Glanmor Bowen-Knight 1945 – 2019: Teyrnged

Bu farw Glanmor Bowen-Knight, Tredegar, un o hoelion wyth y Blaid yng nghymoedd Gwent, yn ddiweddar.  Mae Cymdeithas Hanes Plaid Cymru’n estyn ein cydymdeimlad i’w chwaer Rae a’r teulu.  Cewch ddarllen teyrnged iddo gan  ei gyfaill Hywel Davies yma.

 

GLANMOR BOWEN-KNIGHT: TEYRNGED

Cafodd ymadawiad y cyn-gynghorydd ac aelod gweithgar o Blaid Cymru Glanmor Bowen-Knight o Dredegar ei gofio’n deilwng yn Amlosgfa Llwydcoed Ddydd Mercher, 9 Hydref, 2019 mewn gwasanaeth dyneiddiol a fynychwyd gan gynulleidfa sylweddol o deulu a chyfeillion.

Yn eu plith y bu Dafydd Williams, cyn Ysgrifennydd Cyffredinol Plaid Cymru, Jocelyn Davies, cyn Aelod Cynulliad y Blaid i Dde Ddwyrain Cymru, ac Alun Davies, cyn aelod o’r Blaid ac yn awr yn Aelod Cynulliad Llafur Blaenau Gwent.

Er yn wynebu her gorfforol ers ei blentyndod cynnar ac yn gorfod cerdded gyda chymorth ffyn, roedd Glanmor yn falch o gyhoeddi y buasai mewn amgylchiadau gwell yn ‘6-footer’. Yn wleidyddol, cadarnhawyd yr honiad hwnnw gan ei fywyd o ymroddiad llwyr i fudiad cenedlaethol Cymru.

Yn aelod o Blaid Cymru ers y 1960au, bu Glanmor yn gwasanaethu mewn nifer o ffyrdd yn swyddog Cangen Tredegar a phwyllgor etholaeth Glyn Ebwy / Blaenau Gwent. Roedd hefyd yn aelod Plaid Cymru o Gyngor Tref Tredegar am flynyddoedd maith nes cyfnod ei nychdod terfynol.  Wrth ei alwedigaeth, roedd Glanmor yn horolegydd (glociwr), wedi’i hyfforddi fel dyn ifanc yng Ngholeg St Loye’s, Caerwysg. Roedd yn adnabyddus yn Nhredegar fel yr oriadurwr a gemydd a fyddai’n ddiwyd wrth ei waith mewn cornel o siop gemydd Gus Jones.

Megis yn ei waith, felly hefyd mewn gwleidyddiaeth byddai Glan yn defnyddio’i ymennydd trefnus a manwl yn bwrpasol iawn i adeiladu peiriant Plaid Cymru effeithiol ym man geni anaddawol Nye Bevan.  Roedd wrth ei fodd i weld ei waith ef ac eraill yn dwyn ffrwyth drwy yrfa brodor o Dredegar, yr Aelod Cynulliad Plaid Cymru Steffan Lewis – er i ni ei golli mor drasig o ifanc – a’r etholiad Cynulliad Cenedlaethol yn etholaeth Blaenau Gwent yn 2016 ble bu’r Blaid bron yn fuddugol.

Yn briodol iawn, cafodd Glanmor dderbyn Gwobr Cyfraniad Arbennig Plaid Cymru.

Gedy chwaer, Rae, a’i ŵr Charles, ynghyd â theulu estynedig sylweddol, pob un ohonyn nhw’n falch ohono ac wedi’u hymroi i’w ofal.

D. Hywel Davies