Roedd Rhys Lewis (1937-2020) yn un o hoelion wyth Plaid Cymru yng Nghanol Caerdydd am flynyddoedd lawer. Yn ffigwr holl-bresennol yng nghyfarfodydd y Blaid, roedd ei ymroddiad, ei ddoethineb a’i sgiliau trefnu yn ysbrydoliaeth cyson i’r holl Aelodau.
Fe’i ganwyd ym Machynlleth, ond ymsefydlodd ei deulu yng Nghaerdydd pan oedd Rhys ond yn blentyn 1 oed, ac yn ddi-os roedd e’n falch o fod yn fachgen o’r Ddinas. Er oedd Cymraeg yn ei deulu, collwyd hynny i raddau helaeth wrth iddynt ymgartrefu yn y ddinas, a phriodolodd Rhys ei feistrolaeth o’r Gymraeg i’w addysg ac i athro ysbrydoledig yn Ysgol Cathays.
Cafodd yrfa lwyddiannus fel newyddiadurwr o fewn BBC Cymru a chwmnïau darlledu annibynnol, gan borthi ei ddiddordeb mewn materion cyfoes yng Nghymru. Roedd y swyddi hynny yn cyfyngu ar y ffyrdd y gallai gyfrannu at waith Plaid wleidyddol, ond gwnaeth yn iawn am hynny ar ôl ymddeol, pan fachodd ar y cyfle i weithio’n llawn amser gyda’i gyfaill gydol oes, Owen John Thomas yn ystod dau dymor cyntaf y Cynulliad (1999 – 2007). Fel garddwr brwd roedd wedi arfer â meithrin planhigion ac ar adeg pan nad oedd y ddeddfwrfa newydd yn cael ei derbyn gan nifer, gweithiodd Rhys yn ddiflino i ddangos perthnasedd y Cynulliad i bobl Caerdydd. Yr oedd yn berson gofalgar a bu’n helpu llawer o aelodau’r Blaid a’u teuluoedd trwy gyfnodau anodd.
Roedd Rhys yn ymfalchïo yn ei hoffter o faterion Ffrengig. Roedd wrth ei fodd yn treulio amser yn Ffrainc a doedd e byth yn colli cyfle i ddefnyddio ei Ffrangeg. Yr oedd yn gredwr cadarn yng Nghymru fel cenedl Ewropeaidd, ac yr oedd canlyniad y refferendwm Ewropeaidd yn peri loes iddo.
Roedd afiechyd diweddar wedi cyfyngu ar ei allu i ganfasio a dosbarthu taflenni, ond doedd hynny ddim yn ei rwystro rhag cyfrannu at ymgyrchoedd Plaid Cymru mewn ffyrdd eraill– trwy drefnu, trwy gysylltu â chefnogwyr, trwy ei hiwmor, a thrwy rannu ei syniadau gwleidyddol.
Tra yn yr ysbyty am gyflwr arall cafodd Covid-19 afael arno, a bu farw ar Ebrill 12fed. Estynnwn ein cydymdeimlad dwys i’w wraig Sue, ei blant Geraint, Menna a Non a’i wyrion Gwen, Sophie, Alice, Nel a Cesia. Roedd Rhys yn mwynhau gwin da ac rwy’n siŵr y bydd llawer ohonom yn codi gwydraid er cof am ŵr bonheddig a gwir gwladgarwr Cymreig.
Marc Phillips