Marian Morris

Cynghorydd a thân yn ei bol
Bu farw Marian Morris aelod blaenllaw o Blaid Cymru ym Merthyr Tydfil ym mis Rhagfyr 2013.Marian Morris

Bu’n aelod ffyddlon o’r Blaid ers sawl blwyddyn, ac yn aelod o Gyngor Bwrdeistref Sir Merthyr Tydfil yn ystod y cyfnod pan oedd grŵp y Blaid yn llywodraethu dan arweinyddiaeth Emrys Roberts.

Am nifer o flynyddoedd gwasanaethodd ar Bwyllgor Gwaith Cenedlaethol a bu’n Drysorydd Cangen Merthyr.

Yn ei deyrnged iddi ar ran Cangen Merthyr a Rhymni dywedodd Brian Thomas:  “Des i fel sawl aelodau eraill i adnabod Marian gyntaf yn y 1970au pan ddaeth y Blaid yn rym gwleidyddol o bwys yny dref.  Gydag aelodau eraill, fel Emrys, Dafydd Wigley, Gareth a Linda Foster, Gwyn Griffiths (fu er tristwch farw’n ddiweddar) a fy mrawd Geoff, llwyddodd i dorri gafael haearnaidd y Blaid Lafur yn etholiadau’r cyngor ym muddugoliaeth enwog 1979.

Roedd Marian yn ffrind annwyl i ni gyd a chawsom aml i bwyllgor cangen yn ei hystafell flaen gyda sawl cwpanaid o de, coffi a bisgedi.  Gweithiodd yn ddiflino i’w Heglwys leol sef Eglwys Quar yn agos i’w chartref.  Bu hefyd yn aelod o CND am flynyddoedd lawer.

Dylem oll fod yn ddiolchgar i Marian am ei chyfeillgarwch, haelioni ac am ei chariad at Gymru a’r iaith Gymraeg.”

 

Teyrnged Emrys Roberts

Mae gan Margret a minnau atgofion cynnes iawn am Marian o’n hamser ym Merthyr yn y saithdegau. Roedd hi’n fenyw dawel a diymhongar a chanddi gariad mawr at Gymru. Doedd hi byth yn chwilio am na sylw na chlod, ond yn hytrach yn chwilio am waith. Roedd hi’n weithwraig ymarferol benigamp ac yn benderfynol o wthio’r maen i’r wal. Roedd hi’n f’atgoffa yn aml am stori’r crwban chwedlonol a enillodd y ras yn erbyn yr ysgyfarnog.

Pan ddaeth Margret a minnau i Ferthyr, cawsom groeso mawr gan bawb (wel, nid pawb o’r cynghorwyr Llafur efallai!) a phawb yn addo pob math o gymorth inni. Ac fe gafodd y Blaid gymorth mawr gan nifer sylweddol o bobl. Ond, ysywaeth, yn y byd sydd ohoni nid pawb sy’n ei chael hi’n hawdd cadw eu haddewidion. Nid felly Marian. Os oedd Marian yn rhoi ei gair, roedd Marian yn gwireddu ei gair, ac yn cyflawni llawer mwy nag a addawyd.

Er yn dawel, roedd gan Marian haearn yn ei gwythiennau – yn ffyddlon, yn weithgar ac yn llawn dyfalbarhad. Diolch Marian am y rhinweddau hynny.

Mawr yw’n dyled i Marian
A haearn yn ei hanian;
Diflino dyfalbarhad
Er mwyn gweld rhyddid i’w gwlad.