Esiampl i Bawb
Teyrnged i Mary Jones gan Elfyn Llwyd
Roedd gan Mary’r gallu bob amser i roi gwen ar wynebau pawb. Gallai hefyd godi arswyd ar rai – yn arbennig gelynion Plaid Cymru, achos oedd yn agos iawn at ei chalon. Er ei phrysurdeb byddai gan Mary bob amser i weithio dros y Blaid. Yn ei hamser bu Mary’n:
- Gadeiryddes Cylch Meithrin Llanrwst
- Ysgrifenyddes Rhieni ac Athrawon Ysgol Bro Gwydir am saith mlynedd
- Un o Sylfaenwyr Clwb Gwerin Sgidiau Hoelia ac yn trefnu’r holl weithgareddau a nosweithiau
- Arwain Clwb Ffermwyr Ifanc Llanrwst a’i llywio i ennill Rali Eryri dwy waith
- Am 23 mlynedd yn rhedeg caffi ym Mart Llanrwst, Paned a Gwên – rhaid oedd talu am y baned meddai ond roedd y wên am ddim!
- Aelod brwd o Bwyllgor Sioe Llanrwst ac yn Gadeiryddes yn 2010
Toedd Mary byth yn hanner gwneud unrhyw beth. Roedd ganddi ymlyniad bore oes i glwb pêl-droed Manchester United ac fel enghraifft o’r parch tuag ati daeth llythyr i law diwrnod neu ddau wedi iddi ein gadael. Hoffwn ddyfynnu rhan o’r llythyr hwnnw,
“I just want to write to you to thank you for your loyal support and devotion to the club. I understand that you are having a difficult time but hope that it helps to know that myself, the players and staff are all thinking of you. Jose Mourinho.”
Fel brodor o Ddyffryn Conwy roeddwn yn ymwybodol o waith da Mary dros y degawdau ond wedi i mi gael fy enwebu i sefyll yn etholiad 1992 deuthum i weithio’n agos â hi gan dderbyn llu o gynghorion doeth. Byddai’n fy ffonio i ddweud pan yr oedd Mart pwysig yn Llanrwst er mwyn i mi gael cyfarfod cyn gymaint â phosib o’r ffermwyr lleol. Dro arall yn fy nghynghori i beidio trafferthu siarad efo un neu ddau, “Blydi Tori – wast ar amser!”
Hi oedd y cyntaf allan efo’r taflenni ac yn canfasio, ac mae gwleidyddion yn son am y rhai sy’n cerdded y filltir olaf – hi oedd yr enghraifft orau i mi wybod amdani ac os oedd hi yn ymgymryd ag unrhyw waith – gwyddom ei fod felly wedi ei wneud.
Cofiaf, unwaith neu ddwy, wedi ymlâdd ar ôl diwrnod caled o ganfasio ac awydd rhoi’r gorau iddi am y tro. Dyna Mary’n dweud, “dim ond dwy stad arall – tyrd efo fi”. Pwy allai ei gwrthod? Roedd ei gweithgareddau diflino’n esiampl i bawb.
Y tro olaf i mi gael sgwrs iawn â hi oedd yn Sioe Llanrwst ym mis Awst. Er ei bod mewn cystudd mawr roedd y wên gynnes yn amlwg, fel arfer.
Rwy’n falch o ddweud fod Mary wedi cael gwybod iddi gael ei hanrhydeddu gan y Blaid yn y Gynhadledd yng Nghaernarfon. Roedd hi ar ben ei digon. Mae’r Blaid wedi colli aelod ffyddlon a chryf ac mae pawb a gafodd y fraint o’i hadnabod wedi colli ffrind annwyl iawn. Diolch amdani.