Aeth ugeiniau os nad cannoedd o aelodau o Blaid Cymru i’r Alban i helpu’r frwydr dros annibyniaeth. Fuoch chi yn un ohonyn nhw? Os felly oes gyda chi hanesyn bach i ni ei roi ar gof a chadw ar wefan Hanes Plaid Cymru (www.hanesplaidcymru.org)? Byddai croeso i nodyn byr i ddweud lle aethoch chi, rhyw anecdote a llun os oes un i’w cael. Danfoner at Dafydd Williams (daitenby@gmail.com).