Atgofion am John Howell (1928 – 2009)
Ganwyd John yn Lahore yn 1928 yn ystod cyfnod y Raj Prydeinig i rieni Cymreig, a fe’i magwyd ymhell o Gymru. Treuliodd y rhan fwyaf o’i flynyddoedd cynnar yn Yr India ble cafodd ei addysg. Yn ddiweddarach aeth i Brifysgol Bryste i astudio Peirianneg Fecanyddol. Roedd ymysg y rhai a gymerodd ran yng nghynnydd etholiadol Plaid Cymru yn ystod y 50au a’r 60au. Safodd ddwywaith fel ymgeisydd seneddol yng Nghaerffili yn 1959 a 66. Disgrifiwyd y blynyddoedd hyn fel gwir drobwynt Plaid Cymru.
Nid gwleidydd cadair freichiau oedd John. Meddai ar bersonoliaeth garismataidd a hiwmor direidus. Roedd yn areithiwr huawdl a safodd ar sgwâr aml i gymuned lofaol, weithiau yn siarad â chynulleidfa o un hen ŵr a chi! Denodd ei garisma nifer o bobl ifanc i’r ymgyrch genedlaethol. Un tro siaradodd gydag uchelseinydd mewn sgwâr gwag am fanteision hunan lywodraeth i Gymru. O’r golwg, tu allan i dy cyfagos safai’r academydd ifanc Phil Williams, benderfynodd ,wedi clywed John yn siarad yr ymunai a Phlaid Cymru er ei fod ar y pryd yn aelod o’r Blaid Lafur.
“Dyma yn hollol annisgwyl, ymgeisydd dros genedlaetholdeb a ddrylliodd fy rhagfarnau. Magwyd John Howell yn ddi-gymraeg ym Mhacistan wedi gweithio yn y diwydant aerospace yng Nghaliffornia.” (Phil Williams “Voice from the Valleys” 1959-1975)
Nid Phil Williams oedd yr unig un i ddod dan ddylanwad personoliaeth, huodledd ac argyhoeddiad John. Ar achlysur arall a John a’i asiant Alf Williams yn canfasio gyda’r uchelseinydd ym Mhontlotyn, roedd gwr ifanc, newydd gyrraedd gartref o’i waith ac yn bwyta ei swper yn yr ystafell gefn yn gwrando’n astud. Tipyn yn ddiweddarach roedd Dave Watkins ei hun allan yn canfasio gyda Phil Williams yn etholiad 1964 yn ailadrodd y profiad blaenorol , uchelseinydd, rhes o dai gwag, dim adyn o gwmpas a dim drws ar agor!
“Paid becso Phil ma ‘na un boi yn cael ei swper, mae’n gwrando’n ofalus a fory fydd e lawr yn dy dŷ di eisie ymuno” (voice from the Valley)
Roedd John yn hyblyg yn y modd yr ymgyrchai. Unwaith ag yntau yn canfasio gydag Owen John Thomas ddaethant at siop gornel gwr o Bacistan a dyma John yn cyflwyno’i hun i’r siopwr yn Urdu ( iaith gyntaf John) er mawr syndod i’r perchennog. “O ba wlad ydych chi’n dod” gofynnodd y siopwr. “O Bacistan” meddai John “Ie ie meddai’r siopwr ond o ba genedl” “Dwi ,fel chithau yn Bacistani” meddai John, er mawr ddifyrrwch i’r siopwr!
O gofio iddo gael ei fagu a’i addysgu mewn ysgol yn Lahore a sefydlwyd ar gyfer addysgu arweinwyr y Raj roedd ymroddiad John i genedlaetholdeb yn rhyfeddol.
Does dim dwywaith bod dylanwadau ei fywyd cynnar yn Yr India, ble tystiolaethodd i ddatblygiad y sefydliad cenedlaethol dan arweiniad Gandhi ac yn ddiweddarach gweld ailgydio yng nghenedlaetholdeb Ffrengig yn Quebec yng Nghanada ble bu’n gweithio fel peirianydd aerospace wedi chwarae rhan allweddol yn natblygiad ei ymwybyddiaeth wleidyddol.
Fe’i gorfodwyd i roi’r gorau i gymryd rhan weithredol ym Mhlaid Cymru pan darwyd ef a Multiple Sclerosis ond parhaodd ei ddiddordeb brwd ym mywyd gwleidyddol Cymru a bu’n gefnogwr di-syfl i’r blaid gydol ei oes.