Cafwyd teyrngedau i’r diweddar Clive Reid, Abertawe, a fu farw ym Mis Tachwedd 2014. Yn gyn-ymgeisydd seneddol Plaid Cymru i Ddwyrain Abertawe ac yn gyn-gadeirydd etholaeth Gorllewin Abertawe, fe gofiwyd am ei fywyd mewn areithiau gan y Parchedig Jill Hayley Harries, Heini Gruffudd a Gruffydd ap Gwent.
Lluniau Clive Reid, drwy garedigrwydd Anne Reid a Heini Gruffudd
Clive Reid, Abertawe
Trist oedd clywed am golli Clive Reid, fferyllydd adnabyddus ac aelod amlwg o’r Blaid. Fe’i ganed yn y Barri, un o deulu morwrol ond daeth i fyw a gweithio yn Abertawe. Dyma’r deyrnged a draddodid yn ei angladd gan Heini Gruffudd.
Braint yw dweud gair am Clive, a chofio am ei foneddigeiddrwydd, ei fwynder, a hefyd ei gadernid.
Diolch byth am y diacon yna yng nghapel Cymraeg Walham Green yn Llundain roddodd y cyngor i Clive ac Anne y bydden nhwân ymgartrefu ynoân ddi-droi-nĂ´l o fewn dwy flynedd. Trueni na wnaeth llawer o Gymry eraill ymateb yn yr un ffordd â Clive drwy symud yn Ă´l i Gymru – mae rhyw eironi bod capel Walham Green wedi cau yn 1988. Mae ymateb Clive iâr cyngor yn rhoi awgrym i ni oâi ymroddiad i Gymru, ac oâr modd y gwnaeth benderfyniad i fyw yn llawn fel Cymro.
Fesul tipyn, maeân debyg, yr aeth ati i feistroliâr Gymraeg, gyda llwyddiant mawr. Fy fyddaiân mwynhau gwersi Cymraeg yn yr ysgol ac aeth ati i astudio Lefel O yn yr iaith. Roedd ganddo berthnasau oedd yn siarad Cymraeg ar ochr ei fam ac roedd yn aelod oâr Urdd. Gwnaeth cwrdd ag Anne sicrhau bod ganddo reswm ychwanegol i ddal ati ac roedd hiân amser hir cyn bod Sara, David a Mari yn sylweddoli arwyddocâd penderfyniad eu rhieni i fagu teulu ar aelwyd Gymraeg. Roedd Clive yn ymgorfforiad oâr modd y maeâr Gymraeg yn gallu ennill tir.
Roedd y cyfnod y daeth Clive ac Anne i Abertaweân gyfnod o gyffro mawr yng Nghymru. Dyma gyfnod boddi Tryweryn, Gwynfor yn ennill Caerfyrddin, a sefydlu Cymdeithas yr Iaith. Yn fuan enillodd y Blaid seddau Meirionnydd a Chaernarfon, ac fe wnaeth Clive, gydag eraill, yn siĹľr na fyddai tonnauâr deffro cenedlaethol yn osgoi Abertawe.
Ar Ă´l ymgartrefu yng Nghilâ, a chanddo ef ac Anne blentyn erbyn hyn, daeth yn ymwybodol oâr gwrth-Gymreictod oedd yn amlwg ym mywyd gwleidyddol Abertawe ar y pryd. Doedd Clive ddim yn un i dderbyn y modd yr oedd cynifer o wleidyddion Abertawe, yn enwedig rhai yn y Blaid Lafur, yn barod iawn i droi eu cefn ar eu hetifeddiaeth genedlaethol, a daeth yn llythyrwr brwd iâr papur lleol.
Daeth yn gadeirydd y Blaid yng Ngorllewin Abertawe am dair blynedd a sefydlu hefyd ei siop fferyllydd yn Nhreforys. Roedd ystafell fach yn y cefn yno, a fanna bydden niân cynnal sawl seiat yn trafod y Blaid aâr genedl, tra byddai feân gweinyddu moddion.
Safodd Clive sawl gwaith mewn etholiadau lleol yn Nhreforys, gan guro Llafur yn 1976, ond heb guroâr Trethdalwyr. Yna safodd ddwy waith, yn gwbl aflwyddiannus druan, yn Nwyrain Abertawe. Daeth yr un pryd yn llefarydd y Blaid ar iechyd.
Roedd ei argyhoeddiadauân gadarn. Ymgyrchodd dros beidio â lleihau nifer y gwelyau yn ysbytai Gorllewin Morgannwg, ac yn erbyn arddangosfaâr fyddin ym Mharc Margam, a oedd, yn ei farn ef, yn denu ieuenctid iâr lluoedd arfog heb iddynt sylweddoliâr peryglon naâr goblygiadau moesol.
Yma yn Abertawe roedd ymgyrchoedd i sefydlu ysgol gyfun Gymraeg, aâr ymgyrch yn cael cyngor doeth Clive am beidio â bodloni mynd iâr Sandfields o dan gysgod y gwaith cemegol.
Cyn hynny pan ddaeth yr Arwisgo ar ein traws yn 1969, roedd Clive yn ddigon dilornus ohono. Nid y pantomeim hwnnw oedd y peth pwysig iddo fe’r flwyddyn honno, ond sefydlu Ysgol Gyfun Ystalyfera. Beth oedd e iâw wneud, felly, pan gafodd ei wahodd gan drigolion LĂ´n Camlad, i agor eu parti stryd? Roedd rhai ohonyn nhwân gwsmeriaid yn ei siop, ac roedden nhwân gweld yr achlysur yn ddathliad cenedlaethol. Doedd dim amdani, wrth gwrs, ond mynd yno i agor y parti, a minnauân tynnu lluniau, a deall bod mwy nag un syniad o Gymru.
Meddai fe iddo glywed ymgeisydd Llafur un tro yn ceisio argyhoeddi ei gwsmeriaid yn ei siop, heb wybod ei fod yntauân clywed, gan ddweud wrthyn nhw âWe are not Nationalists, we are Internationalistsâ. Gwyddai Clive mai âBritish nationalistâ oedd hwnnw ac nad oedd ei ryng-genedlaetholdeb yn mynd ag ef ymhellach na Llundain.
Ac roedd Clive yn sicr yn arddel safonau gorau rhyng-genedlaetholdeb. Roedd yn ymddiddori yng ngwledydd bach Ewrop, a Llydaw yn hoff gyrchfan iddo fe. Roedd ganddo gyfranddaliadau yng nghwmni llongau P&O, a oedd yn caniatĂĄu iddo deithio am hanner pris iâr cyfandir gydaâi gar aâi garafĂĄn, a chymerodd ei deulu ar sawl taith i Lydaw a Ffrainc yn arbennig. O dan ei ddylanwad fe fentrais i hefyd i fyd y cyfranddaliadau, a chael teithioân rhad gydaâr teulu i Ewrop. Daeth twnnel y sianel a hedfan rhad i chwalu gwerth y cyfranddaliadau, ond fe barhaodd Clive ââi deithio.
Ar Ă´l ymddeol byddaiân dal ar gyfleoedd i ddadlau achos Cymru aâr Gymraeg. Yn ddiweddar buân gohebu yng nghylchgrawn Cymdeithas y Fferyllwyr ar fater cael presgripsiynau Cymraeg wedi i gwmni Morrisons ym Mangor wrthod derbyn presgripsiwn Cymraeg. Roedd Clive, wrth gwrs, ers llawer dydd, wedi bod yn argraffu rhai Cymraeg yn Ă´l yr angen. Yn ei lythyr mae Clive yn holi pam maeâr Gymraeg yn cael ei gweld yn broblem, a Chymruân wlad ddwyieithog, fel llawer o wledydd eraill y byd. Ac yna maeân atgoffaâr darllenwyr mai Lladin oedd iaith presgripsiynau hanner can mlynedd yn Ă´l.
A dyna sut un oedd Clive: yn wybodus, yn gydwybodol, un ar argyhoeddiad, yn un a wasanaethai ei gymdeithas a Chymru, gydaâr safonau uchaf.
Gallwch chi, ei etifeddion aâi ddisgynyddion, fod yn falch ohono, gan gofioâi ofal di-ben-draw amdanoch. Fe gofiwn ninnau amdano gydaâr parch dyfnaf, gan ddiolch am ei gyfraniad, a chofio’r un pryd am ei ferch, oedd mor annwyl iddo, i chithau ac i ninnau.
Heini Gruffudd
Cofio Clive Reid
Fe gwrddais i â Clive am y tro cyntaf yn y â60au cynnar, ar Ă´l i mi ddychwelyd oâr coleg yn Aberystwyth, trwy gysylltiad ein dau â Phlaid Cymru. Maeân debyg ei fod eâ wedi dod i fyw yn Abertawe, ar Ă´l byw yn Llundain am ddwy flynedd, yn llawn brwdfrydedd am bopeth oedd yn dda yng Nghymru ac awydd i rannu ac amddiffyn yr hyn a ystyriai i fod yn drysorauâr genedl. Dyma oedd ei freuddwyd a gwelai Blaid Cymru fel y cyfrwng gorau iâw gwireddu.
Ar y cyfan âroedd gwleidydda yn Abertawe yn weddol ddigynnwrf y pryd hynny ond newidiodd popeth yn sydyn yng Ngorffennaf 1966 pan enillodd Gwynfor Evans Is-etholiad Caerfyrddin. âRoedd Cymru ar dân ac âroedd y cyfnod a ddilynodd, gydag is-etholiadau yn y Rhondda a Chaerffili, yn eithriadol o gynhyrfus. âRoedd popeth yn bosibl. âRoedd Clive yn ei chanol hi ac wrth ei fodd yn y bwrlwm aâr cynnwrf. âRoedd ambell un wedi nodiân dawel bod Clive, fel Gwynfor, yn dod oâr Barri ac wedi dysgu Cymraeg. Hwb pellach iân disgwyliadau!
Daeth gorchymyn oâr Swyddfa yng Nghaerdydd bod yn rhaid iâr Blaid sefyll ym mhob sedd seneddol yng Nghymru yn yr Etholiad Cyffredinol nesaf. Yn hollol annisgwyl fe gymerodd pethau dro personol i mi. Un noson yn Yr Olchfa fe atebais y drws a darganfod y Dr J.Gwyn Griffiths a Clive ar y trothwy. Fe ildiais iâw ble i sefyll fel ymgeisydd yng Ngorllewin Abertawe ac fe agorodd ffenestr newydd yn fy mywyd.
Ymhen amser fe drodd Clive ei sylw fwy fwy i Ddwyrain Abertawe a daeth yr ystafell gefn yn siop Reid Chemist ar Sgwâr Treforys yn ganolfan gweithgarwch y Blaid. âRoedd llythyron treiddgar Clive yn yr Evening Post yn ffynhonnell ysbrydoliaeth i Bleidwyr ym mhob man ac âroedd ei ymroddiad i ymladd dros bobl Dwyrain Abertawe yn arbennig yn siampl i ni gyd. Maes o law fe safodd Clive ei hun fel ymgeisydd seneddol .
âRydym yma heddiw i gofio ac i ddiolch am Clive y gwladgarwr, yr ymgyrchydd dros gyfiawnder, y fferyllydd aâr Cristion ond, yn fwy na dim, am Clive y dyn, y gĹľr bonheddig gwâr, y ffrind aâr penteulu. Iddo ef ei deulu oedd gyntaf – Anne, Sara, David, Mari aâr wyrion. âRydym yn gwybod nad oedd bywyd wastad yn rhwydd iâr teulu yma ond mewn storm ac hindda ym mynwes ei deulu oedd Clive am fod.
âRydym i gyd yn gyfoethocach o adnabod Clive ac maeâr byd yn well lle oâi herwydd ef.
Diolch i ti Clive.
Gruffydd ap Gwent