CYMDEITHAS HANES PLAID CYMRU HISTORY SOCIETY
Amcanion y Gymdeithas
I hybu trafodaeth, gwybodaeth ac ymchwil am hanes Plaid Cymru ac agweddau o hanes sy’n ymwneud â Phlaid Cymru.
I ehangu gwybodaeth am bobl a digwyddiadau a gyfrannodd at ddatblygiad y Blaid
Aelodaeth
Mae aelodaeth yn agored i unigolion a mudiadau sydd â diddordeb yn hanes Plaid Cymru ac agweddau o hanes sy’n ymwneud â Phlaid Cymru.
Swyddogion y Gymdeithas
Cadeirydd; Dafydd Williams,Ysgrifennydd; Eluned Bush,Trysorydd; Stephen Thomas
http://www.hanesplaidcymru.org
Mae gwefan Hanes Plaid Cymru bellach yn darparu’r allwedd i gyfoeth o ddeunydd gweledol, sain ac ysgrifenedig am ein mudiad cenedlaethol
- Rydym i gyd yn rhan o hanes y Blaid. Hoffech chwi rannu eich profiadau gydag aelodau eraill a’u cofnodi ar gyfer ymchwilwyr y dyfodol?
Os felly, cysylltwch â’r Ysgrifennydd ar history@hanesplaidcymru.org
- Oes gennych chwi gyhoeddiadau nad ydych yn gallu cadw ond yn eu hystyried o werth?
Mae adran ar wefan y Gymdeithas gyda chyngor ar beth i’w wneud â nhw.
- Hoffech chi ddarllen/gwrando ar rai o’r digwyddiadau mae’r Gymdeithas wedi eu trefnu yn y gorffennol nad oeddech chi’n eu mynychu?
Mae holl ddigwyddiadau’r Gymdeithas yn cael eu cofnodi, eu trawsgrifio a’u cyfieithu a’u cofnodi ar wefan y Gymdeithas
- Hoffech chi fod yn rhan o gynllunio gweithgareddau’r Gymdeithas yn y dyfodol? Bydd canmlwyddiant y Blaid yn 2025, yn amser da i helpu gyda’r gwaith o gofnodi digwyddiadau pwysig yn eich milltir sgwâr.
Os felly, beth am ymuno â’r Gymdeithas am £10 y flwyddyn fel unigolyn, neu £20 yn flynyddol i Ganghennau neu Etholaethau. Cysylltwch gyda’r Trysorydd (stephenv.thomas@btinternet.com ) am sut i dalu.