd yn ymwybodol taw yn Saesneg y gallai fynegi ei hun orau.  Dyna paham, ym marn John Davies, ei fod yn betrusgar siarad yr ieithoedd eraill y dysgodd, a’r rheiny’n cynnwys Swedeg, Norwyeg, Ffrangeg a Rwsieg yn ogystal â’r Gymraeg.

Ar ôl ymladd cynifer o etholiadau, tipyn o syndod oedd ennill!  Ond dyna ddigwyddodd yn 1999, annus mirabilis Plaid Cymru, a Phil yn cario baner y Blaid yn etholaeth Blaenau Gwent – a’i swyddfa ymgyrch yng nghanol Tredegar – ac yn sefyll ar y rhestr yn rhanbarth De-ddwyrain Cymru.  Fe aeth y cyfrif yng Nglyn Ebwy ar gyfer sedd Blaenau Gwent ymlaen yn hwyr – ac erbyn i Phil gyrraedd y cyfrif rhanbarthol yng Nghasnewydd roedd popeth drosodd a phawb wedi mynd adref.  Pawb, hynny yw, ond dyn yn brwsio’r llawr – ac efe a ddywedodd fod ‘rhyw Brofessor’ wedi ennill sedd, ond heb droi lan i glywed y cyhoeddiad.  A byddai Phil wedyn yn hoffi dweud mai fel yna y cafodd gadarnhad ei fod wedi ennill etholiad – ar ôl pedwar degawd o ymgyrchu! 

Ac felly am y tro cyntaf fe ddaeth yn wleidydd llawn-amser, er y byddai’n treulio Dydd Llun fel arfer yn darlithio ac yn gweithio yn y labordy yn Aberystwyth.  Doedd y Cynulliad Cenedlaethol newydd ddim yn gynefin naturiol iddo fe a’i ddull o annerch falle, er rwy’n siŵr y byddai San Steffan gyda’i holl ‘knock about’ wedi apelio llai fyth.  Ond gwnaeth ei wybodaeth a’i ffordd ddiymhongar argraff ddofn  ar ei gyd- Aelodau, gymaint felly fel y cafodd ei ddewis yn Aelod Cynulliad y Flwyddyn am ei waith – hynny ym mlwyddyn gyntaf y Cynulliad gan Wobrau Gwleidyddol Channel 4 a hefyd y Western Mail.  Cafodd ei areithiau a’i brif gyfraniadau eraill i’r Cynulliad eu cyhoeddi mewn cyfrol hardd, diolch i Gwerfyl Hughes Jones, ac mae’r casgliad yn brawf o’r gofal a’r gallu a aeth i mewn i bopeth y cyflawnodd Phil drwy gydol ei oes.

Roedd aelodaeth o’r Cynulliad yn rhoi mynediad i stôr o wybodaeth, rhywbeth y defnyddiodd yn ddeheuig iawn i ddinoethi’r ffordd roedd y Trysorlys yn Llundain yn pocedu arian Ewropeaidd yn lle ei basio ymlaen i Gymru.  Unwaith eto, roedd ei gydweithio gyda Dafydd Wigley yn allweddol, a’r canlyniadau’n bellgyrhaeddol; yn eu plith disodli Alun Michael o’i swydd yn brif ysgrifennydd y Cynulliad ac – yn bwysicach fyth – gorfodi’r Canghellor Gordon Brown i dderbyn trosglwyddo arian o Ewrop i Gymru, £442 miliwn ohono fe,  yn lle ei sianelu i goffrau’r Trysorlys.

Rywsut yng nghanol ei holl brysurdeb, fe gafodd amser i gyfrannu i Wyddoniadur Cymru astudiaeth ysgolheigaidd ar wyddonwyr Cymru, un arall o’i hoff themâu.  Ac roedd yr un mor angerddol yn ei gefnogaeth i’r celfyddydau yng Nghymru – mae’n werth darllen ei araith i’r Cynulliad yn dathlu’r holl artistiaid roedd Cymru wedi’u cynhyrchu, ac yn galw am sefydlu oriel gelf gyfoes gydag adrannau rhanbarthol.

Siom i mi oedd clywed ei fod am ildio’i sedd yn y Cynulliad yn 2003.  Roedd gwyddoniaeth yn tynnu unwaith eto – a Phil a’i fryd ar dreulio mwy o amser ar ei ymchwil mewn astudiaethau’r gofod.  Yn sicr, roedd yn teimlo’n fwy cartrefol ymhlith ei gyd-wyddonwyr.   Nid bod pob gwyddonydd yn sant, a phob gwleidydd yn bechadur, dywedodd ef unwaith.  “Ond mae gyda nhw agwedd wahanol at y gwirionedd”, meddai. “Os yw gwyddonydd yn cyflwyno anwiredd yn fwriadol, bydd yn dryllio ei enw da am byth.  Ond mae gwleidyddion yn gwneud hynny drwy’r amser.”  Ac eto – ychydig cyn ei farwolaeth annhymig, roedd ganddo’r syniad i weithio’n ymchwilydd rhan-amser i Alun Ffred – a thrwy hynny barhau i gyfuno dau fywyd prysur.

Roedd ei farwolaeth, ac yntau ond yn chwe-deg pedwar blwydd oed, yn golled enfawr i lawer o bobl ymhob maes.  Gallwn ni ond diolch am ei barodrwydd i roi cymaint i achos Cymru.

Dyma fersiwn estynedig o’r araith i gyfarfod Cymdeithas Hanes Plaid Cymru a draddodwyd yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd, Dydd Iau 9 Awst 2018

 

Llyfryddiaeth

‘Voice from the Valleys’.  Phil Williams.  Plaid Cymru (1981)

‘The Story of Plaid Cymru’.  Dafydd Williams.  Plaid Cymru (1990)

‘The Welsh Budget’.  Phil Williams.  Y Lolfa (1998)

‘Pam y dylai Cymru gael Hunanlywodraeth?’ Phil Williams.  Plaid Cymru (1997)

‘Professor Phil Williams’ (Ysgrif Goffa).  Meic Stephens.  The Independent.  13 Mehefin 2003

‘Phil Williams (1939-2003)’.  Cynog Dafis.  Planet, the Welsh Internationalist 152.  Summer 2003.

‘Phil Williams: The Assembly Years’.  Golygwyd gan Gwerfyl Hughes Jones.  Plaid Cymru (2004)

‘Rhag Pob Brad’.  Rhys Evans.  Y Lolfa (2005)

‘Be’ Nesa!’  Dafydd Wigley.  Cyfrol 4.  Cyfres y Cewri 10.  Gwasg Gwynedd (2013)