D.J. Y Cawr o Rydcymerau

D.J.Williams, Abergwaun
(Y Cawr o Rydcymerau)
1885 – 1970

Mae’r Gymdeithas Hanes yn falch iawn o gyhoeddi’r traethawd ar fywyd un o sylfaenwyr Plaid Cymru, DJ Williams. Dyma draethawd a seiliwyd ar y ddarlith a draddodwyd gan Emyr Hywel yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanelli Ddydd Mawrth 6 Awst 2014.
Yn enedigol o Flaenporth, Ceredigion bu Emyr Hywel yn brifathro Ysgol Tre-groes hyd at ei ymddeoliad. Astudiodd fywyd a gwaith DJ Williams ar gyfer gradd M Phil. ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth, a chyhoeddwyd sawl llyfr o’i storiâu a’i farddoniaeth i blant.

1885 – 1902: Bro mebyd

Ganwyd D.J. ym Mhen-rhiw, fferm ddiarffordd yng nghyffniau Rhydcymerau, Sir Gaerfyrddin. Yn ei gyfrol Hen Dŷ Ffarm rhydd D.J. inni ddarlun cynnes o’r aelwyd gan gydnabod nad oedd yno foethusrwydd ein cartrefi modern ni:

 

Yn ein hamser ni … yr oedd y gegin yn isel a thywyll – rhwng y trawstiau trwchus a’r ystlysau cig moch, y rhwydi silots, ac, yn fynych, raff neu ddwy o wynwns Llydaw, y dryll yn ei le, a’r ffroenau, bob amser, yn boenus o gywir at dalcen yr hen gloc druan, basgedi o wahanol faint, bwndel neu ddau o wermod lwyd a gawmil wedi eu sychu, a llawer o drugareddau tebyg, anhepgorion tŷ ffarm, yn hongian o dan y llofft.  Yn hirnosau’r gaeaf, rhaid, hefyd, gosod y lamp wen, fantellog, ar y ford fach, a’i golau esmwyth yn ehangu’r gorwelion … yr hen simnai lwfer lydan, a’r awyr i’w gweld drwy’r top.  Weithiau, ar noson stormus, llwyddai ambell ffluwch o gesair gwyllt ddisgyn drwy’r tro yng nghorn y simnai, gan saethu’u hunain ma’s, piff-piff-paff-paff yn y fflam.  I fyny yn y simnai yr oedd y pren croes a’r bar a’r linciau haearn wrthi i hongian y crochanau uwchben y tân.  Islaw yr oedd pentan llydan.  Cyd-ofalai ‘nhad a ‘mam fod yno dân da, yn wastad – tân glo yn y gaeaf, a boncyff o bren go lew, fynychaf, yn gefn iddo.  Tân coed fyddai yno yn yr haf, – ffagl a matsien o dan y tegyl neu’r ffwrn fel y byddai galw.  Ac eithrio’r sgiw a’r glustog goch, hir, arni, a hen gadair freichiau fy nhadcu lle’r eisteddai fy nhad, bob amser, cadeiriau derw trymion, diaddurn oedd yno i gyd, rhai ohonynt, yn  ddiau, yn ganrif a dwy oed.  Yn union gyferbyn â’r drws, wrth ddod i mewn, yr oedd y seld y gwelech eich llun ynddi gan ôl y cŵyr gwenyn a’r eli penelin ar ei phanelau; ac o flaen y ffenestr yr oedd y ford fowr a mainc wrth ei hochr. Yn nes i’r tân, a chadair fy nhad ar y dde iddi, yr oedd y ford fach, gron, lle byddem ni’n pedwar yn cael bwyd.

Syml a phlaen iawn fel y gwelir ydoedd y cysuron corfforol hyn wrth ein safonau trefol ni, heddiw, y cyfan wedi eu llunio a’u llyfnhau gan olwynion peiriannau ffatrioedd mawr Lloegr.  Ond yr oedd pob celficyn yn y tŷ, – yr hen goffrau blawd dwfn ar y llofft, y tolboi a’r leimpres (linen press) – o dderw’r ardal, yn waith crefftwr… (Hen Dŷ Ffarm tt.39-41.)

 

 DJ-Penrhiw

Pen-rhiw – Yr Hen Dŷ Ffarm yn 1986. Nid oes yr un garreg yn sefyll yno heddiw.

 

Oherwydd anghydfod teuluol symudodd y teulu i Abernant, lle bach ar gyrion y pentref, pan oedd D.J. yn chwech a chwarter oed. Yna, pan oedd D.J. yn un ar bymtheg oed, gadawodd yr ardal gan fentro’i lwc ym maes glo de Cymru oherwydd ni allai lle bach fel Abernant, dwy erw ar hugain yn unig, gynnal D.J. a’i rieni. Er iddo adael bro ei febyd mor ifanc, yn ôl cyfaddefiad D.J. ei hun, dyma’r cyfnod a luniodd ei bersonoliaeth. Oherwydd natur y gymdeithas cafodd y cyfle i ymhyfrydu yn nifyrrwch y gyfathrach rhwng trigolion y fro a chlywed nyddu stori a bod yn rhan o gymdeithas lawen. Yma yr ymhoffodd yn ei filltir sgwâr a’i phobl a’r cariad hwn a fu’n sail i’w gariad at Gymru ac at ddynoliaeth. Meddai D.J.:

Os oes gennyf i unrhyw rinwedd o gwbl nad yw’n gywilydd gennyf ei arddel, plwyfoldeb yw hwnnw.  O’r bwrlwm bychan hwn yn fy natur o ryw fath o ymlyniad ffyddlon wrth ardal neilltuol, y tardd fy serch at sir a gwlad a chenedl, at wledydd a chenhedloedd mawr a bach, at bopeth rhywiog a diddorol ac sydd o werth i mi mewn bywyd… (Y Cawr o Rydcymerau t.10.)

Yn ogystal â llunio’i bersonoliaeth a bod, maes o law, yn sail i’w genedlaetholdeb a’i heddychiaeth, ei fagwraeth yn Rhydcymerau a’i gwnaeth yn storïwr ac yn llenor hefyd. Arabedd trigolion y gymdeithas yn Rhydcymerau ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a roddodd iddo ddawn y cyfarwydd. Dyma enghraifft o’r math o ymddiddan a glywodd yn blentyn ar aelwydydd Pen-rhiw ac Abernant:

“’R own i fan ‘na yn ffair Langadog p’y ddwarnod”, meddai John Jenkins, rywdro arall, “yn treio prynu treisiad (anner) flwydd, yr Hereford fach berta welsech chi, byth, gyda Tom Cwm Cowddu, mab yr hen borthmon, Dafydd Gilwenne,’s lawer dydd; a phwy ddaeth yno, o rywle, i dreio’i hwpo hi’n fargen, am ‘wn i, ond ffarmwr bach teidi reit, cymydog i Tom, gallwn feddwl, a phâr o legins yn disgleirio fel y glas am ‘i goese fe.  ‘R own i’n gweld rhywbeth yn debyg yndo fe i rywun ‘r own i wedi ‘weld rywle, o’r bla’n, ac yn ffaelu’n lân â galw hwnnw i gof.  Erbyn siarad, ymhellach, a rowndo tipyn yn ôl a bla’n, pwy ŷch chi’n feddwl oedd e?  Wel, ŵyr  i Twm Mati a arfere, ‘s lawer dydd, fod yn was gyda’r hen Ifan Dafis yn Esger Wen.  Twm Legins Cochon oen ni, gryts yr ardal, yn ei alw e, weithe.  Gydag e y gwelwyd  y pâr cynta o legins lleder coch yn yr ardal.  ‘R oedd e wedi bod yn gwasnaethu ffor’na, tua Talley Road cyn dod lan aton ni; mae tipyn o steil tua Glan Tywi ‘na wedi bod ariod.  A dyna pwy oedd mam y bachan bach, wedyn ‘te, mynte fe wrthw i, – fe fyddech chi, Sara, yn ‘i nabod hi’n net, – ‘r oedd hi’n wha’r i Marged, wraig gynta Hwn a Hwn.  Mae’r byd ma’n fach iawn wedi’r cyfan pan eith dyn i ddechre ‘i rowndo fe.  Ond hyn ‘r own i’n mynd i ‘weud, – aelie a thrwyne ‘r wy ‘i wedi sylwi sy’n dilyn tylwyth, fynycha;  ond, weithie, fe gewch bâr o legins, hefyd”.

“John Jenkins! John Jenkins! ‘r ŷch chi’n siompol, heno, yto”, meddai ‘mam, gan fynd ymlaen yn ofalus â’i ‘chweiro’ sanau.

“Gyda llaw, ddelsoch am y dreisiad?” gofynnai ‘nhad.

“O ie, ‘r own i wedi anghofio am yr Hereford fach.  Naddo, wir, John.  Fe ddaeth rhywun ymlâ’n man ‘ny, pan ‘own i’n siarad ag ŵyr Twm Mati oboutu ‘i dylwyth, a fe gynigiodd goron yn fwy na fi, slap!  Fe adewais i i’r dreisiaf fach fynd, er ‘i bod hi’n llawn gwerth yr arian, cofiwch.  Rhyngom ni’n tri ‘fan hyn, ‘n awr, ‘te, ‘r own i’n eitha balch ‘i gweld hi’n mynd, waeth ‘d oedd arna i ddim o’i heisie hi, o gwbwl, – ond jist ‘y mod i’n nabod yr hen Dom yn dda, ariod, a’i dad e’n well na hynny; a ‘d own i ddim yn leico mynd heibo, rywfodd, heb gynnig rhywbeth, fel math o shwd-ŷch-chi-heddi ‘ma.  Ond ‘feddyliais i ddim mwy na’r ffwrn wal yma am ‘i phrynu hi”. (Hen Dŷ Ffarm  tt.46-47.)

 

A chymeriadau’r ardal a roddodd iddo’i arddull lenyddol unigryw hefyd, yn enwedig Dafydd ’R Efail Fach. Trwy osod ei bortread ohono yn flaenaf yn ei gyfrol Hen Wynebau myn Saunders Lewis mai teyrnged yw’r bennod hon i’r ‘…meistr a luniodd ei frawddegau…’ Meddai D.J. amdano:

Gan nad oes gan neb hawl deg i’n hamau ond y sawl a glybu Dafydd ei hun wrthi, mentraf ddweud fy marn onest yma – mai’r llafurwr anllythrennog hwn, cwbl ddiymwybod â’i ddawn, yw’r person mwyaf dethol a gofalus yn ei eiriau ymadrodd o bawb y cefais i’r pleser o wrando arnynt yn ymddiddan erioed.  Ofer yw ceisio dychmygu beth a allsai ddod o Dafydd pe cawsai fanteision addysg teg.  Canys fel y dywedodd ef ryw fore dydd Sul wedi gwrando pregeth feichus gan ryw ŵr nerthol o gorff, “fe gollwyd nafi da pan gymrodd hwnna yn ‘i ben i fynd yn bregethwr.”  Pe gadawsai Dafydd y gaib a’r rhaw hefyd, a mynd yn “rhywbeth wrth ei ddysg,” collasai’r wlad un o’i gweithwyr mwyaf deheulaw, ac un o’i chymeriadau mwyaf diddan a gwreiddiol.  O’r ochr arall, yr wyf bron mor sicr â hynny i amgylchiadau bore oes, diffyg unrhyw fath o uchelgais, a synnwyr digrifwch anorchfygol Dafydd ei hun beri amddifadu Cymru o delynegwr neu awdur storïau byrion o radd uchel iawn.  Beth bynnag am ei bosibilrwydd ym myd llenyddiaeth, ni sylwodd neb erioed yn graffach a manylach ar fywyd rhwng glannau Teifi a Thywi na Dafydd ‘r Efailfach.  Rhoed iddo’n ychwaneg, ddychymyg bardd a chydwybod y gwir artist wrth drin geiriau.  Gwelsai’r peth a ddisgrifiai mor fyw o’i flaen nes bod ei holl eirfa werinaidd yn dawnsio i’w wasanaeth.  A mynegid asbri’r ddawns yn chwerthin ei lygaid.  Meistr y ddawns oedd yr union air hwnnw na allai neb ei anghofio…                        (Hen Wynebau tud 12-14.)

DJ-cymeriadau

Dafydd r’Efail Fach a Danni’r Crydd, dau o gymeridau lliwgar ardal Rhydcymerau a chydnabod bore oes D.J.

 

 

Ionawr 1902-Mehefin 1906: Y maes glo.

Meddai D.J. am Rydcymerau:

Dyma wlad fy nhadau mewn gwirionedd.  Fe’m meddiannwyd i ganddi; ac, yn ôl y gynneddf syml a roddwyd i mi, fe’i meddiannwyd hithau gennyf innau. (Y Cawr o Rydcymerau t.12.)

Serch hynny, yn un ar bymtheg oed fe’i gorfodwyd i ffarwelio â bro ei febyd a chyfeirio’i wyneb tuag at feysydd glo De Cymru. Dyma oedd cychwyn ei alltudiaeth a’i rwygo oddi wrth ‘hen dud ei dadau’. Er iddo chwennych dychwelyd i’w hen fro i fyw bu ei alltudiaeth yn alltudiaeth oes.

Bywyd digon caled, a pheryglus weithiau, oedd bywyd yng nghefn gwlad, yn ceisio rhwygo bywoliaeth allan o groen tir sâl ac anodd ei drin. Ond yr oedd bywyd yn y maes glo yn galetach a pheryclach. Ys dywed D.J.:

Fel rheol, oes gymharol fer, fel oes y mabolgampwr, ydoedd oes y coedwr a chwaraeai ran mor bwysig yn y pwll glo hyd at y mecaneiddio diweddar arno.  Er dyfod y mwyafrif ohonynt, fel y soniwyd, yn ddynion ifainc yn eu llawn nerth ac iechyd o’r wlad ni allent ddal straen gyson gwaith mor drwm yn yr awyr lychlyd ar hyd y blynyddoedd heb iddo ddweud arnynt.  ‘R oedd rhyw ugain i bum mlynedd ar hugain o’r gorchwyl hwn yn llawn digon i’r cryfaf ohonynt.  Eithriad brin yn ôl yr argraff sydd gennyf, ydoedd gweld coedwr dros ei hanner cant oed.  Ymhell cyn i’r silicosis diweddar gymryd ei doll erchyll ym maes glo’r Deheudir yr oedd glowr trigain oed yn hen, hen ŵr, tra gallai ei frawd na adawsai fywyd iach y wlad, yn fynych yn dal ati yn ei bwysau hyd ei bedwar ugain a mwy.

(Yn Chwech ar Hugain Oed t. 100.)

 

A bu D.J. ei hun yn agos at angau deirgwaith yn ystod ei yrfa fer fel glöwr:

Y tro cyntaf, cafodd ei lusgo drwy ddyfnderoedd du y pwll pan foltiodd ceffyl yr oedd yn ei halio. Drws caeedig ar draws y twnnel a’i hachubodd trwy rwystro rhuthr gwyllt y ceffyl. Yr eildro, teithio’n chwyrn mewn rhes o gerbydau tanddaearol neu spake yr oedd. Trawodd ei ben yn erbyn girder haearn, a bu bron iddo syrthio rhwng dau gerbyd…ym Mhwll Seven Sisters, Blaen Dulais…bu’n agos at angau y trydydd tro…Defnyddiodd ef a chyd-weithiwr ormod o bowdwr wrth danio’r glo. Yn lle ffrwydro, llosgi a wnaethai…Pe bai’r fflamau hynny wedi cyrraedd poced o nwy gerllaw iddynt byddent wedi eu chwythu’n gyrbibion man…’ (Y Cawr o Rydcymerau t.13.)

Ond nid lle diflas i fyw ynddo oedd maes glo’r De. Roedd yno hwyl garw ac yn ei gyfrol Yn Chwech ar Hugain Oed mae D.J. yn disgrifio’r hwyl hwnnw’n hynod effeithiol. Dyma stori fythgofiadwy  Bili Bach Crwmpyn a’r Northman Mowr a D.J. yn ei afiaith yn ei hadrodd:

 

Euthum i’r gwely’n ddistaw  bach heb damaid o swper rhag i neb weld yr addurn arnaf, a holi cwestiynau rhy bersonol.  Sylwais for yr articlyn hwnnw, tra defnyddiol mewn ystafell wely, yn hanner llawn pan ddeuthum i mewn – rhywun wedi anghofio ei wacáu mae’n debyg.  Ond nid oedd y nos ond cynnar eto.  Ymhen tipyn daeth Ernest yno, yntau wedi dal  pwys a gwres dydd o wyliau, gan ychwanegu’n sylweddol at y cynnwys.  Un o’r cyfryw erthyglau at y gwasanaeth cyffredinol ydoedd yno, gyda llaw.

Ond ymhell cyn i mi feddwl am gysgu, a’m bron yn llawn o gynnwrf y noson cynt, dyma sŵn siarad uchel ar y llawr a thrwst mawr a chlambwrian trwm ar y grisiau.  Goleuais y gannwyll, ac wele Bili Bach Crwmpyn a’i goesau eiddil a’r rheini’n siglo tipyn yn dod i mewn drwy’r drws gan arwain cawr o ddyn corffol o’i ôl, a hwnnw, yn amlwg, wedi ei dal hi’n drymach na Bili ei hun; a Bili yntau, fel gwas lifrai o’r Canol Oesoedd yn gweini ar ei farchog, heb ddim yn ormod ganddo i’w wneud dros ei gyfaill.  Ni welais i mo’r marchog mawr, mwstasiog  hwnnw  ond y noson honno yn unig.  Ni chlywais ei enw hyd yn oed ag i mi gofio.  Ond o dipyn i beth fe ddois i ddeall y sefyllfa.  Northman ydoedd o, o’r un ardal â Bili ei hun, hen ffrindiau bore oes; a dyna’r esboniad ar sifalri anghyffredin Bili yn ei ofal amdano, efallai, – ei falchder cudd yn y ffaith fod hen ardal fach ei febyd ef rhwng bryniau Maldwyn draw yn gallu magu cewri hefyd, heblaw ambell ŵr eiddil fel ef ei hun.  Daethai’r Northman Mowr fel y galwaf i ef yma, o beidio â gwybod ei enw, coedwr yn y Rhondda Fawr, yn groes dros fynydd Penrhys y prynhawn hwnnw i’r Sioe Geffylau yn Ferndale.  Ond yng nghwmnïaeth gynnes Bili Bach a rhai hen ffrindiau annwyl eraill o’r Hen Sir, yn ddiweddarach yn y dydd, aethai’n stop tap cyn iddo braidd gael amser i sychu ei fwstas.  ‘R oedd hi’n rhy hwyr iddo bellach, a’r trên olaf wedi hen fynd, a’i goesau a’i ben heb fod yn llwyr ddeall ei gilydd hyd yn oed ar y stryd syth, heb sôn am droeon tolciog llwybr y mynydd yn y tywyllwch, i feddwl am groesi’n ôl y noson honno. (Nid oedd bysys y pryd hwnnw).  Daeth Bili ag ef i’n tŷ ni; ac wedi ymbil taer, gweddigar, ar ran ei bartner, gan fod ei wely ef ei hun yn digwydd bod yn wag o gymar ar y pryd, tymherodd calon yr hen Victoria o landledi, gan ganiatáu’r cais.

Cyn diosg eu dillad yr oedd yn rhaid i’r ddau gyfaill mynwesol hyn  gyflawni’r weithred o ymwacâd.  A’r articlyn crybwylledig hwnnw at y gwaith eisoes mor llawn bron â’r ddau a’i triniai yn awr, nid bychan o gamp ydoedd hynny.  Ond fel macwy parod at wasanaeth ei arglwydd aeth Bili Bach ati’n ddewr gan benlinio o’i flaen a dal y dwfrlestr yn ddefosiynol yn ei ddwylo crynedig mor agos ag oedd bosib at y darged symudol drwy fod ei bartner, ag un llaw ar ystlysbost y gwely, yn tafoli’n ôl a blaen yn beryglus o ansicr. ‘R oedd Ernest yn chwyrnu’n braf ers tro, a finnau a gysgai yn yr erchwyn nesaf at y gwely arall, ac o fewn llathen i hwnnw, yn dyst unllygeidiog o’r cyfan, – ac yn dal fy anadl bob eiliad rhag a allai ddigwydd.  Ond yr hyn a fawr ofnais a ddaeth arnaf; oherwydd dyma’r Northman Mowr yn sydyn yn colli ei falans ac yn syrthio bendramwnwgl tuag ymlaen, gan ddisgyn gyda’i bwysau enfawr yn garlibwns ar ben Bili Bach, a hwnnw â’r pot ar ei fynwes ar wastad ei gefn ar y llawr odano, – a’r culfor rhwng y ddau wely gyda hyn yn un Morfa Rhuddlan.  A dyna’r lleferydd mwyaf ofnadwy yn dilyn – y naill yn bwrw bai ar y llall am ei letwhithdod – wrth iddynt ill dau geisio dadgymalu a chodi eilwaith ar eu traed.

Ond nid dyna’r cyfan.Wrth glywed y trwst enbyd rywle yn y tŷ aethai Mrs Martin a’i merch i mewn i’r siop a oedd yn union o dan ein hystafell ni, gan feddwl fod rhyw silff neu rywbeth a’r cynnwys arni wedi rhoi ffordd yno. Ond yr hyn a welsant ac a glywsant ydoedd y mân ddefnynnau yn dechrau dyhidlo drwy’r byrddau tenau uwchben, gan ddisgyn yn ddyfal ar y bocsys mint a’r loshin a’r poteli candis dros y lle.  Daeth y ddwy i fyny’r grisiau yn bengrych fflamgoch, ac i mewn i’n hystafell ni fel dwy daranfollt o Fynydd Sinai…Wele! nid oes iaith nac ymadrodd  o’r eiddof i a all fynd gam ymhellach i ddisgrifio’r olygfa, o’r ddau tu.  Digon yw dweud i’r Northman Mowr ymadael â’n tŷ ni yn fore, drannoeth a hynny heb damaid o fwyd, a Bili Bach ar ôl te y prynhawn Sadwrn dilynol.(Yn Chwech ar Hugain Oed t.t.139-141.)

DJ-Rhondda

Tŷ lojin D.J. yn Ferndale lle digwyddodd galanas y pot piso. Mae’r    ffenest siop i’w gweld ar y chwith tu ôl i’r car pellaf yn y llun.

Mehefin 1906- Medi 1911: Newid cyfeiriad.

Ym Mehefin 1906 gadawodd D.J. waith glo Seven Sisters oherwydd roedd perthynas iddo, ei ewythr Dafydd Morgan, brawd ei fam, wedi dychwelyd i Gymru o America. Roedd disgwyl iddo ddychwelyd i’r wlad honno yr haf hwnnw a gobeithiai D.J. ymuno ag ef a thrwy hynny wireddu ei freuddwyd gudd o sefydlu ransh yno. Ni ddigwyddodd hynny felly penderfynodd D.J. newid cyfeiriad trwy ymuno ag Ysgol Stephens, Llanybydder ym mis Hydref, efallai er mwyn cymhwyso’i hun i fod yn weinidog yr efengyl. Ond wedi hynny bu’n dilyn Clough’s Correspondence Course, a phasio’r King’s Scholarship ar gyfer mynd yn athro ysgol. Y cam nesaf oedd cael profiad fel disgybl athro, a chafodd ei benodi ym Medi 1908 i swydd o’r fath yn Ysgol Llandrillo yn Edeyrnion, Meirionnydd.

Yn ystod ei arhosiad yno penderfynodd D.J. ddilyn cwrs gohebol pellach er mwyn cael lle ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth. Methiant fu ei ymgais felly gadawodd ysgol Llandrillo yn haf 1910 a chychwyn cwrs naw mis yn Ysgol Joseph Harry, Caerfyrddin, gan lwyddo yn arholiad y Welsh Matriculation ym Mehefin 1911. Ym mis Hydref 1911 derbyniwyd D.J. yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth gan wireddu yr ail o’i freuddwydion wedi i’r gyntaf, sef ymfudo i America, fynd i’r gwellt.

 

DJ-Ysgol

Ysgol Joseph Harry, Caerfyrddin.Bechgyn yw’r disgyblion i gyd, mi gredaf. Mae D.J. ar y dde eithaf yn y drydedd res.

 

Yn ystod ei flynyddoedd yn Aberystwyth deffrowyd fflam cenedlaetholdeb yn D.J. Sylweddolodd fod angen ysbrydoli Cymru ‘i gredu ynddi ei hunan’, ac mai ei ddyletswydd ef oedd pregethu cenedlaetholdeb wedi’i drwytho ag ysbryd yr efengyl. Serch hynny ni fynnai, oherwydd ei genedlaetholdeb, gyfyngu ei hun ‘i’r pulpud yn gyfangwbl’. Mater arall a ddrysodd ei gynlluniau i fod yn weinidog yr efengyl oedd ei heddychiaeth. Yn 1914, ar ddechrau’r Rhyfel byd Cyntaf, dymunai ymuno â’r fyddin. Er iddo wadu hynny yn ddiweddarach, mae’n rhaid ei fod wedi credu’r ffiloreg Seisnig a faetumiai y câi cenhedloedd bychain eu rhyddid ar ôl y rhyfel. Ond yn fuan wedi hynny dechreuodd bregethu heddychiaeth ac o’r herwydd ni châi gyhoeddiadau pregethu yn aml gan fod trwch y Cymry capelog o blaid y rhyfel.

 

Yn ystod ei yrfa yn Aberystwyth bu D.J. yn gyfrannwr cyson i gylchgrawn Cymraeg y Coleg, Y Wawr. Yn ogystal, dyma gyfnod ei ymdrechion llenyddol cynnar a chyhoeddodd bedair stori fer yn Cymru ‘O.M.’ rhwng 1914 ac 1918.

Yn 1916 graddiodd D.J. mewn Saesneg a Chymraeg a chafodd dystysgrif athro yn ogystal. Enillodd hefyd Ysgoloriaeth Meyricke am ei draethawd The Nature of Literary Creation ac aeth i goleg Iesu, Rhydychen am ddwy flynedd i astudio Saesneg. Er iddo fwynhau ei gyfnod yn Rhydychen nid cyfnod o heulwen ddiderfyn  oedd hwn oherwydd collodd ei dad a’i fam o fewn chwe wythnos i’w gilydd yn ystod gaeaf 1916-17. Yn ogystal, dyma gyfnod ceisio cyhoeddi yr erthygl ‘Ich Dien’ ar dudalennau Y Wawr. Daeth yr erthygl i sylw’r Ysgrifennydd Cartref ar y pryd ac oherwydd iddo farnu bod iddi elfennau bradwrus  gwaharddwyd y cylchgrawn. Ymddiswyddodd y bwrdd golygyddol  ac ni chyhoeddwyd rhifyn arall.

 

1919-1924: Cyrraedd Abergwaun.

 

Ym mis Ionawr 1919 cafodd D.J. ei benodi’n athro Saeneg ac Ymarfer Corff yn Ysgol Ramadeg Abergwaun ac yno yr arhosodd tan ei ymddeoliad yn 1945. Yn ystod gwyliau’r Pasg y flwyddyn honno cafodd gyfle i ymweld ag Iwerddon a daeth i gysylltiad ag arweinwyr y gwrthryfel yno. Er iddo goleddu syniadau heddychol, ymfalchïai yn ymdrech arwrol y Gwyddelod i sicrhau eu rhyddid gwleiddyddol.

Rhwng 1922 ac 1924 gweithiai D.J. dros y Blaid Lafur yn sir Benfro gan obeithio y byddai’r blaid honno yn cadw at ei hegwyddorion cynnar ac yn hyrwyddo rhyddid gwleiddyddol i Gymru. Nid felly bu. Ar ôl cipio grym yn senedd Lloegr yn 1918 fel prif wrthblaid i lywodraeth y dydd yn 1918, bradychu Cymru a wnaeth y Blaid Lafur a hynny arweiniodd at sefydlu Plaid Cymru yn 1925.

 

DJ-Athrawon

Athrawon Ysgol Ramadeg Abergwaun. D.J. sy’n sefyll ar y dde

 

1925-1936: Ymuno â Phlaid Cymru, cychwyn ar yrfa lenyddol a thanio’r Ysgol Fomio.

Bu 1925 yn flwyddyn dra phwysig yn hanes D.J. Bu gyda’r cyntaf i ymuno â Phlaid Cymru ar anogaeth Saunders Lewis a hynny’n cychwyn ar oes o ymlafnio caled drosti. Ni bu erioed weithiwr caletach yn ei rhengoedd na neb mor driw iddi na D.J. Yna, cyn y Nadolig, priododd Jane Evans, neu Siân fel y’i hadwaenid gan bawb wedi hynny, ac ym mis Ionawr 1926 symudodd y ddau i rif 49, Y Stryd Fawr, Abergwaun, ac yno y bu’r ddau fyw weddill eu dyddiau.

Dyma gychwyn go iawn hefyd ar ei alltudiaeth oes o fro ei febyd, ei filltir sgwâr. Serch hynny dychwelodd i’w hen fro trwy lenydda. Ar ôl ei ymdrechion cynnar ym myd y stori fer tawedog fu D.J. rhwng 1918 a 1927. Yna , ym mis Mai 1927, cyhoeddwyd y cyntaf o’i bortreadau o gymeriadau bro ei febyd, sef ‘John Trodrhiw’ yn Y Ddraig Goch. Dyma gychwyn ar gyfres o bortreadau a gasglwyd at ei gilydd maes o law a’u cyhoeddi yn 1934 dan y teitl Hen Wynebau, a ddaeth ar unwaith yn glasur ym myd rhyddiaith Gymraeg.

Oherwydd diffyg cynnydd cenedlaetholdeb ymhlith y Cymry a diystyru hawliau sylfaenol y genedl gan Loegr teimlai rhai arweinwyr y Blaid yr angen am weithred symbolaidd herfeiddiol er mwyn ysgwyd y Cymry o’u cysgadrwydd. Penderfynwyd llosgi Ysgol Fomio’r Llywodraeth Brydeinig ym Mhenyberth, Pen Llŷn. Saunders Lewis oedd arweinydd y cyrch ac fe’i cynorthwywyd gan Lewis Valentine a D.J. Yn dilyn eu harestio a throsglwyddo eu hachos i Lundain fe’u dedfrydwyd i naw mis o garchar ac fe’u hanfonwyd i Wormwood Scrubs. Yn sgïl y cynnwrf a’r carcharu ni rymuswyd cenedlaetholdeb yng Nghymru a lleisiwyd siom yr ymgyrchwyr mewn llythyr a anfonwyd gan Saunders at D.J. yn 1938.

Angen y Blaid…yw arweinydd…haws iddynt ei ddeall. Pe caffent…ni byddai ein carchariad…wedi mynd yn ofer-wastraff…

Dylid nodi, yng nghanol holl gynnwrf 1936, i D.J. gyhoeddi ei gyfrol gyntaf o storïau byrion, Storiau’r Tir Glas, a oedd yn gyfraniad arall at ei ddull o ddychwelyd i’w filltir sgwâr ac yn ychwanegiad pellach at osod ei enw ymhlith prif awduron Cymru’r ugeinfed ganrif.

 

DJ-SaundersValentine

D.J., Saunders Lewis a Lewis Valentine. Tri taniwr Yr Ysgol Fomio,ym Mhenyberth

 

1937-1953: Gwleidydda a Llenydda.

Yn dilyn y carcharu collodd Saunders Lewis ei swydd yng Ngholeg y Brifysgol, Abertawe. Ar ôl sefyll etholiad yn 1943 a cholli yn erbyn W.J. Gruffydd, ar gyfer cynrychioli Prifysgol Cymru yn San Steffan, rhoddodd Saunders y gorau i arwain y Blaid ac enciliodd i fyd newyddiaduraeth a llenyddiaeth  Cadwodd Valentine ei swydd fel gweinidog yr efengyl a derbyniwyd D.J. yn ôl i’w swydd yn Ysgol Ramadeg Abergwaun. Dal ati i frwydro dros ennill rhyddid gwleidyddol i Gymru a dal ati i lenydda a wnaeth D.J.

Rhwng 1937 a 1943 cyhoeddodd D.J. nifer o erthyglau swmpus ym mhapurau’r Blaid ac ym mhapurau lleol Sir Benfro er mwyn hybu achos cenedlaetholdeb a dangos gwrthuni polisïau’r ymerodraeth Brydeinig. Yna, yn 1941, cyhoeddwyd cyfrol arall o’i storïau byrion, Storïau’r Tir Coch. Ymddeolodd D.J. o’i swydd yn Ysgol Ramadeg Abergwaun ym mis Rhagfyr 1945 ac yn dilyn hynny bu’n brysur yn gwleidydda ac yn ysgrifennu storïau byrion yn ôl ei arfer. Cyhoeddwyd Storïau’r Tir Du yn 1949. Ym mis Hydref 1953 cyhoeddwyd rhan gyntaf ei hunangofiant, Hen Dŷ Ffarm, a gydnabyddwyd yn gampwaith ymhlith hunangofiannau oherwydd mae’r llyfr yn fwy na hunangofiant gan ei fod yn cynnig inni ddarlun o ffordd o fyw mewn ardal arbennig mewn cyfnod arbennig, ffordd o fyw a chymuned sydd bellach wedi diflannu ac ni welir ei thebyg fyth eto.

1954-1970: Dal ati yn wyneb trafferthion.

Bu salwch yn gydymaith parhaus i D.J. a Siân weddill eu dyddiau. Serch hynny parhau i ymlafnio ym mrwydr Cymru a wnâi D.J. gan anwybyddu pob cyngor i beidio â pheryglu ei einioes. Ym mis Gorffennaf  1954 dechreuodd fyfyrio ar ail ran ei hunangofiant ac erbyn mis Tachwedd yr oedd wedi ysgrifennu tua 45 tudalen. Yn ychwanegol at yr ysgrifennu mynnai ymhel â man ddyletswyddau gwleidyddol ynghyd â gofalu ar ôl Siân a oedd yn sâl er Ionawr 1953. Yna, ym Mehefin 1955, cafodd D.J. boen yn ei frest. Angina oedd yr aflwydd a fu’n llestair iddo tan ei farwolaeth yn 1970. Meddai D.J. yn 1965:

…diolch am gael gweithio ambell hanner awr neu awr heb ormod o boen. A gwaed fy nghalon yn llythrennol rwy’n ysgrifennu yn awr…

Yr oedd hi’n fis Tachwedd 1959 ar ail gyfrol ei hunangofiant, Yn Chwech ar Hugain Oed, yn cyrraedd o’r wasg, a hynny’n ffrwyth pum mlynedd hir o lafur caled.

Ym mis Gorffennaf 1959 cyhoeddodd Waldo Williams ei barodrwydd i fod yn ymgeisydd y Blaid yn yr etholiad cyffredinol a dyna gychwyn ymgyrch etholiadol rymus gan D.J. Gweithiai yn ddibaid a diflino gan herio’i iechyd bregus. Er bod D.J. a Waldo yn gyfeillion mynwesol yr oedd y ddau yn bur wahanol o ran personoliaeth. Mynnai D.J. ganfasio’n ddibaid. Ni welai Waldo bod angen hynny ac yn aml roedd eu cyfeillgarwch dan straen a Waldo’n gwylltio’n enbyd. Oherwydd mawredd Waldo, mi gredaf, ni fu i’r anghytuno rhynddynt danseilio’u cyfeillgarwch.

 

DJ-Waldo

Waldo Williams, heddychwr a bardd.

 

Ym mis Mehefin 1965 bu Farw Siân ar ôl blynyddoedd o gystudd blin. Ni ddiflasodd D.J. wrth wynebu ei brofedigaeth. Yn hytrach defnyddiodd ei brofedigaeth i’w ysbarduno i weithio’n galetach dros Gymru. Yn ogystal â gweithio dros Blaid Cymru rhoddodd D.J. ei arian iddi. Ym mis Hydref 1965 trefnodd werthiant Pen-rhiw, yr Hen Dŷ Ffarm, gan drosglwyddo arian y gwerthiant yn ei grynswth yn rhodd i’r Blaid er mwyn hyrwyddo ei hymgyrchoedd etholiadol.

Bu D.J. yn deyrngar i’r Blaid trwy gydol ei oes, er iddi, ym marn Saunders Lewis, fradychu Cymru yn enwedig yn achos brwydr Tryweryn.Teimlai Saunders bod dulliau cyfansoddiadol Gwynfor Evans a’i ddilynwyr yn tanseilio achos Cymru. Serch hynny ceisiai D.J. ddenu Saunders yn ôl i rengoedd y Blaid ac i fywyd cyhoeddus yng Nghymru. Meddai Saunders wrtho mewn llythyr yn Nhachwedd 1959:

Felly fe welwch, Dai, nad chi yw’r unig un sy’n ceisio fy nhemtio yn ôl i fywyd cyhoeddus yng Nghymru.  Gwnes eisoes un camgymeriad – cael fy nhemtio yn ôl i’r Brifysgol.  Ond nid af yn ôl at waith ym Mhlaid Cymru.  Ddaru chi feddwl am funud be’ fyddai’r canlyniad pes gwnawn?  Mi fyddai’n draed moch, – a heblaw hynny, yr wyf yn rhy hen ac wedi pelláu ormod, a’r Blaid hithau wedi symud ymhell iawn oddi wrth yr egwyddorion a osodais i iddi.  Fe’m syrffedwyd i gan agwedd arweinwyr y Blaid tuag at orsaf atomig Trawsfynydd.  Na, nid af yn ôl at waith politicaidd na hyd yn oed at ysgrifennu politicaidd.  Ni ddywedaf air yn gyhoeddus am frad Tryweryn, er imi rai misoedd yn ôl feddwl o ddifri am dorri hyd yn oed gysylltiad mewn enw â’r Blaid ar gyfrif hynny.

Gobeithio i’r nefoedd nad oes sŵn chwerwi yn fy ngeiriau.  Nid wyf yn chwerw.  Ond yr wyf yn gwbl argyhoeddedig nad oes dim lle  imi o gwbl i wenud dim mwyach yng Nghymru.

Yna, ar ôl buddugoliaeth etholiadol Gwynfor Evans ym mis Gorffennaf 1966, credai D.J. y byddai’r llifddorau yn agor a Chymru’n ennill ei rhyddid gwleidyddol yn y man. Meddai’ Saunders Lewis, y realydd, wrtho mewn llythyr ym mis Hydref 1966:

Rydwyf innau’n llawen iawn oblegid buddugoliaeth Gwynfor.  Yn bennaf er ei fwyn ef ei hunan; mae o wedi cael ad-daliad am ei flynyddoedd hir o  lafur, ac wedi cael profi blas buddugoliaeth am dro.  Nid arddu’r tywod a wnaeth.

Ond mae arnaf ofn fod y Blaid yn meddwl mai dyma ddechrau’r diwedd; nad oes ond ennill dwy neu dair sedd seneddol ychwanegol, ac yna fe ddaw senedd i Gymru.

Yn fy marn i, yn awr ac o’r cychwyn cyntaf, ni ddaw senedd i Gymru drwy senedd Loegr.  Petai pob etholaeth Gymreig yn mynd i Blaid Cymru, nid drwy hynny y deuai hunanlywodraeth.  Ni ddaw hunanlywodraeth ond yn unig drwy wneud llywodraethu o Lundain yn amhosibl.  Y mae dysgu mai dulliau cyfansoddiadol sy’n mynd i ennill yn chwarae’n syth i ddwylo llywodraeth Loegr.  A dyna’r hyn y mae Gwynfor a J.E. yn ei ddysgu o hyd ac o hyd, –  ac yn gwneud drwg moesol mawr.  Yn fy marn i y mae bechgyn a merched Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn dangos y ffordd well, yn adeiladu Cymreigrwydd yn arf yn erbyn gwasanaeth suful Lloegr, yn codi mur Cymreig.

Nid af i sgrifennu’r pethau hyn.  Nid yw’n debyg y sgrifennaf ddim rhagor am wleidyddiaeth; y mae bwlch rhy fawr rhwng arweinwyr y Blaid a mi, ac ni chymerwyd sylw o ddim a awgrymais iddynt o gwbl, – tyst o ‘Dynged yr Iaith’.  Ond ni wnaf ddim ychwaith i rwystro dim ar eu hymdrechion, dim ond tewi.

Heddiw y bygythiad mwyaf i’n hunaniaeth ni fel cenedl yw’r gwladychu mawr sy’n digwydd yn ein gwlad a’r adeiladu tai yn eu miloedd ar gyfer y mewnlifiad a ddaw dros Glawdd Offa o Loegr. Dyma yw ein Tryweryn cyfoes ni sy’n ddim llai na hil-laddiad llwyr a didostur. Onid adfer dulliau Saunders Lewis yw ein hunig obaith gan na ddaw inni ymwared o du ein Cynulliad Cenedlaethol dirym a diweledigaeth?

Bu farw D.J. ym mis Ionawr 1970 ac yntau ar y pryd mewn cyfarfod yng Nghapel Rhydcymerau. Yr oedd, o’r diwedd, wedi dychwelyd i’w filltir sgwâr. Ar ben hynny yr oedd yn eistedd ar bwys ei arwr, Gwynfor Evans. Ni ellid dychmygu gwell diweddglo i’w fywyd a gysegrodd i frwydr parhad ei genedl ac i hunaniaeth ei bobl.

 

Claddwyd D.J. ym mynwent y capel gyda Siân ei wraig a gwelir yno yr arysgrifau a ganlyn:

 

Dyma fedd Siân a D.J.  Ar y chwith (wrth wynebu’r pennawd a nodwyd);  Siân Williams, 1884-1965, annwyl briod  D.J., 1885-1970, ac yntau’n gorwedd gyda hi a’r Hen Wynebau eraill yn eu tragwyddol hedd.

 

Ar y dde:  Yn gymeradwy ymysg lliaws ei frodyr: yn ceisio daioni i’w bobl, ac yn dywedyd am heddwch i’w holl  hiliogaeth.

 

 

Darllen pellach:

Cyhoeddiadau D.J. Williams.

 

Emyr Hywel, Y Cawr o Rydcymerau (Y Lolfa, 2009).

Emyr Hywel (gol.), Annwyl D.J., (Y Lolfa, 2007).