Nofel Newydd yn Olrhain y Cwrs i Ddatganoli
Adolygiad llyfr gan Dafydd Williams, Ysgrifennydd Plaid Cymru, 1971-1993 a Chadeirydd Cymdeithas Hanes Plaid Cymru
Dyma’r llyfr i bawb sydd am wybod mwy am y degawdau tyngedfennol a arweiniai at y refferendwm datganoli llwyddiannus yn 1997.
‘Ten Million Stars Are Burning’ yw teitl nofel newydd ei chyhoeddi gan yr ysgrifennwr a sylwebydd adnabyddus John Osmond.
Mae’r awdur wedi gosod tasg uchelgeisiol i’w chyflawni – sef adrodd sut y ceisiodd pobl Cymru ddod i delerau â’u hunaniaeth eu hunain drwy chwarter olaf yr ugeinfed ganrif; ac yn benodol sut y trodd cyflafan 1979 yn fuddugoliaeth o drwch blewyn erbyn 1997.
Ei ffordd o wneud hyn yw defnyddio dull y nofel ddogfennol, gyda dau brif gymeriad ffuglennol – a llu o bobl go iawn, pobl sy’n siarad â ni yn eu geiriau eu hun, gan ddefnyddio deunydd archif a chyfweliadau i’w hail-gyflwyno. Dyma’r cyntaf o drioleg, ac mae’n delio â’r cyfnod rhwng 1973 a 1979. Mae’r awdur yn addo dau arall, gan edrych ar yr 1980au a streic y glowyr; ac un arall fydd yn mynd â ni at 1997.
Mae yna lond gwlad o arwyr a dihirod, dros ddau gant ohonyn nhw i gyd. Ar ochr yr angylion ceir Gwynfor Evans, a’i optimistiaeth ddi-ffael yn cadw cwmni i’r sgeptig disglair Phil Williams (sgeptig ynglŷn â bwriadau’r Blaid Lafur, hynny yw).
Yn ben ac ysgwyddau uwchben rhengoedd y dihirod ceir Leo Abse, gŵr y daeth Osmond i’w adnabod yn dda (gyda darlun manwl o sut y proffidiodd cwmni cyfreithiol Abse o’r system brydles yn y cymoedd tra byddai’i brif bartner yn ffromio yn erbyn ei drygioni). Ac weithiau rwy’n dal i’w chael yn anodd credu bod tîm y Gwynfor delfrydol yn y diwedd yn drech nag un yr Abse dichellgar.
Roeddwn yn adnabod nifer o’r actorion yn y ddrama gymhleth hon yn bur dda fy hun, a gallaf hefyd cadarnhau cywirdeb hanesyddol y digwyddiadau mae’r awdur yn eu croniclo. Roedd eraill yn newydd i mi – megis Dan Jones, Aelod Seneddol Burnley ac yn Gymro Cymraeg, taeog a dalodd am gymorth Leo Abse i ddianc o grafangau’r llysoedd drwy gasglu llofnodion o blaid gwelliant gwrth-ddatganoli.
Mae’r llyfr yn bortread hynod ddifyr o’r frwydr dros hunanlywodraeth; a chan fod John Osmond ei hun wedi chwarae rhan wrth galon yr hanesion hyn, mae’n deg barnu bod elfen go gref o hunangofiant yng nghymeriad y prif gymeriad ffuglennol, newyddiadurwr y Western Mail sy’n dwyn yr enw Owen James. Mewn gwirionedd mae gennyf gof o rywun yn gwneud defnydd o ffugenw tebyg iawn i gyfrannu erthyglau i’r Welsh Nation!
Un peth sy’n sicr – bydd yn nofel hon yn ddeunydd hanfodol i bawb sydd â diddordeb yn y frwydr dros y Gymru rydd. Rwy’n ffaelu aros am y ddwy nesaf.
‘Ten Million Stars Are Burning’ gan John Osmond cyhoeddir gan Gomer, pris £11.99.