Dogfennau Vic Davies o 1967

GWYBODAETH NEWYDD AM ISETHOLIAD GORLLEWIN Y RHONDDA

Diolch yn fawr iawn i deulu’r diweddar Vic Davies, y Rhondda, am drosglwyddo i’r Gymdeithas Hanes ddogfennau hynod ddifyr am Isetholiad Seneddol Gorllewin Rhondda dros hanner can mlynedd yn ôl.

Mae’r casgliad yn cynnwys llyfr lloffion gyda thoriadau o’r wasg sy’n dwyn i gof holl fwrlwm yr ornest hanesyddol yn 1967 pan lwyddodd Vic Davies i dorri mwyafrif anferth y Blaid Lafur i lawr o 17,000 i 2,306 o bleidleisiau yn unig, gogwydd o 29 y cant i Blaid Cymru.

1967 Rhondda By-election

Yn ogystal mae nifer o lythyrau gwerthfawr iawn, gan gynnwys llongyfarchiadau gan arweinydd Plaid Cymru, Gwynfor Evans, oedd wedi’i ethol yn Aelod Seneddol dros Sir Gaerfyrddin y flwyddyn gynt.

1967 Llongyfarch Vic Davies

Ceir hefyd lythyr ar ran yr SNP gan Dr Andrew Lees o Bearsden ger Glasgow yn gwahodd Vic Davies i deithio i’r Alban i gefnogi ymgyrch Winifred Ewing yn isetholiad Hamilton – yn benodol i gadw cwmni iddi hi wrth fynd i lawr pwll glo yn yr ardal.  Roedd Winnie Ewing wedi cwrdd â Vic rai wythnosau cyn hynny yng Nghynhadledd y Blaid yn Nolgellau.

Mae’n amlwg o weld cynnwys y pecyn fod Vic wedi derbyn y gwahoddiad, mynd i lawr y pwll glo a hefyd annerch rali – achos bod llythyr yn llawysgrifen Winnie Ewing a ysgrifenwyd ar 2 Hydref 1967 yn diolch o galon iddo am ddod a helpu eu gwneud yn llwyddiant.  Bedair wythnos wedyn, aeth Winnie Ewing ymlaen i ennill Hamilton ac ymuno gyda Gwynfor yn Senedd San Steffan.

Ar ôl copïo eitemau ar gyfer dibenion y Gymdeithas Hanes, anfonir y casgliad i’r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth i fod yn rhan bwysig o archif Plaid Cymru.