Dyn mawr ei bersonoliaeth oedd Geraint Thomas. Gadawodd argraff annileadwy ar bawb a ddaeth i’w nabod. Magwyd ei sgiliau gwleidyddol yn ifanc: yn 12 oed llwyddodd gorfodi sgowtiaid Ysgol Ramadeg y Frenhines Elizabeth i chwifio’r Ddraig Goch yn lle jac yr undeb. Roedd seiliau’r ymgyrchwr wedi’i gosod. Ynghyd â’i gyfoedion Sharon Morgan, Sian Edwards, Dai Rees, Tony Jenkins ac eraill, bu’n rhan o ymchwydd egnïol y criw ifanc a gyfrannai gymaint at fuddugoliaeth Gwynfor yn ’66.
Roedd gan Geraint allu ymenyddol eithriadol (‘Proff’ oedd ei lysenw), hiwmor miniog ac ysfa dibendraw i ddysgu am y byd o’i gwmpas. Darllenai’n ddi-baid a byddai’n trafod unrhyw bwnc dan haul gydag unrhyw un, a hynny o safbwynt deallus a gwybodus. Graddiodd o Goleg yr Iesu, Rhydychen cyn dychwelyd i Gymru a dilyn gyrfa ym maes cynllunio.
Roedd Geraint yn ymgeisydd seneddol yn Aberafan yn ’74 a ’79, a bu’n gynghorydd tref am gyfnod hir yng Nghaerfyrddin, gan gyfrannu’n helaeth at les y dref oedd mor agos at ei galon.
Mewn cymaint o ffyrdd ni wireddwyd gwir potensial y dyn ifanc, a hynny oherwydd afiechyd a lethai ar hyd y blynyddoedd. Ond fe’i gofir fel un talentog ac egnïol a lwyddodd ysbrydoli eraill gyda’i frwdfrydedd. Tynnai pobl at eu gilydd; roedd yn rym positif.
Yn sgil ei farwolaeth diweddar yn 68 oed mae wedi gadael atgofion hoffus a gwen ar wyneb pawb o’i ffrindiau. Mae colled ar ei ôl, nid yn lleiaf i’w ferch, Ceridwen a’r wyrion.
Marc Phillips