Talwyd teyrngedau i’r cyn-ASE a chynghorydd Gwynedd Eurig Wyn, a fu farw yn 74 oed ar 26 Mehefin 2019.
Eurig Wyn gyda Jill Evans, cyd-Aelod Seneddol Ewropeaidd Plaid Cymru
Etholwyd Mr Wyn yn aelod o Senedd Ewrop i gynrychioli Cymru ym 1999, a bu’n gwasanaethu tan 2004. Yn nes ymlaen, cafodd ei ethol yn gynghorydd dros ward y Waunfawr ar Gyngor Gwynedd yn 2012, gan ildio’i sedd yn 2016. Bu hefyd yn gwasanaethu fel cynghorydd cymuned yn Waunfawr am nifer o flynyddoedd.
Yn ystod ei gyfnod yn Senedd Ewrop, yr oedd Mr Wyn yn aelod o bwyllgor diwylliant a deisebau’r senedd. Yr oedd hefyd yn aelod o’r ddirprwyaeth am gysylltiadau gyda De’r Affrig a’r ddirprwyaeth i Gyd-Bwyllgor Seneddol yr UE a’r Weriniaeth Siec.
Yn fwyaf amlwg, bu’n eiriolwr cadarn dros ffermwyr Cymru a’r diwydiant amaethyddol yn ystod argyfwng clwy’r traed a’r genau, a bu’n aelod o’r pwyllgor seneddol dros dro a sefydlwyd i ymateb i’r argyfwng hwnnw.
Yn yr angladd yn Waunfawr ar 3 Gorffennaf 2019 talwyd teyrngedau i Eurig Wyn gan ei fab Euros a Rhys a Llyr Ifans