GWYNETH MENAI WILLIAMS, 1938-2016
Syrthiodd un o gonglfeini’r hen Gwmaman o’i lle ym muriau Amser pan glýwyd diwedd Gorffennaf am farwolaeth Gwyneth Menai Williams, Dan-y-rhiw, ychydig cyn iddi gyrraedd ei phen-blwydd yn 78 oed. Ymroddai at ei chymuned ac at wleidydda, gan sefyll droeon yn enw Plaid Cymru i’w hethol i hen Gyngor Bwrdeisdref Cwm Cynon. Er i’r Blaid bryd hynny roi tîmau cryf gerbron a threfnu yn egnïol yn wardiau Aberaman a De Aberaman, Gwyneth, gan amla’ oedd ymgeisydd blaen yr ymdrech a’i hwyneb cyhoeddus amlycaf. Cymaint felly nes iddi gael ei ‘nabod gan lawer tan y diwedd fel ‘Gwyneth Plaid’.
Brwydrai Gwyneth yn ddi-dor yn erbyn dominiddiaeth y Blaid Lafur, oedd wedi ennill popeth yn y ward ers y 1920au cynnar. Sefodd ym 1973, 1976, 1979, 1983 (pan rannwyd Aberaman yn Ogledd a De), 1986 a 1987. Y flwyddyn honno, bu iddi bron â llwyddo disodli un o gynghorwyr y Blaid Lafur yn Ne Aberaman o ennill 742 pleidlais i 766 Llafur. Ym 1991, ar ôl i Gwyneth ac eraill fraenaru’r tir, torrodd argaeau y Blaid Lafur ac enillodd y Blaid dair sedd De Aberaman ar y cyngor dosbarth mewn un trawiad a gyda mwyafrifoedd da, gan wneud yn debyg yng ngornest y cyngor sir ym 1993 wrth ennill 65% o’r bleidlais. By Gwyneth ar ben ei digon – er ychydig yn eiddigeddus taw i eraill y ‘syrthiodd Jericho’ ac nid iddi hi (oedd yn adwaith naturiol wrth gwrs). Daliai i fod yn weithgar er na sefodd hi eto. Pe bai modd, ni chollai funud o bresenoldeb y tu allan i orsaf bleidleisio Cwmaman mewn etholiad, na’r un Cyfrif chwaith, nes iddi golli ei symudedd fwyfwy wrth heneiddio.
Fel asiant y Blaid yn etholiadau’r ardal yr adeg honno, gwyddwn fod ei phresenoldeb yn unig o bwys yn y Cwm a mawr fyddai fy niolch iddi. Gedy ei chymar, Norman; tair merch, Susan, Janet a Siân; eu gwŷr hwythau; ei hwyrion a’i hwyresau; ei brawd Gareth a’i wraig a llu o gyfeillion i alaru amdani. Ond dathlwn hefyd ei henw; ei chymeriad hoenus; ei synnwyr digrifwch heintus a’i chyfraniad parod i’w chymuned ac i bawb o’i chwmpas. Gwir y dywedir bod coffa da ar led amdani.