PAM?
Am fod y Swyddfa Ryfel yn ystyried meddiannu 27,000 acer o dir amaethyddol yn ardal Tregaron er mwyn creu gwersyll i hyfforddi’r Royal Engineers. Roedd hyn yn dilyn gweithredoedd tebyg ym Mhenyberth, Epynt, y Preselau ayyb. Yn nes ymlaen, ystyriwyd ehangu’r gwersyll milwrol ym Mronaber ger Trawsfynydd hefyd. Roedd Plaid Cymru ar flaen y gad yn gwrthwynebu’r rhain i gyd yn eu tro.
PRYD?
Parhaodd yr ymgyrch i achub Tregaron yn benodol rhwng hydref 1947 a haf 1948. Dyddiad y brotest a welir yn y ddau lun hyn oedd dydd Iau, 16 Hydref 1947.
BLE?
Cynhaliwyd y brotest sydd yn y ddau lun (‘gorymdaith faneri’) yn Park Place, Caerdydd, ddydd Iau, 16 Hydref 1947. Y diwrnod hwnnw, roedd y Swyddfa Ryfel mewn cynhadledd â gweinyddiaethau eraill y llywodraeth yn trafod y cynlluniau. Cyflwynwyd ‘degau o delegramau … o bob rhan o Gymru yn gwrthdystio yn erbyn y bwriad’ i Swyddog Cynllunio Gwlad a Thref yn Park Place y bore hwnnw
PWY?
Plaid Cymru oedd yn arwain yr ymgyrch yn Nhregaron, mewn cydweithrediad â ffermwyr lleol ac Undeb Cymru Fydd. Protest gan Blaid Cymru yn benodol oedd yr un yng Nghaerdydd, ac 20 o aelodau’r Blaid a gymerodd ran ynddi. Yn yr ail lun, mae’r gorymdeithwyr yn cael eu harwain gan Nans Jones oedd yn gweithio yn Swyddfa’r Blaid yng Nghaerdydd. Mae hi i’w gweld yn y llun cyntaf hefyd, yn sefyll yn ail o’r dde wrth ymyl J. E. Jones, yr Ysgrifennydd Cyffredinol (sy’n sefyll ar y palmant).
Roedd rhai o’r brwydrau yn cael eu hennill ac eraill yn cael eu colli. Un a enillwyd oedd hon, a bu’n rhaid i’r Swyddfa Ryfel roi’r gorau i’r cynlluniau i feddiannu’r tir yn Nhregaron erbyn haf 1948.