Alcwyn Deiniol Evans
Yn 78 mlwydd oed, bu farw Alcwyn Deiniol Evans yn ei gartref yn Heol Parc Romilly, Y Barri. Yn gyn-Gyfarwyddwr Siop Adran enwog Dan Evans, roedd Alcwyn yn wyneb cyfarwydd ac yn ffigwr adnabyddus iawn ym mywyd cyhoeddus y Barri.
Ef oedd mab hynaf Gwynfor Evans, cyn-Lywydd Plaid Cymru a brodor o’r dref. Yn ystod ymgyrch yr is-etholiad yng Nghaerfyrddin ym mis Gorffennaf 1966, bu Alcwyn yn ymgyrchydd brwd dros y Blaid. Fe weithiodd yn ddygn er mwyn sicrhau llwyddiant ei dad pan enillodd y sedd a dod yn Aelod Seneddol cyntaf Plaid Cymru. Roedd Alcwyn yn angerddol tuag at y Gymraeg a Chymreictod, gan gefnogi a hyrwyddo’r un credoau a gwerthoedd â’i dad.
Treuliodd dros 40 o flynyddoedd ym myd busnes, ac ‘roedd y siop deuluol, Dan Evans, yn agos iawn at ei galon. Roedd Alcwyn yn ŵr bonheddig gan ennyn parch ac edmygedd ei staff a’i gwsmeriaid fel ei gilydd. Bu’n gyfrifol am nifer o adrannau o fewn y siop, ac roedd yn cael ei gydnabod fel arbenigwr yn y diwydiant teganau. Hyd yn ddiweddar arferai gyfrannu’n rheolaidd at raglenni teledu a radio, gan rannu ei wybodaeth a’i ddiddordeb yn raenus, caboledig a llawn brwdfrydedd.
Caewyd drysau siop Dan Evans am y tro olaf yn 2006, ac fel ŵyr i’r sylfaenydd, fe gofnododd Alcwyn hanes y siop a chyhoeddi’r llyfr, Siop Dan Evans Y Barri (Gwasg Carreg Gwalch, 2014) sy’n gronicl hanesyddol a chymdeithasol pwysig o’r busnes a’r dref. Yn ddiweddarach bu Alcwyn yn gweithio yn Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, lle cafodd gyfle pellach i rannu ei ddiddordeb, ei frwdfrydedd a’i gariad tuag at Gymru, ei harferion a’i thraddodiadau.
Bydd bwlch enfawr ar ei ôl, yn enwedig i Rhoswen ei wraig a Trystan ei fab. Fe gofir am Alcwyn yn y Barri a thu hwnt am ei wên lydan, ei ddidwylledd, ei hiwmor a’i garedigrwydd eithriadol.
Geraint Evans