Jim Criddle 1947 -2017

Cawr Diymhongar

Helen Mary Jones yn rhoi teyrnged i Jim Criddle

Cefais y fraint yn y Gynhadledd y mis diwethaf o gyflwyno gwobr gwasanaeth oes i deulu’r diweddar Jim Criddle, gweithiwr a chynghorydd Plaid Cymru am flynyddoedd ym Mhontllanfraith.

Yn ôl pob sôn bu Jim ar un cyfnod yn aelod o’r Blaid Lafur; chymrodd hi ddim yn hir iddo weld y goleuni. Cafodd ei berswadio gan ei hen ffrind Malcolm Parker i sefyll  dros Blaid Cymru mewn etholiad cyngor yn gynnar yn y 70au, a dyna gychwyn ar ymroddiad oes i Blaid Cymru a chyfanswm o dros 30 mlynedd o wasanaeth fel cynghorydd.

Yn ystod yr un cyfnod dechreuodd Jim ddysgu Cymraeg, a llwyddodd yn hynny o beth. Trwy’r gwersi yma y daeth ar draws ei wraig Rhian Heulyn, ac fe fagodd y ddau deulu Cymraeg ei iaith, Betsan, Geraint a Branwen. Daeth gweithio dros y Blaid yn brosiect teuluol. Mae’r plant yn cofio rheolau euraid Jim ynglŷn â thaflennu – cadwch y glwyd yn union fel ag yr oedd, peidiwch â phoeni cŵn a pheidiwch BYTH BYTHOEDD â dringo dros waliau rhwng gerddi – waeth faint o risiau y mae’n rhaid i chi eu dringo!

Lle bynnag roedd angen gweithio dros y Blaid, fe fyddai Jim yno – yn taflennu, canfasio, rhedeg y gangen, gweithio i’r Undeb Gredyd – dim y dasg oedd yn bwysig i Jim ond yr achos

Yn ogystal â’i waith dros Blaid Cymru fel cynghorydd, ei swydd fel athro a’i ymrwymiadau teuluol, roedd Jim, gyda’i wraig Rhian, yn ymgyrchydd brwd dros addysg Gymraeg yng Ngwent. Bu’n frwydr galed, ond daeth llwyddiant. Roedd Jim mor falch pan agorwyd Ysgol Gyfun Gwynlliw.

Roedd Jim yn caru ei deulu, roedd yn caru ei gymuned ac roedd yn caru Cymru. Bu’n gweithio’n dawel dros yr hyn yr oedd yn credu ynddo. Bu farw’n rhy gynnar. Fe fydd ei deulu, ei ffrindiau a’i gydweithwyr yn cofio’r cawr diymhongar. Mae Cymru angen rhagor o bobl fel Jim Criddle.