Cofio Phil Williams Teyrnged Cynog Dafis

Yn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd dydd Iau, 9 Awst 2018, bu Plaid Cymru’n dathlu bywyd y diweddar Athro Phil Williams, ei hymgeisydd yn is-etholiad Caerffili hanner can mlynedd

Trefnwyd y cyfarfod gan Gymdeithas Hanes Plaid Cymru a rhoddwyd teyrngedau gan Dafydd Williams a Cynog Dafis a chyfraniad gan Dafydd Wigley.

Cofio Phil Williams

Teyrnged gan Cynog Dafis

Mi allen i siarad am Phil, y polymath rhyfeddol o ddyn sut ag oedd-e, drwy’r dydd ond cwta 15 munud sy gen i ac rwyf am ganolbwyntio ar ei gyfraniad neilltuol iawn-e mewn materion gwyrdd – sef y pwnc pwysicaf – oes ca’i fentro’i ddweud-e – o bob pwnc yn y byd.

Ond alla’i byth â pheidio sôn am rai atgofion penodol.

 

Mae geni ddelwedd glir yn ‘y meddwl o’r tro cyntaf erioed i fi’i weld-e, yn Ysgol Haf y Blaid yn Llangollen 1961, peint o gwrw yn ei law, a’i wyneb yn pefrio wrth ymuno yn y canu oedd yn atseinio drwy’r bar – canu Cymraeg wrth gwrs. Ryn ni’n arfer meddwl am Phil fel meddyliwr – roedd e’n dweud mai darllen traethawd Ted Nevin ar ystadegau economi Cymru a barodd iddo-fe ymuno â’r Blaid – ond o’r galon a’r ymysgaroedd yr oedd ei angerdd dros Gymru a’r achos cenedlaethol yn codi. Yr angerdd ymysgarol yna a’i gyrrodd-e yn ei holl waith dros y Blaid gydol ei oes.

 

Yr ail atgof yw ohono-fe’n siarad yng nghyfarfod Pwyllgor Gwaith y Blaid Tachwedd 1964, ar ôl etholiad cyffredinol hynod siomedig, ar gynnig yr oedd John Bwlchllan i fi wedi’i roi ger bron y dylai’r Blaid roi’r gorau, dros dro, i ymladd etholiadau seneddol. Ac mae hynny’n atgoffa dyn o’r ffaith mai rebel oedd Phil yn y dyddiau hynny, aelod o grŵp Cilmeri, gydag Emrys Roberts, Ray Smith ac eraill, a oedd am foderneiddio trefniadaeth y Blaid a chyda llaw dorri tipyn ar grib Gwynfor yn y broses.

 

Ond gadewch i ni ddod at faterion gwyrdd, gan ddechrau gyda chanlyniad etholiadol siomedig arall, sef etholiad Ewrop 1989. Roedd gobeithion uchel gan y Blaid a’r paratoadau’n fanwl ond mewn tair mâs o bedair etholaeth Cymru, cad y Blaid ei gwthio i’r pedwerydd safle gan y Blaid Werdd. Rwy’n cofio’n glir am Phil yn y cyfrif yn Abertawe mewn sgwrs ddofn-gyfeillgar, gytgordus gyda Barbara McPake, ymgeisydd y Gwyrddiaid. Hawdd deall y cytgord – roedd Phil, fel gwyddonydd gofodol, wedi’i hen argyhoeddi o arwyddocâd aruthrol, arswydus yn wir, newid hinsawdd. Rwy’n cofio amdano-fe’n dweud, am ryw gyfarfod o wyddonwyr i drafod y wybodaeth ddiweddaraf am newid hinsawdd mai ‘arswyd iasol’ [‘cold terror’] oedd y teimlad.

 

Rai dyddiau cyn yr etholiad hwnnw, roedd Plaid Werdd Cymru wedi cael gwahoddiad i ddanfon cynrychiolwyr i gymryd rhan mewn sesiwn drafod ar Fore Sul Cynhadledd Dinbych 1989.  Cafodd y gwahoddiad i gwrdd eu danfon cyn yr etholiad.  Sefydlwyd cyd-weithgor rhwng y ddwy blaid i archwilio’r tir cyffredin, a Phil yn arwain dros y Blaid. Bu’n cyfarfod yn gyson dros gyfnod o rai misoedd. Daeth dau ganlyniad pwysig o’r broses yna.

 

1 Drafftiodd Phil gynnig manwl, hirfaith, hynod o radical, i Gynhadledd y Blaid yng Nghaerdydd 1990, ar gynaliadwyedd amgylcheddol. Gallwn-ni ddyddio gwyrddio Plaid Cymru, sy wedi cael effaith eithaf pellgyrhaeddol ar wleidyddiaeth Cymru, mwy neu lai o’r dyddiad hwnnw.

 

2 Awdurdododd Pwyllgor Gwaith y Blaid etholaethau lleol i sefydlu pactiau etholiadol gyda’r Gwyrddiaid lle’r oedd cefnogaeth leol i hynny. Trefnwyd cytundebau lleol yn y De Ddwyrain ac yng Ngheredigion, lle’r enillwyd buddugoliaeth lachar yn 1992, a bu rhaid i fi wneud cyfnod estynedig o wasanaeth cenedlaethol yn San Steffan o ganlyniad. Roedd hyn i gyd wrth fodd calon Phil – roedd parodrwydd i weithio ar draws ffiniau pleidiol gyda phobl o gyffelyb fryd er mwyn cyflawni pethau gwerthfawr yn reddfol iddo-fe. Rwy’n cofio amdano’n dweud hynny wrtha’i gydag arddeliad pan gydweithiodd e a finnau i sefydlu grwp trawsbleidiol ar ynni adnewyddol yn y Cynulliad Cenedlaethol.

 

Rown innau, fel Phil, wedi cael ‘yn argyhoeddi’n gynnar o arwyddocâd chwyldroadol yr agenda werdd a chanlyniad hynny oedd bod Phil a finnau wedi dod i ddeall yn gilydd yn dda iawn. Perthynas anghyfartal oedd hon wrth gwrs fe oedd y guru a finnau’r disgybl fyddai’n gofyn cwestiynau a gwneud ambell i awgrym. Pan ges i’r cyfle i arwain dadl ar ynni adnewyddol yn Nhŷ’r Cyffredin, polisi Phil ar ynni adnewyddol a Chymru oedd sylwedd yr araith.

 

Rwyf am droi am funud at fater gwahanol, tra arwyddocaol hefyd. Fi oedd cyfarwyddyd polisi’r Blaid yn y cyfnod yn arwain at sefydlu’r Cynulliad Cenedlaethol yn 1999. Ryw ddiwrnod daeth neges oddi wrth Phil yn dweud ei fod wedi darganfod nad oedd Cymru erioed wedi cael ceiniog o arian Ewropeaidd. Y? medden i. Beth am y cannoedd o filoedd oedd wedi dod i Gymru drwy raglenni Amcan 5b ac yn y blaen?  Ond roedd Phil wedi bod â’i ben yng nghyfrifon y Swyddfa Gymreig ac wedi darganfod bod pob ceiniog o arian Ewropeaidd yr oedd Cymru wedi’i derbyn, ar gyfer rhaglenni cymdeithasol, economaidd ac amaeth-amglycheddol, wedi eu hadfachu, drwy ddirgel ffyrdd, i’r Trysorlys Prydeinig.  Swindl nid llai a swindl oedd yn digwydd mewn amryw wledydd Ewropeaidd – y wladwriaeth ganolog yn defnyddio arian Ewropeaidd i chwyddo’i thrysorlysoedd ar draul y rhanbarthau a oedd i fod i elwa, a hynny’n hollol groes i fwriad yr Undeb Ewropeaidd i godi cyflwr economaidd ardaloedd tlotach.

 

Pan ddaeth Phil yn AC Cynulliad yn 1999 roedd hyn yn fater o’r pwys mwyaf, a Chymru erbyn hyn wedi cymhwyso ar gyfer cronfeydd Amcan 1 – miliynau lawer o bunnoedd. Doedd dim sicrwydd, a dweud y lleiaf, y byddai’r cyllid Ewropeaidd yma yn wirioneddol ychwanegol i’r bloc Cymreig, sef holl gyllid y Cynulliad Cenedlaethol. Gwrthododd Gordon Brown, ac allodd Alun Michael ddim, gwarantu y byddai cyllid Amcan 1 yn ychwanegol a chanlyniad hynny  fuodd (1) i’r Cynulliad ddisodli Alun Michael yn Chwefror 2001 a (2) i Lywodraeth San Steffan ildio ar y mater yna mewn datganiad, os cofia’i’n iawn ym mis Gorffennaf. Fe fyddai cyllid Amcan 1 yn wirioneddol ychwanegol i’r bloc. Cymrodd y Blaid Lafur y clod. Ond oni bai am Phil, mae’n go saff i ddweud, byddai twyll y Trysorlys wedi parhau, o leiaf am gyfnod. Meddyliwch mewn difrif am y golled i economi Cymru yn yr amgylchiadau hynny.

 

Buodd cyfraniad Phil i waith y Cynulliad cyntaf, ac yntau’n aelod o bwyllgor yr economi, yn nodedig. Rwy’n cofio fel y byddai bob amser yn paratoi’i areithiau’n fanwl ac yn eu hymarfer yn ofalus. Byddai’n gweithio bob awr o’r dydd a’r nos ac eithrio ambell i solo ar y sacsoffon yn diasbedain drwy’r coridorau rhwng 10 ac 11. Ond rwy’n rhyw deimlo iddo-fe brofi elfen o siom o ddiffyg cyfeiriad y Llywodraeth o dan Alun Michael a Rhodri Morgan. Yn niffyg unrhyw gyfeiriad strategol, cafodd datblygu cynaliadwy ei ddehongli, nid fel cyfle i Gymru achub y blaen mewn sectorau amgylcheddol newydd, ond fel cyfres o rwystrau i ddatblygiad yn enw cadwraeth a gwarchod y dirwedd. Yn ystod y pedair blynedd yna llwyddwyd i dagu, yn hytrach nag ysgogi, twf ynni adnewyddol er enghraifft.

 

Serch hynny, cael bod yn aelod o’r Cynulliad Cenedlaethol cyntaf, serch mor gyfyngedig ac anfoddhaol oedd pwerau a chapásiti mewnol hwnnw, oedd uchafbwynt  ei yrfa wleidyddol, os nad ei fywyd ac mae’r ffaith iddo gael y fraint aruchel yna’n destun llawenydd i’r rhai a gafodd ei adnabod – braint aruchel arall. Coffa da am y disglair a’r annwyl Phil Williams.

 

Dyma araith i gyfarfod Cymdeithas Hanes Plaid Cymru a draddodwyd yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd, Dydd Iau 9 Awst 2018