Saunders Lewis, Cymru ac Ewrop gan Dafydd Wigley

Bydd y tair blynedd nesaf yn allweddol wrth ddatblygu model o annibyniaeth i Gymru sy’n berthnasol i’r byd sydd ohoni.  Yn sgil Brexit, mae angen i Gymru warchod ein cysylltiad â chyfandir Ewrop – tarddle ein gwerthoedd a’n gwareiddiad, ac yn gyd-destun i annibyniaeth ymarferol i’n gwlad. 

Bron canrif yn ôl amlinellodd Saunders Lewis weledigaeth o Gymru yn Ewrop.  Mae Cymdeithas Hanes Plaid Cymru’n falch o gyhoeddi’n llawn y ddarlith bwysig gan Dafydd Wigley a draddododd yn ystod Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd ym Mis Awst 2023 – sy’n dangos bod y weledigaeth honno’n fwy perthnasol heddiw nag erioed o’r blaen.  

Saunders Lewis,
Cymru ac Ewrop

[Er cof am Emrys Bennett Owen, a agorodd fy llygaid i weledigaeth SL]

A gaf i ddiolch i’r Eisteddfod am y llwyfan yma i ail-wyntyllu syniadau sy’n hynod berthnasol i’r oes hon; ac i ddiolch i Brifysgol Abertawe am fy ngwadd i draddodi darlith ar y testun “Saunders Lewis, Cymru ac Ewrop”. A heddiw, priodol yw cofio mai ym Mhwllheli, adeg Steddfod 1925 y daeth Saunders Lewis a phump arall ynghyd i sefydlu Plaid Genedlaethol Cymru.

Ga’i gydnabod fy niolch i Gymdeithas Hanes Uwch-Gwyrfai, am y cyfle i draddodi’r fersiwn cyntaf o’r ddarlith hon; gan dalu teyrnged i’r gwaith ardderchog mae Geraint Jones, Marian Elias, Gina Gwyrfai a Dawi Griffith yn ei gyflawni. A llongyfarchiadau i Geraint am gael ei anrhydeddu efo medal T.H. Parry Williams; a hynny’n gwbl haeddiannol.

Cyflwynwyd darlith arall i’r Gymdeithas fis Ionawr y llynedd, gan Ieuan Wyn, dan y teitl “Darlith Saunders a’i dylanwad”, sydd ar gael fel pamffledyn – yn ymwneud yn bennaf a dylanwad darlith radio Saunders Lewis, Tynged yr Iaith.

Y bore ma, dwi am drafod darlith arall gan Saunders Lewis, sef yr un wefreiddiol ym Machynlleth ym 1926, dan y teitl Egwyddorion Cenedlaetholdeb. I rai ohonoch, ni fydd yr hyn sydd gennyf dan sylw yn newydd, nac yn wreiddiol; wedi r cyfan, gwleidydd ydw’i, nid llenor nac hanesydd. Ond dwi’n teimlo’n angerddol fod gweledigaeth Saunders Lewis, wrth iddo ddehongli Cymru yng nghyd-destun Ewrop, yn gwbl sylfaenol i’r prosiect cyfoes o gael Cymru annibynnol; a dwi eisiau helpu’r to ifanc i werthfawrogi arweiniad Saunders Lewis, ganrif yn ôl.

Bydd y tair blynedd nesaf, o bontio canmlwyddiant y ddarlith, yn allweddol bwysig, wrth fireinio model o annibyniaeth sy’n berthnasol i’r oes hon.

Yn arbennig felly, o feddwl – fel sydd raid yn sgil Brexit – sut all Gymru ddiogelu ei chysylltiad hanfodol a chyfandir Ewrop, ffynhonnell ein gwerthoedd a’n gwareiddiad a chyd-destun anhepgor annibyniaeth ymarferol.

Cofiwn hefyd y bu Saunders yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Abertawe rhwng 1921 a 1936, – cyn iddo dalu pris am weithredu yn ôl ei gydwybod ym Medi, 1935 pan losgwyd yr Ysgol Fomio, cwta dair milltir oddiyma. Mae’n dda fod y Brifysgol, bellach, yn arddel ei chysylltiad â’r gwron hwn, yng ngeiriau Williams Parry, “y dysgedicaf yn ein mysg”. A diolch i’r Athro Daniel Williams am y Seminar a drefnodd ym 2011 adeg 75 mlwyddiant y diswyddo.

Da, hefyd nodi sut, yn gynharach eleni, bu rali anferthol dros Annibyniaeth yn Abertawe, gyda chwe mil yn gorymdeithio – hyn pan mae’r syniad o annibyniaeth wedi ennyn diddordeb dros draean o bobl Cymru.

Mae’n addas, felly, i ni ystyried drachefn gweledigaeth Saunders Lewis. Nid oes raid i ni oll gytuno â phob gair o’i enau; ac mae’n rhaid cofio mai lle gwahanol iawn oedd Cymru 1926 i’r wlad sydd gennym heddiw. Nid oeddem yn bodoli yn wleidyddol yn ôl mynegai’r Encyclopaedia Britannica, gyda’u gosodiad haerllug – “For Wales: see England”.

Doedd dim Senedd, dim Ysgrifennydd Gwladol, a dim statws i’r iaith Gymraeg. Dyna oedd y cefndir i syniadau chwyldroadol Saunders, yn sgil y rhyfel mwyaf gwaedlyd a welodd y byd erioed; rhyfel ble cafodd yntau ei glwyfo fel milwr yn ffosydd Ffrainc; rhyfel oedd, mewn enw, er mwyn gwarchod y gwledydd bychain – ond doedd Cymru, ysywaeth, ddim yn eu plith.

Ac wele, wedi pedair canrif o waseidd-dra, y dyn bach, eiddil hwn yn mentro herio’r cyfan, gan osod Cymru yn rhan annatod o gyfandir Ewrop, nid iard gefn ymerodraeth haerllug a hunan-foddhaus.  Ni fyddai’r Gymru sydd gennym heddiw yn bodoli heb weledigaeth Saunders Lewis: ni allwn ei ddiystyru.

Mae hyn yn amlwg o lyfrau diweddar, megis cyfrol yr Athro Richard Wyn Jones, sydd yn chwalu’r cyhuddiadau cwbl ddi-sail, o dueddiadau ffasgaidd gan Saunders a Phlaid Cymru. Ac mae’r Athro M Wynn Thomas, Abertawe, yn ei gyfrol Eutopia, yn ategu hyn, wrth bwyso a mesur gweledigaeth Saunders Lewis. Mae’n ei feirniadu, mewn modd gwrthrychol; ond yn cydnabod fod ei weledigaeth yn parhau fel “Ymdrech difyr a dewr, ac yn feddyliol dreiddgar, i ffurfio dadansoddiad unigryw Cymreig o faterion Ewropeaidd”. Priodol, felly, cael llwyfan iddo yn y Brifwyl hon, i gofio pwysigrwydd parhaol ei weledigaeth Ewropeaidd.

                                                            *****

Dros y canrifoedd, trwy ddyddiau Owain Lawgoch, Owain Glyndŵr, Gruffydd Robert, Richard Price, Emrys ap Iwan a Henry Richard, bu ein cysylltiad ag Ewrop yn elfen allweddol o’n hunaniaeth fel cenedl. A heddiw, wrth feddwl am arwyddocâd y dimensiwn Ewropeaidd i Gymru mae’n amhosib gwneud hynny heb ystyried y safbwynt a gyflwynwyd i Blaid Cymru yn ei dyddiau cynnar gan ei Llywydd.

Yn y cyfnod ar ôl yr ail ryfel byd, bu tuedd i fychanu a difrïo ei weledigaeth wleidyddol, a’i ddaliadau; yn rhannol gan elynion gwleidyddol Plaid Cymru; ac yn rhannol, ar sail honiad fod ei weledigaeth a’i werthoedd yn berthnasol i amgylchiadau oes arall – oes oedd â gwerthoedd tra gwahanol i’n hoes ni. Fe geisiaf ateb y math gyhuddiadau.

Enw yn unig oedd Saunders Lewis i mi, cyn digwydd i mi droi mlaen y radio yn Chwefror 1962. Roedd y rhaglen eisoes wedi dechrau, a minnau felly dim callach pwy oedd yn siarad. Cefais fy swyno gan y llais tenau, anghyfarwydd, oedd yn deud pethau mawr; pethau na fyddech yn eu cael ar y BBC!

Pwy oedd o a beth oedd y cyd-destun? Ie, darlith “Tynged yr Iaith” – a minnau’n gwbl ddamweiniol yn gwrando’n gegrwth yn f’ystafell wely ym Mhrifysgol Manceinion.

Cefais gyfarfod Saunders Lewis dair gwaith yn unig – y tro cyntaf adeg refferendwm 1975 ar aelodaeth Prydain o Farchnad Gyffredin Ewrop. Es i’w gartref ym Mhenarth i chwilio am gysur pan oedd Plaid Cymru – i mi yn gwbl anhygoel – yn ymgyrchu yn erbyn aelodaeth. Roedd yntau, fel minnau, yn methu â chredu fod y Blaid mor gibddall.

Degawd yn ddiweddarach, cefais y fraint annisgwyl o gludo’i arch, gorchwyl ar y cyd efo Meredydd Evans, Geraint Gruffydd a Dafydd Iwan. Credaf i mi gael y fraint – oherwydd bod dimensiwn Ewrop yn ganolog i’m gwleidyddiaeth, fel iddo ef; a minnau wedi’m swyno gan ei weledigaeth o briod le Cymru – a’r dreftadaeth Gymreig – o fewn prif lif diwylliant Ewrop.

                                                            ****

Ganwyd Saunders Lewis ym 1893 yn Wallasey, ger Lerpwl, yn fab i Weinidog Methodist. Wn i ddim ba oed oedd o yn dechrau ymddiddori yn niwylliant ein cyfandir, ond erbyn 1912 roedd yn astudio’r Ffrangeg ym Mhrifysgol Lerpwl; a daeth hynny’n fanteisiol iddo ar ôl iddo, fel cymaint o’i gyd-fyfyrwyr, listio yn y fyddin yn 1914.

Saunders Lewis,
ar adeg Rhyfel y Byd Cyntaf,
yn swyddog iau yn y fyddin

Erbyn 1916 roedd yn disgrifio ei fywyd yn ymladd yn y ffosydd, ond yn byw – wedi ei bilitio – mewn pentref Ffrengig bymtheg milltir tu cefn i faes y gad. Mewn llythyrau at ei gariad, Margaret Gilcriest, disgrifiodd y gwmnïaeth a gafodd drwy gymdeithasu â thrigolion Ffrengig y fro; a disgrifio hynny fel profiad llawer mwy derbyniol na chwmnïaeth macho-gwrywaidd ei gyd-filwyr. Ysgrifennodd (dwi’n ei gyfieithu) “Mae pobl Ffrainc yn hyfryd; Maent mor agored a hoffaf yr agosatrwydd sy’n nodweddu eu bywydau”; ac roedd hyn mewn gwrthgyferbyniad llwyr â’r gwmnïaeth a geid yn y ffosydd.

Dywed fod dychwelyd i’r ffrynt-lein fel mynd i wlad arall – yn gorfod dychwelyd i ganol Seisnigrwydd; y rhegfeydd Saesneg a holl agweddau John Bull, “ei ffordd o fwyta ac yfed, a’r modd y mae’n gorfod ymdrechu’n galed i ymddwyn yn hanner bonheddig, tra mae o reddf, mwy fel hanner tarw.”

Byddai cael cwmni’r Ffrancwyr llon, agored a difalais yn wrthgyferbyniad llwyr â bywyd yn y ffosydd ble roedd yn gorfod byw’r hyn mae’n disgrifio fel “the boorish life of an English Squire”.

Ni all fod unrhyw amheuaeth fod y profiadau hyn wedi cadarnhau ei deimlad fod gan y Cymry llawer mwy yn gyffredin a’u cefndryd ar y cyfandir nag oedd gyda gwerthoedd ac agweddau rhelyw bobl Lloegr.

******

Roedd Saunders Lewis, o’i ddyddiau cynnar fel arweinydd y Blaid Genedlaethol, yn gosod ei ddaliadau gwleidyddol yng nghyd-destun Ewrop. Gwnaed hyn yn fwyaf eglur yn ei ddarlith fawr, yn Ysgol Haf gyntaf Plaid Cymru ym Machynlleth ym 1926.

Ysgol Haf Machynlleth 1926

 Yn y ddarlith, “Egwyddorion Cenedlaetholdeb” – a dwi am ddyfynnu talp sylweddol wrth geisio ei hail-gyflwyno i genhedlaeth newydd – dywed SL fel a ganlyn – :

Yn yr oesoedd canol yn Ewrop, nid oedd unrhyw wlad yn……. hawlio mai ei llywodraeth hi, o fewn ei therfynau ei hun, oedd yn ben ac yn unig awdurdod. Fe gydnabyddai pob cenedl a phob brenin bod awdurdod uwch nag awdurdod gwlad, bod deddf goruwch deddf y brenin, a bod llys y gellid apelio ati oddiwrth pob llys gwladol.

 Yr Awdurdod hwnnw oedd yr awdurdod moesol, awdurdod Cristnogaeth. Yr Eglwys Gristnogol oedd pennaeth Ewrop a deddf yr eglwys oedd yr unig ddeddf derfynol.

Yr oedd Ewrop, am dro, yn un, pob rhan ohoni’n cydnabod ei dibyniad, pob gwlad yn cydnabod nad oedd hi’n rhydd na chanddi hawl o gwbl i’w llywodraethu ei hun fel y mynnai, a heb falio am wledydd eraill. Ac unoliaeth Ewrop yn y cyfnod hwnnw, ei hunoliaeth mewn egwyddor foesol a than un ddeddf, oedd diogelwch diwylliant pob gwlad a bro.

“Canys un o syniadau dyfnaf yr Oesoedd canol, syniad a etifeddodd Cristnogaeth oddiwrth y Groegiaid, oedd y syniad bod unoliaeth yn cynnwys lluosogrwydd. Un ddeddf ac un gwareiddiad a oedd drwy Ewrop ond yr oedd i’r ddeddf honno a’r gwareiddiad hwnnw, wahanol ffurfiau a llawer lliw.

“Oblegid bod un ddeddf ac un awdurdod drwy Ewrop, yr oedd y gwareiddiad Cymreig yn ddiogel, a’r iaith Gymraeg a’r dulliau neilltuol Cymreig mewn cymdeithas a bywyd. Nid oedd y syniad am annibyniaeth yn bod yn Ewrop, na’r syniad am genedlaetholdeb. Ac felly ni feddylid bod gwareiddiad un rhan yn berygl i wareiddiad rhan arall, nac ieithoedd lawer yn elyn i unoliaeth.”

Aiff ymlaen i ofyn:

“Beth gan hynny, yw ein cenedlaetholdeb ni? Hyn:……gwadu lles unffurfiaeth wleidyddol, a dangos ei heffeithiau drwg; dadlau felly dros egwyddor unoliaeth ac amrywiaeth. Nid brwydro dros annibyniaeth Cymru ond dros wareiddiad Cymru. Hawlio rhyddid i Gymru, nid annibyniaeth iddi. [Dof nol at hynny yn y man!] A hawlio iddi le yn Seiat y Cenhedloedd ac yn seiat Ewrop yn rhinwedd gwerth ei gwareiddiad……. Fe ddaw Ewrop i’w lle eto pan gydnabyddo’r gwledydd eu bod oll yn ddeiliaid ac yn ddibynnol ……Mynnwn felly, nid annibyniaeth, eithr rhyddid. Ac ystyr rhyddid yn y mater hwn yw cyfrifoldeb. Yr ydym ni sy’n Gymry, yn hawlio ein bod yn gyfrifol am wareiddiad a dulliau bywyd cymdeithasol yn ein rhan ni o Ewrop. Dyna uchelfryd politicaidd y Blaid Genedlaethol.”

Dwi ddim am hollti blew ynglŷn â’r gair “annibyniaeth”. Mae’n gallu golygu cymaint o amrywiol bethau i wahanol bobl. Ystyr annibyniaeth i UKIP oedd gadael Undeb Ewrop; ei ystyr i’r SNP ydi cael ymuno â’r Undeb Ewropeaidd.

Saunders Lewis,
Llywydd Plaid Cymru o 1926 i 1939

Dywedodd Saunders ei hun yn ei araith yn Ysgol Haf Llanwrtyd, 1930: “Fe awn i’r Senedd …i ddatguddio i Gymru sut y mae’n rhaid gweithredu er mwyn ennill Annibyniaeth.” [DG Medi 1930]. Os ydi’r mwyaf oll yn cymysgu ei ieithwedd, pwy ydym ni i hollti blew! Y syniadaeth fawr sy’n bwysig; ac yn hyn o beth, ‘doedd dim dryswch, dim amheuaeth, ble saif Saunders Lewis.

“Hawlio i Gymru “ei lle yn seiat Ewrop yn rhinwedd gwerth ei gwareiddiad.”

Does gennyf ddim amser bore ‘ma i ddilyn y sgwarnog deniadol, sef i ofyn “Beth, heddiw, yw gwerth ein gwareiddiad yn y Gymru sydd ohoni?” Mae amryw byd yn fwy cymwys na minnau i ddadansoddi hynny. Ewch ati!

Ond tybiaf ei bod yn hanfodol i ni arddel annibyniaeth i bwrpas; ac mai’r pwrpas hwnnw yw i warchod, datblygu, cyfoethogi, rhannu a throsglwyddo’r hyn a welwn fel ein gwareiddiad Cymreig. Ac na fyddwn byth yn anghofio mai o fewn fframwaith Ewropeaidd y ceir gartref naturiol ein gwareiddiad.

 Roedd D. Myrddin Lloyd, yn ei draethawd ar syniadau gwleidyddol Saunders Lewis, hefyd yn cyfeirio at y thema Ewropeaidd, wrth ysgrifennu fel a ganlyn:

Sylfaen foesol ac ysbrydol, felly, sydd i genedl; nid yw ei thynged a’i gwerth yn sefyll ar unryw ffurf o annibyniaeth lwyr; ac nid am hynny y mae ei hurddas yn gofyn. Gall ymgyflwyno i lawer math o berthnaseddau. A gall ddygymod yn hawdd â llawer rhwymedigaeth.

 Rhinwedd ynddi hi ei hun yw ei rhyddid, ac fel y mae personau’n ymglymu’n naturiol i deuluoedd, i gymdogaethau, ac i amrywiol gymdeithasau eraill, fel y maent yn cael eu hunain mewn cyfathrach a’u cyd-ddynion, felly y mae cenhedloedd yn rhinwedd y ddeddf foesol yn arddel aml berthynas â’i gilydd.”

Aiff Myrddin Lloyd ymlaen:

“Yn ei ymosodiad ar Ffasgaeth ym 1934 (erthygl bwysig y dewisir ei hanghofio’n aml) dywedodd Saunders Lewis fod Ffasgaeth yn dal mai i’r wladwriaeth y perthyn pob unigolyn, a bod hawliau’r Wladwriaeth yn ddiamod. ‘Deil y Blaid Genedlaethol Gymreig mai cymdeithas o gymdeithasau yw’r genedl, a bod hawliau’r cymdeithasau llai, megis y teulu, y fro, yr undeb llafur, y gwaith, y capel neu’r eglwys, bob un yn deilwng o barch.

Nid oes gan y Wladwriaeth hawl foesol o gwbl i dreisio hawliau’r cymdeithasau hyn ac y mae hawliau hefyd y tu allan i ffiniau’r genedl y dylai pob dyn a phob gwlad eu parchu.'”

Yn sicr ddigon, roedd gweledigaeth Saunders Lewis yn rhannol seiliedig ar etifeddiaeth Cymru a darddai o’i gwreiddiau Ewropeaidd.

Peidier felly â meddwl mai rhinweddau masnachol undod Ewrop oedd wrth fôn y weledigaeth hon; i’r gwrthwyneb. Ystyriaeth eilradd oedd unryw fanteision materol; oblegid nid ar sail faterol, ond ysbrydol, y gosododd Saunders ei weledigaeth; a tharddiad Ewropeaidd y dimensiwn ysbrydol oedd yn bwysig iddo. Gwelir hyn yn un erthygl yn Ysgrifau Dydd Mercher, pan ddywed Saunders fel a ganlyn:

Hanes gwareiddiad Ewrop – hanes delfryd ysbrydol ydyw…Olrain y delfryd hwnnw a rydd ystyr i astudio hanes Ewrop; hynny a rydd undod i Ewrop.

Gall fod cant a mil o ddylanwadau ar fywyd gwlad ac ar ei ffordd o fyw. Ond yr hyn a ddaw i mewn i’w bywyd hi fel tynged, a benderfyna ei rhan hi yn etifeddiaeth Ewrop, yw’r delfryd moesol arbennig hwn, sef y delfryd a luniwyd gyntaf erioed gan Roeg. Groeg yw cychwyn ein gwareiddiad ni a llun Groeg sydd arno hyd heddiw.”

Difyr yw nodi geiriau Patricia Elton Mayo, yn ei llyfr “Roots of Identity: Adnabod y Gwreiddiau”, ble mae’n ysgrifennu, a chyfieithaf, “Fel awdur a dramodydd adnabyddus ar y cyfandir ond dieithr i Loegr, pwysleisiodd Saunders Lewis y cyd-destun Ewropeaidd sydd i ddiwylliant Cymru, ffactor gwbl amlwg cyn – a rhaid dyfynnu’r Saesneg gwreiddiol – “before the English occupation isolated Wales from the mainstream of European cultural development”. Mae persbectif o’r math – sy’n tarddu oddiallan i Gymru, ac yn gweld datblygiadau cenedlaethol yng Nghymru fel rhan o symudiad Ewropeaidd, yn adlewyrchu safbwynt Saunders Lewis, a’i osod mewn cyd-destun llawer ehangach.

Bu Saunders yn olygydd y Ddraig Goch am flynyddoedd yng nghyfnod cynnar y Blaid. Byddai’n manteisio ar bob cyfle i ddod â dimensiwn Ewrop i’w ddadansoddiad.

Er enghraifft, yn erthygl olygyddol rhifyn Awst 1929, a sgrifennodd, dan y pennawd “Yma a thraw yn Ewrop: y lleiafrifoedd yn deffro”, nododd deffroad cenedlaethol yn Fflandrys, Catalunya, Malta, a Llydaw ac mae’n gofyn:

“Beth a brawf hyn oll? Prawf fod lleiafrifoedd Ewrop, y gwledydd bychain a lyncwyd gan rai mwy yng nghyfnodau gormes a chanoli llywodraeth, bellach yn deffro ym mhob rhan o’n cyfandir ni ac yn dwyn ysbryd a delfryd newydd i wleidyddiaeth Ewrop.”

 Wedyn mae’n datgan:

“Arbenigrwydd a nerth Ewrop, o’i chymharu hi ag America, yw amrywiaeth gyfoethog ei gwareiddiad hi. ….Os yw hyn yn gywir, cywir hefyd yw ein dadl ni mai mudiad er bendith i Ewrop a’r byd yw’r mudiad ymreolaeth yng Nghymru ac yn y gwledydd eraill oll…..

Yr athrawiaeth Ewropeaidd hon hefyd sy’n cymell arweinwyr ar y cyfandir, …. sydd yn ceisio arwain Ewrop yn ôl o fateroliaeth ymerodrol, o gystadleuaeth gibddall y galluoedd canolog mawrion, i wleidyddiaeth newydd, gwleidyddiaeth sydd wedi ei sylfaenu ar ddyfnach deall o wir natur a gwerth gwareiddiad y gorllewin.”

Mae SL hefyd yn gweld ymreolaeth Cymru fel rhan o sefydlu gwell drefn ryngwladol; trefn a geisiai ddatrys anghydfod drwy ddulliau heddychlon, nid trwy ymladd y rhyfel gwaedlyd a welodd yntau yn ffosydd Ffrainc.

Mae ei bwyslais ar ddatblygu cyfundrefnau rhyngwladol – a’i rybuddion cyson na fynnai Lloegr fod yn rhan o’r math drefn, yn gefndir i wleidyddiaeth Gwynfor Evans, ac i safiad Adam Price yn erbyn rhyfel Irac.

Mae’n werth manylu ar hyn, gan fod y neges mor berthnasol i’r oes hon, pan mae Lloegr, drachefn, yn cefnu ar ein cyfandir ac ar Lys Cyfiawnder Ewrop. Yn ei erthygl “Lloegr ac Ewrop a Chymru” ym 1927 dywed SL:

Beth yw polisi tramor Lloegr? Datganwyd ei egwyddor yn derfynol ac yn bendant gan Syr Austen Chamberlain ( Gweinidog Tramor Prydain) yng nghyfarfod Seiat y Cenhedloedd (sef yr hen League of Nations) fis Medi. Ebe ef: ‘Y mae Lloegr yn perthyn i undeb gwledydd sy’n hŷn na Seiat y Cenhedloedd, sef Ymerodraeth Prydain ac os y daw gwrthdrawiad rhwng y Seiat a’r Ymerodraeth, rhaid yw i ni bledio’r Ymerodraeth yn erbyn y Seiat.'”

Priodol atgoffa’n hunain fod “deiseb heddwch” Merched Cymru, a gasglwyd ym 1923, yn ymwneud â’r union bwynt – gan apelio i America gefnogi Seiat y Cenhedloedd fel sylfaen hanfodol i adeiladu heddwch.

Aiff Saunders ymlaen: “Pan ddywedodd Chamberlain hynny, llefarodd dros Loegr, nid dros blaid…. Yn awr, yn rhinwedd yr egwyddor hon, y mae Lloegr – ysywaeth, rhaid i ni ddweud y mae Prydain Fawr – er ei bod yn naturiol ac yn ddaearyddol ac o ran yn hanesyddol, yn perthyn i Ewrop ac yn angenrheidiol i Ewrop – eto yn gwadu ei pherthynas a’i chyfrifoldeb ac yn gadael Ewrop heddiw , megis ym 1914 a chynt, yn ansicr am ei pholisi.”

Tydi’n anhygoel y gallem ddeud hyn, eto heddiw? O beidio dysgu gwersi hanes, fe ail-adroddwn yr un camgymeriadau. Y tro diwethaf arweiniodd at ffasgiaeth ac at ryfel 1939. Dyn a’n gwaredo rhag gorfod ail-brofi’r wers waedlyd honno.

Aiff Saunders ymlaen gyda’r datganiad allweddol canlynol, a wnaeth lawer i liwio fy naliadau gwleidyddol innau:

“ Dwyn Undeb politicaidd ac economaidd i Ewrop yw un o anghenion cyntaf ein canrif ni. Gwelir hynny yn glir gan wledydd bychain Ewrop, ac er mwyn sicrhau hynny y lluniwyd ganddynt y Protocol sy’n rhwymo gwledydd i setlo dadleuon drwy gyf-lafaredd, a deddf, ac yn galw ar yr holl wledydd eraill i ymuno i gosbi unryw wlad a dorro eu hymrwymiad.

Er mwyn hynny hefyd, y myn y cenhedloedd bychain rwymo pob gwlad i ardystio i ……. Ystatud Llys Sefydlog Barn Gydwladol. (Yr) Amcan ….yw cael gan y gwledydd dderbyn barn y Llys yn derfyn ar ddadleuon rhyngddynt a thrwy hynny arbed rhyfel.

Fe wrthoda Lloegr … oherwydd, a hithau’n rhan o Ymerodraeth sydd bron yn gwbl tu allan i Ewrop, ni fyn hi rhwymo ei hun i Ewrop….

 Gwrthoda … am na all y Llywodraeth sicrhau, pe byddai barn y llys yn anffafriol i Brydain, y gellid ei ddwyn i ddeddf drwy Senedd Prydain; ac yn ail oblegid bod yr Ymerodraeth yn ddigon eang a chryf i fedru amddiffyn ei hawliau heb bwyso ar lys barn……….”

Ac oni chafodd hyn ei weld yn glir yn ystod y saith mlynedd ddiwethaf, yn agwedd pobl Brexit tuag at Lys Cyfiawnder Ewrop….?

Aiff ysgrif Saunders ymlaen:

“Gwelir hefyd fod tueddiadau economaidd Lloegr yn llawn cymaint â’i thueddiadau gwleidyddol, yn arwain i ryfel. Gobaith heddwch gwleidyddol Ewrop yw cael Prydain yn rhan hanfodol o undeb cenhedloedd Ewrop…..

Ond ym Mhrydain a oes traddodiad Ewropeaidd? A oes yma genedl a fu’n rhan wreiddiol o wareiddiad y Gorllewin, yn meddwl yn null y gorllewin ac yn gallu deall Ewrop; ac yn gallu cydymdeimlo a hi? Yr ateb yw: Cymru.

Y Cymry yw’r unig genedl ym Mhrydain a fu’n rhan o Ymerodraeth Rufain… Fe all Gymru ddeall Ewrop canys y mae hi’n un o’r teulu.”

Gyfeillion, O’r gwreiddiau hyn y mae mudiad cenedlaethol Cymru wedi tyfu; a gwae ni os anghofiwn hyn. Mewn erthygl arall yn y Ddraig Goch, mae’n honni ei fod “yn eglur bod cyfathrach agos ag Ewrop yn ffynhonnell pob Dadeni i ddiwylliant Cymraeg.”

A phwysleisiaf drachefn fod gwareiddiad cenedlaethol Cymru yn cynnwys ein hetifeddiaeth ddiwylliannol – ein hiaith, ein llenyddiaeth, ein cerddoriaeth, ein celfyddydau cain – a llawer mwy.

Ond mae hefyd yn cynnwys ein gwerthoedd, megis y pwyslais a roddir o fewn ein hetifeddiaeth gymdeithasol, ar gydraddoldeb; ar werth cymdeithas fel y cyfryw, ac nid gwerth yr unigolyn a’r teulu yn unig; ac ar yr elfen o gydweithio, fel teuluoedd, fel cymunedau ac fel gwledydd, i warchod ein buddiannau.

Dyma hanfod y gwahaniaeth sylfaenol sydd rhwng gwleidyddiaeth Cymru a gwleidyddiaeth Lloegr; ac oherwydd bod y Blaid Lafur Gymreig yn mynnu clymu ei hun i’r Blaid Lafur Seisnig, mae’n methu â datblygu athroniaeth a rhaglen wleidyddol ar sail ein gwerthoedd cenedlaethol ni, fel sylfaen i’w pholisïau o fewn Senedd Cymru.

Ac ar hyn, dof nôl at gwestiwn “annibyniaeth”. Byddwch wedi sylwi, o’r hyn a ddywedais am bolisïau pleidiau Llundain, yn y dauddegau, eu bod yn gwrthod i Brydain rannu grym â sefydliadau rhyngwladol er mwyn gwarchod eu hannibyniaeth.

Dyna oedd ystyr annibyniaeth pan sefydlwyd Plaid Cymru; a dyna paham roedd Gwynfor Evans yn ysgrifennu yn y chwedegau, “Datganwyd (gan Blaid Cymru) o’i chychwyn mai rhyddid, nid annibyniaeth, yw ei nod”. Roedd hyn, felly, oherwydd ymrwymiad y Blaid i alluogi Cymru i chwarae ei rhan mewn sefydliadau rhyngwladol, megis Cynghrair y Cenhedloedd; ac wedi’r rhyfel, y Cenhedloedd Unedig; ac yn ddiweddarach, yn Undeb Ewrop.

Dim ond ar droad y ganrif, pan ail-ddiffiniwyd telerau aelodaeth Undeb Ewrop i ddatgan fod aelodaeth o’r Undeb ar agor i “wladwriaethau annibynnol”, y newidiodd y Blaid ei pholisi i arddel annibyniaeth. Pleidleisiais innau dros hynny, gan dderbyn mai’r peth cyntaf a ddigwydd i wlad sy’n dod yn rhan o Undeb Ewrop, ydi ei bod hi’n aberthu rhan o’i hannibyniaeth. Byddai Saunders Lewis, dwi’n sicr, yn llawenhau, fod Cymru’n arddel hyn fel nod.

Mae hyn yn f’arwain at y “Deg pwynt polisi” a luniwyd gan SL. Yr hyn sy’n ddifyr, o gofio fod rhai haneswyr yn gosod gwleidyddiaeth SL ym mhrif ffrwd Democratiaid Cristnogol Ewrop, ydi mai trywydd adain chwith digamsyniol sydd i’r pwyntiau polisi hyn ac fe welir hyn fwyaf yn Pwynt 3:

“3) Mae cyfalafiaeth ddiwydiannol a chystadleuaeth economaidd – rydd oddiwrth reolaeth llywodraeth gwlad – yn ddrwg dirfawr ac yn gwbl groes i athrawiaeth cenedlaetholdeb cydweithredol.”

Gallai’r gosodiad fod wedi dod o enau’r Cymro mawr a sefydlodd yr egwyddor gydweithredol a fathodd, hefyd, y gair sosialaeth, sef Robert Owen, o’r Drenewydd – un y dylem ei anwesu fel un o gonglfeini’r weledigaeth gymdeithasol Gymreig.

Mae’n werth oedi am eiliad ar y geiriau a ddyfynnais, gan eu bod yn allweddol wrth geisio safleoli daliadau Saunders a hefyd yn bwysig i’r ffordd y mae Undeb Ewrop wedi tyfu.

Doedd Saunders Lewis, wrth gwrs, ddim yn Farcsydd; ac roedd yn feirniadol iawn o Gomiwnyddiaeth Sofietaidd – ac o ganlyniad yn ennyn gwg y Cymry – a Saeson – oedd yn sylfaenu eu gwleidyddiaeth ar ddadansoddiad Marcsaidd.

Ond wrth ddatgan nad oedd o’n ddilynydd i Karl Marx, tydi hynny ddim yn ei wneud yn gyfalafwr; nid dewis beinari Rhodd Mam ydi ystod y dewis yn y sbectrwm gwleidyddol. Gwnaeth Saunders yn gwbl glir, ym mhennod gyntaf Canlyn Arthur, ei elyniaeth tuag at gyfalafiaeth ryngwladol; a dyfynnaf ei eiriau : “Dyweder yma ar unwaith ac yn bendant, mai cyfalafiaeth yw un o elynion pennaf cenedlaetholdeb.”

Ac â ymlaen; “Mae’n rhaid i genedlaetholwyr gynllunio sut i ddwyn Cymru allan o rwymau cyfalafiaeth”. Ond wrth wneud hyn, mae’n derbyn pwysigrwydd busnesau bychain sy’n rhan o gymdeithas; a hefyd busnesau cydweithredol.

Ac mewn ysgrif ym 1932 dywed: “I’r cenedlaetholwr Cymreig, y mae’r Undebau Llafur yn sefydliadau amhrisiadwy gwerthfawr a bendithiol ac y mae eu parhad a’u llwyddiant yn hanfodol er mwyn sefydlu yng Nghymru y math o gymdeithas yr amcanwn ato.”

Dwi’n dyfynnu’r geiriau hyn, ynglŷn â natur y gymdeithas a’r economi y mae eisiau ei weld yng Nghymru, er mwyn gwadu yn ddi-flewyn-ar-dafod yr honiadau ei fod ar yr adain dde wleidyddol; a hefyd fel cyd-destun ei weledigaeth ehangach ar gyfer Ewrop.

Diben Cymuned Ewrop, o’r dyddiau cynnar, oedd hyrwyddo masnach rydd ar yr amod ei fod o fewn fframwaith cymdeithasol, ac felly i greu telerau cyfartal ar gyfer gweithwyr y gwahannol wledydd, yn hytrach na’u gadael ar drugaredd y farchnad.

Doedd llawer ym Mhrydain heb ddechrau dirnad hyn ym 1975, adeg y refferendwm ar aelodaeth Prydain o’r “Farchnad Gyffredin”. Felly, roedd yr adain dde fasnachol Seisnig yn ysu am aelodaeth o’r gyfundrefn newydd ble gallasant, yn eu tyb hwy, greu fwy fyth o elw preifat. Mewn gwrthgyferbyniad, fe ymatebodd y chwith Seisnig drwy wrthwynebu aelodaeth o’r Farchnad Gyffredin.

Ond roeddent wedi camddeall y weledigaeth Ewropeaidd: sef yr uchelgais o greu Ewrop gymdeithasol llawn cymaint â’r Ewrop economaidd: y “Social Europe” a ddaeth yn rhan hanfodol o’r frwydr dros y bennod gymdeithasol o fewn cyfansoddiad yr Undeb Ewropeaidd; a phan ganfu Maggie Thatcher a’i chriw fod oblygiadau gwaraidd o’r math yn rhan o’r weledigaeth, bu iddynt yn fuan iawn gamu nôl.

Dyna pam y gwelwyd erbyn Brexit, lawer ar adain dde Lloegr yn ffyrnig yn erbyn Undeb Ewrop; ac elfennau blaengar y chwith, o’i phlaid.

Byddai’n wirion i mi honni mod i’n cytuno a phob gair a ddeilliodd o enau Saunders Lewis; nac, yn wir, y cyfan o’r Deg Pwynt Polisi. Yn amlwg, roedd rhai pethau a oedd, efallai, yn gredadwy yn eu cyfnod – ond sy’n edrych yn hurt, braidd, heddiw. Ond erys brif ffrwd ei weledigaeth yn gwbl berthnasol.

Erthygl arall yn y gyfrol Canlyn Arthur, gyda thrywydd Ewropeaidd, yw’r un ar Tomáš Masaryk ac adfywiad cenedlaethol Bohemia; ac mae hyn yn ateb i rai beirniaid sy’n edliw mai dim ond diddordeb yn y gwledydd bach Celtaidd oedd gan Blaid Cymru pryd hynny. Masaryk lwyddodd i osod sylfaen i ‘r weriniaeth Tsiec sydd bellach yn wlad annibynnol.

Roedd Masaryk, fel Saunders Lewis, yn pwysleisio rôl diwylliant fel un o hanfodion y gymuned genedlaethol; ac fel SL, roedd yn gweld ei wlad o fewn fframwaith Ewropeaidd ac o fewn delfrydau Ewrop.

Edmygai Saunders ef oherwydd iddo “ddeffro enaid y genedl” a chyflawni hyn trwy weithredu’n ddi-drais. Mae Saunders yn uniaethu â gweledigaeth Masaryk, gan ddeud:

Iddo ef, yr oedd bod yn Fohemiad da yn golygu bod yn Ewropead da hefyd” gan ychwanegu

“…yr oedd gan Fasaryk pob amser dau gartref, Bohemia ac Ewrop. Dyna’r unig genedlaetholdeb y gallaf i ei edmygu…”.

Roedd yr agwedd allblyg – y syniad y gallai SL fod yn gartrefol bron unrywle yn Ewrop – yn naturiol yn lliwio ei agwedd yntau tuag at bobl sy’n symud i Gymru: ‘doedd ei genedlaetholdeb ddim yn seiliedig ar godi muriau o gwmpas Cymru; yn hytrach dywedodd

Rhaid troi’r estroniaid yn Gymry a rhoddi iddynt y meddwl Cymreig, y diwylliant Cymreig, a’r Iaith Gymraeg.”  

Er fel y gwyddom, weithiau haws deud na gwneud!         

Saunders Lewis, gyda’i gyd-ddiffynyddion
Lewis Valentine a D.J. Williams,
adeg prawf llys  Penyberth

Yn ei gyfraniad pwysig i’r gyfrol “Presenting Saunders Lewis” mae Dafydd Glyn Jones, wrth ysgrifennu am “Aspects of his work: his politics”, yn nodi – a dwi’n ei gyfieithu:

Trwy gydol y gyfrol, mae Canlyn Arthur yn rhagdybio mai’r genedl yw’r ffurf naturiol ar gymdeithas yn Ewrop ac yn sylfaen i wareiddiad y Gorllewin… i fodoli, ac i ennill cydnabyddiaeth i’r fodolaeth honno gan genhedloedd eraill, dyma’r unig ffordd, yn ôl Saunders Lewis, y gall Gymru gyfranogi’n llawn ac yn greadigol, o fewn cymdeithas ehangach.

A mae’r gyfranogaeth honno yn anhepgor os oes unryw ystyr i hunanlywodraeth.  Mae Senedd Gymreig yn angenrheidiol nid er mwyn galluogi i Gymru ymgilio i hunanddibyniaeth, ond er mwyn iddi adennill ei chysylltiad ag Ewrop”.

Yn ôl Dafydd Glyn, un o’r dylanwadau mwyaf ar Saunders Lewis oedd yr ysgolar Pabyddol Ffrengig, Jacques Maritain. Ef oedd un o arweinwyr Ffrainc a fynnodd fod amgenach lwybr i Babyddion Ffrainc na chefnogi’r mudiad lled-ffasgaidd Action Française.

Roedd delfrydiaeth Maritain yn cynnwys rhyddid yr unigolyn, yr angen am drefn o fewn cymdeithas a phlwraliaeth newydd sy’n osgoi unbennaeth a cheidwadaeth laissez-faire.

Bu’n ddylanwadol yn y gwaith o ddrafftio ‘r Datganiad Hawliau Dynol (Universal Declaration of Human Rights); fe ymgyrchodd i ddwyn sylw at erchyllterau’r Holocaust. Cyhoeddodd gyfrol ym 1936, “Integral Humanism” ac edrychir arno fel un a ysbrydolodd y mudiad Democrat Cristnogol yn Ewrop.

Roedd yn ffrind mynwesol i Robert Schuman, Gweinidog Tramor Ffrainc wedi’r rhyfel – yr un a allai hawlio ei fod, anad neb, yn sylfaenydd Undeb Ewrop!

Fe wnaed gwaith gwerthfawr ar bwysigrwydd syniadau Saunders Lewis am y berthynas hanfodol rhwng Cymru ac Ewrop, gan y Dr Emyr Williams, a enillodd ddoethuriaeth yng Nghaerdydd gyda’i thesis ar “The Social and Political Thought of Saunders Lewis”.

Mae Emyr Williams yn olrhain dylanwad Maritain ar Saunders; ac mae’n datgan yn ei draethawd – trosaf ei eiriau i’r Gymraeg:

Casgliad Maritain ydi fod y cysyniad o “sofraniaeth” yn anghywir o’i hanfod, gan fod awdurdod gwleidyddol yn tarddu o’r bobl, o’r corff gwleidyddol; ac nad ydyw’n disgyn o’r oruchel. Mae hyn yn sylfaenol i ddeall meddylfryd Saunders Lewis ynglŷn â’r cysyniad o sofraniaeth…”

 

Dwi’n ddyledus i Emyr Williams am ei help ac am gael astudio ei waith ymchwil. Ymhlith ei gasgliadau oedd:

  • Fod y syniad o archwladwriaeth ganoledig Ewropeaidd yn wrthun i SL;
  • Fod ei weledigaeth yn seiliedig ar yr egwyddorion o ffederaliaeth a sybsidiaredd;
  • Fod ei fodel ar gyfer Ewrop yn un o lywodraethiant lluosog ac aml-haenau (“multilevel, plural governance”);
  • Fod yr elfen o barhad diwylliannol cenedlaethol yn rhan annatod o’r cysyniad Ewropeaidd, ac yn rhan ganolog o hunaniaeth Ewrop.

Yn ôl Emyr Williams, “Pabyddiaeth a Ffrancoffilia Saunders Lewis oedd yr elfennau a’i yrrodd i weld y diwylliant Cymreig fel rhan o dreftadaeth Cristnogol Ewropeaidd ehangach; a’i gymell i geisio a symud Cymru i ffwrdd o’i pherthynas blwyfol a Lloegr a Phrydain, a cheisio â’i chael i gysylltu, yn ddiwylliannol ac yn wleidyddol, gyda’r byd ehangach.”

Mae Saunders Lewis yn cydnabod iddo gael ei ddylanwadu gan waith Emrys ap Iwan – yn benodol felly gan lyfr T. Gwynn Jones ar Emrys ap Iwan, a ddisgrifiwyd gan SL fel “Un o’r llyfrau hynny sy’n newid hanes ac yn dylanwadu ar genhedlaeth gyfan, gan ei hysbrydoli a rhoddi cyfeiriad i’w meddyliau.”.

Roedd Emrys ap Iwan, fel Saunders Lewis yn cael llawer o’i ysbrydoliaeth o Ffrainc; a hefyd o’r Almaen ble bu’n athro. Emrys ap Iwan fathodd y term “ymreolaeth”; gan ei ddiffinio mewn termau ffederal a defnyddio’r Swisdir fel sail.

Yn ôl Saunders Lewis, bu’r athronydd a hanesydd Ffrengig, Etienne Gilson, yn un o’r prif ddylanwadau arno; ac roedd Gilson ei hun yn awdurdod ar waith Descartes, ac yn cydweithio’n glos â Jacques Maritain!

Dywed rhai mai ei ddeffroad personol i bwysigrwydd canolog y deimensiwn Ewropeaidd a ddaeth a SL i ddatblygu ei ymwybyddiaeth wleidyddol a chenedlaethol.

Bu amser, yn y chwedegau a’r saithdegau, pan edrychodd lawer o fewn y mudiad cenedlaethol ar Undeb Ewrop fel rhwystr i annibyniaeth Cymru.

Yn fy marn i, heddiw, megis canrif yn ôl pan fireiniodd Saunders Lewis ei weledigaeth ar gyfer Cymru – nid Ewrop yw’r bygythiad i ddyfodol Cymru, nac i werthoedd Cymru, ond meddylfryd imperialaidd San Steffan sydd , gyfeillion, yr un mor wir heddiw ag ydoedd yn nyddiau Austen Chamberlain.

O safbwynt heddiw, yr hyn sy’n bwysig i ni ei gofio ydi, yn gyntaf, pam yr oedd SL yn edrych i’n gwreiddiau Ewropeaidd am ysbrydoliaeth? ‘Roedd hynny am resymau diwylliannol a chrefyddol, gan mai ein gwreiddiau Ewropeaidd sydd wedi creu ein hunaniaeth a’n diwylliant.

 O’r gwreiddiau hyn y mae ein gwerthoedd wedi datblygu; ac mae’r agwedd hon, i mi yn gwbl sylfaenol.

Ond mae rheswm arall eithriadol bwysig, paham na ddylem gefnu ar y gwaith a wnaed i uno’n cyfandir; ac mae hanes diweddar yr Iwcrain yn ein hatgoffa am hyn.

Mae rhai ohonom yma heddiw, â pherthnasau a ddioddefodd – o bosib a gollodd eu bywydau – yn y ddau ryfel arswydus a ymladdwyd rhwng cenhedloedd Ewrop yn ystod hanner gyntaf yr ugeinfed ganrif. Gadewch i ni byth anghofio mai er mwyn osgoi gweld y math gyflafan yn ein cyfandir ni, y daeth pobl at ei gilydd yn sgil yr ail ryfel, i geisio a chreu undod newydd, heddychlon, yn ein cyfandir.

I gloi, dof nôl at thesis Emyr Williams – sy’n tanlinellu’r ffaith nad yw SL yn gosod sofraniaeth cenedlaethol mewn gwladwriaeth annibynnol, fel conglfaen ei genedlaetholdeb Cymreig. Ac mae hyn yn ei wneud, yn ôl rhai gwyddonwyr gwleidyddol, yn unigryw o fewn ei gyfnod – ac ymhell o flaen ei amser. Yn sicr ddigon, nid yw wedi ei ynysu yn y gorffennol canoloesol, fel mae ei elynion gwleidyddol am i ni gredu.

Gweithiodd Emyr Williams ar ei thesis yn rhannol oherwydd na fu ymdrech ers y 70au i adolygu syniadau gwleidyddol SL yng ngoleuni’r newidiadau anferthol y deugain mlynedd diwethaf – sydd erbyn hyn yn cynnwys :

  • mynediad Prydain i Undeb Ewrop, wedyn ysywaeth ei gadael;
  • datblygiad pennod gymdeithasol Ewrop; cwymp comiwnyddiaeth ac ail-uno Ewrop;
  • dyfodiad gwledydd bychain yn aelodau llawn o Undeb Ewrop;
  • sefydlu senedd ddeddfwriaethol I Gymru;
  • pasio deddfau sy’n rhoddi statws swyddogol i’r iaith Gymraeg; a’r
  • Twf yn yr Alban ac yng Nghymru yn y gefnogaeth i annibyniaeth.

Mae’r rhain oll yn ategu’r alwad dros ail-asesu gwerthoedd a neges wleidyddol Saunders Lewis.

Dywed Emyr Williams am SL:

“…yn hytrach na gweld lle ar gyfer y genedl Gymreig o fewn hierarchaeth yr Ymerodraeth Brydeinig, mae’n gweld Undeb gwleidyddol ac economaidd Ewrop fel yr elfen hanfodol ar gyfer bywiogrwydd “cenhedloedd bach Ewrop” o fewn cyfundrefn egalitaraidd. Mae’r cysyniad o Undeb Ewrop felly yn ganolog i’w feddylfryd gwleidyddol”.

 Mae’r genadwri’n dod mewn brawddeg:

“Mae datblygiad yr Undeb Ewropeaidd, yn ogystal â’i hegwyddor sylfaenol o sybsidiaredd a llywodraethiant aml-haen, felly yn ein harwain i ail-asesu gweledigaeth Saunders Lewis”.

A dyna fy neges innau bore ma, ar lwyfan y Babell Len, i ni edrych eto ar ddysgeidiaeth un o lenorion mwyaf Cymru a fframiodd y weledigaeth ar gyfer y Gymru sydd ohoni – boed hynny yn nhermau hawliau iaith, perthynas â’n cyfandir, cyfiawnder cymdeithasol neu’r hyn sy’n hanfod i genedlaetholdeb gwaraidd a threfn ryngwladol.

Ac os ydym am ddefnyddio’r tair blynedd nesaf i ddysgu gwersi o’r ganrif a aeth heibio ers darlith 1926, ble gwell i ni gychwyn ar y gwaith nag yma yng ngwlad Llŷn ac ar lwyfan a ddarparwyd gan Brifysgol Abertawe. A lle gwell i gloi, na chyda dwy gerdd Williams Parry, yn gyntaf i’r Gwrthodedig:

Hoff wlad, os medri hepgor dysg,
Y dysgedicaf yn ein mysg
Mae’n rhaid dy fod o bob rhyw wlad
Y mwyaf dedwydd ei hystâd.

Ac eto, i’r Cyn-ddarlithydd:

Y Cyntaf oedd y mwyaf yn ein mysg
Heb gyfle i dorri gair o gadair dysg
Oherwydd fod ei gariad at ei wlad
Yn fwy nag at ei safle a’i lesâd.

Diolch yn fawr.     

Dafydd Wigley.                 

                                                            ****

Llyfryddiaeth

Egwyddorion Cenedlaetholdeb, Saunders Lewis, Plaid Genedlaethol Cymru. Argraffwyd yn 1926 gan Evan Jones, Argraffydd, Machynlleth.

The Welsh Nationalist Partty 1925-1945: A Call To Nationhood. D.Hywel Davies (1983) Cardiff. University of Wales Press.

Saunders Lewis: Letters to Margaret Gilcriest. Edited by Mair Saunders Jones, Ned Thomas and Harri Pritchard Jones (1993) Cardiff. University of Wales Press.

The Social and Political Thought of Saunders Lewis, Emyr Williams. A dissertation submitted at the School of European Studies, Cardiff University, in candidature for the degree of Doctor of Philosophy, Cardiff University.  June 2005. https://orca.cardiff.ac.uk/id/eprint/54521/
Social and political thought of Saunders Lewis. -ORCA (cardiff.ac.uk)