Yn 79 mlwydd oed, bu farw cyn-arweinydd Plaid Genedlaethol yr Alban Gordon Wilson yn ddiweddar. Bu Gordon yn gyfaill mawr i Gymru. Mae Plaid Cymru’n estyn ein cydymdeimlad i’w weddw Edith a’i deulu, ac i’n cyfeillion yn yr Alban a’r tu draw. Ceir teyrnged yma gan ei gyfaill Dafydd Wigley a weithiodd gydag ef dros ein dwy wlad.
Gordon Wilson, SNP – teyrnged gan Dafydd Wigley
Roedd Gordon yn gyfaill mawr i Gymru ac yn genedlaetholwr i’r carn.
Cofiaf i’r ddau ohonon ni gyfarfod yn ysgol haf Plaid Cymru ym Machynlleth yn 1965 pan fu’n Ysgrifennydd Cenedlaethol yr SNP, a bu’n ymweld â Chymru lawer dro.
Cafodd y ddau ohonon ni ein hethol i San Steffan ym Mis Chwefror 1974 a chydweithio drwy ddyddiau drycin Deddfau Datganoli 1978 a’r Refferenda yn 1979 pan rwystrodd y rheol anghyfiawn 40% yr Alban rhag ennill eu Cynulliad Cenedlaethol, er gwaethaf cefnogaeth y rhan fwyaf o’r bobl yn y wlad honno a bleidleisiodd.
Yn yr etholiad nesaf a ddilynodd gwymp llywodraeth James Callaghan, collodd yr SNP 9 o’u 11 sedd – gyda neb ond Gordon a Donald Stewart ar ôl i gydweithio gyda Dafydd Elis Thomas a minnau.
Aethon ni ymlaen i ddadlau’r achos dros ein dwy genedl, nes i Gordon golli ei sedd yn Dundee yn 1987. Erbyn hynny, roedd Margaret Ewing ac Andrew Welsh wedi adennill eu seddi, a chawson nhw gwmni Alex Salmond, gan arwain at yr ymgyrch a sicrhaodd ein dwy senedd yn y pendraw.
Bu Gordon yn berson allweddol, ar adeg dyngedfennol o dyfiant yr SNP yn blaid seneddol o bwys. Mae ar yr Alban ddyled enfawr iddo ac rydyn ni yng Nghymru yn cofio amdano.