Cofio Ioan Roberts 1941 – 2019

 

Daeth cannoedd o bobl – o Iwerddon, Yr Alban ac o bob rhan o Gymru – i angladd yr awdur, gohebydd a chenedlaetholwr mawr Ioan Roberts yn Chwilog, Gwynedd ar Ddydd Sadwrn 4 Ionawr 2020.

Bu Ioan yn ganolog yng ngwaith y Blaid o ganol y 1960au ymlaen – nid fel un o’n prif swyddogion neu’n hymgeiswyr ond fel ysgrifennwr dawnus, creadigol a thoreithiog.  Bu’n gyfrifol am y rhan fwyaf o ddeunydd etholiadol cyn-Lywydd y Blaid Dafydd Wigley, sy’n sôn am ei hiwmor anhygoel – yn gweld “ochr ddoniol mewn digwyddiadau ac amgylchiadau a phobol na fuasai’r rhan fwyaf ohonon ni yn ei weld”.

Yma fe gewch weld copïau o’r teyrngedau yn ei angladd gan Gadeirydd Plaid Cymru, Alun Ffred Jones, cyn-Ysgrifennydd Cyffredinol Dafydd Williams, perl o gywydd i Ioan gan yr Archdderwydd Myrddin ap Dafydd , a chofion personol ar ran teulu Ioan gan ei ferch Lois.  Ceir hefyd recordiad o’r gwasanaeth angladd a arweiniwyd gan y Parchedig Aled Davies.

Yn ystod y flwyddyn ers marwolaeth Ioan, ymddangosodd cyfrol o deyrngedau iddo gan  Wasg Carreg Gwalch.  Gyda chyflwyniad gan Lis Saville Roberts AS a’r golygydd Alun Jones, ceir 27 teyrnged yn Gymraeg a thair yn Saesneg  gan ffrindiau agos o Iwerddon a’r Alban, ynghyd â cherddi a darnau o waith Ioan ei hunan.  Gellir archebu’r llyfr pris £8.50 drwy’r siopau llyfr.

Mae Cymdeithas Hanes Plaid Cymru’n estyn ei chydymdeimlad i deulu Ioan ac yn diolch iddyn nhw ac i Wasg Garreg Gwalch am sicrhau cofio gyrfa un o gymeriadau mawr ein mudiad cenedlaethol.

 

Ioan Roberts; Teyrnged Alun Ffred. Capel Seilo, Chwilog. 04/01/2020

Deulu, gyfeillion.  Mae’r dyrfa luosog yma heddiw yn Chwilog yn tystio i’r parch oedd gynnon ni at Ioan ac i anwyldeb a direidi ei gymeriad.

Dw i’n siŵr eich bod fel teulu yn teimlo’r cydymdeimlad yn lapio amdanoch yn eich colled a’ch hiraeth. Diolch am y fraint i gael dweud gair, er y chwithdod. Dw i wedi fy siarsio gan Alwena i beidio bod yn rhy faith ac i beidio bod yn ddi-chwaeth. Felly, bydd raid cadw rhai straeon tan rywdro eto. Mae Myrddin wedi dal llawer o rin cymeriad Ioan yn ei gywydd ardderchog ac rydyn ni wedi clywed dawn dweud Ioan yn y pytiau ddarllenodd o.

Ie, Ioan Roberts, Ioan, Io Mo. Drannoeth clywed y newyddion trist mi es i weld Dora , gweddw Wil Sam. Ar y bwrdd o’i blaen roedd ei gyfrol ddiweddara am Geoff Charles a chyflwyniad gan Ioan iddi hi.  Hithau’n deud fel y byddai’n galw i’w gweld ar ddydd Sadwrn fel arfer.”  A mi ddeuda i ‘pam’ wrthach chi,” meddai hi,” Am mod i di deud wrtho fo rywdro ar ôl colli Wil mai ar ddyddiau Sadwrn y byddwn i’n teimlo hirath fwya’.”  Mi roedd ‘na rywbeth triw a chefnogol fel’na yn Ioan.

Ac mewn rhyw ffordd roedd tebygrwydd rhwng Wil a Ioan; y ddau yn seiri geiriau di-ail yn eu ffyrdd gwahanol; y ddau yn hoff o adrodd stori, y ddau yn fythol wyrdd, heb golli’r ‘hogyn’ o’u mewn yn llwyr. Yn 1989 mi gafodd Ioan wahoddiad i ddod i gynhyrchu cyfres Hel Straeon, cyfres yr oedd Wil Aaron wedi rhoi cychwyn iddi fel rhan o’i ymerodraeth yn Ffilmiau’r Nant. Ac mae’r teitl ‘Hel Straeon’ yn digwydd cyfleu llawer am fywyd Ioan; o ran ei fywyd proffesiynol – ar ôl un ‘false start’ – casglu ac adrodd hanesion wnaeth o drwy ei yrfa, fel newyddiadurwr, golygydd rhaglenni ac yn ei gyfrolau campus; a hynny mewn Cymraeg eglur di ffrils

Ac yn gymdeithasol, fel y gwyddoch yn dda, roedd o yn ei elfen yn adrodd straeon am droeon trwstan yr yrfa. Cof aruthrol am fanylion a dywediadau, hyd yn oed yn oriau man y bore pan oedd pawb call yn eu gw’lau yn cysgu. Pengroeslon, Rhoshirwaun oedd dechrau’r daith iddo fo a’i chwaer Katie ac er iddo adael Pen Llyn i goleg a chael gwaith, mynd a Llyn efo fo wnaeth o, yn ei iaith, ei oslef a’i natur addfwyn. Ac er mor falch oedd o o gael dod yn ôl a chyfrannu i fywyd y fro, – ac roedd cynllun Plas Carmel, er enghraifft, yn agos i’w galon, menter a fydd yn elwa o’ch cyfraniadau hael heddiw,- doedd dim yn blwyfol ynddo. Gweledigaeth genedlaethol oedd i’w wleidyddiaeth a rhyng genedlaethol fel y tystia’i ymwneud cyson ag Iwerddon a’r Alban.

Taniwyd y diddordeb yn Iwerddon yn gynnar a bu Ioan a chriw o ffrindiau yn ymweld yn gyson â Dulyn a’r Gorllewin.  Byddai’n adrodd stori – un ymhlith dwsinau – amdano fo a William Roberts, Wil Coed, wedi heirio car i deithio i Orllewin Iwerddon. Pe bydden nhw’n teithio mwy na hyn a hyn o filltiroedd byddai taliad pellach yn ddyledus. Ar Benrhyn Dingle roedd y pwrs yn gwagio a’r milltiroedd yn cynyddu, a dyma benderfynu trio twyllo’r huriwr trwy dreulio’r pnawn yn bagio’r car o gwmpas y Penrhyn er mwyn dadwneud milltiroedd y cloc. Aflwyddiannus fu’r ystryw mae’n debyg.  Parodd y diléit yn Iwerddon, yn ei phobl ac yn ei gwleidyddiaeth.  

Ta waeth wedi mynychu Ysgolion Llidiardau a Botwnnog mae manylion ei addysg uwch ychydig yn niwlog.  Ond aeth i Fanceinion i astudio Peirianneg Sifil a chyfarfod yn ystod yr wythnos gyntaf y corwynt hwnnw a adwaenir fel Dafydd Wigley gan ddechrau cyfeillgarwch a barodd oes. Cyn bo hir aeth y ddau i rannu fflat, trefniant anffodus o ran gwaith academaidd mae’n debyg. Yn ôl Dafydd treuliwyd gormod o amser yn adrodd barddoniaeth, Ioan yn darllen Yeats i Dafydd. ac yntau yn adrodd Williams Parry yn ôl.  Mae croeso i chi gredu’r stori honno.  P’r un bynnag, gadawodd Wigley y coleg efo gradd – a gadawodd Ioan.

Flynyddoedd yn ddiweddarach wrth gynnal cyfweliad gyda neb llai na Syr Thomas Parry, gofynnodd y Marchog i Ioan, pa goleg a fynychodd a beth oedd pwnc ei radd? Cyfaddefodd Ioan y caswir.  Edrychodd y Syr arno yn syfrdan a dweud yn y llais dwfn yna, “Dyna beth ofnadwy i ddigwydd i ddyn.” Beth bynnag am hynny cafodd Ioan swydd yn Sir Drefaldwyn yn gofalu am bontydd a ffyrdd y Sir honno a dod i nabod gwerin y fro y daeth mor hoff ohoni . Rhannu tŷ gyda chriw o ŵyr ifanc syber a sobor! Yn ddiweddarach cafodd ddyrchafiad o fath i gadw golwg ar garthffosiaeth Sir Amwythig. O’r ddau gyfrifoldeb roedd o’n teimlo bod mwy o urddas yn y cyntaf.

Rywdro yn y cyfnod yma y daeth haid o fyfyrwyr cenedlaetholgar o’r Alban i Gaerdydd i gêm rygbi a chyfarfod Ioan a ffrindiau, ac er i Ioan drio dychwelyd ar fys yr Albanwyr a chael ei rwystro (gellwch ddychmygu’r helynt) dechreuodd cyfeillgarwch a mynd a dod cyson wrth i Ioan, ac Alwena yn ddiweddarach, wneud llu o gyfeillion yn yr Alban gan gynnwys Morag sydd yma heddiw. Ffrindiau sydd erbyn hyn yn rhan o deulu ehangach y Robertsiaid.

Wrth gwrs y peth pwysicaf ddigwyddodd i Ioan ym Maldwyn oedd cyfarfod lodes ifanc o’r enw Alwena tra’n canfasio dros Tedi Millward mewn etholiad cyffredinol sy’n profi gwerth canfasio dros y Blaid, wrach.  Mhen amser lluniwyd deuawd llwyddiannus, un â llais fel angel a’r llall heb lais o gwbl.  

Roedd o wedi dechrau cyfansoddi ambell erthygl i’r Cymro ar bentrefi cefn gwlad Maldwyn a phan ddaeth cyfle ymgeisiodd Ioan am swydd a dod yn aelod o staff y papur wythnosol. A dyna ddechrau gyrfa a dechrau dysgu crefft.  Yn yr hen ddull roedden nhw’n cael ei hyfforddi sut i ysgrifennu stori yn gofiadwy , yn syml a dealladwy, a fo yn y diwedd oedd y prif ohebydd ac yn penderfynu pa stori fyddai ar y dudalen flaen.  Fel y dwedodd Robin Evans a fu’n cydweithio efo fo ar dri chyfnod gwahanol, y deunydd, y cynnwys oedd yn bwysig i Ioan; gwasanaethu’r stori oedd yr arddull. “Sylwedd yn hytrach na steil.”

Wedi symud i Benycae, Wrecsam yn sgil gyrfa Alwena daeth Ioan i adnabod cymdeithas wahanol, un ddiwydiannol ac ôl ddiwydiannol ynghyd â chriw o Gymry Cymraeg newydd. Wedi tair blynedd yno daeth galwad o HTV yng Nghaerdydd gan neb llai na Gwilym Owen y pennaeth newyddion oedd yn awyddus i Ioan ddod yn olygydd rhaglen newyddion fywiog Y Dydd. Symud, nid i Gaerdydd ond i Bontypridd mwy gwerinol a gwneud cylch o ffrindiau newydd, yn Genedlaetholwyr a Sosialwyr Cymraeg a di Gymraeg ac o leiaf un Comiwnydd. Does dim sôn iddo ddod yn llawia efo unrhyw Dori chwaith.

Roedd dwy raglen newyddion gan HTV – Report Wales a’r Dydd – ond un stafell newyddion. Roedd tipyn o dyndra weithiau rhwng y ddau dîm, yn rhannol am fod y Dydd yn cael ei darlledu am chwech o’r gloch, cyn Report Wales. Ond roedd Ioan a golygydd Report Wales, yr anfarwol egsentric Stuart Leyshon o Sgeti, yn cyd-dynnu’n dda ac enillodd Ioan barch yr hacs gyda’i broffesiynoldeb a’i hynawsedd.

Wrth gwrs doedd Ioan ddim yr hyn y byddech chi’n ei alw yn ‘company man’ a doedd y berthynas rhyngddo fo a’r uwch reolwyr ddim bob amser yn esmwyth. Cofio fo’n cael ei alw gerbron i gael ram dam yn dilyn digwyddiad bach anffodus yn Nulyn mewn gêm rygbi; yn y cyfarfod cafodd ei siarsio ei fod o bob amser, ble bynnag yr ai, yn llys gennad i HTV. Weithiodd honna ddim! Yn rhyfeddol ddigon, er ei brysurdeb, bu’n golygu papurau’r Blaid, Y Welsh Nation a’r Ddraig Goch, yn y cyfnod yma gan losgi’r gannwyll yn hwyr i’r nos.  A phan ddaeth bygythiad Gwynfor i ymprydio dros Sianel Gymraeg dw i’n cofio Ioan yn holi be oeddem ni am wneud fel newyddiadurwyr pe digwyddai’r gwaethaf? Doedd o’n cael dim trafferth bod yn ddiduedd fel golygydd ond roedd yn Gymro a chenedlaetholwr yn gyntaf.

Yn eironig daeth creu S4C â’r Dydd i ben a chollodd Ioan ei swydd.  Cafodd ei siomi a bu’n gyfnod anodd dros ben iddo fo ac Alwena.  Daeth gwaredigaeth o du Gwilym Owen a oedd wedi cael cyfnod tymhestlog ei hun ac a ddaeth yn bennaeth newyddion Radio Cymru a chyflogi Ioan fel golygydd a chynhyrchydd. Roedd gan Ioan, fel nifer o newyddiadurwyr eraill, y parch mwya’ i Gwilym – fel pennaeth newyddion.  

Roedd gwyliau yn Iwerddon gyda’r teulu yn ddihangfa bwysig iddo fo. Conemarra, County Clare ac yn amlach na pheidio Penrhyn y Dingle a phentref bach Ballyferriter yn y Gaeltacht oedd diwedd y daith.  Yno y gwnaethpwyd ffrindiau newydd, ac yn arbennig James a Treasa, Geri a’r diweddar Scott a’u teuluoedd. Nhwthe bellach yn rhan allweddol o’r teulu ac yma heddiw.  Hudwyd Albanwyr a Chymry yno i’w canlyn i hel straeon, creu cerddoriaeth a chanu ac yfed ambell wydraid o win y gwan yn nhafarn Ui Chathain a Dick Mac.  A geiriau Ioan bob amser, beth bynnag yr amgylchiad, oedd “ Mae’n ddifyr ‘ma!”.

 
Ioan ac Alwena gyda’u ffrind Morag Dunbar (canol) o’r Alban ym mhenrhyn,  Corca Dhuine, Iwerddon

Y Meca, fel y disgrifiodd Myrddin o, oedd darn o dir ger Trá an Fhíona, Traeth y Gwin â golygfa o benrhyn y Tair Chwaer o’ch blaen.  Tir garw, brwynog ydi’r maes, y tap dwr agosaf ryw hanner milltir i ffwrdd, toiled a siop rhyw filltir go lew a stormydd Awst yn chwipio yn ddi-ffael o’r Iwerydd. Lle delfrydol i wersylla. Ond i Ioan , a llawer o rai eraill, roedd, ac mae, rhin arbennig yn y lle.

Un o’r bobol y daeth Ioan i’w adnabod yno oedd Bertie Ahern a oedd ar y pryd yn Ganghellor y Trysorlys yn llywodraeth y wlad. Gwelodd Ioan, Bertie yn mynd â’i gi am dro ger y traeth ryw fore glawog.  Ganol y bore prynodd gopi o’r Irish Times a gweld bod yr arian Gwyddelig mewn helbul; ”Punt in Crisis” oedd y pennawd brawychus. Yn hwyrach yn y dydd, gan ei bod yn glawio mae’n debyg, galwodd Ioan yn nhafarn Ui Chathain a rhyfeddu bod y dywededig Bertie Ahern yno yn mwynhau peint. Cafodd ei gyflwyno iddo ac o ddiffyg dim byd arall i ddweud cyfeiriodd at y pennawd brawychus gan ryfeddu bod y gwleidydd heb ruthro nôl am Ddulyn. Ateb sych Bertie oedd “ I never read the papers on holiday.”

Flynyddoedd yn ddiweddarach fe drefnodd Ioan i Dafydd Wigley gyfarfod Ahern yn y Dáil pan oedd yn Taoiseach Iwerddon a bûm i ac eraill yn dyst i ddau wleidydd praff yn mwynhau trafodaeth fywiog. Daeth cyfnod Pontypridd i ben gyda galwad Wil Aaron. Roedd yn dipyn o rwyg a menter i’r teulu symud o Bontypridd lle roedden nhw wedi bwrw gwreiddiau dwfn ac yn dechrau magu teulu.  Ond dod wnaethon nhw a dan arweiniad medrus Ioan a’i gyfaill Wil Owen ddatblygodd y gyfres Hel Straeon yn un o rai mwya’ poblogaidd y sianel.

Cyfrannodd hefyd sgriptiau a syniadau i’r gyfres Almanac. Bu cyfnod Hel Straeon yn un prysur a chynhyrchiol; teithiwyd i America i olrhain hanes y cymunedau Cymraeg a bu cyfresi yn Iwerddon ac yn yr Alban.  Mewn gwersyll milwrol ar Ynys Benbecula y cyflwynodd o Fajor mawr mwshtashog i Lyn Ebenezer gyda’r geiriau, “Major Fairclough of the British Army, may I present Lyn Ebenezer who was a major too, in the Free Wales Army.”  

Tynnwyd y plwg yn anfaddeuol o gynnar ar y gyfres yn un o’r adrefniadau mae pob sefydliad yn ei ystyried yn gwbl hanfodol. Unwaith eto roedd Ioan yn ddigyflog ac yn flin.  Gyda llaw, er tegwch, cystal cyfaddef bod Ioan yn medru bod yn flin ac yn bigog ar adegau.  Pan fyddai Alwena yn y cwmni clywid y gorchymyn, “Bu’istaw Ioan.”  Ta waeth cafodd waith ar gyfres materion cyfoes y Byd ar Bedwar ond roedd yn haeddu gwell.  Un o bleserau’r blynyddoedd diweddar iddo oedd teithiau Robat Gruffydd a Meibion y Machlud – rhyw fath o Last of the Summer Wine rhyngwladol- lle mwynhawyd cwmnïa a Jaz gorfodol yn ninasoedd Berlin, Donostia, Madrid a Lisbon.

Ond esgorodd hyn maes o law ar gyfnod cynhyrchiol iawn o ran cyhoeddi llyfrau.  Roedd o eisoes wedi golygu cyfrol goffa Elfed Lewis, ‘Cawr ar goesau byr’ a’r gyfrol ‘Achos y bomiau bach’.  Roedd o hefyd wedi golygu dwy o gyfrolau hunangofiant ei gyfaill Dafydd Wigley sy’n talu teyrnged i’w farn wleidyddol dreiddgar.  I Garreg Gwalch sgrifennodd ‘Hanes C’mon Midffild’ a ‘Pobl drws nesa – taith fusneslyd drwy Iwerddon’ y clywsoch ddyfyniadau ohoni yn gynt, yn ogystal â ‘Rhyfel Ni’ am brofiadau milwyr o Gymru a Phatagonia yn Rhyfel y Malvinas. 

Dyma ddywed Myrddin,”Pan fyddai’n sgwrsio efo pobl am brofiadau poenus a phersonol iawn, roedden nhw’n medru ymddiried yn Ioan i gyfleu eu straeon yn gywir a chyda gofal a chydymdeimlad.”  Ac yn ôl Dylan Iorwerth “ Roedd yn newyddiadurwr craff ac yn sgwenwr da…Y tu ôl i’r wen a’r tynnu coes roedd ganddo feddwl praff.”  I’r Lolfa golygodd dair cyfrol hynod o waith ei hen gydweithiwr y ffotograffydd Geoff Charles, gan dreulio wythnosau yn tyrchu yn archif y Llyfrgell Genedlaethol.  Dim ond gair da oedd ganddo i staff y lle. Ac yn goron ar y cyfan roedd cyfrol hardd ar fywyd a gwaith y ffotograffydd o Ruddlan ac Efrog Newydd, Philip Jones Griffiths .

Gweithiwr araf oedd o meddai Alwena ond un gofalus a thrylwyr. Ac mi alla inne dystio i’r un gofal pan fu’n gweithio fel swyddog y wasg efo mi.  Doedd o byth yn gollwng dim o’i law heb ei saernïo.  Ac mae cyfrol y bu’n ymlafnio gyda hi am ddegawd ar y ‘Cylch Catholig’ ar fin dod o’r wasg mae’n debyg.  Roedd o mewn cymaint o wewyr am hon fel yr ymneilltuodd i leiandy i gael heddwch ac ysbrydoliaeth i sgwennu.  Fe barodd un noson boenus o oer a distaw mewn cell cyn dianc am ei fywyd yn ôl i Bwllheli.  

Mae rhagor i’w ddweud, llawer yn rhagor, ond mi fedra i deimlo ei bensel goch yn hofran uwch y sgript.  Mae pob gwahanu yn boenus wrth gwrs ond fel adroddwr chwedlau siawns na fyddai’n gwerthfawrogi bod y lleoliad ym Mhorthdinllaen yn drawiadol, yng nghwmni teulu wedi gwydraid o win yn y Tŷ Coch.  Ac felly heddiw yr ydym yn dathlu bywyd Cymro cywir a balch, bywyd llawn, bywyd cynhyrchiol ac afieithus, llawn direidi, dagrau a chwerthin.  Mae’n stori gwerth ei hadrodd.  Diolch.

Alun Ffred

 

Io Mo

O Roshirwaun, drws hiraeth
yw’r tir hud tu draw i’r traeth –
ynys cyfeillion annwyl
yng ngwres eu hanes a’u hwyl,
ynys byw yn rhydd am sbel:
Ioan oedd bron yn Wyddel.

 

Dyna fu’i haf, dyna’i fyd:
adlen mewn cae tywodlyd;
adlen lawen a chenedl
o gân a cherdd, gwin a chwedl
Clann y Dwnnan; yntau’n dad,
yn gerrynt llawn o gariad.

 

Adlen heb stormydd pwdlyd
bro a fu’n cilio cyhyd.
Yr un ddadl gaed mewn adlen
ag yn Llŷn, ond gwyn ei llen,
yn gip ar ros o olwg prudd
cociau ŵyn hagrwch cynnydd.

 

Adlen oedd i deulu. Nef
uwch edrych ar rych hydref,
uwch llaw’r aildorchi llewys,
uwch holl galedwaith a chwys
nythu gwenith y gwanwyn
ym maes ei gynefin mwyn.

 

Do, bu’i hiwmor a’i stori –
stôr ei sach – yn iach i ni;
gloywai ei lais gwmni gwlad
efo’i finiog ddyfyniad.
Dawn y co’ hwn nid yw’n cau:
co’ deud-hi’r anecdotau.

 

Heno, adlen huodledd –
mae’n awr ei lapio mewn hedd.
Gŵr ffraeth aeth i’w Gatraeth o
ond caf benodau cofio
mor fyw. Wrth y môr a’i fae,
y gorwel biau’r geiriau.

Myrddin ap Dafydd.

 

Ioan – Cyfaill, Cymro a Chenedlaetholwr

Cwrddais â Ioan am y tro cyntaf rywbryd yng nghanol y 1960au, ble a phryd yn union dwi ddim yn siŵr.  Ond yn sicr roedden ni’n ddau’n ffrindiau erbyn gaeaf 1967 pan ymunais â staff llawn-amser Plaid Cymru gan ddechrau gyda rhyw fis o waith yn y swyddfa yn Stryd Fawr, Bangor.  Erbyn hynny, roedd Ioan yn aelod gweithgar o’r Blaid ers nifer o flynyddoedd – yn ôl pob tebyg ers 1959 o leiaf pan aeth i Brifysgol Manceinion a rhannu fflat gyda Dafydd Wigley. 

Am fwy na hanner canrif felly chwaraeodd ran werthfawr dros ben yn rhengoedd y mudiad cenedlaethol.  Bu’n ganolog yng ngwaith y Blaid – nid fel un o’n prif swyddogion neu’n hymgeiswyr ond fel ysgrifennwr dawnus, creadigol a thoreithiog ac fel aelod oedd yn fodlon gwneud y gwaith caib a rhaw.  Cafodd fyw mewn rhannau gwahanol o Gymru – yng nghefn gwlad Pen Llŷn, ar y gororau a hefyd yng nghalon y Cymoedd ym Mhontypridd – ac ymhobman y trigai byddai’n cyfrannu’n helaeth at Gymreictod a chenedlaetholdeb yr ardal.

Fel y dywed ysgrifennydd Cangen Pwllheli, ei gyfaill oes Wil Roberts (Wil Coed) – Cymru, Cymreictod a’r Gymraeg oedd pethau Ioan ers yn ifanc iawn, “eu dehongli a’u cyflwyno i’w gyd-Gymry ac i’w gyd-Geltiaid oedd ei ffon fara, a daeth yn un o gyfathrebwyr gorau a difyrraf ei oes”.

Pan ddes i nabod Io gyntaf, roedd yn gweithio fel peiriannydd pontydd i gyngor Sir Amwythig, ond yn byw filltir neu ddwy ar ochr Cymru o’r ffin ym mhentref Y Crugion (Criggion) yn Sir Drefaldwyn – fe ges i aros yna sawl gwaith a chael sawl tro hwyliog yn ei gwmni o gwmpas y sir.  Fel y dywed Wil Coed, fe gynorthwyodd ymgyrch ymgeisydd y Blaid Islwyn Ffowc Elis adeg isetholiad Maldwyn yn 1962, gan ddyfeisio ffurflen gofnodi canfasio a ddaeth yn sylfaen ymgyrchoedd etholiadol y Blaid tan droad y ganrif.  Roedd gyda ni gyflenwad o’r ffurflenni hyn yn Swyddfa Ganol Plaid Cymru ar gyfer etholiadau mewn ardaloedd gwledig ble, yn aml iawn, byddai enwau’r etholwyr yn nhrefn y wyddor yn hytrach na threfn ddaearyddol – tipyn o ben tost i drefnydd etholiad gan y byddai angen ail-sgrifennu’r enwau a chyfeiriadau er mwyn canfasio o dŷ i dŷ a chofnodi’r canlyniadau’n effeithiol.  Roedden nhw wedi’u hargraffu mewn nifer o liwiau – ni wn ai Ioan oedd wedi meddwl am y manylyn bach hynny ond credaf mai yn ei lawysgrifen ef oedd y penawdau.

Roedd Ioan ymhlith yr heidiau o bobl ifanc afieithus a dyrrodd i Gaerfyrddin Gorffennaf 1966 i sicrhau buddugoliaeth hanesyddol Gwynfor.  Ac mae Wil Coed yn nodi ei fod wedi ymgyrchu’r un mor frwd ddegawdau wedyn dros Liz Saville Roberts yn Nwyfor Meirionnydd a thros Hywel Williams yn Arfon yn etholiad cyffredinol Rhagfyr 2019.

Roedd Ioan yn sosialydd naturiol yn ogystal â bod yn genedlaetholwr brwd, a deallais wedyn fod ei dad a gwreiddiau gwerinol ei deulu’n ddylanwad pwysig ar gwrs ei fywyd.  Pan symudodd Alwena ac yntau i Bontypridd, fe wnaeth ffrindiau ymhlith undebwyr llafur yn ogystal â chenedlaetholwyr a byddai wrth ei fodd yng nghanol y criw amryliw a fynychai Glwb y Bont yn y dre.  Roedd y ddau wedi prynu tŷ ar ben y bryncyn yn ardal Graigwen, a phan ddaeth isetholiad Pontypridd yn gynnar yn y flwyddyn 1989, Ioan oedd yn llunio’r rhan fwyaf o lenyddiaeth etholiadol Plaid Cymru.

Oherwydd natur ei waith fel gohebydd – i’r Cymro’n gyntaf ond wedyn i gwmni HTV a’r BBC – bu rhaid iddo gyfrannu at waith Plaid Cymru heb fod yn rhy amlwg, er nad allai neb fod mewn amheuaeth ble gorweddai’i galon.  Ac os bu rheolau’r gwaith yn cystadlu gyda’i ymroddiad i achos Cymru, byddai’n fawr o dro cyn eu torri’n racs. 

Rwy’n cofio un achlysur yn ystod berw dyddiau cynnar ymgyrch etholiad cyffredinol – 1987 rwy’n credu – pan ganodd y ffôn: Ioan newydd ddod mas o gyfarfod gohebwyr ble cawson nhw gyfarwyddid sut i adrodd y frwydr rhwng y pleidiau ar sianelau’r BBC yng Nghymru.  Y drefn fyddai rhoi amser gynta’i gyd ar raglenni newyddion i’r ‘ymgyrch Brydeinig’, ac wedyn dogn arall at yr ymgyrch yng Nghymru.  Canlyniad trefn o’r fath wrth gwrs fyddai torri’n sylweddol ar unrhyw sylw i Blaid Cymru – a hynny heb ystyried yr holl oriau byddai’r pleidiau eraill yn eu derbyn ar y sianelau Prydeinig.   Ond mae gwybodaeth mewn pryd yn werth ffortiwn – diolch i Ioan (a gohebydd arall a ddaeth â chopi o’r cyfarwyddid i’r swyddfa erbyn hanner dydd) llwyddon ni ddarbwyllo penaethiaid y Gorfforaeth i newid y cynllun, a rhoi rhywbeth ychydig yn fwy cyfiawn y eu lle.

Roedd Ioan hefyd yn gweithio fel golygydd papur Cymraeg Plaid Cymru, Y Ddraig Goch, er nad oedd modd cyhoeddi hynny i’r byd a’r betws oherwydd cyfyngiadau’i swyddi.  Gyda’i ddawn gynhenid i ysgrifennu’n rhwydd a chael ongl wahanol ar bethau, byddai bob amser yn llwyddo cynhyrchu papur diddorol a difyr.  Bu’n gyfrifol hefyd am y rhan fwyaf o ddeunydd etholiadol cyn-Lywydd y Blaid Dafydd Wigley.  Mae Dafydd yn ychwanegu ei fod hefyd â hiwmor anhygoel – yn gweld ‘ochr ddoniol mewn digwyddiadau ac amgylchiadau a phobol na fuasai’r rhan fwyaf ohonon ni yn ei weld’.  A does dim amheuaeth ei fod yn llygad ei le – roedd wastad hwyl i’w gael yn ei gwmni, fel storïwr, gwrandäwr a chyfaill cywir.  Ac roedd ganddo gof anhygoel  – y gallu i gofio manylion a’u hailadrodd yn union.  Dim rhyfedd fod ganddo’r ddawn o wneud ffrindiau ymhobman – a’u cadw.

Ioan ac Alwena a ddenodd griw o Gymru ac o’r Alban i deithio dros y môr flwyddyn ar ôl blwyddyn i ben pellaf Iwerddon i Gaeltacht Corca Dhuibhne, neu benrhyn Dingle, ac yna gwrdd â llu o Wyddelod a fyddai’n dod yna ar eu gwyliau.  Bydden ni’n teimlo fel rhan o un teulu mawr gyda Ioan, Alwena, Siôn a Lois.  Y tu hwnt i dref An Daingean neu Dingle oedd Tir na n’Og Ioan – pentref Baile an Fheirtéaraigh (Ballyferriter). 

Rywsut neu’i gilydd, roeddech chi’n sicr o ddod ar draws pobl diddorol yng nghwmni Ioan.  Unwaith es i gydag ef i gwrdd â’r ysgolhaig Donncha Ó Conchúir, cyn-brifathro ysgol gynradd y pentref a chadeirydd y gymdeithas gydweithredol.  Dro arall, pan fuodd y ddau ohonon ni’n ymlacio yn nhafarn Dic Macs, Dingle, pwy gamodd heibio gyda gwen fawr ond y Taoiseach, Charles Haughey, siŵr o fod ar ei ffordd yn ôl i’w ynys wyliau bersonol, Inis Mhic Aoibhleáin.  Roedd Ioan yn cicio’i hunan wedyn am beidio â dodi’i fab Siôn, bryd hynny’n faban, ym mreichiau Charlie a thynnu llun sydyn – bu’n ffotograffydd brwd.  Daeth i adnabod Bertie Ahern, Taoiseach arall nes ymlaen, yn ddigon da i Bertie gofio’i enw cyntaf yn iawn.

Tipyn o brofiad oedd bod ymhlith y dyrfa o bobl o Iwerddon a’r Alban a phob rhan o Gymru pan ddaeth yr amser i ddweud ffarwel wrth ein hen ffrind. Byddai Ioan ei hun wedi bod wrth ei fodd yn ein cwmni.

Dafydd Williams

 

Dad gan Lois

I ddechrau, hoffem fel teulu ddiolch o galon i chi am yr holl gefnogaeth yr ydan ni wedi’i dderbyn yn ystod ein profedigaeth. Mae’r holl negeseuon, ymweliadau, teyrngedau, a’r bara brith, wedi helpu i liniaru rhywfaint ar y galar yr ydan ni’n ei deimlo yn y cyfnod hwn o sioc a thristwch. Rydan ni’r to iau wedi cael cyfle dros y dyddiau diwethaf i ddysgu hyd yn oed yn fwy am dad, a dod i’w adnabod o’r newydd bron, drwy lygaid ei gyfeillion a’i gydweithwyr, wrth ddarllen eich atgofion chi ohono fo. Roedd Siôn a finnau’n awyddus i gymryd y cyfle hwn i rannu ychydig o straeon efo chi amdano fo, o safbwynt ei blant.

Wel, mae’n troi allan fod dad yn dipyn o foi, yndoedd?! Wrth gwrs, mi’r oedd Siôn a finnau’n gwybod hynny’n iawn yn barod, ond ar ddiwedd y dydd, Dad oedd o i ni ynde. Wrth edrych yn ôl, rydw i’n gwerthfawrogi fod ganddo fo stôr o amynedd efo ni pan oedden ni’n blant. Roedd o’n arfer dweud wrthym fel y byddai Siôn, yn hogyn bach ar eu gwyliau’n yr Alban, yn mynnu fod o a mam yn sdopio’r car bob tro y byddan nhw’n gweld darn o lyn, fel y gall o fynd allan i daflu cerrig iddo fo. Dw i’n gwybod fod dad wedi ildio bob tro, ac mi fyddai’n pasio’r amser drwy ffilmio Siôn yn taflu cerrig ar ei gamera fidio, ac mae’r fidios hyn gynnon ni o hyd. Mi fydda fo’n gwneud lot o hynny – ein dilyn ni efo’i gamra, gan wneud hynny mewn ffordd hollol dawel heb dynnu unrhyw sylw ato fo’i hun. Mor falch fod y fidios bach gwerthfawr yma gynnon ni i’w trysori am byth – diolch am hynny, dad!

Nid taflu cerrig oedd yn mynd a fy mryd i pan oeddwn i’n iau chwaith, ond mynd i Bortmeirion. Well i fi egluro, er mae’n siŵr y bydd llawer ohonoch yn ymwybodol o hyn yn barod, ond mi fysa gan mam gyfnodau o’r flwyddyn lle fysa ganddi ryw steddfod neu bwyllgor mwy neu lai bob penwythnos, felly roedd hi fyny i dad ein hentyrteinio ni. Mi aeth o a fi i Bortmeirion unwaith, a dyna ni wedyn. Roeddwn i’n mynnu ein bod ni’n mynd yno bob penwythnos, nes bod ei gerdyn teyrngarwch wedi mynd yn hen racsyn blêr, ac mi fysa fo’n gadael i fi chwarae am oriau wrth y cwch bach ar lan y dŵr yn fy myd bach fy hun. Mae’n siŵr fod o’n hollol, hollol bord, ond wnaeth o erioed wneud i ni deimlo fel bod unrhyw beth yn bwysicach iddo fo na’r ddau ohonan ni pan oeddan ni efo fo. Doedd dim pall ar amynedd dad wedi i ni ddod yn oedolion chwaith, a wastad yno i wrando ac i helpu efo unrhyw broblem, bach neu fawr, gan dueddu i orffen pob sgwrs efo ‘fyddi di’n ok sdi’ a tap solad ar y pen i ni. Dim ond fis yn ôl, roedd rhaid i Siôn ac yntau fynd i’r ardd drws nesaf i ddismantlo trampolîn Cadi, gan ei fod o wedi hedfan yno, dros nos, dros y gwrych pan oedd hi’n stormus. Tra’r oedd Siôn yn gwylltio a bytheirio wrth ymgymryd â’r dasg (mi’r oedd o’n horwth o beth i fod yn deg, ac mi’r oedd hi’n dywyll erbyn hyn), roedd dad yn aros yn cŵl braf, ac yn chwerthin iddo fo’i hun bob hyn a hyn – roedd o’n gallu gweld yr ochr ddoniol i bob argyfwng, sy’n crynhoi dad i’r dim.

Roedd o’n dad direidus iawn. Mi ddywedodd o wrth Siôn unwaith ei fod o’n arfer chwarae i Arsenal, a Siôn druan yn mynd i’r ysgol diwrnod wedyn a dweud wrth bawb. Mae Sion yn cyfaddef ei hun wedyn, o weld dad yn cicio pêl, y dylai fod wedi sylweddoli nad oedd hi’n stori wir. Dw i’n cofio fi’n ysgol gynradd hefyd, yn dechrau dysgu am siapiau ac onglau, a gofyn iddo fo ‘be di polygon?’ ac yn syth bin, yr ateb gesh i: ‘parot wedi marw’.

Cymro i’r carn oedd dad, a hynny’n ar ei fwyaf amlwg, mae’n siŵr, yn ystod gemau Cymru. Disgrifiodd Sion fel y byddai ganddo fo wastad ddagrau yn ei lygaid pan fyddai’r anthem yn cael ei chanu, a phan fysa’r ddau ohonyn nhw’n mynd i wylio gem bêl-droed Cymru, yn hytrach na gweiddi ‘Wales! Wales!’ fel pawb arall yn y dorf, mi fysa fo’n gweiddi ‘Cymru! Cymru!’ drostyn nhw. Doeddwn i ddim gwybod yn hynny tan i Sion ddeud wrtha i ddiwrnod o’r blaen,  ac mi ges i bwl o chwerthin gan mod innau’n gwneud yr union ’run fath.

Fedra i ddim diolch ddigon iddo fo am ein dysgu am bwysigrwydd gwleidyddiaeth. Mi fydda i’n colli ein sgyrsiau hir am y newyddion, dyfodol Cymru, y Blaid… yn aml mi fyddai’r sgyrsiau hyn yn para oriau, ymhell i ganol nos weithiau. Ar noson Etholiad Cyffredinol 2017 mi arhosodd dad a fi i fyny drwy’r nos, a mi’r oedd y ddau ohonan ni jysd â mynd yn wirion – erbyn i Ben ennill Ceredigion, dw i’n meddwl mai ‘hysterical’ ydi’r gair mwya addas i ddisgrifio sut oeddan ni’n teimlo – a bihafio. Dw i’n falch iawn, mewn ffordd, na fydd rhaid iddo fo fynd drwy’r artaith o weld effaith Brexit  ar y Gymru fach yr oedd o mor falch ohoni.

Wel, does dim posib i ni sôn am dad heb sôn am ein gwyliau chwedlonol bob mis Awst efo’r garafán. Mynd i’r Eisteddfod gynta, wrth gwrs, ac wedyn draw â ni i’r Iwerddon. Roedd o’n arfer deud ei fod o’n teimlo’n euog am beidio mynd â ni i lefydd mwy exotic pob haf, yn enwedig pan ddysgodd o fod Tomos yn arfer cael mynd i lefydd fel Ffrainc, Sbaen, Portiwgal, Yr Almaen, Yr Eidal ac ati ar wyliau teuluol! Ar bapur, mae’n siŵr nad ydi gwyliau carafán, mewn cae ar benrhyn hollol exposed yn ne orllewin Iwerddon, heb unrhyw fath o gyfleusterau, yn swnio fel y gwyliau delfrydol. Ond i ni, dyna’r oedd o. Be gewch chi well na threulio pythefnos yng nghwmni ffrindiau arbennig y gwnaeth o a mam flynyddoedd cyn i ni gael ein geni, mewn adlen gysurus, mewn cae oedd yn nefoedd pan oedd hi’n braf…ond y lle mwya diawledig pan fysa’r tywydd yn troi. Roedd y gwyliau a’r ffrindiau hyn yn rhodd amhrisiadwy i ni gan ein rhieni, ac yn gymaint o ran o bwy ydan ni erbyn hyn. Mae o wedi dysgu lot i ni am y gallu i gymdeithasu gyda phobl o bob oed, a sut i fwynhau ein hunain. Diolch eto, dad, a llaw ar fy nghalon, fyswn i byth yn newid y profiadau gafon ni am wyliau ar y Costa del Sol.

O’n i’n sôn gynna am y ffaith mai’r Eisteddfod fydda’n dod gynta, cyn Werddon, eto yn y garafán, a byddai hynny fatha ryw pre-med cyn y gwyliau mawr Gwyddelig! Ond i Sion a fi, roedd ’Steddfod efo dad yn dipyn o boen yn din. Mae pawb yn tueddu i feddwl am mam fel yr un Eisteddfodol, yn dydyn, ond efo dad, fysan ni’n yn cael gweld chwarter y maes tasa ni’n gadael iddo fo siarad efo pawb fel roedd o isio gneud! I ddiddanu ein hunain, byddai’n rhaid i ni ddyfeisio gemau, fel ‘sawl cam mae dad yn gallu cymryd cyn gweld rhywun arall mae o’n nabod a sdopio’ – y record? 2 gam!! Fyddan ni hefyd yn lladd ein hunain chwerthin yn clywed pawb yn galw dad yn ‘Io Mo’, a methu’n glir â deall pam. Oedd ganddo fo enw canol? Morris? Morgan? Mohammed? Troi allan, nagoedd, oedd o jysd yn swnio’n catchy. Dydw i ddim yn meddwl erbyn hyn fod dad yn meindio i bobl ei alw fo’n Io Mo, ond pan oni’n iau, oni’n meddwl fod o’n ei gasáu o. Rŵan dw i’n deall mai ddim yn licio i Sion a fi ei alw fo’n hynny oedd o! Pan o’n i’n arfer gweld rhywun o’n i’n gwybod oedd yn arfer gweithio efo dad (ac mae ‘na lot fawr ohonoch chi!), fyswn i’n mynd atyn nhw gan ddeud reit swil “dw i’ meddwl ella’ch bod chi’n nabod dad…” “o, pwy di dy dad felly?” “Ioan Roberts….” yn amlach na pheidio, fyddai na fawr ddim ymateb am eiliad neu ddwy, ac wedyn yn sydyn, “Oooo! Io Mo ti’n feddwl!!”

Mae’n amhosib cyfleu mor fawr fydd y golled ar ei ôl, ond un cysur pwysig ydi ei fod o wedi cael dod yn daid i Cadi Shân fach. Roedd o’n ymfalchïo yn ei rôl newydd, ac yn ei chymryd o ddifrif. Nes i erioed feddwl y bysan ni’n ei weld o’n codi, ar ôl cyn lleied o berswâd, i fynd i ddawnsio efo hi ganol y stafell fyw, ac mor hapus i gael ei orfodi ganddi i wisgo ei het flodeuog hi ar ei ben. Pan fysa Cadi’n cael pylia o wrthod bwyta wrth y bwrdd bwyd, a phawb yn gwneud eu gorau i gadw gwyneb syth, pwy ydach chi’n meddwl oedd y cynta, yn ddi-ffael, i ddechrau chwerthin? Wel dad siŵr iawn, a ninnau wedyn yn ei cholli hi’n lân hefyd! Mae’n deud lot am natur ein magwraeth a’n perthynas efo’n rhieni fod dad, mam, Sion, Sarah a Cadi, oll yn cyd-fyw mor ddi-lol dan yr un to dros y blynyddoedd diwethaf – ddim yn rhywbeth hawdd i unrhyw deulu, dw i’n siŵr y bysach chi’n cytuno. A mod innau hefyd mynd adref yn ddeddfol, ddwywaith yr wythnos i’w gweld nhw ers i fi symud i Gaernarfon. Mae hyn yn deyrnged wirioneddol i’r berthynas glos a ffurfiwyd rhyngom, ac mae cael dweud mai Io Mo oedd ein tad yn fraint y byddwn ni’n ei chario efo ni gyda balchder am weddill ein hoes.


Ioan a’i deulu

 

Recordiad o Angladd Ioan Roberts  4 Ionawr 2020

 

 

Ioan (chwith) fel gwas priodas i’w gefnder, y Parchedig Reuben Roberts, Mis Hydref 1959 – a’r un bobl mewn dathliad eu priodas aur, Mis Hydref 2019: Ioan Roberts, Reuben Roberts, Aelwen Roberts a Dr Helen Wyn Jones