Menna Battle, Rhyfelwraig Fwyn
Teyrnged gan Lindsay Whittle
Diwrnod tywyll o Ionawr. Daeth aelodau Plaid Cymru, y teulu a chymdogion i dalu’r cymwynas olaf i Menna Battle, hoelen wyth Caerffili ers degawdau.
Yn wreiddiol o bentref Glyn Nedd, pentref y cadwodd gysylltiad ag ef ar hyd ei hoes.
Daeth Menna o’r diwedd i fyw yng Nghaerffili. Yn genedlaetholwraig falch ac angerddol, fe daflodd ei hun i’r achos. Hi fu Ysgrifennydd Cangen Penyrheol a gwasanaethodd yn ysgrifennydd yr Etholaeth am 17 o flynyddoedd.
Cafodd ei hethol i Gyngor Cymuned Penyrheol gan wasanaethu’i chymuned heb ddal dim yn ôl. Pan benderfynodd “ymddeol”, symudodd i Abertridwr ble wrth gwrs y daeth yn ysgrifennydd y gangen. A do, cafodd ei hethol i Gyngor Cymuned Cwm Aber. Ei phartner ers 30 mlynedd John (bach) Roberts yw’r Cynghorydd Sir.
Ni fyddai’n hanner digon i ddweud ei bod yn gweithio yn ei chymuned. Fe elwodd Clybiau llyfrau, Clwb Celf Cwm Aber, Undercurrents a’r ŵyl am ei gwaith diflino.
Ymladdodd yn ddewr yn erbyn clefyd Parkinsons yn ystod blynyddoedd olaf ei bywyd, ac achosodd tyfiant ar yr ymennydd i Menna golli ei brwydr, ac fe gollon ni yng Nghymru arwres.
Rhoddodd hi gymorth a chalondid i mi drwy gydol fy mywyd gwleidyddol, a byddaf yn ei dyled am byth.
I John bach ac wrth gwrs i’w mab Gareth a’i merch Ceri a’i wyrion, rydyn ni yng Nghymru yn eich dyled. Diolch i chi am adael i’r achos fenthyg y rhyfelwraig garedig a mwyn hon. Menna byddi’n byw yn ein calonnau am byth.
HEDD PERFFAITH HEDD.
Lindsay Whittle