Dathlu Rhan Penarth Wrth Ffurfio Plaid Cymru

Cyfarfod Penarth 7 Ionawr 2014
Cadeirydd Cangen Penarth Adrian Roper, Alun Ffred Jones AC, yr Athro Richard Wyn Jones, Dafydd Williams

Daeth cant o bobl i gyfarfod arbennig i gofio 90ain pen-blwydd o’r cyfarfod cyntaf o’r Mudiad Cymreig, grŵp a arweiniodd at ffurfio Plaid Cymru – gan synnu’r gŵr gwadd, yr Athro Richard Wyn Jones, un o brif ysgolheigion ym maes gwleidyddiaeth.

Fe gynhaliwyd y cyfarfod hanesyddol, cudd yn Bedwas Place, Penarthar Ionawr 7, 1924, ac ymhlith y rhai fu yno bryd hynny oedd y darlithydd a dramodydd, Saunders Lewis, a drigai ym Mhenarth dros flynyddoedd lawer.

Yn ystod y digwyddiad y mis yma, siaradodd yr Athro Richard Wyn Jones am bwysigrwydd cyfarfodydd y grŵp a’u dylanwad wrth ddatblygu cysylltiadau gyda chenedlaetholwyr yng ngogledd Cymru a sefydliad swyddogol Plaid Cymru’r flwyddyn ddilynol.

Eglurodd sut y daeth y polisïau a luniwyd gan y grŵp yn bolisïau i Blaid Cymru ei hun yn ei blynyddoedd cyntaf.

Yn ogystal â Saunders Lewis, yn bresennol yn y cyfarfod hanesyddol cyntaf oedd yr hanesydd, Ambrose Bebb, a pherchnogion y tŷ yn Bedwas Place, yr hanesydd ac ysgolhaig Cymreig, G. J. Williams a’i wraig Elizabeth.

Trefnwyd y dathliad diweddar gan Gymdeithas Hanes Plaid Cymru a Changen Penarth o’r Blaid, ac ymhlith y cant a ddaeth oedd criw teledu.

Clywodd ystafell dan ei sang yn y Windsor Arms groeso i’r Athro Jones, aelodau a chefnogwyr y Blaid a thrigolion lleol â diddordeb yn hanes gwleidyddiaeth ym Mhenarth gan Gadeirydd y Gangen leol Adrian Roper.

Cadeirydd y cyfarfod oedd  Alun Ffred Jones, sy’n Aelod Cynulliad ac yn ŵyr i’r Parchedig Ffred Jones, a ymunodd â’r grŵp ar ôl ei gyfarfod cyntaf.

Rhoddodd Cadeirydd Cymdeithas Hanes Plaid Cymru, Dafydd Williams, bleidlais o ddiolch i’r siaradwyr a’r trefnwyr.

Ymhlith y gynulleidfa yn y dathliad oedd ymgeiswyr San Steffan a Chynulliad y Blaid ar gyfer De Caerdydd a Phenarth, Ben Foday a Dr Dafydd Trystan Davies, a etholwyd yn gadeirydd cenedlaethol Plaid Cymru’r llynedd.

 

Y Newyddion ar S4C