Teyrnged i’r Barnwr Philip Richards (1946-2025)

Teyrnged i’r Barnwr Philip Richards (1946-2025)

Yn ei Angladd yn Amlosgfa Thornhill, Caerdydd, 8 Hydref, 2025

Mae hon yn dasg nad ydw i – nac eraill yn y gwasanaeth hwn heddiw – yn ei dymuno na’i mwynhau. Cafodd ei gwthio arnom gan ddigwyddiadau diweddar. Gellir dweud am bawb sy’n bresennol y prynhawn yma y byddai yn well gennym beidio â bod yn angladd ein ffrind, Philip Richards; ac mai gwell gennym fyddai petai Phil yn wych, yn ddisglair ac yn hwyliog yn ein plith o hyd. Ond yr ydym lle’r ydym – wedi ymgynnull i’w gofio; i rannu ein gwybodaeth amdano – ac, yn anad dim, i ddathlu ei fywyd yn ein mysg.

Bydd eraill – yn enwedig aelodau ei deulu – yn siarad am y Phil ‘roedden nhw’n ei nabod a’i garu. Siaradaf innau fel ffrind iddo ac, o fod mor eofn, ar ran eraill yn ogystal â fi fy hun. Wrth wneud, mae’n bosib y bydd pwyntiau’n gorgyffwrdd rhyngom; ond fy nod yw osgoi gormod o’r rheiny drwy siarad am y Phil oedd yn hysbys i mi : cyfaill eithriadol o dda a ffyddlon dros drigain mlynedd, bron, rhwng Mawrth 1966 (pan gwrddais ag ef gyntaf mewn rali wleidyddol yn Aberdâr) a Gorffennaf eleni pan ymwelais i a phedwar ffrind ag ef ddiwethaf, yng Nghartref y Waverley, Penarth, ychydig cyn ei ben-blwydd yn 79 oed. Dylwn ychwanegu hefyd taw ef oedd Gwas Priodas fy mhriodas yn 1980.

Dechreuaf yn Saesneg, fel cyflwyniad. Byddaf yn parhau ac yn gorffen yn Gymraeg : iaith yr oedd Phil yn ei charu, wedi ei dysgu ac wedi ei ‘chyfreithloni’. Yn wir, o gofio bod ei gyrhaeddiad yn y Gymraeg cystal nes bod Arglwydd Ganghellor Cymru a Lloegr  wedi ei benodi’n gadeirydd y Pwyllgor Sefydlog ar Ddefnyddio’r Gymraeg yn Llysoedd Cymru, ac i Phil wrando ar achosion Llys y Goron yn Gymraeg, rhyfedd, wir, fyddai peidio â chydnabod yn ein hiaith ein hunain agwedd mor bwysig ar ei fywyd a’i lafur.

 

*  *  *  *  *

 

Ysgrifennodd Gerallt Lloyd Owen, bardd mwyaf canu caeth y Gymraeg yn niwedd yr 20G, awdl o’r enw ‘Afon’. Enillodd iddo Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1975. Ynddo, mae’n disgrifio atgofion ei blentyndod wrth chwarae ar lan afon, gan ddarlunio’r afon honno fel arwydd o fywyd ei hun. Dywed:

 

                                         Fy nyddiau, afon oeddynt,                  

                                         mân donnau fu oriau’r hynt. 

                                         Aethant fel breuddwyd neithiwr

                                         neu wib dail ar wyneb dŵr.                

 

Gellid dweud yn debyg am ein bywydau ni oll. Bu bywyd Phil, hefyd, fel afon : wedi’i fwydo gan nentydd ei wahanol gefndiroedd : ei fagwraeth;  addysg; deallusrwydd; ei gyfeillachu ffurfiannol; ei fywyd teuluol; profiadau ei yrfa a’i iechyd.

Yn y sylwadau sy’n dilyn, cyfeiriaf at y rhain mewn ffordd na fydd, gobeithio, yn cyffwrdd gormod â sylwadau cyfranwyr eraill. Byddaf yn gorffen gyda cherdd o fawl i Phil ar batrwm cywydd: mesur a fu – ac sy’n dal i fod – wrth wraidd traddodiad hir Cymreig o ganu mawl i bobol weddus ers dechrau’r 13G. Mae ein diweddar gyfaill Philip Richards yn fwy na theilwng o’m hymdrech fach i’w osod yn y traddodiad hwnnw.

*  *  *  *  *

Ganed Phil yn Nottingham ym 1946, yn sgil yr Ail Ryfel Byd, tra bu ei rieni yn byw oddi cartref oherwydd galwadau’r drin oedd newydd orffen. Doedd Phil byth yn gwbl gyfforddus â’r ffaith yma (er iddo ei gwisgo’n ddigon ysgafn wrth gwrs). Yn hynny o beth, bu mewn cwmni da yn y byd gwleidyddol Cymreig y byddai yn rhan ohono maes o law oherwydd gellid dweud yr un peth am David Loyd George (a aned ym Manceinion); Saunders Lewis (Lerpwl); Emrys Roberts (Leamington Spa) a Dafydd Wigley (Derby)!

Ymhen ychydig, dychwelodd y teulu bach i Gymru ar benodi tad Phil yn athro Hanes a Saesneg yng Nghaerdydd. Athrawes yn arbenigo ar ddysgu Saesneg yn y sector uwchradd oedd ei fam hefyd. Aeth Phil i Ysgol Uwchradd Caerdydd, ac oddi yno i Brifysgol Bryste i astudio’r Gyfraith gan raddio ym 1968.

O Fryste, aeth i Lundain gan sefyll arholiadau’r Bar yn yr Inner Temple ym 1969. Wedyn, gwnaeth tymor prawf gyda’r Barnwr Dewi Watkin Powell – cyfreithiwr gwladgarol a gafodd ddylanwad parhaol arno. Tra yn Llundain – mewn digwyddiad a drefnwyd gan Blaid Cymru – cwrddodd Phil â Dorothy George o Lanbradach. Ymhen dim, dychwelodd y ddau i Gaerdydd gan briodi ym 1971. Ganed Rhuanedd ym 1974 a Lowri ym 1978. Yn y man, aeth Phil yn aelod o’r siambrau mwyaf o fargyfreithwyr yng Nghymru yn Park Place, Caerdydd. Cafodd yrfa lwyddiannus fel bargyfreithiwr tan ei benodi yn Farnwr Llys y Goron yn 2001 : swydd a ddaliai nes ymddeol yn 2016.

Bu Phil yn ddyn o ddiddordebau eang. Does dim amser nawr i fanylu amdanynt oll; ond gellir crybwyll llenyddiaeth; pob math o gerddoriaeth o’r clasurol i’r felan [blues] a roc-a-rôl); pobol; teithio; ieithoedd; hanes a hanes teuluol; chwaraeon ac – ar lefel fwy difrifol – cyflwr y gymdeithas yr oedd yn rhan ohoni; ac wrth gwrs gwleidyddiaeth. Rhof heibio mwyafrif y pethau hyn nawr i ganolbwyntio ar y maes y des i i’w nabod orau ynddo, gwleidyddiaeth.

Cwrddais gyntaf â Phil ym 1966, pan ddaeth yn fyfyriwr ugain oed i Aberdâr i siarad dros ymgeisydd Plaid Cymru yn etholiad cyffredinol y dydd. Roeddwn i’n fyfyriwr Dosbarth Chwech ddeunaw oed, yn sefyll dros y Blaid yn ffug-etholiad Ysgol Ramadeg y Bechgyn, Aberdâr yr un adeg. Dyna ddechrau cyfeillgarwch rhyngom a barhaodd yn ddi-dramgwydd tan ei farwolaeth.

Dechreuodd gyrfa wleidyddol Phil ei hun wrth sefyll fel ymgeisydd Plaid Cymru mewn etholiadau lleol yng Nghaerdydd ym 1971. Yna, sefodd fel ymgeisydd y Blaid ar gyfer San Steffan yng Ngogledd Caerdydd yn nau etholiad cyffredinol 1974 (Chwefror a Hydref).

Yn sgil buddugoliaeth hanesyddol Gwynfor Evans yn is-etholiad Caerfyrddin ym 1966, bu cynnwrf mawr yn rhai o etholaethau cymoedd de Cymru er budd y Blaid. Etholaethau Caerffili, Gorllewin y Rhondda a Merthyr gai’r sylw fel arfer; ond ‘roedd yr un peth yn wir am Gwm Cynon. Yno, ym 1970, cafodd ymgeisydd y Blaid 11,431 o bleidleisiau a 30% o’r holl bleidlais. Yn nau etholiad cyffredinol 1974, sgoriodd ei hymgeisydd bron i 12,000 o bleidleisiau (11,973 : 30% o’r cyfanswm) yn Chwefror; ac yna 8,133 pleidlais (21% o’r cyfan) ym mis Hydref. Felly, roedd etholaeth Aberdâr (‘Cwm Cynon’ i fod) yn dir ffrwythlon i Blaid Cymru – yn enwedig o gofio bod ar y cyngor lleol grŵp niferus o gynghorwyr fel sail i ymgyrch rymus.

Dyna a arweiniodd at wahodd Phil i fod yn ymgeistydd y Blaid yno ym 1975: gwahoddiad a dderbyniwyd ac a welodd y teulu ifanc yn symud i Aberpennar ac yna Cwmaman. Cyn bo hir, gofynnodd Phil imi fod yn asiant iddo; ond gan fy mod erbyn hynny’n gweithio i’r Blaid yn ganolog fy hun, teimlais na fyddai gen i’r amser angenrheidiol i ymroi i’r swydd. Yn y man, aeth y diweddar gynghorydd Aubrey Thomas, Penrhiwceiber, yn asiant iddo yn etholiad cyffredinol 1979.

Hyd yn hyn, ni soniais lawer yn gyhoeddus am helynt y blynyddoedd rhwng 1975 ac etholiad 1979, a dw i ddim yn bwriadu manylu gormod yma. Digon yw dweud na chafodd Phil chwarae teg gan bawb yn yr etholaeth oherwydd bod yr ymgeisydd seneddol blaenorol yn teimlo y dylai aros yn y rôl. Bu llai na hanner y blaid leol yn cytuno â hyn; ond dechreuwyd ymgyrch chwerw a phersonol i danseilio Phil. Dilynodd blynyddoedd o ymrafael a checru agored rhwng y ddwy garfan: y naill dros Phil a’r llall yn ei erbyn. Y canlyniad oedd cwymp sylweddol ym mhleidlais y Blaid yn etholiad 1979 (er inni gadw’r ernes gyda 10% o’r holl bleidlais). Ni fyddai yr un ymgeisydd – hyd yn oed Dewi Sant – wedi medru atal y fath gwymp yn yr amgylchiadau; ac fe deimlais i ac eraill taw gwarth oedd bod Phil wedi wynebu brad o’r fath.

Un o’r ychydig a ddaeth allan o’r ffradach ag anrhydedd arno oedd Phil. Mewn ymateb nodweddiadol, ni ymatebodd i’w danseilwyr yn y modd y’i tanseiliwyd. Ni wylltiodd; ni ffyrnigodd; ni fu’n sarhaus at neb. Yn hytrach, taflodd ei hun i waith yr etholaeth cyn ac ar ôl yr etholiad, gan fwrw gwreiddiau yn y gymuned leol a fyddai’n  dwyn canlyniad gwell o lawer iddo maes o law.

Ymaelododd yng Nghlwb Rygbi Aberpennar gan fynd yn Llywydd poblogaidd y clwb am flynyddoedd, Bu’n gadeirydd Cymdeithas Tai Cynon-Taf a chadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Gyfun Rhydfelen ar adeg gythryblus yn ei hanes. Cynghorai ’RHAG’ (Rhieni Dros Addysg Gymraeg) yn lleol a sirol. Ymgyrchai dros ysbyty newydd ac yn frwd dros y glöwyr a’u teuluoedd a fu ar streic am fisoedd ym 1984-85. Daeth y Shepherd’s Arms, Cwmaman yn lloches iddo; ac yn aml, wrth rannu diod yno, rhyfeddwn at ei allu i gyd-dynnu’n naturiol â’r mwyaf cyffredin, ac yntau’n fargyfreithiwr hŷn a darpar-farnwr. Nid pawb o bell ffordd fyddai am – na’n medru – gwneud hyn. Sail ei ddawn, wrth gwrs, oedd ei foneddigrwydd naturiol, a’r ffaith nad oedd asgwrn ymhongar ynddo.

Roedd ei ymroddiad a’i allu fel siaradwr cyhoeddus yn ystod y cyfnod hwn yn fodd i adfer hygrededd y Blaid yn yr etholaeth. Yn wir, gwnaeth ei brysurdeb a’i hawddgarwch lawer i ennill parch rhai a fu yn elynion gwleidyddol iddo o safbwynt pleidiol. Magodd gyfeillgarwch â chynghorwyr ac aelodau’r Blaid Lafur; ac ni chlywais neb o’u mysg yn ymosod arno’n bersonol. I’r gwrthwyneb!

Yn aml, telir pris gan wleidydd am fyw bywyd mor ofynnol, ac yn niwedd y 1980au daeth priodas Phil a Dorothy i ben – er iddynt ddal i barchu ei gilydd a charu’n ddi-gwestiwn eu dwy ferch. Bu’r cyfnod rhwng 1988 a 1991 yn her i Phil mae’n dêg dweud – nes iddo ddechrau ar gyfnod newydd yn ei fywyd ym 1991 wrth gwrdd â Julia. Arweiniodd hyn at eu priodi ym 1994 a geni Megan ym 1995. Cafodd hefyd trwy’r briodas hon lysfab, David, a fu’n annwyl ganddo, gan gwblhau ei deulu nes i saith o wyrion gyrraedd!.

Ond, bu gormod o’r hen awch gwleidyddol yn llechu ynddo; a gyda golwg ar gynulliad cenedlaethol i Gymru ar y gorwel ym 1997, ‘roedd Phil am roi un cais arall arni i gael ei ethol i’r corff newydd.

Yn dilyn etholiad cyffredinol Mai 1997, cafwyd ym Medi yr un flwyddyn refferendwm ynghylch sefydlu Cynulliad Cenedlaethol i  Gymru. Enillwyd hwn o ychydig filoedd; ond, fel maen nhw’n dweud, “mae ‘un’ yn ddigon mewn democratiaeth” ac fe gafwyd Cynulliad neu ‘Senedd Cymru’ fel y mae heddiw.

Sefodd Phil ar gyfer y corff newydd yng Nghwm Cynon ym Mawrth, 1999, gan ennill 9,206 o bleidleisiau (42.5% o’r bleidlais gyfan): dim ond 677 o bleidleisiau yn llai na’r ymgeisydd Llafur (a gafodd 45.6% o’r holl bleidlais). Hwn oedd ei ganlyniad etholiadol gorau; ac er bod Julia wedi ei ddisgrifio (yn ddealladwy o ran ei theulu) fel peth “too close for comfort”, dw i’n siŵr y bydd hi’n maddau imi o ddweud taw colled anferth i Gwm Cynon fu’r golled agos yma.

Dyna oedd diwedd ymgyrchu gwleidyddol i Phil. O hynny ‘mlaen, rhoes ei ysgwydd y tu ôl i olwyn ei yrfa gyfreithiol gan fynd yn bennaeth siambrau ac, yn 2001, yn farnwr Llys y Goron gyda chyfrifoldeb am gynghori ar ddefnydd y Gymraeg yn y drefn gyfreithiol yng Nghymru. Bu’n farnwr am bymtheng mlynedd nes ymddeol yn 70 oed yn 2016. Yn yr un flwyddyn, fe’i anrhydeddwyd yn Y Fenni o’i wneud yn aelod o’r Orsedd am ei wasanaeth i’r Gymraeg ym myd y gyfraith ac addysg.

Daeth cyfnod machlud ei iechyd yn rhy gyflym o lawer wedi hynny. Yn Chwefror 2017, cafodd ddeiagnosis cychwynnol o’r clefyd a’i llethodd maes o law. Erbyn 2019, roedd pethau wedi gwaethygu nes i’w deulu a’i ffrindiau gael braw ynglŷn â’i  ddiogelwch personol. Pen draw hyn oedd iddo fynd yn 2021 i fyw mewn gofal yng Nghaerdydd ac yna Penarth.

Bu ei deulu yn ymweld yn ffyddlon ag e yno. Hefyd, ymwelodd cylch ohonom – yn hen gyfeillion gwleidyddol (David Evans, Dafydd Williams, Marc Phillips, Helen Mary Jones a minnau) – yn gyson. Doedd yr ymweliadau hyn ddim yn hawdd ac weithiau’n dipyn o her. Ond rydym yn falch ein bod wedi dal ati. Roedd Phil, ein cyfaill, yn ei haeddu.

Y tro olaf inni ymweld ag ef fu ar yr 16eg Gorffennaf, ryw bythefnos cyn ei ben-blwydd yn 79 oed. Fel arfer, bu hanner cyntaf yr awr a gaem gydag e yn ymdrech i ennyn ymateb; ond, fel arfer, byddai llygedyn o nabod yn corddi ynddo yn ystod yr ail hanner awr : yn enwedig wrth inni ganu i gyfeiliant banjo Dafydd Williams! Agorodd Phil ei lygaid y diwrnod arbennig hwnnw a dechreuodd wenu arnom. Ar ddiwedd yr awr, aethom, fesul un, i ffarwelio ag e dros dro. Erbyn i ‘nhro i ddod, tua’r diwedd, cydiodd yn fy llaw nes imi fethu yn hawdd ei dynnu’n rhydd – a doedd gen i mo’r galon i wneud hynny’n bwrpasol. Felly y buom nes egluro i’r lleill – a chyn i HMJ roi cusan mawr arall iddo ar ei dalcen. Hynny’n unig barodd iddo ryddhau ei afael.

Dyna sut y daeth ein cyfeillgarwch o drigain mlynedd i ben. Ni fyddaf yn ei anghofio. Y peth a’n cynhaliodd y diwrnod hwnnw oedd bod Phil wedi deall – os nad yn union pwy oeddem – ein bod yn gyfeillion iddo, ac yn meddwl y byd ohono.

Diolch am wrando. Tawaf â’r cywydd mawl “Er cof am y Barnwr Philip Richards” : dyn mawr yng Nghymru ei gyfnod os y bu un erioed.

 David Leslie Davies.


Teyrnged yn y Senedd i Phil Richards gan Rhys ab Owain. 24 Medi 2025  

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Naw cant tri deg dau o bleidleisiau ychwanegol, a byddai Phil Richards wedi dod yn Aelod yn y siambr yma yn 1999, fel yr Aelod cyntaf dros Gwm Cynon. Colled gwleidyddiaeth Cymru oedd ennill i system gyfiawnder ein gwlad. Fel nifer o genedlaetholwyr amlwg y cyfnod, cafodd Phil ddim ei eni yng Nghymru, ond nid man geni sy’n pennu cenedligrwydd, ac roedd Phil ar dân dros Gymru a’r Gymraeg. 

Roedd fy nhad a Phil yn unigryw yn y blaid yng Nghaerdydd ar ddechrau’r 1960au. Doedden nhw ddim yn gapelwyr iaith Gymraeg, ac roedd rhai yn eithaf drwgdybus o’r ddau rebel yma, ond mi wnaeth y ddau daflu eu hunain i ymgyrchu yng Nghaerdydd, yn aml mewn sefyllfaoedd anodd, ac yna fe aeth Phil i Gwm Cynon flynyddoedd cyn yr etholiad cyffredinol yn 1979 i sefyll dros y blaid yn yr etholiad anodd yna. Nid ymgeisydd parasiwt oedd Phil Richards.

Fe ddefnyddiodd ei sgiliau cyfreithiol i gynorthwyo’r blaid yn y 1970au a’r 1990au, cyfnodau allweddol yn hanes datganoli. Fe ymdaflodd Phil i normaleiddio’r Gymraeg yn y llys. Byddai’n cymell tystion i roi eu tystiolaeth yn eu hiaith gyntaf. Fe wnes i lawer o achosion drwy’r Gymraeg o flaen Phil. Fe ddaeth y dysgwr Cymraeg yn farnwr cyswllt y Gymraeg yng Nghymru, gan hyrwyddo’r iaith ar bob achlysur.

Penllanw hynny oedd i Phil ddod yn aelod o’r Orsedd fel Phil Pennar. Bu Dad a Phil yn yr un cartref am gyfnod, ac er nad oedd y ddau hen gyfaill yn adnabod ei gilydd oherwydd yr afiechyd creulon, roedd yn dod â rhyw deimlad braf inni bod y ddau gyda’i gilydd, a bob tro rôn i’n gweld Phil, roedd ei wên yn para o hyd. Mae Cymru wedi colli cawr o ddyn. Cawr ar goesau bach efallai, ond cawr heb os. Diolch yn fawr.