Mai Roberts – Y Ferch a Sefydlodd y Blaid

Mai Roberts – Y Ferch a Sefydlodd y Blaid

Anerchiad gan Arwel Vittle i Gymdeithas Carnuhanawc 7 Mawrth 2026

Mae rhan Mai Roberts yn hanes sefydlu’r Blaid yn un o’r hanesion mwyaf diddorol ac allweddol. Ac mae ei stori yn un na chafodd sylw haeddiannol. Oherwydd Mai Roberts oedd y cyswllt hanfodol a arweiniodd at uno mudiadau y de a’r gogledd i ffurfio Plaid Cymru fel rydyn ni’n ni ei hadnabod heddiw. Ond roedd llawer mwy iddi na hynny hefyd fel y cawn weld.

Yn ddiweddar mae mwy o sôn wedi bod amdani, yn enwedig yn sgil dathliadau can mlwyddiant y Blaid yn 2025, gyda cyhoeddi llyfr Gwen Angharad Gruffudd a minnau ar sefydlu’r Blaid Genedlaethol Dros Gymru’n Gwlad, a hefyd cofiant Glyn Tomos i drefnydd cyntaf y Blaid Genedlaethol, H.R. Jones, Deiniolen – H.R. Gŵr â Chymru yn ei Galon.

Un o deulu Glanrhydfadog ym mhentref Neiniolen oedd Mai Roberts, ac yn naturiol, gan eu bod yn hanu o’r un pentref roedd yn adnabod H.R. Jones, oedd yn ymwelydd aml a chartref y teulu yng Nglanrhydfadog.

Wedi gadael Ysgol Brynrefail treuliodd Mai gyfnod ym Manceinion cyn cael ei phenodi fel Ysgrifennydd Preifat i E. T. John. Diwydiannwr cefnog oedd E T John, a bu’n Aelod Seneddol Rhyddfrydol Dwyrain Dinbych. Roedd ET John yn gefnogwr mawr i ymreolaeth i Gymru ac roedd hefyd yn gwrthwynebu’r Rhyfel Mawr ac oherwydd hynny gadawodd y rhyddfrydwyr ac ymuno â’r  Blaid Lafur. Ond collodd ei sedd yn etholiad 1918. Er hynny parhau i ddefnyddio ei gysylltiadau a’i gyfalaf i gefnogi’r achosion oedd yn agos at ei galon.

Cenedlaetholwr pybyr a merch fodern annibynnol oedd Mai Roberts – yn gwisgo’n ffasiynol, gwisgo colur, ysmygu a gyrru ei char ei hun. Fel hyn y disgrifiwyd hi gan Cassie Davies, a ddaeth i’w hadnabod yn dda yn nyddiau cynnar y Blaid Genedlaethol:

Fe’i gwelaf hi nawr… yn ferch dal luniaidd, o doriad bonheddig ac osgo urddasol yn gwisgo’n weithiai’n feiddgar ffasiynol. Yn ei hymyl hi, fe deimlwn i’n wladaidd lawn. Fe dorrodd Mai iddi hi ei hun lwybr mwy anghyffredin na’r rhelyw ohonom ni, ferched y Blaid, a thrwy ei gwaith a’i chysylltiadau phobl o uchel dras a swyddi blaenllaw, fe gafodd brofiad.

Bu’n ffrind agos i deulu Ambrose Bebb fyth ers iddynt gyfarfod yng Nghyngres Geltaidd Kemper yn 1924, roedd ‘Anti Mai’ yn ymwelydd cyson ag aelwyd y teulu yn Llwydiarth, Bangor Uchaf.

Yng nghofiant Glyn Tomos i H.R. Jones mae Lowri Williams, merch Ambrose Bebb, yn rhoi disgrifiad byw ohoni:

Ar wahân i’w llygaid tywyll fyddai’n llawn chwerthin, ‘roedd Mai lawer iawn yn fwy ymlaciedig na’i chwaer. I blentyn, ymddangosai Mai yn hynod soffistigedig. I ddechrau, ‘roedd ganddi gar, ac ychydig iawn a feddai ar gar bryd hynny oherwydd y rhyfel, prinder petrol ac ati – yn enwedig merched! Gwisgai’n smart bob amser ac ‘roedd ganddi got ffwr foethus. Yn ôl arfer merched bryd hynny, ni thynnai’r het yn y tŷ, a byddai’n eistedd yn fodlon yn y gadair freichiau’n ysmygu ei Craven As, a’r mwg glas yn gwneud patrymau araf uwch ei phen, hithau’n gwrando ar beth oedd gennym ni’r plant i’w ddweud ac yn gwenu a chwerthin.

Magodd Mai brofiad o fod y merw y byd gwleidyddol, a throi ymysg cylchoedd uchelfannau cymdeithas Prydain yn Llundain. Ar ben hynny wrth i E T John sefyll fel ymgeisydd Llafur yn etholiadau cyffredinol 1922 ac 1923, fe gafodd Mai brofiad o redeg ymgyrchoedd etholiadol.

Yn y cyfnod cyn yr etholiad, daeth E.T. John dan bwysau gan arweinwyr y Blaid Lafur i sefyll fel ymgeisydd yn etholaeth Brycheiniog a Maesyfed. Roedd wedi gwneud hynny eisoes: yn Ninbych ar ôl y Rhyfel Mawr, yna fel ymgeisydd Llafur a Chenedlaethol yn Sir Fôn, a ddwywaith yn Sir Brycheiniog a Maesyfed. Colli a wnaethai bob tro. Cytunodd i sefyll unwaith eto, yn groes i ddymuniad ei ysgrifennydd preifat.

Tybiai Mai Roberts ei bod yn gam gwag i E.T. John roi coel ar addewidion arweinwyr y Blaid Lafur Brydeinig, a’i fod yn ei dwyllo ei hun y byddent yn rhoi hunanlywodraeth i Gymru pan ddeuent i ffurfio llywodraeth:

Y camgymeriad a wnaeth E.T.J. oedd rhoddi ei ffydd yn y Blaid Lafur. Cofiaf i Ramsay MacDonald (ac Arthur Henderson, yr Ysgrifennydd Cartref) ddod i weld Mr John yn ei gartref yn Llundain. Roedd E.T.J. eisoes wedi ymladd tair Etholiad i’r Blaid Lafur – safai fel ymgeisydd Llafur a Chenedlaetholwr Cymreig, a’r cwbl ar ei gost ei hun. Cytunodd i sefyll am y 4ed [sic] tro ar yr amod y byddai i’r Blaid Lafur, pan y deuai i ffurfio Llywodraeth, ddod a Mesur o Hunan Lywodraeth i Gymru o flaen y Senedd. Cytunodd y ddau ond ni fu iddynt gadw eu haddewid.

Croesawyd y ddau wleidydd i Warwick Square, cartref E.T. John yn Llundain, i frecwast. Gan fod gwraig John yn eu cartref yn Llanidan ar Ynys Môn, Mai Roberts gafodd y gwaith o weini ar y tri, ac felly bu’n dyst i’r ­hyn a ddywedwyd:

Neges y ddau aelod o’r Blaid Lafur oedd i ofyn i E.T.J. sefyll dros y Blaid am y trydydd tro ym Mrycheiniog a Maesyfed. Ei ateb oedd y buasai’n gwneud hyn ar un amod, sef, y byddai’r Blaid Lafur pan ddeuai i ffurfio Llywodraeth [yn] deddfu Mesur o Ymreolaeth i Gymru. (Cofiaf imi ysgwyd fy mhen ar E.T.J. oedd yn fy ngwynebu ar y bwrdd, ond yn ofer). Cytunodd. Beth ddigwyddodd – pan gallodd y B[laid] Lafur ffurfio Llywodraeth [yn 1929] gwrthododd R. MacDonald ystyried Ysgrifennydd i Gymru.

Roedd E.T. John, serch hynny, yn frwd dros sefyll fel ymreolwr o dan faner Llafur. Bu sefydlu Gwladwriaeth Rydd Iwerddon ar ddiwedd y Rhyfel Annibyniaeth yn 1922 yn ysbrydoliaeth iddo, a dadleuai y dylai Cymru fod yn aelod llawn o Gynghrair y Cenhedloedd.

Er nad oedd Mai yn cytuno gyda phenderfyniad ei chyflogwr i sefyll yn yr etholiad, arni hi y syrthiodd y baich o drefnu ei ymgyrch. Yr hyn sy’n drawiadol yw bod Mai wedi cael y gwaith o drefnu’r ymgyrch er nad oedd ganddi’r bleidlais ei hun. Oherwydd ni roddwyd y bleidlais i ferched o dan 30 oed tan 1928.

Bu Mai hefyd, yn rhinwedd ei swydd gyda E T John, yn gweithio gydag Undeb Cynghrair y Cenhedloedd  Cymru a sefydlwyd yn Eisteddfod Genedlaethol Castell-nedd yn 1918. Ymgyrch fwyaf adnabyddus Undeb Cynghrair y Cenhedloedd  oedd cefnogi Apêl Heddwch Menywod Cymru yn 1923-24 pan gasglwyd enwau 390,000 o fenywod ledled Cymru mewn deiseb heddwch. Ac roedd Mai yn bresennol yn y cyfarfod i ffarwelio ag Annie Hughes Griffiths wrth iddi gychwyn ar ei thaith i’r America i gyflwyno’r Ddeiseb Heddwch i’r Gyngres yn Washington yn 1924.

ET John wnaeth ailsefydlu y Gyngres Geltaidd ar ôl y rhyfel Mawr a Mai hefyd gafodd y gwaith am y deng mlynedd y bu hi’n gweithio i John, o drefnu’r Gyngres Geltaidd, a thrwy hynny daeth i gysylltiad agos gyda rhai o arweinwyr mudiadau cenedlaethol yr Alban, Llydaw ac fwyaf arbennig, Iwerddon, lle cyfarfu a dod yn ffrindiau gyda llawer o Weriniaethwyr a chenedlaetholwyr y wlad honno mewn adeg gynhyrfus a chyffrous.

Cynhaliwyd Cyngres Geltaidd ym mis Medi 1924 yn ninas Kemper, yn Llydaw, ac yno fel y gellid disgwyl yr oedd un o hoelion wyth y Gyngres E.T. John, ynghyd a’i Ysgrifennydd Preifat, Mai Roberts. Yno hefyd yr oedd Ambrose Bebb un o aelodau’r Mudiad Cymreig wrth gwrs.

Yr oedd Mai eisoes yn gyfarwydd ag erthyglau Ambrose Bebb yn Y Faner, Y Darian, ac yn Y Geninen ac roedd yn eithaf amlwg o’r ysgrifau hynny ei fod yn Genedlaetholwr. Fel hyn y cofiodd am eu cyfarfyddiad cyntaf:

Cofiaf yn dda cyrraedd y Gwesty yn Quimper, a gweld dyn tal yn sefyll o flaen y lle tan yn Neuadd y gwesty. Nid oeddwn erioed wedi cyfarfod Bebb ac nid oedd gennyf yr un syniad pa fath o ddyn oedd yn gorfforol, byr ynte tal, tenau ynte tew? ond drwy rhyw reddf yn sydyn daeth y syniad imi mai Ambrose Bebb, oedd. Troais at E.T. John oedd y tu ôl imi a dwedais rhwng fy nannedd “rwy’n siwr mai Ambrose Bebb. ydyw hwn”. Cerddodd E.T. John yn syth ato gan ddweud “Ambrose Bebb ynte, E.T. John ydwyf i a dyma Miss Mai Roberts fy ysgrifenyddes, un o’ch edmygwyr mwyaf.” Roeddwn wedi dilyn erthyglau Bebb yn y Genhinen a’r Faner – bu dadl yn un o’r newyddiaduron Cymreig rhwng A.B. a’r Athro Morgan Watkins ar “Orfodi’r Gymraeg” a byddai y ddadl yn cael ei chario ymlaen rhwng E.T. John a minnau. Cyfeiriai ataf fel edmygwr mawr o Bebb am fy mod i yn ochri Bebb yn erbyn Morgan Watkin.

Yn naturiol meddai, roedd treuliodd y ddau ohonynt llawer o amser yn trafod mudiadau Cymreig a phroblemau Cymru, a “holi a holi am yr hyn oedd yn mynd ymlaen yng Nghymru. Soniodd Mai wrtho am fudiad HR yn y Gogledd, roedd hynny “y newydd gorau iddo gael o Gymru ers amser” meddai Bebb.

Yna mentrodd yntau ddweud wrthyf yn gyfrinachol (nid ydwyf yn amau na bu raid cofio y bu imi fynd ar fy llw na soniwn wrth neb am dano) P’run bynnag ar ôl fy holi a’m croes holi, mentrodd fy ngwahodd i ymaelodi a’r Mudiad Cudd. Dechreuais innau ei holi ef rwan. Bu hyn yn mynd ymlaen am rai dyddiau, a dwedodd wrthyf y byddai’n rhaid i aelod arall o’r Mudiad ddod i fy ngweld i wneud yn siwr mae’n debyg a oeddwn yn ddiogel i ymuno a Mudiad mor bwysig.

Ond nid oedd angen iddi betruso, meddai “rydych yn berffaith iach yn y ffydd”, gan ychwanegu y ceisiai drefnu i Saunders Lewis ei chyfarfod yn rhywle i’w derbyn yn gyflawn aelod.

Cysylltodd Bebb gyda Saunders Lewis i sôn am ddiddordeb Mai mewn ymuno a’r Mudiad, ac iddo ddisgwyl llythyr ganddi i’r perwyl hynny. Cafodd ateb ar ddiwedd Medi yn cadarnhau bod Mai wedi bod mewn cysylltiad.

Mi sgrifennaf innau ati. Gall fod yn aelod gwerthfawr dros ben.

Ym mis Hydref ysgrifennodd Saunders at Mai yn dweud y byddai ­yn darlithio yn Kings Cross yn fuan, ac estynnodd wahoddiad iddi fynd am ginio gydag ef bryd hynny.

Y peth nesaf oedd imi gael llythyr oddi wrth S.L. yn fy ngwahodd i giniawa ag ef yn un o Restaurants Llundain. (Fel y gwyr ei gyfeillion mae Saunders Lewis yn connoiseur ar fwyd a gwin ac fe gawsom wledd ardderchog). Ar ôl trafodaeth hir ar fath o ymreolaeth dwedais wrtho na fyddwn yn fodlon ar ddim llai na’r hyn oedd Iwerddon wedi ei gael sef Gwladwriaeth Rydd (Free State) ac mae dyna hefyd oedd agwedd E.T. John Derbyniwyd fi i Seiat y De.

Yn ystod ei chinio soniodd Mai wrth Saunders am y Mudiad yn y Gogledd “a cymerodd ddiddordeb mawr yn y newydd”. Ni wnaeth hi ymhelaethu fwy ar gynnwys ei sgwrs yn y tŷ bwyta yn Llundain, ond hawdd credu iddi sôn am ei hadnabyddiaeth o H R Jones a rhoi portread ohono i Saunders Lewis – ei gryfderau o ran diffuantrwydd ac ymroddiad a’i duedd i freuddwydio a delfrydu.

Beth bynnag am hynny, rywbryd rhwng yr hydref a’r Nadolig dychwelodd Mai i Wynedd i’w chartref yng Nglanrhydfadog “am ychydig seibiant” gyda’r bwriad meddai o “geisio anghofio pob dim am Gymru a’i phroblemau”. Nid dyna fel y bu serch hynny, “nid yn hir y parodd hyn – galwodd H.R. yng Nglanrhydfadog.”

Byddai croeso cynnes i H R ar aelwyd Mai a’i theulu bob amser, gyda’i mam yn rhoi “‘Amen’ i’w Syniadau Cenedlaethol. Yn ôl ei arfer y noson honno, fel pob tro arall y deuai ni soniai am ddim ond am y Fyddin Ymreolaeth.  Roedd yn llawn adroddiadau gwych am gyfarfodydd y mudiad newydd yn y Gogledd ac roedd y mudiad yn tyfu yn aruthrol a phobl yn ymuno wrth y cannoedd. Creu darlun delfrydgar nid twyllo ei hun oedd y trefnydd, ym marn Mai, “Nid dweud anwiredd oedd H.R. – roedd yn byw yn y dyfodol – yn breuddwydio gweld y miloedd o Gymry yn genedlaetholwyr.”

Yna cymerodd Mai y cam tyngedfennol a cheisio arwain H R i lawr y llwybr tuag at uno’r carfannau gwahanol. Felly heb sôn yn benodol am y Mudiad Cymreig, na’r ffaith ei bod hi’n aelod o’r mudiad, soniodd am y criw o genedlaetholwyr gweithgar yn y De.

Daeth i fy mhen yn sydyn ai tybed a oedd yn bosibl i ddod a’r ddau fudiad ynghyd ond ni allwn sôn am fudiad Cudd y De wrth H.R. ond fe ddywedais wrtho nad allai Mudiad Caernarfon ddim ffurfio Plaid a’i galw yn Blaid Cymru heb gael y De i mewn.

Cytunodd HR ond dywedodd nad oedd mewn cysylltiad a’r Cenedlaetholwyr yno.

Atebodd Mai drwy ddweud:

“Wel, mae’n siwr eich bod wedi darllen ysgrifau un o’r enw Ambrose Bebb yn Y Geninen…”

Oedd mi roedd.

Wel, meddwn, os oes Cenedlaetholwr o gwbl yng Nghymru y mae Bebb yn un. Ac mi roddaf enw un arall i chwi sydd yn ôl beth rwyf wedi ei ddarllen sef Saunders Lewis.

Cynigiodd y dylai HR ofyn i un ohonynt ddod i gyfarfod ei fudiad. Roedd Bebb wedi dychwelyd i Lydaw yn anffodus, meddai, ac roedd cenedlaetholwr arall amlwg yn y De, D.J. Williams yn byw yn rhy bell i deithio i’r Gogledd yn hwylus. Ond, meddai, “Beth am ofyn i Saunders Lewis?” gan ychwanegu ei bod yn credu fod ganddo gysylltiadau teuluol yn y Gogledd ac efallai y buasai yn derbyn. Cyfaddefodd Mai wedyn nad oedd ganddi’r syniad lleiaf am unrhyw gysylltiad rhwng Saunders Lewis a’r Gogledd, ac mai siarad ar ei chyfer yr oedd hi.

Er hynny, mae’n ddiddorol holi, ai cyd-digwyddiad oedd i Mai gynnig enw Saunders i H R? Am beth yn union fu’r ddau’n trafod dros y cinio amheuthun yn Llundain? A awgrymwyd ei bod hi’n sefydlu cyswllt rhwng mudiad y De a’r Gogledd? Neu ai syniad byrfyfyr ar ei rhan y noson honno oedd y peth.

Beth bynnag am hynny, rhoddodd gyfeiriad Saunders Lewis i H R Jones.

Wedi cymaint o gecru a stwna ymysg dynion y cynadleddau a’r mudiadau amrywiol Cymru, roedd merch Glanrhydfadog wedi gwthio cwch plaid genedlaethol unedig i’r dŵr.

 

Etholwyd Pwyllgor Cenedlaethol am y tro cyntaf hefyd ym Mhwllheli, a’r aelodau oedd Valentine, Saunders Lewis, D J Williams, HR Jones, Fred Jones, Moses Griffith, Iorwerth Peate, Prosser Rhys, Ben Bowen Thomas a Mai Roberts.

Roedd Mai Roberts i fod yn un o’r aelodau yn y cyfarfod sefydlu ffurfiol yng Nghaffi Maes Gwyn, ond cafodd ei dal yn Nulyn. Meddai:

Methais a chyrraedd Pwllheli erbyn Cyfarfod y boreu oherwydd imi fethu gadael Iwerddon cyn y nos, ond fe aethum i’r ail gyfarfod. Erbyn hyn roeddwn wedi clywed gan H.R. a Saunders Lewis bod y Blaid Genedlaethol wedi ei sefydlu. Os oedd hwn yn ddiwrnod mawr yn hanes Cymru i rhywun – mi roedd i H.R. Roedd yn wên o glust i glust ac yn brysur chwilio am aelodau ar faes yr Eisteddfod.

Oni bai am drefniadau teithio chwithig felly, mi fyddai merch wedi cael ei chydnabod o’r cychwyn fel un o’r hoelion wyth a sefydlodd Plaid Genedlaethol Cymru. Yn wir oni bai am Mai Roberts, mae’n bosib iawn na fyddai’r blaid wedi dod i fodolaeth ar yr adeg y gwnaeth o gwbl. Mai yn sicr oedd aelod cyntaf y Blaid, gan mai hi oedd y cyntaf i dalu ei thal aelodaeth a chael cerdyn ymaelodi gan H R Jones yn ystod yr wythnos honno ym Mhwllheli.

Bu Mai Roberts yn un o weithwyr mwyaf ymroddgar a diwyd y Blaid Genedlaethol yn y blynyddoedd cynnar. Gwasanaethodd fel aelod o Bwyllgor Gwaith Cenedlaethol y Blaid am flynyddoedd, gan weithio’n ddiflino, weithiau ar draul ei hiechyd ei hun, dros yr achos.

Bu ei chwaer Priscie hefyd yn ymgyrchydd dygn dros y Blaid, fyth ers iddi gael ei darbwyllo i ymuno drwy wrando ar Lewis Valentine yn siarad mewn ysgol haf y blaid. Daeth Priscie yn un o hoelion wyth y Blaid yn Arfon am ddegawdau. Dywed Valentine bod teulu Glanrhydfadog, Deiniolen er yn eglwyswyr solet a defosiynol yn genedlaetholwyr pybyr. Roedd yr aelwyd yno meddai, “yn seintwar ac yn orffwysfa i weithwyr y Blaid” lle’r estynnwyd croeso brwd ar bob adeg.

Roedd ambell un o aelodau Plaid Genedlaethol Cymru ar lawr gwlad yn sicr yn gweld Mai a Saunders Lewis fel arweinwyr y mudiad, a hynny ar batrwm Gwyddelig. Ysgrifennodd Gwilym Williams, un o’r aelodau mwyaf gweithgar yn nyddiau cynnar y Blaid, gohebydd i’r Guardian a chyfaill mawr i Caradog Prichard, fod y ddau fel fersiynau Cymru o arweinwyr Sinn Féin: ‘Ond am Saunders – Arthur Griffith Cymru fydda i yn hoffi ei alw a fel y byddaf yn hoffi galw Mai Roberts yn Countess Markievicz.’ (Yn 1918 Constance Markievicz oedd y ferch gyntaf i gael ei hethol yn aelod seneddol i Dŷ’r Cyffredin, er na chymerodd ei sedd yn San Steffan oherwydd boicot Sinn Féin. Bu’n ymladd yng Ngwrthryfel y Pasg, bu’n weinidog Cabinet yn y Llywodraeth Ddarpariaethol ac roedd yn weithgar yn Cumann Na mBan yn ystod Gwrthryfel y Pasg, y Rhyfel Annibyniaeth a’r Rhyfel Cartref.)

Fel ysgrifennydd preifat i E.T. John, llywydd y Gyngres Geltaidd, roedd y gwaith o drefnu yn syrthio ar ysgwyddau Mai Roberts. Daeth i gysylltiad â Gweriniaethwyr a chenedlaetholwyr Iwerddon a dod yn gyfeillion gyda llawer ohonynt. Mai Roberts a drefnodd i HR Jones er enghraifft fynd i gynhadledd flynyddol Sinn Féin, yr Ardh Feis, yn ystod ei ymweliad. Mai oedd yr un â’r cysylltiadau yn Iwerddon ac roedd yn ymwelydd cyson â’r wlad.

Ar 1 Medi 1925 ysgrifennodd Mai at H.R. yn dweud ei bod yn ceisio gwneud trefniadau ar ei ran:

Rwyn anfon heddyw at gyfaill imi yn Nulyn i ofyn iddo a fydd ef yn debyg o fod yn Nulyn ymhen pythefnos neu dair wythnos. Os y bydd fe ofala efe am danoch ac fe gewch y cyfle mae’n debyg o gyfarfod De Valera ac eraill … Yr wyf yn myned drosodd fy hun wythnos i Gwener nesaf dros y Sul …

Y cyfaill yn Nulyn oedd gweriniaethwyr tair ar hugain oed o’r enw Frank Ryan – neu Proinsias Ó Riain, fel y llofnodai ei lythyrau.

Roedd Ryan yn prysur wneud enw iddo’i hun yn Sinn Féin a’r IRA fel llanc ifanc carismataidd a brwdfrydig. Ni chwaraeodd Frank Ryan ran yn y Rhyfel Annibyniaeth, ond pan holltodd Sinn Féin a’r IRA yn dilyn y Cytundeb Eingl-Wyddelig, ymunodd â charfan de Valera yn erbyn y Cytundeb. Ym mis Medi 1922, mewn brwydr gyda milwyr y Wladwriaeth Rydd, cafodd ei glwyfo, ei ddal a’i anfon i garchar Limerick. Cafodd ei ryddhau flwyddyn yn ddiweddarach, ac enillodd radd mewn Astudiaethau Celtaidd yng Ngholeg y Brifysgol Dulyn yn 1925. Yn y cyfnod hwn hefyd bu’n gweithio fel newyddiadurwr, golygydd ac argraffydd papurau newydd radical, a dringodd yn gyflym yn rhengoedd yr IRA. Yn ddiweddarach, pan ddechreuodd Rhyfel Cartref Sbaen yn 1936, arweiniodd Ryan fintai o Wyddelod i ymladd yn y Frigâd Ryngwladol. Cafodd ei anfarwoli yn nghân Christy Moore, ‘Viva la Quinta Brigada’, am y gweriniaethwyr o Iwerddon aeth i ymladd y ffasgwyr yn Sbaen.

Mewn llythyr yn ateb Mai ym Medi 1925, dywed Ryan y byddai cyfle i H.R. a’i gyfeillion gyfarfod ag arweinwyr y blaid gan gynnwys Austin Stack a de Valera ei hun:

Mae’n rhaid fod Mai wedi crybwyll y syniad o greu cysylltiadau rhwng y Blaid Genedlaethol a Sinn Féin oherwydd mae Ryan yn mynd ymlaen i grybwyll y posibilrwydd hwnnw, yn ogystal â dymuno’r gorau i’r blaid newydd yng Nghymru:

It is for you to decide whether it will further or hinder your course if you openly ally yourselves with our movement.

Any assistance in my power I will give willingly …

Well, Miss Roberts, Wales is making a good start. Once a people realizes that it wants liberty, that is half the battle. As far as us, here, we’re yet to make the majority stiffen and stand for full freedom. When that is done – the fight is won. But – we here will never reach the end heb ymladd!!

Yn ddiweddarach y flwyddyn honno, ar 28 Tachwedd, ysgrifennodd Ryan at Mai unwaith eto, yn ymddiheuro am oedi cyn ei hateb, ond, meddai, roedd pethau’n poethi iddo:

I was very much relieved to see that Armistice Day doings met with your approval – though I should have known beforehand that your approval would be certain …

Frankly, things are coming to a head, and lest the interruption of our correspondence should be misinterpreted, I am explaining things to you.

… God! how I wish for the old days of the Celtic Congress! Two dances, one visit to the Abbey, and two to pictures – that’s the sum total of my amusement since!

Y ‘doings’ ar Sul y Cofio yn Nulyn, a gafodd eu cymeradwyo gan Mai, oedd gollwng bomiau mwg a thanio ergydion yn ystod y seremoni yn St Stephen’s Green. Sonia Ryan hefyd am ymosodiad ar sinema yn y ddinas: ‘You have heard that a Cinema – “The Masterpiece” – was blown up here, lately’. Cyfeiriad yw hyn at ymgyrch yr IRA yn erbyn sinemâu yn Iwerddon oedd yn dangos ffilmiau y bernid eu bod yn imperialaidd. Y ffilm a gododd wrychyn gweriniaethwyr oedd The Battle of Ypres, oedd yn clodfori byddin Prydain. Cafodd bomio sinema’r Masterpiece, Talbot Street, gryn sylw ar y pryd – dinistriwyd tu blaen yr adeilad gan y bom, gan ddifrodi degau o dai eraill cyfagos.

Nid dyna oedd diwedd adroddiad Ryan am weithgareddau’r IRA, serch hynny. Mae’n gorffen ei lythyr trwy ddathlu dihangiad pedwar ar bymtheg o weriniaethwyr o garchar Mountjoy. Yn y cyrch i ryddhau’r carcharorion, gyrrodd chwech o aelodau’r IRA, yn gwisgo lifrai plismyn, at fynedfa Mountjoy a llwyddo i fynd heibio’r giatiau, dod o hyd i’r carcharorion a’u rhyddhau. Roedd y cyrch yn llwyddiant propaganda mawr i’r IRA ar y pryd, ac mae’n amlwg o eiriau Ryan ei fod wedi’i ysbrydoli gan y digwyddiad:

Nineteen Republican prisoners were rescued from Mountjoy Jail last night. Not a shot was fired. Men don’t escape from jail – usually – unless there’s important work to be done outside jail walls. The ‘Last Conquest’ is giving way to the ‘Last War of Independence’. It will be a long slow fight – but we must win!

Mae’n ddiddorol sylwi bod Ryan yn cymryd yn ganiataol fod Mai yn gefnogol i’r holl ymdrechion chwyldroadol hyn.

Roedd yn frwd dros fynnu cyfiawnder i ferched hefyd.

Yn 1928 rhoddwyd yr hawl i ferched rhwng 21 a 29 oed bleidleisio mewn etholiadau ym Mhrydain. Roedd Mai yn effro i’r angen i’r Blaid Genedlaethol geisio ymestyn ei hapêl at y merched ifanc hyn gan ysgrifennu yn Y Ddraig Goch:

Nac anghofier chwaith fod gan y Blaid hithau ei dyletswydd i’r merched ieuainc sydd yn dechreu ar eu  bywyd gwleidyddol. Iddi  hi  yr  mae’r fraint  o roddi iddynt wleidyddiaeth Gymreig  eu  dysgu  o’r  cychwyn i edrych ar faterion Addysg, Iechyd, Cwestiwn   y  Tai,  etc.,  o  safbwynt  Cymru ac nid o safbwynt Lloegr. Bydd rhaid i’r Blaid eu dwyn i fyny i ddeall yr hen draddodiad Cymreig o lywodraethu, eu hannog i  wneud  astudiaeth  o’r  cwestiynau  uchod fel y maent yn effeithio ar yr Cymry.

Nid rhoi addysg wleidyddol iddynt yn unig ddylai’r Blaid wneud, ond hefyd ymladd dros eu hawliau. Gan gyfeirio at y nifer uchel o famau ifanc oedd yn marw wrth roi genedigaeth, a marwolaethau plant ifanc, anogodd Mai y Blaid i beidio anwybyddu anghyfiawnder cymdeithasol o’r fath:

Nid mater i’r Blaid Genedlaethol ei anwybyddu ydyw yr nifer mawr o ferched sydd ym marw yn flynyddol ar enedigaeth plant a’r nifer plant sydd yn marw cyn cyrraedd pum mlwydd oed.

Pobl, ac yn benodol merched Cymru oedd cyfoeth gwirioneddol y genedl, meddai. Dadleuodd ymhellach bod angen cadw meddygon a nyrsys yng Nghymru i leddfu effeithiau anghyfartaledd cymdeithasol fel hyn, mewn neges sy’n dal i adleisio yng Nghymru heddiw, dywedodd:

Nid yn ei phyllau glo a’i chwareli y gorwedd cyfoeth cenedl ond ym iechyd y bobl, yn neilltuol felly ym iechyd y mamau. Rhaid inni drefnu bywyd ein gwlad fel yr gellir cadw ein meddygon a’n gweinyddesau gwybodus a disglair yng Nghymru ac nid bodloni ar iddynt fynd i Loegr a’r Alban.

Gwelir enghraifft bellach ar dudalennau’r Ddraig Goch o Mai yn amddiffyn merched rhag agweddau rhywiaethol. Yn Ionawr 1929 ymddangosodd llythyr dienw yng ngholofn ‘Cylch y Merched’ yn y papur, o dan y pennawd ‘Barn Llanc am ein Merched Ifainc: “Yn Hollol Ddi-Serch a Di-Ddychymig”’.

Yn y llythyr mae’r awdur yn lladd ar ferched Cymru yn ddidrugaredd, gan ddweud eu bod wedi cael ‘eu canmol gymaint nes troi eu pennau a buasai’n dda troi eu corn gyddfau bellach’. Mae’r awdur wedyn yn amlinellu sail ei farn:

Pa beth sydd gennyf yn eu herbyn? Wel, i ddechreu y maent y creaduriaid mwyaf diserch a welais i erioed. Y maent fel rhes o byst cerrig yn hollol ddiddychymig ac oer. Gwnant bopeth yn hollol beiriannol a diddychymyg. Ar ol gweld un ferch ifanc gellwch ddweud eich bod wedi gweld cannoedd, – y maent mor arswydus o debig i’w gilydd.

Wedyn mae’n mynd yn ei flaen i gwyno am eu dillad a’u harferion gwisgo colur:

Trwy fod yn annaturiol y mae’r merched ifainc yn wastraffus dros ben. Ni wnânt ddim allan o’i le mewn gwisgo eithr dilyn ei gilydd fel defaid. Wrth weld yr hen ddillad llaes anfoesol yn cael eu newid i’r ffasiwn newydd aethom i feddwl fod yr oes aur wedi gwawrio. Ond ewch allan a sefwch ar gongl stryd am hanner awr a dywedwch wrthyf mewn difrif a welsoch chwi ddillad hacrach a mwy diddychymig erioed …

… Eto meddyliwch amdanynt yn powdro. Y mae powdro yn beth ardderchog o’i wneud yn iawn, ond cyll ei holl geinder yn nwylo merched Cymru. Un o’r pethau cyntaf ddylai Senedd Cymru ei wneud yw pasio ddeddf i amddiffyn dynion, canys heddiw y mae ein strydoedd yn cael eu llenwi ag arogl powdr rhad sy’n ddigon i gwympo dyn.  

Diwedda’r truth gyda chŵyn bellach ynghylch defnydd merched Cymru o fratiaith Saesneg byth a hefyd:

… gwrandewch arnynt yn siarad a’i gilydd a Saesneg a glywch ganddynt. Llythyrau Saesneg a gewch ganddynt. (Maddeuwch imi am ddefnyddio’r gair ‘Saesneg’ canys mewn gwirionedd rhyw erthyl o beth yw eu hiaith ac nid Saesneg).

Kate Roberts oedd golygydd colofn ‘Cylch y Merched’, a’i gŵr, Morris Williams, oedd y llythyrwr dienw. Dichon mai pryfocio a cheisio ennyn ymateb oedd y bwriad, ond ac ystyried nofel anghyhoeddedig Morris, efallai fod ganddo agweddau rhywiaethol at ferched yn gyffredinol.

Os mai ysgogi ymateb oedd y bwriad, mi lwyddodd. Cafwyd llythyr gan rywun dan y ffugenw ‘Un Ohonynt’ yn ymateb i sylwadau difrïol y ‘llanc’. Roedd Mai Roberts, fodd bynnag, yn teimlo’n ddigon dewr i dorri ei henw ar waelod ei llythyr hi. Mae’n werth dyfynnu ei hymateb yn helaeth oherwydd ei fod yn dangos Mai fel merch ifanc fodern sydd am ymryddhau o amgylchedd biwritanaidd Cymru’r degawdau a fu.

… mi hoffwn ymdrin a’i gyhuddiad cyntaf, sef bod merched Cymru y ‘creaduriaid mwyaf diserch a diddychymyg a welais erioed’. Os ydyw merched Cymru yr hyn a ddywed eich gohebydd, yna yr wyf yn tueddu i feddwl mai’r awyrgylch Biwritanaidd yr ydym wedi ein dwyn i fyny ynddo sydd yn cyfrif am hyn. Dysgwyd ni erioed mai elfen bechadurus y dylem ei fygu ydyw rhyw, ac o ganlyniad lladdasom brydferthwch merch a’n gwneud ein hunain yn ‘greaduriaid diserch ac oer’.

Gwyr pob merch beth ydyw teimlo fel heulwen haf yng nghwmni ambell i ddyn, a bod fel darn o rew ym mreichiau un arall. Ydyw y mae yn bryd inni fwrw ein Piwritaniaeth ac edrych ar fywyd yn fwy naturiol.

Cyhuddiad nesaf eich gohebydd ydyw undonedd a hacrwch gwisgoedd Merched Cymru. Nid rhaid i neb synnu am hyn. Y syndod ydyw ein bod yn gwisgo cystal pan gofir ein dysgu er yn blant yn ysgol i feddwl bod prydferthwch yn rhywbeth i’w osgoi …

Nid y wisg sydd yn cyfrif cymaint (er bod yn anghenraid ar eneth wybod pa liwiau a pha ddull ar wisg sydd yn gweddu oreu iddi) ond y dull o wisgo’r wisg – dyna’r gyfrinach. Gwelwch ambell ferch gyda dillad hardd am dani yn edrych ‘yn neb’ fel y byddwn yn dweud, un arall gyda dillad rhatach yn edrych yn wirioneddol ddeniadol y dull y mae yn gwisgo a dwyn ei dillad.

Daw’r llythyr i ben gyda brawddeg led-goeglyd lle mae’n cynnig ‘cyngor neu ddau i’ch gohebydd’, gan ddweud wrtho: ‘peidied a rhoi i fyny yr ymchwil a pheidied a gofyn “am un fach eto”’. Heb dystiolaeth gadarn gall rhywun ond dyfalu, ond o ddarllen rhwng y llinellau mae’n hawdd credu ei bod yn gwybod yn iawn pwy oedd y ‘llanc’.

Ond roedd Mai Roberts wedi bod yn rhwydweithio yn Llundain yn ceisio darbwyllo cyn-Aelod Seneddol Aberafan, Jack Edwards, i ymuno.

Un o Lanbadarn Fawr oedd Edwards yn wreiddiol, ond cafodd ei fagu yng Nghastell-nedd gan fod ei dad yn weinidog gyda’r Annibynwyr yn y dref. Bu’n gwasanaethu gyda’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig yn y Rhyfel Mawr gan ennill medal y DSO a’i ddyrchafu’n Lefftenant Cyrnol. Etholwyd ef yn Aelod Seneddol Rhyddfrydol Aberafan yn 1918 ond collodd y sedd dair blynedd yn ddiweddarach i Ramsay MacDonald, a ddaeth yn Brif Weinidog Llafur.

Oherwydd roedd gan Mai, yn ôl Saunders Lewis, ‘wide acquaintance with people, tact and savoir faire’ – elfennau a’i gwnâi yn gaffaeliad mawr wrth genhadu ar ran y Blaid ymysg haenau uwch cymdeithas Gymraeg Llundain a thu hwnt.

Oddeutu 1928 gadawodd Mai ei swydd gyda E.T. John ar sail iechyd ond yn fuan ar ôl gwella dychwelodd i Loegr unwaith yn rhagor, y tro hwn i lenwi swydd ysgrifennydd i ‘r Arglwydd Brychdyn a bu’n gweithio am ddeng mlynedd o gartref yr arglwydd yn Doddington Hall, Nantwich.

Pan gyhoeddwyd bod Lewis Valentine i fod yr ymgeisydd cyntaf yn enw’r Blaid mewn Etholiad Cyffredinol ym mis Mai 1929. Yn ôl Lewis Valentine roedd ei chefnogaeth iddo ef ac i’r blaid yn ystod yr etholiad yn amhrisiadwy.

 Yn ôl Lewis Valentine, “wedi’r cyfarfod ym Mhwllheli newidiwyd holi ddull ein gweithgarwch yng Nghaernarfon a’r cyffiniau yn gymaint a Mr. H. R. Jones, trefnydd cyntaf y Blaid, Mai Roberts yn fwy na neb a’n goleuodd ni a’n cyfarwyddo ni.” Yn fwy na hynny yn rhinwedd ei gwaith gydag E T John yn roedd ganddi brofiad neilltuol mewn gwleidyddiaeth ymarferol:

Yr oeddem yn dibynnu arni am ddeunydd i’n hareithiau a hi oedd yn cribinio ffeithiau i ni ac ystadegau. Ynghyd a hynny yr oedd cylch ei hadnabyddiaeth yn eang iawn. Gwyddai pwy oedd pwy yng Nghymru, a gwyddai yn well na neb pwy oedd yn debyg o’n cefnogi, ac yr oedd hi yn adnabod y cnafiaid ym mywyd cyhoeddus Cymru.

Cofia Lewis Valentine am rinweddau mawr Mai Roberts yn nyddiau cynnar y Blaid.

… ac yn ei dull dengar, yr oedd yn dwyn perswâd arnom i ddal ati pan oeddym yn digalonni ac yn llaesu dwylo, ac yr oedd hi’n oleuni ac yn llawenydd ymhob pwyllgor a chynhadledd. A dyna ddawn oedd ganddi i nithio’r gwir a’r gau, a droeon fe’m harbedodd rhag cam gwag pan oedd ‘doethion’ yn rhoi drwg gyngor i ni.”

Mae hanesyn arall am Mai Roberts, a gofnodwyd gan Lewis Valentine, yn canfasio yn ystod etholiad cyffredinol 1931, pan safodd Saunders Lewis fel ymgeisydd y Blaid yn sedd Prifysgol Cymru yn dangos ei hagwedd ddi-ysgog wrth ymgyrchu.

Yr oedd, wedi cael addewid- gan rai o athrawon y Brifysgol i arwyddo ffurflen enwebu S.L., ac aethom ein dau i geisio ganddynt gwblhau eu haddewid.

Derbyniad oeraidd iawn a gawsom.

Na, nid oeddynt wedi addo dim, a dechreuasant gellwair. Yr oedd y tri yn honni bod yn Gymry da, ac un o’r tri. mewn ysmaldod efallai, wedi arddel mai ef oedd tad ysbrydol y Blaid. Nid oedd gennym siawns i ddisgwyl i neb ein hystyried o ddifrif ac nid oedd obaith am lwyddiant.

Dadleuais bod gennyf hawl i ddisgwyl eu cefnogaeth hwy o bawb, canys gweithio yn gwbl ofer yr oeddynt onid oedd parhad i’r genedl Gymraeg.

Pan ofynnais iddynt a oeddent yn barod i lofnodi torrodd Mai ar fy nhraws

“Na, Val,” meddai, “fe ddaethom ni yma i gynnig braint iddynt ac nid ydynt yn haeddu’r fraint,” ac allan a hi a minnau i’w dilyn.

Dau o’r tri academydd yma oedd R T Jenkins ac Ifor Williams, a fu ei hyn yn mynychu cyfarfodydd Caffi’r Queen’s yng Nghaernarfon. Nid yw’n wybyddus pwy oedd y trydydd.

Chwaraeodd Mai ran fechan yn y noson hanesyddol honno ar 7 Medi 1936 pan losgwyd yr ysgol fomio yn Llŷn. Ar ddechrau’r noson honno, gofynnodd J.E. Jones, Trefnydd y Blaid, iddi fynd i gadw cwmni i Nesta Roberts oedd yn byw gyda’i brawd O.M. Roberts, aelod amlwg o’r Blaid Genedlaethol, yn eu cartref yn Llanwnda.

Yn ôl O.M. Roberts, ni wyddai Nesta pam fod Mai wedi galw i’w gweld ac ni wyddai Mai ychwaith pam yr oedd hi wedi cael cais i fynd i’r cartref. Dywed bod y ddwy yn sgwrsio o flaen y tân tra bod J.E. ac O.M., a oedd wedi cytuno i gynorthwyo’r llosgwyr, yn y llofft yn chwilio am hen ddillad ac yn tynnu’r botymau a’r labeli oddi arnynt rhag ofn i rywun eu hadnabod.

Mae’n anodd iawn gen i gredu hyn – ydyn ni i fod i feddwl bod dau ddyn yn y 1930au yn tynnu botymau a labeli oddi ar ddillad tra bo dwy fenyw lawr llawr?! Barnwch chi!

Yn sicr roedd Mai yn llwyr gefnogol i’r weithred – ac o gofio ei chydymdeimlad gyda achos rhyfel annibyniaeth Iwerddon, dydy hynny ddim yn syndod.

Cafodd carchariad Saunders Lewis, Lewis Valentine a D.J. Williams yn Wormwood Scrubs am naw mis effaith fawr ar Mai, fel ar lawer o aelodau’r Blaid Genedlaethol. Bob mis yn rheolaidd, byddai Mai yn anfon bocseidiau o flodau iddynt, a golygai hyn dipyn i’r tri charcharor.

Yn rhyfedd, flynyddoedd yn ddiweddarach pan oedd Saunders bron yn ei wythdegau, gwadodd iddo erioed dderbyn blodau gan Mai. Honnodd fod swyddogion y carchar wedi cipio’r blodau os anfonwyd rhai, a gofynnodd pam nad oedd Mai wedi synnu na ddiolchodd iddi amdanynt.

Mae Glyn Tomos yn ei gyfrol ar H.R. Jones yn nodi bod Mai, yn ystod carchariad y tri, wedi sefyll mewn etholiad i Gyngor Sir Gaernarfon yn ward Llanddeiniolen Uchaf fel ymgeisydd Plaid Genedlaethol Cymru a hynny ym mis Mawrth 1937. Yn ôl cynnwys ei thaflen etholiad roedd yn amlwg ei bod yn gobeithio elwa ar aberth y tri a’r ymateb a i’w carchariad.

 Os yr etholir finnau cariaf ymlaen yn lleol yn yr un ysbryd ag y gweithredodd y Tri Chenedlaetholwr yn genedlaethol. Ni byddai angen aberth y gwŷr hyn pe bai aelodau o’r Blaid Genedlaethol ar y Cyngor Sir flwyddyn yn ôl. 

Aflwyddiannus fu ei hymgais i gael ei hethol serch hynny.  ond yn ei thaflen, ymddengys Mai fel gwleidydd profiadol blaengar gyda gweledigaeth glir: 

Fel Cenedlaetholwr defnyddiaf fy swydd, os etholir fi, i hyrwyddo y Cyngor Datblygu Diwydiannol Cymreig a allai fod yn Senedd Economaidd i Gymru; yn clirio slymiau ein gwlad, yn codi tai cymwys i weithwyr, yn gwella tir amaethyddol Cymru a throi y cors diroedd sâl yn gyfrwng gwaith i wŷr sydd yn segur yn groes i’w dymuniad eu hunain. Gallai Cyngor felly ofalu am farchnadoedd parod i’r diwydiant llechi a ddioddefodd yn fawr yn ystod y blynyddoedd diwethaf, a lle bu cyflogau a safon byw yn isel oherwydd diffyg trefniant marchnata cymwys.

Gyda’r maniffesto yna mi allai sefyll i’r Blaid ym mis Mai eleni gredaf i.

Ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach fe’i penodwyd yn ysgrifennydd a threfnydd y Young Women’s Christian Association (YWCA) dros Gymru gan weithio o swyddfa’r Gymdeithas ym Mangor.

Parhaodd sêl Mai dros y Blaid hyd y diwedd, tan ei marwolaeth yn 1971.

Mae’n haeddu cael ei chofio fel un o ferched mwyaf allweddol hanes cynnar y Blaid. Merch fodern oedd hi, gyda meddwl gwleidyddol miniog ac ymarferol. Ac oni bai amdani hi go brin byddai’r blaid fel y daeth i fod yn 1925 wedi cael ei sefydlu.