Wil Roberts, neu Wil Coed fel yr oedd pawb yn ei nabod, yn gymeriad amlwg ym Mhlaid Cymru a fu farw yn ystod Mis Hydref 2022. Bu’n weithgar ymhob ymgyrch y Blaid o’r chwe-degau ymlaen ac yn ysgrifennydd effeithiol Cangen Pwllheli. Cyn-lywydd Plaid Cymru Dafydd Wigley a draddododd deyrnged yn ei angladd ac fe’i cyhoeddir yma’n llawn.
Er cof am Wil Coed….Teyrnged.
Bore da! I shall be speaking mainly in Welsh; but on behalf of Siw and the family, I want to thank everyone for their words of sympathy and to those of you from near and far, who are here today. I have made available an English translation of my script, which I hope will enable you to follow my address.
Gyfeillion annwyl – Fe roddwn y byd am beidio â bod yma heddiw; ond does dim yn y byd a fyddai wedi’m hatal rhag ymateb i gais Siw a’r teulu, i mi dalu gair o deyrnged i un fu’n gyfaill arbennig i ni i gyd, mewn amrywiol ffyrdd ar wahanol adegau o’n bywydau. Un annwyl iawn sydd bellach a’i rawd wedi ei rhedeg; a chyfraniad oes – i’w deulu, i’w fro ac i’w genedl, ysywaeth, wedi dod i ben.
Borema, mae’n cydymdeimlad o waelod calon yn estyn allan i Siw, i Dewi ac Ifan; ac i Quintin sydd hefyd yn rhan o’r teulu; ac i’r wyrion Jordan, Mia a Cai – yr oedd Wil yn Daid hoffus iddynt; ac i’r teulu oll. A gwn y bydd pob un ohonom eisiau diolch i Siw am y gofal cariadus a roddodd i Wil dros y blynyddoedd; ac yn arbennig, yn ystod y cyfnod olaf heriol y bu raid iddynt ei wynebu fel teulu.
Mae Siw efo’r sicrwydd a gaiff o’i ffydd, wedi ei seilio yn achos yr Eglwys hon; a bydd hynny’n angor iddi yn y stormydd y mae’n byw drwyddynt. Siw, wrth gwrs, wedi ei magu yn y traddodiad Pabyddol yng Nghaerdydd ac wedi dod dan ddylanwad yr enwog Dad Gregory FitzGerald; ac mae ei ffydd, a’r Eglwys Babyddol, wedi bod yn nerth iddi drwy’r blynyddoedd.
A diolch i’r Esgob Emeritws Edwin Regan, am ei arweiniad heddiw, a hefyd drwy’r cyfnod anodd diweddar; ac i bawb sy’n gysylltiedig â’r achos yma am eich cynhaliaeth o Siw a’r teulu; am eich caredigrwydd tuag atynt; a’ch help ymarferol mewn cyfyngder. A diolch, hefyd, i’r Archddiacon Andrew Jones am y cymorth eithriadol a roddodd yntau, hefyd, i’r teulu.
Mae Siw wedi gofyn i mi dynnu sylw at y ffaith y bydd croeso i bawb ddod wedyn am luniaeth i Glwb Golff, Pwllheli. Bydd y claddu ym mynwent Deneio wedi’r gwasanaeth; ond i’r rhai nad ydynt am ddod i’r fynwent, mae croeso iddynt fynd ar unwaith i’r Clwb Golff.
Ganwyd William Owen Roberts ar 23 Rhagfyr, 1943; yn fab i J.O a Catherine Roberts, Cefn Coed, Chwilog – ac felly, fel Wil Cefn Coed yr oedd pawb yn ei nabod, neu Wil Coed, yn ddiweddarach. Roedd ei dad, J.O Roberts, yn rheolwr y Ffatri Laeth yn Rhydygwystl; ac yn gynghorydd Sir Gaernarfon.
Mae llawer o’n to ni ddim yn sylweddoli fod Wil yn efaill, ond, yn drychinebus o drist, bu farw ei chwaer ar ei genedigaeth; a dan yr amgylchiadau, roedd yn wyrth i Wil oroesi. A dioddefodd y teulu drychineb arall pan fu i frawd iau Wil – sef Richard – gael ei ladd yn un ar bymtheg oed, mewn damwain motor-beic.
Ond dwi o dan orchymyn gan Siw i beidio â bod yn rhu lleddf yn fy sylwadau heddiw, ond yn hytrach i ni gofio Wil fel cyfaill llawen a llon, fel yr oedd i ni oll. Gwnaf fy ngorau i barchu hynny.
Ar ôl bod yn ddisgybl yn Ysgol Ramadeg Pwllheli, aeth Wil, yn y lle cyntaf, i astudio Milfeddygaeth yn Lerpwl; ond tra roedd ei waith ar bapur yn wych, roedd yn cael anhawster gyda’r Saesneg ar lafar – rhywbeth digon cyffredin pryd hynny i blant o gefn gwlad Cymru.
Felly aeth adra i weithio yn y Ffatri Laeth am flwyddyn, cyn cael ei dderbyn i Brifysgol Cymru, Bangor, ble roedd yn yr un flwyddyn â Dafydd Elis Thomas – da gweld Dafydd yma heddiw. Enillodd Wil radd dda iawn mewn amaethyddiaeth.
Tua pryd hynny cyfarfûm innau am y tro cyntaf âWil. Roeddwn yn gweithio dros wyliau’r haf i’r Blaid yn Arfon. Trefnais i gyfarfod â chriw ifanc ym Mhwllheli gan roddi iddynt doman o Welsh Nations – papur Saesneg y Blaid, i’w dosbarthu o ddrws i ddrws.
Synhwyrais fod gennyf broblem: roedd Wil ac Osborn Jones (cyfaill ysgol i Wil, a da ei weld yntau, a Glesni yma heddiw hefyd) – roedd y ddau yn sgyrnygu arnaf. Medda un ohonynt “Mae ‘na hen ddigon o bapurau Saesneg yn cael eu darllen ym Mhwllheli”; gan fygwth fy ngadael efo mynydd o bapurau gwrthodedig. Fe gafwyd cyfaddawd o ryw fath – a da deud bu Osborn, Wil a minnau yn gyfeillion gydol oes!
Ar ôl graddio ym Mangor, enillodd Wil ysgoloriaeth i astudio am radd uwch mewn Economeg Amaethyddol yn Aberystwyth. Yn ddigon naturiol, aeth Wil ymlaen wedyn i weithio gydag Adran Amaeth Cymru yng Nghaerdydd; ac roedd wrth ei fodd yn teithio o amgylch ffermydd Bro Morgannwg – a synnu wrth ganfod faint o’r ffermwyr oedd, pryd hynny, yn Gymry Cymraeg; a hwythau mor falch o gael delio a gwas sifil Cymraeg ei iaith.
Aeth Wil ymlaen wedyn i weithio efo Amgueddfa Cymru yn Sain Ffagan, gyda’r cyfrifoldeb o deithio o amgylch Cymru, yn recordio sgyrsiau efo ffermwyr; ac mae ei waith, hyd heddiw, yn un o drysorau’ r Amgueddfa Werin.
Roedd Wil yn Bleidiwr i’r carn, a dim ofn datgan hynny. Er gwaethaf ei atal deud, roedd yn fodlon curo ar ddrysau ledled Cymru; a ble bynnag yr oedd na rali, neu brotest, neu isetholiad, byddai Wil yno.
Erbyn 1970, roedd Wil wedi cyfarfod Siw; a ble gredech chi oedd y fangre cariadus ble bu iddynt gyfarfod? Mewn cyfarfod o Bwyllgor Rhanbarth Plaid Cymru, yng Nghaerdydd! A Siw, bryd hynny, yn un ar bymtheg oed; a Wil deng mlynedd yn hŷn na hi.
Roedd Siw, er yn ei harddegau, wedi hen arfer canfasio – a gwerthu’r Welsh Nation o ddrws i ddrws yng Nghaerdydd. Cystal nad oedd Wil wedi wfftio ar werthu papur Saesneg yng Nghaerdydd fel yr oedd ym Mhwllheli!
Bu i Wil a Siw ddechrau canlyn y flwyddyn wedyn, ym 1971 – y flwyddyn y bu i Elinor a minnau symud i fyw ym Merthyr; a dyna ble cefais gyfarfod Siw am y tro cyntaf – hi a Wil yn canfasio mewn isetholiad enwog; ac yn aros yn ein cartref, ble – yn gwbl ddi-steil, roedd hanner Cymru yn campio mewn cydau cysgu, ar lawr y tŷ!
Roedd Wil efo rhinwedd arbennig iawn – roedd yn gallu cysgu yn rhywle, dan unrhyw amgylchiadau – cymaint felly iddo, ar un achlysur, ddisgyn I gysgu tra roedd yn teithio ar gefn ei feic ar y Lôn Goed – a chael coblyn o godwm!
Roedd Wil yn un yr oedd damweiniau yn hoff o’i ganfod! Un tro, bu iddo falu ei droed yn yfflon gan beiriant torri gwair.
Damwain arall a gafodd Wil oedd, tra’n blentyn ysgol, yn chwarae yn y cae ac yn gosod ei got ar lawr; ni sylwodd fod moch yn y cae nesa; daeth un mochyn busneslyd, i synhwyro beth oedd y dilledyn ar lawr – a bwyta’r got yn y man a‘r lle. Cafodd Wil andros o row gan ei fam!
Ar adeg arall, tra yn Aberystwyth, cafodd ddamwain car ddifrifol tra’n teithio efo’i gyfaill mawr, Geraint Eckley pan – wrth fynd dros fryncyn, tarodd rew du ar y ffordd, a thorrwyd cefn Wil mewn tri lle. Ystyr arall i’w enw Wil Cefn Coed. Mae Geraint yn ymddiheuro gan, am resymau iechyd teulu, mae’n methu a bod efo ni.
Soniodd Geraint wrthyf sut y byddai Wil yn cael ryw syniad da i’w ben ar amrant; yna ffwrdd â fo. Un bore ym 1969, cyhoeddodd Wil i’w gyd-letywyr yn Aberystwyth, ei fod am fynd i weld yr enwog D J Williams yn Abergwaun y diwrnod hwnnw. Aeth Geraint efo fo; a landio ar DJ yn gwbl ddirybudd; cael croeso mawr; a dod yn gyfeillion mynwesol. Bu Wil wedyn i Abergwaun hanner dwsin o weithiau, i sgwrsio â DJ a holi am ei hanes.
Ond rhaid dod ‘nôl at hanes Wil. Bu i Wil a Siw briodi yn 1973 yn Eglwys Pedr Sant, Caerdydd – ac roedd ‘na hanes i hynny hefyd!
Roedd Wil eisoes wedi cyflwyno Siw i’r offeren Gymraeg a gynhaliwyd yn y Bontfaen; a gwasanaeth Cymraeg oedd y gwasanaeth priodas, efo’r enwog Esgob Mullins yn eu priodi. ‘Roedd ‘na ddau swyddog yn gyfrifol am drefnu’r gwasanaeth – a hwythau heb drafod yn iawn pwy oedd i forol fod y cofrestrydd yn bresennol; a chanfod yn ystod y gwasanaeth, nad oedd gofrestrydd yno! Panic glan! Dyma anfon rhywun i chwilota o gwmpas Caerdydd am gofrestrydd.
Y delynores druan, Eleri Owen, hen ffrind i Elinor a minnau – yn gorfod canu’r delyn am dros hanner awr, tan ymddangosodd ddirprwy gofrestrydd i gwblhau’r hanfodion cyfreithiol. Ar ddiwedd dwy awr hir iawn, roedd Wil a Siw yn ŵr a gwraig!
Yn syth ar ôl y briodas, roedd Wil yn cychwyn ar swydd newydd, sef fel is-Ysgrifennydd Cymdeithas Gwartheg Duon Cymru, oedd â’i Swyddfa yng Nghaernarfon.
Bu raid torri’r mis mel yn fyr, gan fod bos newydd Wil wedi ei gymryd yn wael. Glaniodd Wil i swydd newydd, a thŷ newydd, mewn cynefin newydd yn ogystal â phriodi!
Roedd eu cartref newydd mewn stad fechan yn Llandwrog; eu cymdogion yn cynnwys Huw Jones, Sain, a Siân; Menna a Cheredig Davies, Cyngor Gwynedd; efo Osborn a Glesni ynghyd â Gerallt Lloyd Owen ac Alwena rownd y gornel; Richard Morris Jones a Manon Rhys i fyny’r ffordd; a John a Gwenno Hywyn fawr bellach. Sôn am bentref oedd yn nodweddu’r Gymru Newydd ifanc, obeithiol, oedd ohoni yn y saithdegau.
Roedd yn newid byd sylweddol I Siw; ond roedd Wil yn ei gynefin; ac yn ei elfen. Yn ôl Osborn, Wil oedd y cymeriad yn Llandwrog oedd cadw pawb at ei gilydd. Roedd Wil efo dawn anghyffredin o allu gwneud efo pawb; un o’r bobl mwyaf hoffus a ganfûm erioed.
Ac roedd Wil yn rhywun y gallwn innau, fel Aelod Seneddol, droi ato, am arweiniad; a gallwn bob amser ymddiried yn ei farn.
Tybia Siw y byddai Wil, o gael ei amser eto, wedi studio hanes a’r Gymraeg. Deleit Wil oedd sgwennu i’r papur newydd. Bu ganddo golofn ar amaethyddiaeth yn y Cymro; a bu’n sgrifennu i bapurau’r Herald, dan y ffug enw Thomas Parry (rhai yn meddwl mai Prifathro Aberystwyth oedd y gohebydd, cystal ei arddull). A bu’n weithgar gyda’r criw bach oedd yn cynhyrchu’r Ddraig Goch a’r Welsh Nation.
Roedd hyn yn waith trwm a chyfrifol; ond roedd gan Wil hiwmor iach a welwyd wrth iddo ysgrifennu llythyrau gogleisiol a dadleuol i’r Herald, dan yr enw “Twtws Parri, Llandwrog”- gan fynegi safbwyntiau a fyddai’n gwylltio ambell drigolyn parchus yn y pentref. Ac roedd pawb yn methu â dyfalu pwy oedd y Twtws Parri ‘ma. Dim ond ychydig o gyfeillion agos oedd yn sylweddoli mai Twtws oedd enw cath Wil a Siw!
Roedd Wil yn dynnwr lluniau o fri ac am gyfnod bu’n ffotograffydd swyddogol dros y Western Mail mewn gemau rygbi rhyngwladol.
Bu Wil a Siw yn byw yn Llandwrog am bum mlynedd a phryd hynny cafodd Wil ei benodi’n brisiwr tir ac eiddo i Gyngor Gwynedd. Ac yna, symud nôl i fyw yng Nghefn Coed am ddeng mlynedd; ac oddiyno symud i’r Ala, ble buont fel teulu am drideg-chwe blynedd, hyd heddiw.
Roedd Wil yn un darbodus efo arian. Un tro daeth Siw ac yntau i lawr i Lundain i gael cinio gyda mi yn Nhŷ’r Arglwyddi. Ar ôl cyrraedd cyrion Llundain, bu iddynt sylweddoli fod Wil wedi gadael ei siwt adra! Gan dybio y byddai’n rhaid iddo wisgo siwt yn ystafell bwyta grand yr Arglwyddi, aeth i sawl siop – a dychryn o weld y prisiau. Cafodd o hyd i siop elusen, ble dalodd bumpunt am siaced; a doeddwn innau ddim callach!
Fe gofiaf fel ddoe y diwrnod y dywedodd Wil wrthyf, ugain mlynedd yn ôl, a hynny yn stesion Crewe – ei fod newydd glywed fod cancr y brostad arno. Roedd wedi cael sgytiad; ond roedd yn derbyn y neges efo agwedd gwbl bositif, na fyddai’n gadael i’r cyflwr yn diffinio gweddill ei fywyd, o ba bynnag hyd y byddai hynny. Ond bu iddo ymddeol o’i waith gyda Chyngor Gwynedd i roddi cyfle llawn i’w gorff ymwared â’r cancr; ac ar ôl pum mlynedd, cafodd y neges bositif fod y cyflwr wedi diflannu.
A felly fu; parhaodd Wil dros bymtheg mlynedd i chwarae ei ran ar ei aelwyd; a rhan yn ei gymdeithas yma ym Mhwllheli; yn weithgar efo Cangen y Blaid; yn cynorthwyo Siw yn ei gwaith gyda’r Eglwys hon; ac yn dal i ysgrifennu – gan gynnwys teyrnged arbennig i’w gyfaill Ioan Roberts , yn y gyfrol “Cofio Ioan”.
Ac yna, ychydig cyn y Covid, daeth y cancr yn ôl. Oherwydd y Clo, ni chafodd Wil, am gyfnod, fynd i mewn i Ysbyty. Cafodd brofion niferus; a rheini’n dal i awgrymu fod y cancr wedi cilio eto. Ond wedyn, yn ddiweddarach, gwelwyd symptomau eilwaith a bu i Wil gael codwm yn y tŷ.
Roedd pryder ei fod wedi dioddef strôc; ond nid felly fu. Roedd y cancr wedi ymosod ar ei asgwrn cefn. A chafodd driniaeth hir yn Ysbyty Gwynedd ac Ysbyty Glan Clwyd. Yna, fis Mai eleni, bu i’w asgwrn cefn chwalu. Wedi hynny, bu am wythnosau yn Ysbyty Bryn Beryl, ble y cafodd ofal rhagorol; roedd Wil a Siw yn hynod ddiolchgar i’r staff yno.
Pan fûm heibio Bryn Beryl yng Ngorffennaf, roedd Wil mewn hwyliau da; yn sgwrsio â phawb; ond yn ysu am gael adra at Siw. A gofynnodd Wil i mi ddiolch i bawb a fu’n cysylltu ag ef yn yr Ysbyty; ac i bawb a adawodd negesau iddo efo Siw, yn ystod ei waeledd.
A phan gafodd Wil ddod adra ddiwedd Awst, darparwyd gwely arbennig iddo yn y tŷ; a bu cyngor Gwynedd yn wych yn gosod ramp ar ei gyfer ac offer i’w helpu cael o gwmpas.
Cafodd help therapyddion Jo a Natasha o Bryn Beryl, a help gan Wasanaeth “Tuag Adref”, o Ysbyty Alltwen, yn darparu gofal yn y tŷ; ac roedd Wil a Siw yn uchel iawn eu canmoliaeth iddynt. A bu Nyrsys Ardal yn galw dydd a nos, dros saith wythnos. Mae’r teulu yn talu‘r clod uchaf posib i’r gwasanaethau cymdeithasol a’r gwasanaeth iechyd; a braf yw clywed hynny. Ond mae un person y mae Siw eisiau i mi enwi’n benodol – sef Bonnie, y mae llawer ohonoch yn ei hadnabod, trwy ei gwaith yn yng Nghanolfan y Gwystl. Galwodd pob nos yng nghartref Wil a Siw, i’w lanhau a gofalu amdano; a heb ei chymorth hi, dywed Siw go brin y gallai fod wedi ymdopi .….a gwneud hynny yn gwbl ddi-dâl. Yn ‘does ‘na bobl da yn yr hen fyd ma, dudwch?
Gwelais Wil am y tro olaf yn ei gartref yn yr Ala, bythefnos yn ôl, ar ddydd Mercher y 5ed o Hydref. Roedd yn ei wely; gyda chyffuriau trwm yn ei lethu; ond bu’n bosib i mi gynnal sgwrs ddifyr ac ystyrlon gydag ef; ei feddwl yn dal yn sionc; a’i ddaliadau cenedlaetholgar mor frwd ag erioed.
Pan soniais am y Rali Fawr dros annibyniaeth yng Nghaerdydd y Sadwrn cynt, y cefais y fraint o’i hannerch, roedd ei lygaid yn pefrio; roedd am glywed mwy o’r hanes. A phan soniais y byddwn yn cyflwyno Mesur yn Nhŷ’r Arglwyddi ddydd Gwener nesaf, i warchod pwerau Senedd Cymru, roedd Wil yn frwd ei gymeradwyaeth.
Dwn i ddim a oedd Wil, pryd hynny, yn gwybod – fel yr oedd Siw wedi’m rhybuddio minnau – mai go brin y byddai’n gweld diwedd y mis i glywed ffawd yr ymdrech seneddol. Cwta hanner awr gefais efo fo; roedd yn amlwg yn blino; ac roedd yn briodol i mi gilio; ond ddim cyn iddo fyny ysgwyd llaw – a’r gafael hwnnw yn fy llaw mor gadarn, efallai’n fwy cadarn, nag erioed.
Does run ohonom yn gwybod beth ydi trefn rhagluniaeth – a gawn ni ddeall, wedi gadael y fuchedd hon, am beth sy’n digwydd i’n hanwyliaid, i’n dyheadau, i’n cymdeithas, i’n bro ac i’n cenedl. Ond os oes chwarae teg yn y Cynllun mawr yr ydym oll yn rhan ohoni, dylai ysbryd Wil fod gyda ni yn y brwydrau yr ydym yn dal i’w hymladd – dros ein hamgylchedd gwledig; a dros gyfiawnder cymdeithasol, dros ryddid cenedlaethol, dros lewyrch diwylliannol a thros heddwch rhyngwladol.
Mae Wil gyda ni ym mhob un o’r ymdrechion hyn; ni aiff yn angof; a ni fydd yn segur; bydd yr atgof amdano yn ein tanio yn ein hymdrechion; a thrwy hynny, bydd yntau, hefyd, yn rhan o’r fuddugoliaeth fawr.
Diolch iddo; melys y goffadwriaeth a heddwch i’w lwch .
Dafydd Wigley
21 Hydref, 2022.