Stori Bardd Mawr y Gynghanedd, T.Gwynn Jones (1871-1949)
Adolygiad Llyfr – ‘Byd Gwynn’ gan Alan Llwyd
Mae gan lawer ohonon ni reswm i ddiolch i’r prifardd ac awdur Alan Llwyd, brodor o Benrhyn Llŷn sy’n byw yn Nhreforys. Drwy gynnig awdl fuddugoliaethus ar y testun Llif, fe sicrhaodd deilyngdod yng nghystadleuaeth y gadair yn y Brifwyl eleni – a rhoi’r diweddglo gorau posibl i Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd.
Mae Alan Llwyd wedi hen ennill ei blwyf fel bardd a llenor. Mae ei gyfraniad yn anhygoel – yn cynnwys cyfres o gofiannau swmpus iawn am feirdd Cymru, yn eu plith T. Gwynn Jones.
Heddiw cofiwn i T. Gwynn Jones fod yn un o feirdd mwyaf yr ugeinfed ganrif ond roedd hefyd yn llawer mwy – yn newyddiadurwr prysur dros ben, yn nofelydd, yn feirniad, cyfieithydd ac yn ieithydd. Ac yn heddychwr ac yn genedlaetholwr tanbaid yn ogystal.
Mae Alan Llwyd yn olrhain ei fywyd yn drylwyr o’i fagwraeth yn Sir Ddinbych yn fab i denant amaethwr digon llwm ei fyd. Er na chafodd fynd i’r coleg oherwydd diffyg arian, bu dawn gynhenid Gwynn yn ddigon i sicrhau gyrfa iddo’n newyddiadurwr yn y Gymraeg a’r Saesneg gyda phapurau megis y Faner, y Cymro a’r North Wales Times. Bu hefyd yn cyfrannu’n helaeth i fywyd diwylliannol Cymru. Yn 17 oed cyhoeddodd gerdd yn y Faner yn cefnogi’r frwydr yn erbyn talu’r degwm, ac o hynny ymlaen byddai’n amlwg ym mywyd diwylliannol ei wlad.
Yn 1902 cipiodd Gadair yr Eisteddfod gyda’i gerdd Ymadawiad Arthur, gan ddefnyddio’r gynghanedd i bwrpas ac i greu effaith arbennig yn ôl Alan Llwyd, “nid taflu cytseiniaid at ei gilydd blith draphlith heb hidio fawr ddim am ystyr y geiriau”. Yn hynny o beth yr oedd yn wahanol iawn i lawer o feirdd eraill, megis Hwfa Môn a Dyfed; a chyn hir byddai Gwynn yng nghanol dadl ffyrnig am safonau cerdd dafod. Byddai beirniaid yn ei gyhuddo o atgyfodi hen eiriau nad oedd pobl yn eu deall, ond byddai Gwynn yn fwy na pharod i sefyll ei gornel a defnyddio’i sgiliau newyddiadurol i ymladd dros godi safonau’r iaith ac arloesi gyda mesurau newydd.
Cynghanedd, meddai Gwynn, yw’r term dysgedig am y peth a alwai pobl gyffredin yn ‘gwlwm’, ac yn fachgen ysgol fe ddaeth i adnabod y ‘clymau’ hyn wrth y glust, cyn dysgu’r rheolau a dod i ddotio arnyn nhw.
Llwyddodd yn erbyn pob anhawster i symud o newyddiaduraeth a dod yn gatalogydd a chofiannydd yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth. Erbyn 1919, bu’n ddarlithydd ac yna’n Athro Llenyddiaeth Gymraeg yng Ngholeg y Brifysgol, Aberystwyth. Mae Alan Llwyd hefyd yn croniclo priodas Gwynn a’i fywyd teuluol hapus.
Daeth Gwynn yn ieithydd a chyfieithydd penigamp mewn nifer o ieithoedd, yn enwedig yr ieithoedd Celtaidd eraill. Erbyn ymweliad y Gyngres Geltaidd â Chaernarfon yn 1904, yr oedd eisoes yn medru Llydaweg a bu’n aelod gweithgar o’r pwyllgor trefnu lleol. Nes ymlaen aeth ati i feistroli’r Wyddeleg, ac ystyried o ddifrif ymgeisio am swyddi academaidd yn Iwerddon.
Drwy gydol ei fywyd bu T.Gwynn Jones yn genedlaetholwr brwd, ond mae’n ddiddorol beth yn gymwys oedd hynny’n ei olygu wrth ddilyn cwrs ei fywyd. Rhyddfrydwr oedd tad Gwynn: bu rhaid iddo adael y fferm ble roedd yn denant am wrthwynebu’r Torïaid yn ystod Rhyfel y Degwm. Bu Gwynn hefyd yn cefnogi’r Rhyddfryfwyr, yn frwd yn ystod y 1890au pan fu’r mudiad Cymru Fydd yn ymgyrchu am hunanlywodraeth. Yn 1903, lluniodd gerdd o fawl i David Lloyd George, ‘ein Dafydd dafod arian, galon tân’
Dadrithiodd gyda’r Blaid Ryddfrydol oherwydd methiant Cymru Fydd a chefnogaeth llawer o’i harweinwyr i’r Rhyfel Byd Cyntaf. Drwy’i fywyd bu Gwynn yn heddychwr cryf, a siomodd yn aruthrol at y ‘rhyfelgwn’, gwleidyddion a gweinidogion capeli ac eglwysi a bwysai ar bobl ifainc Cymru i fynd i’r lladdfa. Yn sosialydd yn ogystal â chenedlaetholwr, erbyn 1918, roedd ef wedi closio at y Blaid Lafur, gan ddweud wrth gyfaill agos ei fod (fel DJ Williams) wedi ymuno â’r ILP.
Fodd bynnag, doedd dim amheuaeth ar ba ochr yr oedd ef pan ddchreuodd Gwrthryfel y Pasg yn Iwerddon yn 1916: os oes hawl gan Loegr ymladd, felly hefyd Iwerddon, meddai.
Yn 1923, Gwynn a gadeiriodd gyfarfod y ‘Tair G’, un o’r cyfarfodydd a fyddai yn y pendraw’n esgor ar lansio Plaid Genedlaethol Cymru. Ni wyddys beth oedd ei ymateb i awgrym Saunders Lewis i ffurfio ‘byddin’ o wirfoddolwyr a fyddai’n ymarfer fel milwyr – go brin y buasai’n gefnogol, a chafodd y syniad fawr o groeso ar y pryd. Tybed ai dyma un rheswm nad oes unrhyw dystiolaeth bod y cenedlaetholwr tanbaid hwn wedi ymuno â’r blaid genedlaethol a lansiwyd yn 1925, peth rhyfedd braidd. Yn wir, rai blynyddoedd wedyn, cyfaddefodd fod ei gyfeillgarwch gydag un bardd wedi oeri oherwydd ei gefnogaeth i Blaid Cymru.
Eto’i gyda erbyn 1943, Gwynn oedd yn amlwg yn enwebu Saunders Lewis fel ymgeisydd Plaid Cymru yn isetholiad Prifysgol Cymru, a hynny yn erbyn W.J. Gruffydd dros y Rhyddfrydwyr, er bod W.J. yn ffrind bore oes iddo.
Yn fardd mawr ac yn ŵr cymhleth a theimladwy, bu T.Gwynn Jones yn gymeriad mawr yn hanes Cymru, a’i stori yn un werth ei chofio.
Dafydd Williams
O Gylchlythyr Cymdeithas Hanes Plaid Cymru Hydref 2023