Ifor Jenkins 1927 – 2017

‘Welwn ni ddim mo’i debyg ‘to’

Arian byw o ddyn, y disgrifiad gore, dyn a wasanaethodd ei gymuned ar sawl lefel am gyfnod hir.

Roedd cannoedd yn yr angladd yn Eglwys Mihangel Sant, Tongwynlais, ar Fawrth 20, a dwsinau’n gwrando tu fas. Roedd Ifor George Jenkins wedi marw’n 90 oed a derwen gadarn wedi cwympo. Yn y gwasanaeth Band Dirwest Tongwynlais oedd yn cyfeilio, yr un roedd wedi ymuno ag e yn 1953 pan oedd yn canu’r cornet.
Ifor Jenkins arweiniodd ymgyrch i adnewyddu’r hen ffynnon

Cafodd ei eni a’i fagu yn Ffynnon Taf cyn mynd i Ysgol Ramadeg y Bechgyn Caerffili. Pan oedd yn llanc gwibiai yn ôl ac ymlaen ar feic yn cludo negeseuon i’r heddlu oedd yn yr orsaf fydd yn cael ei hailgodi yn Amgueddfa Werin Cymru.

Un diwrnod aeth i mewn i swyddfa recriwtio a phenderfynu ymuno â’r llynges. Os yw’r stori’n wir, yn lle derbyn cyfarwyddyd negododd Ifor fel y gallai ymuno â’r adran gyflenwi. Fe aeth i Ceylon ac ar ddiwedd y rhyfel fe gafodd gynnig aros yn y llynges ond fe ddaeth yn ôl am fod ei deulu’n bwysig.

Ar ôl y rhyfel fe oedd asgellwr chwimwth y tîm rygbi. Roedd yn gynghorydd Taf-Elái o 1973 tan 1991, fe a Gordon Bunn yn gwasanaethu’r ardal i’r Blaid cyn i Gerald Edwards ymuno â’r criw. Ymfalchïodd Ifor yn y ffaith ei fod yn Faer Taf-Elái yn 1991-2, yr aelod cyntaf o Blaid Cymru i ddala’r swydd.

Pan oedd yn gynghorydd roedd wedi gweithio’n galed yn gwella tai, yn dod o hyd i dai i bobol leol. Yr adeg honno roedd gan gynghorydd fwy o rym. Yn 1993 fe ddaeth yn gadeirydd Tai Hafod a Chymdeithas Gofal ac Atgyweirio (Pen-y-bont).

Un o’i hoff feysydd oedd addysg. Fe gynorthwyodd i sefydlu’r ysgol feithrin yn Ffynnon Taf. Fe ddaeth yn llywodraethwr Ysgol Gynradd Ffynnon Taf – roedd wedi bod yn ddisgybl ac yn gwybod ei hanes i gyd.

‘Fe o’dd Mistyr Ffynnon Taf,’ meddai’r cyn Cynghorydd Adrian Hobson, un o’i ffrindiau agosâ. ‘Ro’dd yn nabod pawb, yn creu argraff ar bobol ble bynnag o’dd e’n mynd.’

Ifor drefnodd lifoleuadau i’r clwb pêl-droed a diogelu adeilad y ffynnon. Roedd yn aelod o fwrdd ymddiriedolwyr Crochendy Nantgarw a dadlau’n effeithiol o blaid ailagor y gwaith yn 1991. Roedd yn aelod o is-bwyllgor y clwb rygbi a chwarae rhan allweddol yn y broses adleoli. Cefnogodd y clwb bowlio i’r carn.

Fe ddaeth yn rheolwr Gwasg Ladycat ar Stad Ddiwydiannol Trefforest ac ar un adeg roedd yn rheolwr gwerthu a’i gwsmeriaid yn estyn o Gaerwysg i Birmingham a draw i orllewin Cymru. Mewn colegau yn Aberdâr a Phontypridd roedd yn ddarlithydd astudiaethau busnes.

‘Roedd yn llawn egni,’ meddai Adrian. ‘Wy ddim yn siŵr o ble da’th yr egni. Bydd y pentre’n dlotach hebddo fe.’

Oherwydd ei frwdfrydedd, ei ddyfalbarhad, ei gynhesrwydd a’i hiwmor roedd pob plaid yn ei barchu. ‘Ro’dd e’n ddyn agored iawn,’ meddai Adrian. ‘Os nag o’dd e’n cytuno â rhywbeth, fe fydde fe’n dweud yn syth. Ro’dd yn ddibynadwy.

‘Yn fwy na dim, ro’dd e’n onest ac yn egwyddorol. Dim byd mawreddog. Wy erio’d wedi cwrdd â rhywun fel Ifor. Welwn ni ddim mo’i debyg ‘to.’

Ein rhodd oedd dyn amryddawn.
Ein cur, heb ei ddur na’i ddawn.

Martin Huws