Plac Glas ar gyfer cartref Saunders Lewis
Sylw ar Heno 19 Tachwedd 2015
Dadorchuddir plac glas Dydd Iau 19 Tachwedd ar y tŷ ble bu Saunders Lewis yn byw ym Mhenarth er mwyn nodi 30 mlynedd ers iddo farw.
Trefnir yr achlysur gan gangen leol Plaid Cymru ynghyd â Chymdeithas Hanes yn Blaid gyda chefnogaeth perchennog presennol y tŷ ers marwolaeth Mr Lewis ac sydd wedi cadw rhai o’r celfi yn ei hen stydi.
Caiff y plac glas coffa ei ddadorchuddio gan gyn-Lywydd y Blaid Dafydd Wigley mewn seremoni yn y tŷ brynhawn Dydd Iau, 19 Tachwedd. Bydd yr Arglwydd Wigley, cyn-Aelod Seneddol a chyn-Aelod Cynulliad a fu hefyd yn cludo’r arch yn angladd Mr Lewis, hefyd yn traddodi darlith ar fywyd a gwaddol ei fywyd gyda’r nos yn Ysgol Gynradd Evenlode, Penarth.
Bu Mr Lewis yn bresennol yn y cyfarfod yn Bedwas Place, Penarth, yn 1924 a arweiniodd at ffurfio Plaid Genedlaethol Cymru y flwyddyn ganlynol. Bu’n un o sefydlwyr y Blaid a’i Llywydd. Yn ogystal â bod yn weithgar yn wleidyddol, fe’i gydnabyddir yn gyffredinol hefyd i fod yn un o ffigurau llenyddol amlycaf Cymru’r ugeinfed ganrif. Yr oedd yn dramodydd, yn fardd, yn hanesydd ac yn feirniad llenyddol.
Arweiniai ei ddarlith yn 1962, Tynged yr Iaith at ffurfio Cymdeithas yr Iaith. Mae wedi’i gladdu ym mynwent Penarth.
Yn bresennol yn y seremoni ddadorchuddio fydd Bethan Jenkins, llefarydd Cynulliad y Blaid ar Dreftadaeth a’r Iaith Gymraeg, Dafydd Trystan Davies, ymgeisydd Plaid Assembly ar gyfer De Caerdydd a Phenarth a chynrychiolwyr yr Eglwys Gatholig.
Mae croeso i bawb i fynychu’r ddarlith rhwng 7pm a 9.30pm yn Ysgol Gynradd Evenlode, Penarth . Pris mynediad yw £10 gan gynnwys lluniaeth ysgafn.
A hithau’n 30 mlynedd ers marwolaeth Saunders Lewis mae Cangen De Caerdydd a Phenarth wedi trefnu digwyddiadau i gofio ei fywyd a’i gyfraniad dros ei wlad.
Ar 19eg o Dachwedd am 2yh bydd plac glas yn cael ei ddadorchuddio ar ei hen gartref ym Mhenarth.
Gyda’r nos, rhwng 7 a 9, bydd Dafydd Wigley – a fu gynt yn Aelod Seneddol ac Aelod Cynulliad a chludwr yn angladd Saunders Lewis – yn rhoi araith arbennig yn Ysgol Gynradd Evenlode.
Ni ellir goramcangyfrif cyfraniad Saunders Lewis i’r Gymru sydd ohoni a rhaid cofio a dathlu’r cyfraniad hwn.
Mae’r flwyddyn 2015 yn marcio 30 mlynedd ers ei farwolaeth ac rydym ni, Cangen Plaid Cymru Penarth a grŵp Hanes Plaid Cymru wrth ein boddau i gynnal digwyddiad dwy ran i gofio’r dyn a’i fywyd.
Ar ddydd Iau, 19 Tachwedd am 2yp, bydd yr Arglwydd Dafydd Wigley yn dadorchuddio plac glas coffa a fydd yn osodedig ar hen dŷ Saunders yn Heol Westbourne. Mae’r perchenogion presennol yn byw yno ers marw Saunders ac wedi cadw rhywfaint o ddodrefn yn ei astudfa. Rydym yn ddiolchgar iawn am eu cefnogaeth gyda’r achlysur hwn.
Bydd lle ar gyfer y dadorchuddio’n gyfyng iawn felly os dymunwch fod yn bresennol, cysylltwch â Nic Ap Glyn ar niclas.apglyn@btinternet.com <mailto:niclas.apglyn@btinternet.com>
Rhwng 7yh-9yh bydd y prif ddigwyddiad yn cymryd lle yn Ysgol Gynradd Evenlode, Penarth CF64 3PD. Bydd Yr Arglwydd Wigley – cydoeswr i Lewis a chludwr yn ei angladd – yn traddodi darlith gyfareddol a mewnweledol ar fywyd ac etifeddiaeth Saunders Lewis.
Mae hon yn addo bod yn noson ddiddorol a difyr na ddylid ei cholli.
Mae tocynnau ar gyfer digwyddiad yr hwyr ar gael ar y noson am £10 y person ac yn cynnwys lluniaeth ysgafn.
Linc > Gwefan