COLLI CAWR O’R CWM:
Ysigwyd ei gyfeillion a thrigolion yr ardal o glywed am farwolaeth y cyn-gynghorydd Howard Davies, Cwrt Alun Lewis, ar bnawn dydd Llun, 12 Medi, yn Ysbyty Merthyr. Roedd yn 66 oed.
Perthynai Howard i un o deuloedd mwyaf adnabyddus Cwmaman a thu hwnt. Hen dad-cu iddo oedd y bardd gwlad Isaac Edmunds (Alaw Sylen), Abercwm-boi, y bu ei englynion yn britho am flynyddoedd bapurau Cymraeg y fro yr oes a fu (Y Gwladgarwr a’r Darian). Merch y bardd, a mam-gu Howard i bob pwrpas, oedd un o artistiaid enwocaf Cwmaman a Chwm Cynon ei dydd: gwraig a elwid gan bawb (yn ôl ffasiwn yr oes) yn ‘Madam Elizabeth Edmunds Price’. O’r un ach y tarddai un o farnwyr amlycaf yr 20G, yr Arglwydd Ustus Edmund Davies a anwyd yn Aberpennar.
Edmund Davies, fel cyfreithiwr ifanc, fu’n amddiffyn un o’r ‘Tri’ a losgodd yr Ysgol Fomio ym Mhenyberth, Llŷn, ym 1936 – achos a roddodd yr hwb mwyaf (medd rhai) i genedlaetholdeb Cymreig yr 20G. Ef hefyd, fel barnwr profiadol, a glywodd achos y Great Train Robbers ym 1963; ac ef a benodwyd gan y prif weinidog Harold Wilson i gadeirio’r Ymchwiliad a fu i achos Trychineb Aber-fan (a ddigwyddod ar y 21 Hydref, 1966 – union hannercan mlynedd yn ôl i’r mis hwn).
Yn naturiol, bu Howard yn falch o’r cysylltiadau hyn ac yn eu harddel yn yr enw canol, Edmund, a gafodd gan ei rieni Trevor a Nancy Davies. Bu ei dad-cu arall (Tomos Dafis ‘Drapwr’ i’r hen drigolion) yn löwr ac yn ddiacon yn Seion ochr-yn-ochr â thad-cu’r gohebydd hwn. Bu ein mamau yn gyfeillion pennaf ar hyd eu hoesau hefyd – fel y bu Howard a minnau gydol ein dyddiau tan ei farw. Cymaint felly nes bod llawer, pan oeddem yn blant (ac oherwydd tebygrwydd enwau), yn tybied taw brodyr oeddem. Ar lawer cyfri, buom; a diau hyn sy’n peri imi ing am un a fu yn gyfaill cyntaf fy oes.
Carai Howard Gwmaman a’i phobl. Bu’n rhan amlwg o fywyd yr ardal ar hyd ei fywyd. Fe’i codwyd yn Byron Street a Milton Street a – lawn cymaint – Seion: yn un o ‘gywion’ Idwal Rees a saint yr achos teilwng hwnnw. Anorfod felly, wedi sefydlu Ysgol Gymraeg Aberdâr ym 1949, y byddai Howard yn mynd iddi ym 1955 gan aeddfedu’n Gymro naturiol o waed ac awydd tan y diwedd.
Wedi iddo fynychu Ysgol Ramadeg y Bechgyn, Aberdâr (cyn oes Rhydfelen ac ysgolion tebyg), aeth i Goleg Hyfforddi Cyn-coed. Ond ni apeliai gyrfa athro iddo a gadawodd i ymuno a gwasanaeth Treth y Wlad yn Llanisien. Yno yr arhosodd nes iddo ymddeol ryw chwe blynedd yn ôl.
Os taw yng Nghaerdydd y bu ei draed weithiau, yng Nghwmaman y bu ei galon bob tro. Bu ganddo ddiddordeb affwysol mewn chwaraeon – paffio, reslo, ceffylau, moduro ac, yn arbennig, byd y bêl gron. Er nad oedd ef ei hun erioed yn fawr o chwaraewr ar y cae, ymroddodd at hybu pel-droed yng Nghwm Cynon a Chwmaman – lle byddai hynt FC Cwmaman bob amser yn denu ei bryd.
Bu’n ysgrifennydd ac yna’n gadeirydd y clwb am flynyddoedd di-ri; ac ef fu’n gwthio’n fwy na’r un i gael meysydd chwarae a chyfleusterau newydd i ieuenctid y cylch yng Nglynhafod (gan fynnu enw Cymraeg – ‘Canolfan Cwmaman’ – ar y cyfan).
Gwasanaethodd fel cynghorydd ardaloedd De Aberaman yn enw Plaid Cymru rhwng 1991-95 ac eto rhwng 2008 a 2012. Ar ddechrau’r ‘90au, fe’i penodwyd yn llywodraethwr ac yna’n gadeirydd llywodraethwyr Ysgol Gynradd Glynhafod: swydd a ddaliai tan ddiwrnod ei farw (er na fu modd iddo fod mor gyson â chynt yn eu cyfarfodydd yn ystod tri mis olaf ei fywyd). Bu’r swydd hon wrth fodd ei galon, ac uniaethai yn ddi-feth ag athrawon, rhieni a phlant yr ysgol gan roi o’i orau iddynt am chwarter canrif.
Dirywiodd iechyd Howard yn fawr yn ystod y pum mlynedd diwethaf a bu teithio ‘nôl ac ymlaen i ysbyty yn rhan annatod o’i fywyd. Cafodd gyfoeth o gefnogaeth gan ei gyfeillion – nid yn unig ar gyfnodau heulog ond pan fu’n fain arno hefyd. Dylid nodi enwau Philip a Beryl Northey, Alan Hoare, Gwyneth Edwards ac eraill mewn aur am eu ffyddlondeb di-ffael iddo dros gyfnod maith.
Cynhaliwyd angladd Howard yn Amlosgfa Llwydcoed fore Gwener, 23 Medi, gyda lluaws yn arddel parch ac yn talu’r gymwynas olaf iddo yno.
Fy mraint innau – er mor anodd – fu traddodi teyrnged o galon iddo: teyrnged a leisir hefyd yn yr englynion hyn…
DLD.