Ivy Thomas 1921 – 2012

IVY THOMAS, 1921-2012

Roedd Ivy yn gymeriad. Dyna, heb os, farn pawb a’i cwrddodd ac a gafodd y fraint o’i ‘nabod a’i galw yn gyfaill.Ivy Thomas

Neu, yn hytrach, bu’n llu o gymeriadau: yn gefn i’w theulu gydol ei hoes; yn dipyn o ddeinamo yn ei chymuned; yn weithgar mewn eglwys a chapel; yn dipyn o deithiwr byd; yn fyfyriwr iaith a hanes ac yn ymddiddori ym materion cyhoeddus ar bob cyfri’ a chyfle. Yn clymu’r cyfan ynghyd, bu ganddi agwedd bersonol oedd yn onest a phlaen tuag at bawb a phopeth – pwy bynnag oeddynt, beth bynnag bo’u hamgylchadau; a choronwyd y cyfan gan synnwyr digrifwch sych a miniog fyddai’n taro nodyn yn berffaith gan osod rhywbeth yn gwmws mewn perspectif.

Cafodd Ivy ei geni yng Ngodreaman ym Medi 1921. Bu cryn ddeall a gallu ganddi. Ond fel llawer o ferched ei chyfnod – waeth pa mor ddeallus oeddynt – ni chafodd gyfle i barhau â’i haddysg. Rhaid oedd gadael ysgol ar y cyfle cyntaf i helpu cynnal cartref. Yn eirionig, cyflafan yr Ail Ryfel Byd a roddodd rhywfaint o gyfle i ferched yr oes ymestyn eu gorwelion a’u profiadau wrth fynd i weithio am y tro cyntaf mewn ffatri, siop neu swyddfa fel agwedd ar ymdrech enfawr y rhyfel, a dyna fu hanes Ivy.

Wedi’r drin, priododd hi â’i gŵr Tom yn eglwys Sant Margaret, Aberaman gan ymgartrefu yn York Street a magu teulu yno. Roedd Tom hefyd yn gymeriad hoffus ar y naw: yn saer a chynhaliwr ym mhwll Aberaman am flynyddoedd ond â’i galon ar bethau’r wlad – ceffylau, cneifio, cynaeafu – fel oedd yn gweddu i ŵr fu’n enedigol o Aberaman ond yn ymwybodol o gefndir ei deulu yng Nghwm Senni cyn iddynt ymadael am weithfeydd Morgannwg.

Cafodd Tom ac Ivy ddau o blant: Pat a Steve. Erbyn hyn, mae Pat yn byw yn Yr Eglwys Newydd, Caerdydd lle mae’n ymroddgar ym mywyd Cymraeg y ddinas. Mae Steve yn byw gerllaw Canberra, Awstralia lle bu’n athro crefft a dyluno ers ymfudo yn ddyn ifanc.

Bu Ivy a Tom yn Gymry da â pheth Cymraeg ganddynt. Pan benderfynnodd Pat a’i diweddar ŵr Graham fagu eu plant yn Gymry rhugl, penderfynnodd Ivy, gyda phwrpas ac ymroddiad nodweddiadol ohoni, fwrw ati i wella’i Chymraeg i fod ynghanol y bwriad. Ces i’r fraint o fod yn diwtor iddi mewn dosbarth yn yr hen Ysgol Aman yn ystod y 1980au; ac oherwydd ei hymroddiad wrth fwrw ati, buan oedd hi cyn bod Ivy yn eitha’ rhugl a pharod ei llafar yn Gymraeg. Ers hynny, ni fu Saesneg rhyngom; ac ers sefydlu Clochdar ym 1987, bu’n un o ddarllenwyr a chefnogwyr mwyaf ffyddlon y papur.

Ymroddodd Ivy a Tom yn hael o’u hamser yn ystod y 1980au a’r ‘90au i gynorthwyo’r Blaid yng Ngodreaman adeg pob etholiad. Ar y pryd, gweithiwn yn helaeth fel asiant etholiad i’r Blaid a bu, yn aml, lu o broblemau wrth drefnu ymgyrch. Ond ni fu angen gofidio erioed am yr orsaf bleidleisio yn Ysgol Aman pan fu honno yng ngofal y teulu Thomas.

Ymaelododd Ivy yng nghapel Gwawr, Jubilee Road, a bu’n weithgar yno dros gyfnod o flynyddoedd. Rhywfaint ar ôl iddi golli Tom yn y flwyddyn 2000, penderfynwyd taw’r peth gorau fyddai symud i Gaerdydd a bod yn nes at Pat a’i hŵyrion, a dyna a wnaed. Ar ôl symud, byr o dro oedd hi nes bod Ivy wedi darganfod Tŷ’r Cymry yng Nghaerdydd a mynd yno’n gyson tra’r oedd yn medru. Mwynheuodd hefyd amryw daith i Awstralia i ymweld â Steve a’i deulu yno.

Cafodd Ivy ail wynt i’w hwyliau yng Nghaerdydd a blas ar deithio o gwmpas yn annibynol ar fysiau’r ddinas tra medrai. Ymunodd gyda Pat ym mywyd cynulleidfa Gymraeg yr Undodiaid yng Nghaerdydd ac yn Highland Place, Aberdâr ac roedd fel petai hi wedi cael cartref ysbrydol newydd cydnaws â’i natur yn y traddodiad pwyllog a rhesymol hwnnw. Gwnaeth lu o ffrindiau newydd yng Nghaerdydd gan edrych bob amser yn ymarferol a ffyddiog tua’r dyfodol. Ond arhosodd yn hoff o ddarllen Clochdar ac edrychai ymlaen ag awydd bob amser at dderbyn ei chopi misol.

Bu ei phryd bob amser ar ei phlant a’i hŵyrion. Cafodd bleser dibendraw ynddynt bob un a llawenydd o’r mwyaf iddi fu medru dathlu ei phenblwydd yn 90 oed mewn iechyd da yn eu mysg ar y 3ydd Medi llynedd (gweler y llun).

Ar ôl cyfnod byr o salwch, bu farw Ivy ar 27 Ebrill yng nghartref ei merch. Bu’r angladd yn Thornhill, Llanisien ar yr 8fed Mai gyda’r Parchg. Eric Jones. Aberdâr yn arwain y gwasanaeth. Bendith iddi hi a’r teulu oedd bod Steve wedi gallu dod draw o Awstralia mewn da bryd (fel y gwnaeth gyda’i deulu adeg penblwydd ei fam fis Medi).

Dathliad o fywyd a chymeriad Ivy oedd y gwasanaeth yn Thornhill y diwrnod hafaidd hwnnw: rhywbeth ffyddiog a gododd ysbryd y sawl fu yno – fel y gwaneth Ivy ei hun mor gyson pan yn fyw. Ac eto, wrth lunio’r geiriau hyn er cof amdani, nis gallaf ddiosg ymdeimlad fy mod wedi colli hen ffrind yn ogystal â ffrind a aeth yn hen.

Coffa da amdani.

DLD.