Dydd Iau 10 Awst ym Mhabell y Cymdeithasau 2 ar faes yr Eisteddfod yn Boduan, cafwyd darlith gan y bargyfreithiwr, awdur ac academig, Keith Bush, sy’n Gymrawd Cyfraith Cymru yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru.
Bu’n trafod agweddau cyfreithiol achos y tri o aelodau mwyaf blaenllaw’r Blaid, Saunders Lewis, Lewis Valentine a DJ Williams ar ôl llosgi’r ysgol fomio a oedd yn cael eu codi ym Mhenyberth ger Pwllheli yn 1936.
Dyma sain y ddarlith –
Agweddau Cyfreithiol Achos Penyberth
(Darlith a draddodwyd gan yr awdur ar ran Cymdeithas Hanes Plaid Cymru yn Eisteddfod Genedlaethol Boduan, Awst 2023)
Achos Penyberth
Y Tri
Ar 19eg Ionawr 1937, yn yr Old Bailey yn Llundain, cafwyd Saunders Lewis, Lewis Valentine a D. J. Williams (“y Tri”) yn euog o ddifrodi eiddo, yn groes i adrannau 5 a 51 o Ddeddf Difrod Maleisus 1861. Fe’u hanfonwyd i garchar am 9 mis. Sail y cyhuddiad oedd bod y Tri wedi llosgi “yn anghyfreithlon ac yn faleisus” adeiladau a deunyddiau ar dir a oedd wedi bod yn rhan o fferm Penyberth ger Penrhos, Llŷn ond a oedd, bellach, yn cael ei droi’n Ysgol Fomio ar gyfer yr RAF. Rhan oedd y weithred o ymgyrch yn erbyn yr Ysgol Fomio a arweiniwyd gan Blaid Genedlaethol Cymru, y bu’r Tri’n aelodau blaenllaw ohoni. Roedd Saunders Lewis wedi bod yn Llywydd arni ers deng mlynedd, gan olynu Lewis Valentine yn y swydd honno. O’r cychwyn, bwriad y Tri oedd cymryd cyfrifoldeb am y difrod er mwyn medru defnyddio’r achos llys a fyddai’n dilyn fel llwyfan i’r ymgyrch ac i’r Blaid yn gyffredinol.
Cafodd agweddau cymdeithasol a gwleidyddol achos Penyberth eu trafod yn helaeth ac yn fanwl dros y pedwar ugain a saith mlynedd ddiwethaf. Ond heddiw rwyf am ganolbwyntio ar yr agweddau cyfreithiol ohono, ac yn arbennig y penderfyniad, ar ôl i reithgor yng Nghaernarfon methu a chael y Tri yn euog o gyflawni’r difrod, i symud yr achos i’r Llys Troseddol Canolog yn Llundain.
Ffynonellau
Adroddir hanes y llosgi ei hun mewn nifer o gyfrolau, gan gynnwys “Tros Gymru”, hunangofiant J. E. Jones, Ysgrifennydd Plaid Genedlaethol Cymru ar y pryd, “Valentine”, cofiant i Lewis Valentine gan Arwel Vittle, ac “Oddeutu’r Tân” hunangofiant O. M. Roberts.
Ceir triniaeth drwyadl a manwl o’r achosion llys, yn “Tân yn Llŷn” a gyhoeddwyd yn 1937, gan y bargyfreithiwr 25 oed, Dafydd Jenkins (yr Athro Dafydd Jenkins wedi hynny) ac rwy’n ddyledus iawn i’w waith ef. Ond rwyf hefyd wedi medru tynnu ar ffynonellau am yr achos nad oeddent ar gael pan ysgrifennwyd “Tân yn Llŷn” ac sy’n mynd â ni tu ôl i lenni’r broses gyfreithiol.
Cychwyn y broses
Dechreuodd y broses honno tua hanner awr wedi dau yn y bore, ddydd Mawrth 8 o Fedi 1936, pan gerddodd y Tri i mewn i swyddfa heddlu Pwllheli a gofyn am gael gweld y prif heddwas ar gyfer yr ardal, yr Uwch Arolygydd William Moses Hughes. Pan ofynnodd Cwnstabl Preston, y plismon a oedd ar ddyletswydd, beth oedd yn cyfiawnhau codi’r Uwch Arolygydd Hughes o’i wely, atebodd Lewis Valentine, “Mae Penyberth ar dân”.
Roedd hynny’n ddigon i wneud i’r Cwnstabl ffonio’r Uwch Arolygydd. Pan gyrhaeddodd ef, rhoddodd Saunders Lewis iddo lythyr, wedi’i lofnodi gan bob un o’r Tri, a oedd yn “cydnabod ein cyfrifoldeb am y difrod a wnaethpwyd ar adeiladau’r Gwersyll Bomio y nos hon, Medi 7.” (Sylwer bod y ddogfen wedi’i dyddio ar y sail y byddai’r ymosodiad yn digwydd cyn, ac nid ar ôl, hanner nos.)
Y Prif Gwnstabl
Roedd llythyr y Tri wedi’i gyfeirio’n benodol at Brif Gwnstabl Heddlu Sir Gaernarfon, Edward Williams ac ar ôl i’r Tri gael eu harestio a’u rhoi yn y celloedd, ffoniodd yr Uwch Arolygydd Hughes y Prif Gwnstabl er mwyn ei hysbysu o’r hyn oedd wedi digwydd. Ychydig iawn o sylw a gaiff Prif Gwnstabl Williams yn y gwahanol hanesion a ysgrifennwyd am achos Penyberth. Ond, fel y daw’n amlwg, roedd ei rôl ynddo, mewn gwirionedd, yn un hollol ganolog. Roedd Edward Williams yn frodor o Lanllechid ger Bethesda ac yn fab i chwarelwr. Cychwynnodd ei yrfa fel plismon yn Llundain, cyn dychwelyd i Sir Gaernarfon a gweithio’i ffordd i fyny i fod yn bennaeth yr heddlu yno. Ar y wyneb, roedd ar delerau da, hyd yn oed yn wresog, gyda chynrychiolwyr y Blaid yng Nghaernarfon, gan gynnwys J. E. Jones, yr oedd ei swyddfa yn y dref, a chyfreithiwr y Blaid, E. V. Stanley Jones, oedd â phractis yno.
Roedd y Prif Gwnstabl yn sicr bod swyddogion y Blaid dros eu pennau a’u clustiau yn yr ymosodiad ar safle’r Ysgol Fomio – canfyddiad a oedd, wrth gwrs, yn hollol gywir. Er mai’r Tri oedd yr “A Team” a gyneuodd y tân, roedd yr adeiladau a’r deunyddiau a losgwyd eisoes wedi cael eu trwytho mewn petrol gan y “B Team” sef pedwar arall o aelodau’r Blaid, a rheiny’n cael eu harwain gan J. E. Jones ei hun. Ond doedd gan y Prif Gwnstabl ddim digon o dystiolaeth i brofi rhan uniongyrchol aelodau eraill o’r Blaid yn y weithred, ac nid yw’n syndod bod hynny wedi pery rhwystredigaeth broffesiynol iddo. Ond roedd ei elyniaeth a’i ddirmyg tuag at y Blaid Genedlaethol yn mynd llawer iawn tu hwnt i hynny, ac roedd ganddo eisoes ddymuniad, pan ddeuai’r cyfle, i ffrwyno’i gweithgareddau, fel yr esboniodd wrth gyfreithwyr yr erlyniad. Disgrifiodd hi fel “a noisy clique (which) needs checking”. Roedd aelodaeth yn cynnwys y math o berson nad oedd gan y Prif Gwnstabl feddwl uchel iawn ohonynt: “It is mainly composed of Ministers of the Gospel, School Teachers, College Students and Members of the Nonconformist Body”. Nid oedd ganddi, yn ei farn ef, unrhyw hawl i siarad dros Gymru.
Rhywbeth a oedd yn dal i’w gorddi oedd yr hyn a ddigwyddodd ar Ddydd Gŵyl Dewi 1932 pan aeth J. E. Jones a thri o ddynion ifainc eraill, dau ohonynt yn gyfreithwyr o dan hyfforddiant, i ben Tŵr yr Eryr yng Nghastell Caernarfon, tynnu lawr y Jac yr Undeb oedd yn chwifio yno, a chodi’r Ddraig Goch yn ei le. Roedd ef wedi methu, ar y pryd, i ddod o hyd i gyfiawnhad dros eu herlyn. Ond roedd y llwyddiant bach hwnnw, yn ei farn ef, yn ddigon o fygythiad i’r drefn gyfansoddiadol nes ei fod wedi dwyn y mater i sylw’r Gwasanaeth Diogelwch (MI5). Credai fod y digwyddiad wedi bod yn anogaeth i’r Blaid i fentro gweithredu’n uniongyrchol ar raddfa llawer mwy uchelgeisiol. Pan dderbyniodd y newyddion o Bwllheli, felly, ni fu’n syndod iddo. Ac fe’i gwelodd fel cyfle i gymryd y camau effeithiol hynny yn erbyn y Blaid Genedlaethol a oedd, yn ei farn ef, yn angenrheidiol.
Y Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus
Tan sefydlu Gwasanaeth Erlyn y Goron yn 1986, syrthiodd y cyfrifoldeb am gynnal erlyniadau yn y llysoedd ar heddluoedd lleol, gan ddefnyddio naill ai eu hadran gyfreithiol eu hunain neu, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, trwy gyflogi cwmnïau o gyfreithwyr preifat. Ond roedd yna swyddfa ganolog arbenigol yn Llundain, un y Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus (neu’r “DPP”), a oedd ar gael i gymryd drosodd erlyniadau cymhleth, sensitif neu arbennig o ddifrifol. Gan ystyried oblygiadau gwleidyddol yr hyn a ddigwyddodd ym Mhenyberth, trefnodd y Prif Gwnstabl i’w swyddogion gysylltu, yn syth, â swyddogion y DPP er mwyn eu rhybuddio ei fod yn bwriadu gofyn iddyn nhw gynnal yr erlyniad ac er mwyn gofyn am eu cyngor am y cyhuddiad priodol i wneud yn erbyn y Tri. Cyngor swyddfa’r DPP oedd y dylai’r heddlu gasglu cymaint o dystiolaeth ag y gallent am y digwyddiad ac i anfon adroddiad llawn atynt mor fuan â phosibl. Dylent gyhuddo’r Tri’n ffurfiol, yn y cyfamser, o drosedd o wneud difrod i eiddo yn groes i adran 51 o Ddeddf Difrod Maleisus 1861, gan esbonio i’r Ynadon lleol, pan ddygwyd y Tri o’u blaen, y byddai cyhuddiadau mwy difrifol yn debyg o ddilyn. Cynrychiolwyd y Tri gerbron Ynadon Pwllheli, y prynhawn hwnnw, gan E. V. Stanley Jones. Gohiriwyd yr achos tan yr wythnos ganlynol a rhyddhawyd y Tri ar fechnïaeth.
Gyrrodd y Prif Gwnstabl ffrwyth ymholiadau’r heddlu, gan gynnwys datganiadau yn disgrifio natur a gwerth y difrod yn fanwl, at swyddfa’r DPP ddau ddiwrnod yn ddiweddarach, gan gadarnhau, ar yr un pryd, ei gais am i’r swyddfa honno gymryd drosodd yr erlyniad. Awgrymai, serch hynny, y byddai’n briodol i’r DPP gyd-weithio gyda chyfreithwyr lleol. Ond rhybuddiodd y DPP yn erbyn gofyn am gymorth oddi wrth y cyfreithwyr hynny a fyddai, fel arfer, yn cynnal erlyniadau ar gyfer yr heddlu yn ardal Llŷn ac Eifionydd, sef cwmni’r Henadur William George, brawd David Lloyd George, y cyn-Brif Weinidog ac Aelod Seneddol Bwrdeistrefi Caernarfon. Rheswm y Prif Gwnstabl am osgoi William George oedd oherwydd, “his sympathies lean towards the Nationalists” – tuedd a amlygwyd, ym marn y Prif Gwnstabl, gan araith a wnaed gan William George mewn cyfarfod o Gyngor Sir Caernarfon ar 8fed o Fedi. Ychwanegodd fod William George hefyd mewn partneriaeth â’i fab, W. R. P. George, un a oedd “one of the four young men who pulled down the Union Jack from the flag pole at Caernarvon Castle on St. David’s Day, 1st March 1932; one of the others was Mr E. V. Stanley Jones, Solicitor, Caernarvon, who acts for the defendants in this case.”
Pwysleisiodd y Prif Gwnstabl, yn ei lythyr at y DPP, ei fod yn gweld yr ymosodiad ar Benyberth fel bygythiad gwirioneddol i gyfraith a threfn. Roedd wedi clywed bod yna tri aelod arall o’r Blaid eisoes wedi’u dewis, pe bai’r Tri yn cael eu hanfon i garchar, i gamu mewn i’w sgidiau ac i ymosod, eto, ar y safle er mwyn atal cwblhau’r Ysgol Fomio.
Roedd tyst ar ran y Weinyddiaeth Awyr wedi asesu cost y difrod i’w heiddo gan y tân (gan gynnwys dinistrio nifer o adeiladau pren) yn £2355 (sy’n cyfateb i tua £120,000 heddiw) ynghyd â difrod pellach gwerth £300 (£15,000) i offer oedd yn eiddo personol i’r gweithwyr. Penderfynodd y DPP, felly, ei fod yn briodol i gyhuddo’r Tri o drosedd ychwanegol, mwy difrifol, sef rhoi ar dân adeiladau a oedd yn perthyn i’r Goron, yn groes i adran 5 o Ddeddf 1861. Ar ôl clywed tystiolaeth yr erlyniad (nas heriwyd gan y diffynyddion) penderfynodd Ynadon Pwllheli, pan ddaeth yr achos o’u blaen unwaith eto ar 16eg o Fedi, i draddodi’r Tri, ar fechnïaeth, i sefyll eu prawf ym Mrawdlys Caernarfon, a oedd i gychwyn ar 13eg Hydref. Roedd cael gosod yr achos gerbron rheithgor yn union yr hyn roedd y Blaid yn dymuno, wrth gwrs.
Paratoi ar gyfer y Brawdlys
Gan edrych ymlaen at y Brawdlys, ysgrifennodd y DPP cynorthwyol, Arthur Sefton Cohen, at Brif Gwnstabl Williams ar 28ain o Fedi i ofyn am wybodaeth benodol. Roedd Mr Sefton Cohen yn amlwg wedi cymryd o ddifri rhybuddion y Prif Gwnstabl fod y drosedd yn rhan o ymgyrch o dor-cyfraith pwrpasol ar ran y Blaid ac wedi sylweddoli y gallai’i haelodau neu’i chefnogwyr cael eu dewis i fod yn aelodau o’r rheithgor a fyddai’n penderfynu’r achos. Holodd a oedd gan y Prif Gwnstabl reswm i gredu na fyddai’r treial yn un teg. Ychwanegodd: “I should also like to know if it is possible for you to obtain a copy of the jury panel before the trial and to let me have it together with your observations upon anyone on the panel so that I may instruct counsel as to whether a challenge should be made to any particular juror.”
Yr arferiad, pryd hynny, oedd i’r Uchel Siryf gyhoeddi, cyn pob Brawdlys, rhestr o ddarpar-reithwyr – y “panel” – y byddai’r rheithwyr ar gyfer pob achos yn cael eu dewis oddi arno. Byddai’r heddlu’n gwirio’r enwau’r panel er mwyn gweld a oedd rhai anghymwys wedi’u cynnwys arno trwy ddamwain neu a oedd arno unrhyw un oedd â chysylltiadau personol gyda diffynnydd neu dyst. Gallai ymyrryd â chyfansoddiad rheithgor ar sail daliadau gwleidyddol rheithwyr fod yn rhywbeth llawer mwy dadleuol, wrth gwrs, pe bai’n dod i’r golwg. Ond roedd y Prif Gwnstabl wedi portreadu’r Blaid fel rhyw fath o gell bach eithafol – dim mwy na “chiwed swnllyd”. Ei gyngor cyffredinol i’r DPP oedd, felly: “There is strong feeling of sympathy for the defendants amongst the Party, comprising mainly of students, school teachers, Non-conformist ministers and a fair number of quarrymen. It is difficult to express an opinion as to whether the trial is likely to be a fair one. As far as I have been able to scrutinise the panel of jury, apart from my remarks thereon, I am of the opinion that the jury will be guided by the evidence.”
Beth felly oedd y sylwadau a wnaeth ar rai darpar-reithwyr unigol? Roedd 56 o ddarpar-reithwyr wedi’u gwysio i ddod i’r Brawdlys ond cafodd tri ohonynt eu hesgusodi oherwydd salwch ac yn y blaen. O’r 53 oedd yn weddill, cynghorodd y Prif Gwnstabl bod pedwar ohonynt yn “sympathiser(s) of the Party” ac un arall yn “An active leader in the Welsh Nationalist Party”. Roedd hynny’n cyfeiriad at yr enw cyntaf ar y rhestr, sef un Willam Ambrose Bebb. Gan fod pawb yn gwybod bod Ambrose Bebb yn un o aelodau amlycaf y Blaid ac wedi cyd-weithio’n agos gyda Lewis Valentine ni fyddai neb wedi synnu i’w weld ef yn cael ei eithrio o’r rheithgor a oedd i wrando’r achos. Ond fel y digwyddodd, ni chafodd ei ddewis ac ni ddewiswyd unrhyw un o’r pedwar arall yr oedd y Prif Gwnstabl yn credu eu bod yn gefnogwyr y Blaid. Ni fu rhaid i’r erlyniad benderfynu, felly, a ddylent eithrio rheithwyr ar sail eu hagweddau gwleidyddol tybiedig.
Brawdlys Caernarfon
Y Barnwr a oedd i ymweld â Chaernarfon yn Hydref 1936 oedd yr Anrhydeddus Syr Wilfred Hubert Poyer Lewis, a aned yn Llundain ond o dras Gymreig. Roedd ei dadcu’n offeiriad o Sir Benfro a gafodd ei ddyrchafu i fod yn Esgob Llandaf ac er bod Mr Ustus Lewis wedi’i addysgu yn Eton a Rhydychen roedd wedi cychwyn ei yrfa fel bargyfreithiwr yng Nghaerdydd ac wedi gwasanaethu mewn catrawd Gymreig yn ystod y Rhyfel Mawr. Doedd ef ddim yn siarad gair o Gymraeg, wrth gwrs, a dyma’r tro cyntaf, ers cael ei benodi’n farnwr y flwyddyn gynt, iddo weinyddu cyfiawnder yng Ngogledd Cymru.
Y sefyllfa gyfreithiol ar y pryd oedd mai yn Saesneg yr oedd yn rhaid cynnal y llys, gan gynnwys cofnodi’r dystiolaeth yn swyddogol. Ond roedd gan y barnwr ddisgresiwn i adael i dyst neu barti siarad Cymraeg pe byddai cyfiawnder yn mynnu hynny, gyda threfniadau ad hoc yn cael eu gwneud i gyfieithu o Gymraeg i Saesneg. Erbyn y 30au, nodwyd tuedd gynyddol ar ran rhai Barnwyr, yn enwedig rhai nad oeddent yn gyfarwydd ag eistedd yng Nghymru, i wrthod caniatáu defnydd o’r Gymraeg gan rai a oedd yn ymddangos eu bod yn medru Saesneg. Nid oedd neb yn gwybod beth fyddai agwedd Mr Ustus Lewis pan fyddai’r Tri, fel yr oedd pawb yn ei ddisgwyl, yn hawlio amddiffyn eu hunain yn Gymraeg.
Strategaeth yr amddiffyniad oedd y byddai baich cyflwyno achos y Tri yn syrthio’n bennaf ar ysgwyddau Saunders Lewis a Lewis Valentine. Penderfynwyd y byddent yn cynrychioli’u hunain, tra byddai D. J. Williams yn cael ei gynrychioli gan fargyfreithiwr 30 oed, yn enedigol o Aberpennar, Herbert Edmund Davies (yr Arglwydd Edmund-Davies wedi hynny).
Cyfyngedig iawn oedd rôl Edmund Davies yn yr achos ond teimlai’r Blaid y byddai’n syniad da i gael rhywun wrth law i gadw golwg ar gwestiynau cyfreithiol a gweithdrefnol – penderfyniad doeth gan fu rhaid i Edmund Davies atgoffa’r barnwr am hawliau diffynyddion i herio rheithwyr. Bu E. V. Stanley Jones, yno, wrth gwrs, a chyflogwyd cyfreithiwr arall, hefyd, i gynorthwyo gyda’r amddiffyniad, sef Mr H. Cornish o gwmni Thompson’s yn Llundain. Talwyd am gynrychiolaeth gyfreithiol y Tri allan o gronfa gyhoeddus arbennig a gasglwyd at y pwrpas. Arweiniwyd yr erlyniad gan W. N. Stable KC, un o hoelion wyth Cylchdaith Gogledd Cymru a Chaer, oedd yn rhannu ei amser rhwng Llundain a Phlas Llwyn Owen, Llanbrynmair.
Yn yr un ffordd ag yr oedd yr erlyniad wedi sganio’r rhestr o ddarpar-reithwyr er mwyn gweld pwy oedd yn debyg o ffafrio’r amddiffyniad, roedd y diffynyddion a’u cynghorwyr wedi bod yn ystyried herio’r rheithwyr a fyddai, yn eu barn hwy, yn lleiaf tebygol o gydymdeimlo gyda’u hachos. Dewisent wneud hynny’n bennaf ar sail cefndir ieithyddol y darpar-reithwyr. Cafwyd gwared ar bump o ddarpar-reithwyr di-Gymraeg, a dewiswyd pump arall i gymryd eu lle, a rheiny i gyd yn Gymry Cymraeg. Cyfeiriodd y Barnwr at y broses hon, sef arfer gan y diffynyddion o hawl ddiymwad oedd ganddynt o dan y gyfraith, fel “ffars”, gan wneud y feirniadaeth honno o ymddygiad yr amddiffyn yng ngŵydd y rheithwyr, wrth gwrs.
Y dystiolaeth
Nid oedd y Tri’n anghytuno gydag unrhyw ran o dystiolaeth yr erlyniad heblaw am hanes y gwyliwr nos, David William Davies, bod dau ddyn (nid oedd ef wedi medru eu hadnabod) wedi ymosod arno, yn ystod y cyrch yn erbyn Penyberth. Roedd y Tri’n gwadu bod unrhyw wirionedd yn hynny ac yn haeru na ddaeth Mr Davies ar gyfyl y safle pan oeddent yno. Er nad oedd unrhyw gyhuddiad o ymosod ar Mr Davies wedi’i wneud yn ffurfiol yn erbyn y Tri, a’r dystiolaeth ar y pwynt felly’n amherthnasol yn dechnegol, doedd dim modd osgoi treulio amser yn gwadu hanes Mr Davies, rhag ofn y byddai’r rheithgor yn credu bod y Tri wedi bod yn dreisgar tuag ato.
Er bod Mr Ustus Lewis wedi bod yn gyndyn, ar y cychwyn, i adael i’r Tri siarad Cymraeg am ei fod yn hyderus eu bod yn rhugl yn Saesneg, roedd, erbyn diwedd tystiolaeth yr erlyniad, wedi cael cyfle i ail-ystyried. Caniataodd i’r Tri, wrth gyflwyno’r amddiffyniad, i wneud hynny yn Gymraeg, gyda’u geiriau’n cael eu cyfieithu, fesul brawddeg, gan Mr Gwilym T. Jones, cyfreithiwr o dan hyfforddiant o Bwllheli (a ddaeth wedi hynny’n Glerc Cyngor Sir Caernarfon ac yn aelod blaenllaw o’r Orsedd). Ond er bod y Barnwr, yn y diwedd, wedi mabwysiadu agwedd mwy cymodlon tuag at ddefnydd o’r Gymraeg, ei elyniaeth gychwynnol, mae’n ymddangos, a arhosodd yng nghof y cyhoedd.
Cyfaddefodd y Tri, wrth gael eu holi, eu bod wedi cynnau’r tân ym Mhenyberth. Ar ddiwedd tystiolaeth y ddwy ochr, nid oedd yna, felly, unrhyw amheuaeth fod y Tri wedi rhoi’r safle ar dân. Nid oeddent yn honni bod ganddynt unrhyw awdurdod cyfreithiol i wneud hynny. Beth, felly, oedd eu hamddiffyniad?
Annerch y Rheithgor
Ar ran D. J. Williams, cyfyngodd Edmund Davies ei hunan at atgoffa’r rheithgor mai nhw, yn y pen draw, oedd â’r hawl i benderfynu a oedd y Tri yn euog neu beidio. Gwnaeth Lewis Valentine anerchiad yn gosod allan y ddadl heddychol yn erbyn yr Ysgol Fomio. Ceisiodd ddarbwyllo’r rheithgor bod y cynllun yn groes i’r ddeddf foesol gan fod bomio o’r awyr yn ddull eithriadol o anwaraidd o ryfela. Dadleuodd y dylid gwahardd yr arferiad trwy gytuniad rhyngwladol yn hytrach na’i hyrwyddo. Gofynnodd i’r rheithgor osod y ddeddf foesol yn uwch na chyfraith Loegr. Seiliwyd dadl Saunders Lewis yn bennaf ar ystyriaethau cenedlaethol, gan bwysleisio amharodrwydd y Llywodraeth i wrando ar wrthwynebiad Cymru, fel cenedl, i brosiect a fyddai’n niweidio Cymreictod ac yn peryglu heddwch. Ategodd galwad Lewis Valentine ar y rheithgor eu cael yn ddieuog, gan osod egwyddorion cenedlaethol a Christnogol uwchlaw cyfraith. Torrodd y Barnwr ar draws anerchiadau Lewis Valentine a Saunders Lewis dro ar ôl tro, gan hawlio bod eu dadleuon yn amherthnasol ac mai dim ond “cyfraith Loegr” oedd yn cyfrif. Gwnaeth yr un pwynt yn ei gyfarwyddiadau i’r rheithgor. Yr unig gwestiwn y dylai’r rheithgor ystyried, yn ôl Mr Ustus Lewis, oedd a oeddent yn sicr bod y Tri wedi rhoi’r safle ar dan, a hynny’n yn groes i gyfraith Loegr.
Mae’n amlwg nad oedd yr erlyniad yn rhagweld unrhyw anhawster i gael dyfarniad o euog oddi wrth y rheithgor. Roedd y Prif Gwnstabl wedi cynghori mai grŵp bach iawn oedd cefnogwyr y Blaid a doedd neb o’r rhai yr oedd ef yn credu eu bod yn cydymdeimlo gyda hi wedi cael eu dewis i fod ar y rheithgor. Roedd yr erlynydd W. N. Stable wedi bod yn holi o gwmpas Cymru am agweddau tuag at y Tri a’i ganfyddiad, a rannodd gyda swyddogion y DPP, oedd bod “Public Opinion is dead against the men, it seems, except for a very small minority.”
Y rheithgor yn methu â chytuno
Ond ar ôl ystyried eu dyfarniad am ddim ond tri-chwarter awr, dychwelodd y rheithwyr i’r llys ac adrodd i’r Barnwyr nad oeddent yn medru cytuno ar ddyfarniad, gyda’r rhaniad yn un mor ddwfn nes y byddai’n ofer i dreulio mwy o amser yn trafod. Gan nad oedd yn bosibl, yn y dyddiau hynny, i reithgor ddod i ddyfarniad ar unrhyw sail ond unfrydedd, bu rhaid i Mr Ustus Lewis ohirio’r achos tan y Brawdlys nesaf, a hynny yn y flwyddyn newydd, a rhyddhau’r Tri, unwaith eto, ar fechnïaeth.
Roedd y dyrfa tu allan i’r llys eisoes wedi bod yn canu Hen Wlad Fy Nhadau, gan amharu, ar adegau, ar drafodion tu mewn ond, wrth iddo ddod yn hysbys nad oedd y rheithgor wedi medru cytuno, torrodd allan y canu’n gryfach byth. Eisoes, roedd copïau o areithiau Saunders Lewis a Lewis Valentine i’r rheithgor, ar ffurf y pamffled “Paham y Llosgasom yr Ysgol Fomio” ar werth ar strydoedd Caernarfon am 3 ceiniog yr un.
Newyddion syfrdanol
Gwelwyd amharodrwydd y rheithgor i gael y Tri yn euog fel buddugoliaeth fawr i’w hachos. Rhagwelai’r Blaid y byddai’r un peth yn cael ei ail-adrodd pan ddeuai’r achos gerbron y Brawdlys nesaf ac na fyddai gan yr erlyniad, yn y pen draw, unrhyw ddewis ond i ollwng y cyhuddiadau yn erbyn y Tri. Dechreuodd y Blaid drefnu cyfarfodydd cyhoeddus ar draws Cymru i’w cefnogi. Ond mewn cyfarfod o Bwyllgor Gwaith y Blaid ar 31ain Hydref cafwyd adroddiad syfrdanol gan J. E. Jones, “(C)awsom neges, a honnai ddyfod o lygad y ffynnon, i’r perwyl bod y Goron yn gwylio’n fanwl y sefyllfa yng Nghymru er mwyn penderfynu a wnâi gais am symud yr achos i Lundain, ac y dylem gadw mor ddistaw â llygod rhag peri bod ei symud. Rhoddodd hyn ni mewn picil. Ni fynnem, trwy roi cyfle i’r wlad ddangos ei brwdfrydedd dros y tri, beri i’r achos fynd i Lundain a pheri i’r tri fynd i garchar. Ar y llaw arall, yr oedd eisiau codi’n gryf yn erbyn yr Ysgol Fomio.”
Nid oedd modd osgoi oblygiadau symud yr achos i Lundain, cam a ganiatawyd, gyda chydsyniad yr Uchel Lys, o dan Ddeddf y Llys Troseddol Canolog 1856. Byddai’r strategaeth o wneud yr achos yn ganolbwynt i’r ymgyrch yng Nghymru yn erbyn yr Ysgol Fomio’n cael ei thanseilio’n ddifrifol ac ni fyddai unrhyw obaith o gael rheithgor yn Llundain a fyddai gwrthod cael y Tri’n euog.
Trafodwyd y cwestiwn o wneud cais i’r Uchel Lys i symud yr achos i Lundain ar 12fed o Dachwedd, gyda’r Twrnai Cyffredinol, Syr Donald Somervell KC, y Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus, Syr Edward Tindal Atkinson a chwnsler yr erlyniad, W. N. Stable KC, oll yn bresennol. Penderfynwyd bwrw ymlaen gyda chais a bu gwrandawiadau o flaen yr Arglwydd Prif Ustus, yr Arglwydd Hewart, Mr Ustus Swift a Mr Ustus McNaghten yn yr Uchel Lys yn Llundain ar ddydd Llun Tachwedd 23ain a dydd Llun 7fed o Ragfyr.
Cynrychiolwyd yr erlyniad gan y Twrnai Cyffredinol ei hun a chymaint oedd pwysigrwydd gwrthsefyll y symudiad ym marn y Blaid nes eu bod wedi sicrhau gwasanaeth un o fargyfreithwyr mwyaf amlwg (a chostus) yr oes, sef Norman Birkett KC, i geisio gwneud hynny.
Norman Birkett KC
Ond ni lwyddodd. Doedd dim amheuaeth fod y Tri wedi llosgi Penyberth yn fwriadol a heb awdurdod cyfreithiol. Roedd y diffynyddion wedi cyfaddef a hyd yn oed wedi ymfalchïo yn y weithred. Roeddent wedi annog y rheithwyr i benderfynu’r achos ar seiliau heblaw egwyddorion y gyfraith. Cynhaliwyd yr achos mewn awyrgylch emosiynol, gyda’r dorf tu allan yn canu Hen Wlad Fy Nhadau mor uchel nes ei fod yn anodd, ar adegau, i glywed yr hyn oedd yn cael ei ddweud tu fewn i’r llys. Roedd anerchiadau dau o’r Tri wedi’u cyhoeddi ac ar werth yn syth ar ôl i’r gwrandawiad ddod i ben. Ac roedd cefnogwyr y Tri wedi bod yn annog unrhyw rai a fyddai’n cael eu dewis, y tro nesaf, i fod yn rheithwyr i ddilyn esiampl y rheithgor gwreiddiol a gwrthod eu cael yn euog. Roedd yna ddigon o dystiolaeth, felly, i gefnogi dadl yr erlyniad y byddai’r rheithgor, pe byddai’r achos yn cael ei glywed unwaith eto yng Nghaernarfon, yn cael eu rhoi o dan bwysau anghyffredin a allai ddylanwadau ar eu penderfyniad. Gan nad oedd yr Uchel Lys yn cydnabod unrhyw egwyddor gyfansoddiadol y dylai Cymry sefyll eu prawf o flaen rheithgor o’u cyd-wladwyr, roedd yn anochel y byddai’r Llys yn cytuno bod amcanion cyfiawnder (y prawf cyfreithiol perthnasol) yn cyfiawnhau symud yr achos i’r Llys Troseddol Canolog, fel oedd Deddf 1856 yn caniatáu.
Adwaith Cymru i’r penderfyniad i symud yr achos i Lundain
Erbyn i’r cais gael ei benderfynu’n derfynol gan yr Uchel Lys roedd eisoes wedi tynnu nyth cacwn ar ben y Llywodraeth. Derbyniodd y papurau newydd bentyrrau o lythyrau yn cyhuddo’r Llywodraeth o danseilio hawliau’r Cymry trwy amddifadu’r Tri o’u hawl i osod eu hachos gerbron rheithgor o’u cyd-wladwyr, yn eu gwlad eu hun ac yn eu hiaith eu hun.
Nid oedd y feirniadaeth o’r penderfyniad i symud yr achos yn gyfyngedig i’r rhai oedd wedi cefnogi gwrthwynebiad y Tri i’r Ysgol Fomio. Roedd yr Aelodau Seneddol Lleol, David Lloyd George a Goronwy Owen wedi cadw eu pennau i lawr yn eithaf llwyddiannus yn ystod yr ymgyrch, gyda Lloyd George, fel y Prif Weinidog a oedd yn gyfrifol am sefydlu’r RAF, yn gyndyn i gondemnio’r egwyddor o wellai’i effeithlonrwydd. Ond cafwyd adwaith deifiol ganddo i’r penderfyniad i symud yr achos i Loegr: “I think this is a piece of unutterable insolence, but very characteristic of the Government. They crumple when tackled by Mussolini and Hitler, but they take it out on the smallest country in the realm…. This is the First Government that has tried Wales at the Old Bailey.” Cododd ton o brotest yn erbyn y bwriad oddi wrth aelodau seneddol Cymreig o bob plaid, a bu rhaid i’r Prif Weinidog, Stanley Baldwin, dderbyn dirprwyaeth a oedd yn cynnwys ffigyrau amlwg fel Goronwy Owen, Gwilym Lloyd George a Clement Davies o’r Rhyddfrydwyr a Robert Richards, Wil John, William Jenkins ac Aneurin Bevan o’r Blaid Lafur. (Roedd Lloyd George ei hun ar ei ffordd i’r Caribi ond anfonodd neges yn cefnogi’r gwrthwynebiad.)
Mewn ateb i gwestiwn Seneddol gan Robert Richards, Aelod Seneddol Llafur Wrecsam, ceisiodd y Twrnai Cyffredinol ymbellhau ei hunan, a’r Llywodraeth, oddi wrth y penderfyniad. “Facts were brought to my notice which, in my view, made it my duty to apply to the Court for the transfer to the Central Criminal Court on the grounds that such transfer, in the wording of the Act of Parliament, was “in the interests of justice””.
Yr Old Bailey
Gan mai ofer byddai ceisio darbwyllo rheithwyr yr Old Bailey o gywirdeb y dadleuon a gyflwynwyd yng Nghaernarfon, ni thrafferthodd y Tri i wneud unrhyw anerchiadau i’r rheithgor ar ddiwedd y dystiolaeth yno a chawsant eu dyfarnu’n euog gan y rheithgor heb iddynt hyd yn oed adael y llys i drafod y mater. Cafwyd ton arall o brotest, gyda’r Athro W. J. Gruffydd, a oedd bellach wedi dod yn un o is-lywyddion y Blaid, yn datgan yn y Western Mail fod y Llywodraeth wedi taro ergyd farwol i’r syniad o gyfiawnder diduedd Seisnig a, thrwy hynny, ddinistrio “the only decency left in the English in the eyes of modern Welshmen.”
Beth oedd tu ôl i’r penderfyniad i symud yr achos i Lundain
Er gwaethaf dadl y Llywodraeth fod symud yr achos i Lundain wedi bod yn anochel er mwyn amddiffyn buddiannau cyfiawnder, y fersiwn o’r penderfyniad sydd wedi’i dderbyn gan y mudiad cenedlaethol a chan lawer eraill yng Nghymru, yw ei fod wedi bod yn gam gormesol gwleidyddol. Credwyd ei fod wedi’i gymryd gan y Llywodraeth yn Llundain er mwyn dial ar bobl Cymru am fod mor rhyfygus ag i herio awdurdod y wladwriaeth. Ond ai dyna’r holl wir? Neu a oes yna un ddehongliad mwy cymhleth ac efallai’n llai cyfforddus i ni’r Cymry.
Ar 25ain o Hydref 1936, deuddeng niwrnod ar ôl y treial cyntaf yng Nghaernarfon, ysgrifennodd y Prif Gwnstabl Edward Williams at y DPP gyda’i sylwadau ar beth oedd wedi digwydd. Gan gofio’i nod o ddefnyddio’r achos i ffrwyno’r Blaid, a’i farn ei bod hi’n ddim byd ond ciwed swnllyd, roedd yr hyn oedd wedi digwydd yn drychineb, a’r peth olaf roedd ef am weld oedd yr un hanes yn cael ei ail-adrodd. I ddangos i’r DPP fod yn rhaid cymryd camau pendant iawn er mwyn osgoi hynny, amgaeodd gopi o’r panel o ddarpar-reithwyr a farciwyd ganddo i ddangos pa reithwyr oedd wedi bod yn barod i gael y Tri yn euog a pha rai oedd ddim – 7 dros euog a 5 yn erbyn (dim un o’r pump, gyda llaw, wedi bod ar restr yr heddlu o gefnogwyr y Blaid).
Dangosai hynny’n glir pa mor rhanedig oedd y rheithgor wedi bod. Nid oedd wedi bod yn fater o un neu ddau o unigolion ystyfnig. Tarddiad ei wybodaeth am drafodaethau’r rheithgor oedd yr hyn a ddisgrifiai fel “discreet enquiries” yn eu plith. Er nad oedd ymholiadau felly’n anghyfreithlon pryd hynny, mae’n debyg na fyddai’r adwaith cyhoeddus i ddiddordeb yr heddlu yn nhrafodion rheithgor wedi bod yn ffafriol, yn enwedig gan gofio oblygiadau gwleidyddol yr achos, sy’n esbonio pam fod yr ymholiadau wedi gorfod bod yn “discreet”. Gwerth nodi bod un o’r rhai a enwyd fel un a wrthododd gael y Tri’n euog oedd fforman y rheithgor, John Harlech Jones o Gricieth. Nid oedd ei agwedd ef wedi bod yn llawer o gyfrinach gan ei fod wedi bod yn chwincio at Lewis Valentine yn ystod y gwrandawiad ac wedi chwilio amdano y noson honno er mwyn cadarnhau ei fod wedi bod ym mhlith ei gefnogwyr.
Yn ogystal â chyfeirio at y rhaniad dwfn yn y rheithgor, pwysleisiodd y Prif Gwnstabl, yn ei ddadansoddiad, yr awyrgylch tu allan a thu fewn i’r llys yn ystod y treial. Roedd torf wedi ymgasglu i gefnogi’r Tri a oedd, yn ôl y Prif Gwnstabl, yn cynnwys “Students from Bangor University, female School Teachers (and) unemployed quarrymen from outside Caernarvon” – y cyfan ohonynt, yn ei farn ef, yn gefnogwyr Plaid Genedlaethol Cymru. Roedd canlyniad yr achos wedi rhoi “a great stimulus to the Party and it is said by them that a similar result will happen again if the defendants appear before a Welsh jury”. Roedd methiant y rheithgor i ddod i benderfyniad, fe gredai, yn “(a) challenge to the Law of England”. Gorffennodd trwy fynegi’r farn “that a fair trial cannot be obtained here and that the trial should take place if possible at the Old Bailey”.
Cyfrifoldeb am symud yr achos
Gwelwn, felly, nad yr erlynydd, na’r Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus na’r Twrnai Cyffredinol a wnaeth yr awgrym gwreiddiol y dylid symud yr achos o Gaernarfon i Lundain ond Prif Gwnstabl Sir Gaernarfon, Edward Williams. Symud yr achos allan o Gymru ac i Lundain oedd rhaid, yn ôl ei farn ef, er mwyn sicrhau “prawf teg” syniad a oedd yn gyfystyr, ym marn y Prif Gwnstabl, ag un a fyddai’n llesteirio datblygiad y Blaid Genedlaethol.
Ac, wrth ystyried ymateb y DPP a’r Twrnai Cyffredinol i’w awgrym, mae’n dod yn amlwg nad oedd y Llywodraeth yn rhannu barn y Prif Gwnstabl na fyddai prawf teg yn bosibl gerbron unrhyw reithgor Cymreig. Cymaint oedd y gwrthwynebiad a gododd yn erbyn y cais i symud yr achos i Lundain fel bod y Twrnai Cyffredinol wedi chwilio am opsiwn arall, gan gyfaddef nad oedd wedi rhagweld y gallai’r syniad o symud achos o Gymru i Loegr fod mor ddadleuol. Ar ddiwedd y gwrandawiad terfynol o flaen yr Arglwydd Prif Ustus, cododd Syr Donald Somervell er mwyn ei wneud yn glir y byddai’r erlyniad yn hollol fodlon pe byddai achos yn cael ei symud nid i’r Old Bailey ond yn hytrach i rywle yng Nghymru heblaw am Gaernarfon. Awgrymodd Caerdydd fel posiblrwydd. Ond erbyn hynny roedd yn rhy hwyr. Fel y nododd yr Arglwydd Hewart, yr unig gais oedd o flaen y Llys oedd i’r achos gael ei symud i Lundain. Gan fod y dystiolaeth yn dangos, yn ei farn ef, y byddai buddiannau cyfiawnder yn cael eu gwarchod yn well yn Llundain nac yng Nghaernarfon nid oedd yn teimlo bod angen iddo ystyried unrhyw ddewis arall.
Mae’n glir, felly, bod yr ysgogiad i symud achos Penyberth o Gaernarfon i Lundain wedi tarddu nid yn San Steffan ond yn swyddfa Edward Williams, Prif Gwnstabl Sir Gaernarfon. Rhaid gofyn sut y gallai rhywun yr oedd ei gyflog yn cael ei dalu gan bobl Sir Gaernarfon yn medru bod mor barod i warafun iddynt yr hawl i weinyddu cyfiawnder yn eu sir eu hunain? Yr ateb, rwy’n credu, yw ei fod wedi gweld ei swyddogaeth fel Prif Gwnstabl nid, yn bennaf, mewn termau gwarchod pobl y sir a’u hawliau ond fel ceidwad “cyfraith Loegr” a’r drefn Brydeinig yn gyffredinol. Yn eironig, effaith ei sêl dros y drefn honno oedd troi achos Penyberth o fod yn fater o ddiddordeb lleol yn bennaf i un a ddwysáodd deimladau gwladgarol o Fôn i Fynwy.
Er bod cryn newid wedi bod yn nhrefniant y llysoedd ers 1936, ac yn eu hagwedd tuag at ddefnydd o’r Gymraeg, mae llysoedd Cymru’n dal yn ddim byd mwy na rhanbarth o rai Lloegr. Erbyn yr etholiad cyffredinol nesaf ar gyfer San Steffan bydd pum mlynedd wedi mynd heibio ers cyhoeddi adroddiad yr Arglwydd Thomas o Gwmgïedd ar “Gyfiawnder yng Nghymru dros Bobl Cymru”. Galwodd hwnnw am drosglwyddo awdurdod dros lysoedd Cymru i Senedd Bae Caerdydd. Dim ond cyflawni hynny bydd yn medru tynnu llinell derfynol o dan yr amharch tuag at drigolion Cymru a amlygwyd yn achos Penyberth.
© Keith Bush, Awst 2023