Refferendwm yr Alban

Ymhlith y Cymry a deithiodd i helpu’r ymgyrch dros annibyniaeth i’r Alban roedd Gwerfyl Hughes Jones, Llanuwchllyn a dau o Abertawe, Mari Evans a Dafydd Williams.聽 Dyma gofnod answyddogol o’u hwythnos yn yr ‘Hen Ogledd’.

Dydd Llun 15 Medi 2014

‘Pob lwc’.聽 Dyna’r ffarwel calonogol gawson ni wrth ymadael 芒’r Bala ar ein ffordd i’r Alban ychydig o ddyddiau cyn y refferendwm annibyniaeth, y tro cyntaf ers canrif i un o’r cenhedloedd Celtaidd herio grym y wladwriaeth Brydeinig.

Siomi ar yr ochr orau ychydig ar 么l croesi ffin yr Alban ar 么l clywed bod ardaloedd fel Dumfries a’r gororau yn llugoer.聽 Roedd cynifer o bosteri o blaid annibyniaeth i’w gweld ar hyd y ffordd ag yr oedd yn erbyn, ac roedd fel pe bai’r tymheredd yn codi wrth i ni deithio drwy niwl yr hydref i’r gogledd i dref fach Balerno ar gyrion Caeredin a chartref ein ffrind Morag Dunbar, cantores werin o fri sy’n gyfarwydd iawn 芒 Chymru.

2014m09Yes Nicola Alex

Dydd Mawrth 16 Medi

Swyddfa Gordon MacDonald, aelod SNP o Senedd yr Alban oedd pencadlys yr ymgyrch Yes Scotland yn etholaeth Pentlands, Caeredin, a dyna’r lle aethon ni i weithio.聽 Roedd y drefn yn eithriadol – gwaith yn barod i’r dwsinau o wirfoddolwyr fyddai’n troi lan a chroeso cynnes iawn gan Gordon a’i gydweithwyr i’r Cymry.聽 Bron iawn fel yr awyrgylch yn is-etholiad Caerffili yn 么l yn y chwedegau – ond roedd rhywbeth tebyg ar led drwy’r Alban benbaladr.

Cyn hir roedden ni wrthi’n dosbarthu yn Saughton, ardal dosbarth gweithiol yng Nghaeredin – taflen fach bwrpasol yn crynhoi prif negeseuon yr ymgyrch ynghyd 芒 phoster coch trawiadol yn annog pobl i bleidleisio Yes a rhoi diwedd am byth ar lywodraeth Dor茂aidd!聽 A’r teimlad oedd bod pobl yn gwrando ar y neges a’i thrafod, mewn ardal fyddai’n cael ei hystyried yn gadarnle i’r Blaid Lafur tan ychydig o flynyddoedd yn 么l.

Saib am fwyd yn y Sainsbury lleol, a’r dyn ifanc yn gweini tu 么l i’r cownter yn falch o weld ein bathodynnau – fe a’i ffrindiau’n gefnogol i’r ochr Yes, meddai.聽 Yn 么l wedyn i ymgyrchu mewn ardal gyfagos, Stenhouse, ac ymdopi ac ambell i denement lle oedd rhaid perswadio un o’r trigolion i agor y drws i ni ledaenu’r newydd da!

Yna dal y bws 44 i ganol Caeredin i gwrdd 芒 Neasa, menyw ifanc o Swydd Kerry yn Iwerddon sy’n byw yn y ddinas, a hynny yn y Cafe Royale, sydd er gwaetha’r enw yn dafarn arbennig sy’n ymffrostio yn ei chwrw traddodiadol.聽 Ac roedd bwrlwm y refferendwm yno hefyd.聽 Dyma Donny wrth y bar yn s么n am rai o’r Cymry oedd wedi helpu’r ymgyrch o blaid annibyniaeth, gan gynnwys un criw oedd yn gwersylla, wyrion Gwynfor Evans yn eu plith.

2014m09Yes Placard

Dydd Mercher 17 Medi

Nid pawb oedd o blaid wrth reswm.聽 Yn ymgyrchu yn ardal Broomhouse fe gwrddon ni 芒 menyw 92 mlwydd oed oedd yn pleidleisio ‘Nae!’, a’i fflat yn blaster o bosteri’r ymgyrch No.聽 Er hynny, yn Broomhouse hefyd roedd y gefnogaeth i’r ochr Yes yn ddigon amlwg.聽 Fel arall oedd y wasg fodd bynnag.聽 Y diwrnod cyn y refferendwm roedd y papurau tabloid yn ffyrnig yn erbyn, heb unrhyw ymgais i roi lle i’r ddwy ochr.聽 A hyn yn adlewyrchu natur yr ornest, gyda’r Sefydliad i gyd yn taflu popeth oedd gyda nhw i rwystro’r Alban rhag symud ymlaen – barwniaid y wasg yn ymuno 芒 mawrion gwleidyddol San Steffan, bancwyr, a rhai o benaethiaid cwmn茂au mawrion i greu ofnau.

Yn y prynhawn aeth Colin 芒 ni draw i’r Oxgang Road i ddosbarthu sticeri munud olaf i draffig oedd yn aros wrth oleuadau dros dro – nid y dull hyfrytaf o ledaenu’r gair.聽 Hawdd canfod y gwahaniaeth rhwng pobl y ceir moethus 芒’r lleill; y mwyaf cysurus eu byd yn tueddu gwrthod yn swta, gydag ambell eithriad, pobl gyffredin yn barotach i dderbyn y posteri glas Yes gyda gras.聽 Ond roedd y llif o bobl ifainc a gerddai adref o’r ysgol ar 么l pedwar o’r gloch y prynhawn yn ochri’n gryf 芒’r achos cenedlaethol – a rhai ohonyn nhw dros 16 oed yn gallu pleidleisio’r trannoeth.聽 Dyna stori fawr y refferendwm, mae’n si诺r – gwrthwynebiad ofnus yr henoed yn erbyn gobaith herfeiddiol yr ifainc am ddyfodol gwell.聽 Un arolwg ar ddiwrnod y pleidleisio yn darganfod bod mwyafrif pobl dan 55 oed wedi pleidleisio Ie.

2014m09Yes Cerbyd Ymgyrchb

 

Dydd Iau 18 Medi

Y diwrnod tyngedfennol wedi gwawrio.聽 Roedd pecyn sylweddol o gardiau atgoffa pobl eisoes yn y car a bant 芒 ni i ardal Wester Hailes i’w dosbarthu.聽 Ardal i’w chymharu 芒 Threl谩i yng Nghaerdydd, medd rhai, ond ein strydoedd ni yn ddymunol iawn.聽 Roedd plant adref o’r ysgol wrth gwrs ar ddiwrnod y pleidleisio, ac wrth deithio’r strydoedd dyma gwrdd 芒 geneth ifanc a’i brawd yn cynnal eu harolwg eu hun o ffordd oedd y gwynt yn chwythu, drwy edrych ar bosteri mewn ffenestri a gofyn ambell i gwestiwn wrth bawb oedd yn pasio – a 22-1 o blaid Yes oedd y canlyniad (gan gynnwys tri o Gymru wrth gwrs!).

Wrth i ni ddod at ddiwedd y gwaith, pwy ddaeth rownd y cornel ond dau wyneb adnadbyddus, Lis ac Emyr Puw o Lanuwchllyn, wedi’u hanfon ar yr un dasg!聽 A dyna geisio cyfrif faint o Gymry oedd wedi gweithio yn y refferendwm o blaid rhyddid, ugeiniau os nad cannoedd mae rhaid, yn gwrthbwyso lleisiau negyddol gwleidyddion Llafur.

Wedyn roedd rhaid troi am ganol Caeredin i brofi tipyn o wefr yr ymgyrch.聽 Yn sgw芒r Charlotte ble gawson ni hyd i le parcio, yn ogystal 芒’r posteri Ie bu sawl Jac yr Undeb i’w gweld, prawf bod nifer yn y sector bancio a phroffesiynol yn erbyn annibyniaeth i’w gwlad.聽 Ond lawr o flaen adeilad trawiadol Senedd yr Alban yr ymgyrch o blaid oedd i’w gweld ymhobman, yn dorf liwgar o bosteri glas a baneri’r Alban ac ambell i gerbyd corn siarad yn gyrru heibio i gynhyrfu pethau.聽 Ac yn siambr y Senedd ei hun, sgwrs 芒 dyn ifanc oedd yn gweithio yn y diwydiant olew ac yn hanu o ardal Gellifedw, Abertawe: fe soniodd am ffrind oedd wedi mynd i bleidleisio Na ond yn bennu drwy fwrw pleidlais o blaid.

Y noson honno yn y Filltir Frenhinol, cwrddon ni 芒 nifer o bobl ifanc聽 o Gatalunya a Gwlad y Basg, draw ar eu gwyliau i gymryd rhan mewn digwyddiad hanesyddol a’u canu a dawnsio’n ychwanegu at yr hwyl a’r teimlad bod rhywbeth gwirioneddol fawr ar fin digwydd.聽 Bu tipyn o ddadl gyda mintai o’r grwp Better Together y tu allan i orsaf bleidleisio – a hwythau o blaid taflegrau Trident, go brin y byddwn ni’n dod i ryw gonsensws!

2014m09Yes Campaign tricycle

Dydd Gwener 19 Medi

Wedyn yn 么l i Balerno i aros am y canlyniad.聽 Am y tro cyntaf, roeddwn i’n dechrau gobeithio y gallai’r ymgyrch o blaid ennill y dydd, er cymaint i’r pen ddal i ddweud fel arall.聽 Siom felly oedd gweld y cyngor cyntaf i ddatgan, Clackmannan, fynd i’r ochr No ac i’r gobaith am chwyldro bylu.聽 Ychydig o gwsg cyn gweld ardal Fife yn cadarnhau y byddai rhaid i’r Alban aros rhai blynyddoedd o leiaf cyn ymuno 芒’r byd.聽 Braidd yn drist oedd cerdded strydoedd Caeredin i lawr i’r Senedd unwaith yn rhagor, a’r tywydd tarthog yn drych o’n teimladau.聽 Taro ar draws yr Athro Richard Wyn Jones ar y Filltir Frenhinol, a’i ddadansoddiad ef yn gryno fel arfer.聽 Wedyn ymlwybro i’r Senedd a gweld ambell i Ddraig Goch yn y dorf, oedd dipyn yn fwy tawedog na’r diwrnod cynt.聽 Ddiwedd y prynhawn, ergyd arall o glywed drwy neges destun bod arweinydd yr SNP Alex Salmond yn ymddiswyddo ac yntau gymaint o arwr drwy’r gwledydd Celtaidd.

Ond ar y daith yn 么l i Gymru’r noson honno, roedden ni’n dal i deimlo’r cyffro o fod mewn brwydr wirioneddol hanesyddol am enaid chwaer-genedl.聽 Gyda’r genhadlaeth iau o blaid, does dim amheuaeth gen i y bydd yr Alban yn cerdded ymlaen i annibyniaeth.聽 Os collwyd y frwydr hon, mae’r freuddwyd yn dal yn fyw.

Dafydd Williams