Dydd Sadwrn, 21 Mehefin, 2025 dathlwyd can mlynedd ers sefydlu Plaid Cymru mewn Rali ym Mhwllheli.
Daeth torf i ddathlu a chlywed areithiau ar sgwâr y dref.
Dyma araith Dafydd Wigley –
Anerchiad Canmlwyddiant y Blaid: Pwllheli, Mehefin 2025
Gyfeillion a chyd- genedlaetholwyr!
Bydd Prif Weinidog nesaf Cymru yn fy nilyn – a dwi’n siwr y bydd Rhun yn edrych mlaen at etholiadau fis Mai nesaf. Felly dwi am edrych yn ôl, sy’n addas iawn wrth ddathlu canmlwyddiant y Blaid.
Canrif nôl i heddiw, roedd fy mam yn byw tri-chan llath o’r man yma; ei mam hithau’n Lywydd Merched Rhyddfrydol Pwllheli, efo Lloyd George yr AS lleol.
Hanner canrif yn ôl, roeddwn innau’n newydd f’ethol fel AS y fro ac yn ceisio cyflawni yr hyn a fethodd LlG ei wneud – sef cael Senedd i Gymru.
Ac mae’n dda gallu deud i Bwllheli gael ei chynrychioli byth oddi ar hynny, gan ASau Plaid Cymru – yn San Steffan ac yn Senedd Cymru – Hywel Williams, Alun Ffred Jones, Dafydd Elis Thomas ( y diweddar, ysywaeth), Elfyn Llwyd, Liz Saville Roberts a Mabon ap Gwynfor; ac os ydi hynna’n dangos diffyg cyfartaledd, does gennyf ddim amheuaeth y bydd Sian Gwenllian a Becca Brown yn ymuno â nhw fis Mai; a does wybod y gwelwn Elin Hywel yno hefyd cyn hir.
A felly, dyma ni, heddiw, ar drothwy cyfle realistig i’r Blaid, fis Mai nesaf, arwain Llywodraeth nesaf Cymru.
A bydd y cyfrifoldeb ar ysgwyddau Rhun i dywys yr hen genedl hon tuag at yr Annibyniaeth y bu Cymru’n dyheu i’w had-ennill byth oddi ar dyddiau Owain Glyndwr.
A, gyda llaw, mae’r Blaid hefyd yn parhau i reoli Cyngor Gwynedd; a dymunwn pob llwyddiant i’r Cynghorydd Nia Jeffreys, ein harweinydd newydd yn ei gwaith pwysig.
Mae crynhoi canrif o hanes y Blaid mewn cwta deng munud yn amhosibl. Felly dwi am sôn am gyfraniad rhai o brif gymeriadau’r Blaid – dynion a merched na ddylem fyth anghofio eu hamrywiol gyfraniadau, o’r dyddiau cynnar; pobl a osododd y sylfaeni i dyfu i’r safle gynhyrfus ble cawn ein hunain heddiw.
Y cyntaf fydd y mwyaf yn ein mysg: Saunders Lewis, a ddiffiniodd cenedlaetholdeb Cymreig mewn termau gwerthoedd diwylliannol, a hynny’n benodol o fewn cyd-destun Ewrop.
Yn ei ddarlith fawr, yn Ysgol Haf gynta’r Blaid ym 1926, diffiniodd Saunders nod y Blaid Genedlaethol , sef Hawlio i Gymru “ le yn Seiat y Cenhedloedd, ac yn Seiat Ewrop, yn rhinwedd gwerth ei gwareiddiad.”
Peidiwn byth golli gafael ar hyn: mae ein gwareiddiad yn cynnwys ein hiaith a’n llenyddiaeth yn y ddwy iaith ; yn cynnwys ein cerddoriaeth, ein harlunwaith; ein crefydd ac yn arbennig, ein gwerthoedd cymdeithasol neilltuol a’n nod o hyrwyddo economi i wasanaethu’r gymuned.
Mynnwn annibyniaeth fel cyd-destun hanfodol i ni warchod a chyfoethogi gwareiddiad unigryw ein cenedl.
Cynhaliwyd yr Ysgol Haf cyntaf yng nghysgod Senedd-dŷ Owain Glyndwr ym Machynlleth. Cynnal ysgol haf oedd un o ddau benderfyniad allweddol a wnaed gan y Blaid yn ei blwyddyn gyntaf.
Y llall – eto dan ddylanwad Saunders – oedd i gyhoeddi papur newydd misol uniaith Gymraeg, y Ddraig Goch, a ddaeth yn brif gyfrwng i ddatblygu syniadaeth y Blaid.
Ni allai plaid fechan newydd, gyhoeddi papur o’r math heb adnoddau ariannol sylweddol: a’r un a wnaeth hyn yn bosib oedd y Fonesig Mallt Williams, Llandudoch , a dalodd arian cyson – canpunt ar y tro, tro ar ôl tro, canput pryd hynny yn £7000 yn arian heddiw – hyn i gynnal y Ddraig Goch, a Swyddfa Ganol y Blaid. Mallt Williams sy’n haeddu ei lle yn oriel anfarwolion y Blaid.
Ond tydi papur newydd werth dim oll, heb bolisïau allweddol i dyfu’r Blaid. A’r bobl a wnaeth mwy na neb i ddatblygu ein gwerthoedd cymdeithasol ac economaidd oedd D. J Davies, mab i löwr o sir Gaerfyrddin, a’i wraig – Gwyddeles – Dr Noelle Davies.
Mae ei lyfr “Towards an Economic Democracy” – yn gweld sosialaeth cymunedol yn ganolog i werthoedd ein gwlad, a syniadau Robert Owen yn perthyn i ni hefyd.
Ac mae’n werth dyfynnu, o’r deg pwynt polisi a gyhoeddodd Saunders Lewis yn 1933, pwynt 3 :
“Y mae cyfalafiaeth ddiwydiannol a chystadleuaeth economaidd, rydd oddi wrth reolaeth llywodraeth gwlad, yn ddrwg dirfawr, ac yn gwbl groes i athrawiaeth cenedlaetholdeb cydweithredol.….”
Peidied neb a chyhuddo Saunders Lewis o fod yn adain dde adweithiol: rwtsh llwyr ydi hynny, fel y mae Richard Wyn Jones wedi dangos yn eglur yn ei lyfrau ar y testun; a diolch, Dicw, am dy ddewrder yn codi llais.
Ni allwn ddathlu canmlwyddiant heb dalu clod i ymgeisydd seneddol cyntaf Sir Gaernarfon, Lewis Valentine a safodd ym 1929, gan gasglu 609 pleidlais.
Valentine oedd un o’r chwech a ddaeth ynghyd ym Mhwllheli yn Awst 1926, yn cynrychioli “Ffrwd y Gogledd” a chafodd ei ethol yn Lywydd cynta’r Blaid. Un oedd i fod yn y cyfarfod cyntaf hwnnw, oedd D J Williams, Abergwaun; – ond roedd ei drên yn hwyr!
Dychwelodd Saunders, DJ a Valentine i Bwllheli, ym Medi 1936, i losgi adeilad pren ar safle’r Ysgol Fomio, ger Porth Neigwl. Gweithred symbolaidd, a arweiniodd at garcharu’r tri yn Wormwood Scrubs am naw mis.
Roedd y cyfarfod croeso iddynt yn hen bafiliwn Caernarfon, ar ôl eu rhyddhau, efo dros 12,000 yno i dalu teyrnged iddynt.
Dywedir, pe bai Saunders wedi dewis taflu matsian i’w canol, y gallai fod wedi tanio chwyldro; ond nid dyna dull gweithredu, y Blaid hon.
Mae un o’r tri hyn, D.J Williams yn haeddu ei le yn oriel anfarwolion y Blaid am reswm arall. Ym 1966, ef a ddaeth i’r adwy pan oedd y Blaid yn wynebu mynd yn fethdalwyr. Roeddem wedi methu a chlirio dyledion etholiad siomedig 1964 a daeth etholiad arall pen deunaw mis.
Roedd y Blaid yn wynebu peidio a sefyll yn yr etholiad honno ym Mawrth 1966 – a D. J Williams achubodd y dydd, gan werthu ei hen gartref teuluol, yn Sir Gaerfyrddin, gan rhoddi’r cyfan o’r £2,000 a gafodd, I’r Blaid.
Roedd ei haelioni yn dod a gwynt i hwyliau ymgyrch Gwynfor Evans, yng Nghaerfyrddin, a chododd ei bleidlais o bum mil a hanner i saith mil a hanner; a da hynny. Oherwydd o fewn dau fis yr oedd yr AS, Megan Lloyd George, wedi marw. A dyma ni, yn isetholiad Caerfyrddin, ar 16 Gorffennaf 1966, pan gipiodd Gwynfor Evans y sedd, ac yn creu hanes drwy ddod yn AS cynta’r Blaid.
Wrth gofio haelioni digyfaddawd DJ,– a ninnau yma ym Mhwllheli, mae’n werth hefyd gofio’r Cynghorydd Herbert Thomas, Llannor, un o hoelion wyth Cyngor Dwyfor.
Pan fu farw yn yr wythdegau, gadawodd bron y cyfan o’i eiddo, i’r Blaid yng Ngwynedd, rhodd fyddai gwerth dros chwarter miliwn o bunnoedd yn arian heddiw.
Os ydan ni’n credu mewn annibyniaeth, rydan ni hefyd yn gorfod dangos ein parodrwydd i godi’r adnoddau hanfodol i droi’r Blaid yn rym etholiadol ledled Cymru.
Os ydi Rhun a’r tîm am ennill etholiad Senedd Cymru, mae angen rhoddion o’r math; ac apeliaf i bawb yn y Blaid sydd mewn sefyllfa i efelychu D J Williams a Herbert Thomas, i wneud hynny ar fyrder – a does dim rhaid marw i ddangos haelioni!
Gwynfor oedd symbyliad y deffroad gwleidyddol yn y chwedegau, gyda’i fuddugoliaeth yn dod ar gynffon y deffroad hawliau iaith a ddeilliodd o ddarlith radio Saunders Lewis ym 1962.
Rhyngddynt daeth y deffroad iaith a’r deffroad wleidyddol i gyd-gerdded drwy’r chwedegau a’r saith degau, hyd at refferendwm trychinebus 1979.
Ac, yn sgil hynny, Gwynfor wnaeth y safiad dros S4C a sicrhaodd nid yn unig sianel deledu i’r iaith Gymraeg, ond hefyd yr hunanhyder i ni fel cenedl, i herio holl werthoedd Maggie Thatcher a’I chriw.
Ac eilun arall o bleidiwr, Dafydd Iwan, a osododd ein gwerthoedd a’n dyheadau ar gan – neges yr ydym yn dal i ganu; rydan ni “Yma o hyd”.
Ac am hyn ac am bob safiad arall dros Gymru, rhaid gosod Dafydd Iwan ar restr anfarwolion y Blaid wrth ddathlu ein canmlwyddiant.
Roedd Gwynfor yn San Steffan, byth a beunydd, yn edliw nad oedd y Blaid yn llwyddo i gael menywod yn aelodau seneddol; hyn o weld yr SNP efo Winnie Ewing, Margo Macdonald; a Maggie Bain yn Nhy’r Cyffredin.
Pam nad oedd hyn yn bosib i’r Blaid, meddai? Wel, fe gymerodd yn hirach nag oedd Gwynfor yn disgwyl, ond o’r hir hwyr mae gennym dair ardderchog – Liz, Llinos ac Ann – yno bellach, i gadw’r Ben Lake, Aelod disglair Ceredigion, yn ei le!
Ac felly hefyd y menywod yn Senedd Cymru – Elin, Delyth, Heledd, Sioned a Sian, sy’n siapio – yn nhîm y Blaid dan arweinyddiaeth Rhun – i gymryd y cyfrifoldeb o arwain ein Plaid i lwyddiant pellach yn ein hail ganrif; ac yn barod i arwain llywodraeth ein gwlad.
Dyma’r ffordd o ddathlu ein canmlwyddiant: I’r Blaid ddod y Blaid fwyaf yn ein senedd; ac os ydi’n amhosib cael mwyafrif dros bawb efo’r system STV, yna dangos yr un arweiniad a ddaru Alex Salmond a’ r SNP yn 2007, efo ond un sedd mwy na Llafur, i lywodraethu mor llwyddiannus, iddynt yn 2011 gael mwyafrif dros bawb.
Dyna roddodd iddynt yr hawl i fynnu refferendwm ar Annibyniaeth. Ac fe allwn ni, dan arweinyddiaeth Rhun, wneud llawn cystal, a gwell.
Felly, o’r rali hanesyddol hon, awn ati i droi pob carreg, fel y bydd ail ganrif y Blaid – yn fuan iawn – yn troi’n gyfle am annibyniaeth; ac o gael y cyfle, gyda n gilydd, dros Gymru, awn rhagom i ailadeiladu’r hen genedl hon, a hynny yn rhinwedd gwerth ein gwareiddiad!
Diolch yn farw!