Bydd Plaid Cymru’n nodi hanner can mlynedd lansio ei changen ym Maenclochog gyda noson ddathlu arbennig Nos Iau, 27 Ebrill (am 7:30pm yn Neuadd Gymuned Maenclochog).
Sefydlwyd y gangen yn sgil yr isetholiad enwog ym mis Gorffennaf 1966 pan gipiodd Gwynfor Evans y sedd gyntaf erioed i Blaid Cymru ennill yn San Steffan.
Bydd y noson yn dwyn i gof y dyddiau hynny, ond hefyd yn edrych ymlaen at y sialensiau newydd sy’n wynebu Sir Benfro a Chymru yn ystod yr 21ain ganrif, meddai Hefin Wyn, a fydd yn ymladd ar gyfer sedd ar y cyngor sir yn yr etholiadau ar 4 Mai.
“Dwi’n ymwybodol mai Bro Waldo yw Bro Maenclochog. Hau’r hedyn mwstard oedd WaldoWilliams pan safodd fel ymgeisydd seneddol cyntaf Plaid Cymru yn Sir Benfro yn 1959” meddai Hefin Wyn. “Mae’n bryd i’r hedyn mwstard ddwyn ffrwyth ym mro ei blentyndod.”
Bydd gwesteion yn cynnwys arweinydd grŵp Plaid Cymru ar y cyngor sir, y Cyng. Michael Williams a chadeirydd Cymdeithas Hanes Plaid Cymru Dafydd Williams. Bydd adloniant gan ddoniau lleol.
15 Ebrill 2017