Mae gwybodaeth werthfawr wedi dod i law am ymgyrch Plaid Cymru i oresgyn tlodi yn y tridegau. Mae papurau a drosglwyddwyd i ofal Cymdeithas Hanes Plaid Cymru gan Siôn ap Glyn yn dangos cymaint o waith ymarferol a wnaed i helpu’r di-waith a’u teuluoedd mewn ardaloedd difreintiedig yn y De a’r Gogledd.
Sefydlwyd ‘Clybiau Cinio Difiau’ gan y Blaid yn ystod y dirwasgiad a darodd Gymru’n galed bron nawdeg o flynyddoedd yn ôl, a hynny gan fudiad oedd wedi’i sefydlu ond ryw ddegawd ynghynt.
Fel y dywedodd Saunders Lewis, Llywydd y Blaid ar y pryd, pwrpas y clybiau oedd i bobl mewn gwaith helpu’r rhai llai ffodus drwy aberthu un pryd o fwyd yr wythnos a rhoi chwe cheiniog i ddarparu bwyd i’r di-waith. Dydd Iau oedd y diwrnod a ddewiswyd – a hynny yn bennaf oherwydd yn aml iawn na fyddai teuluoedd tlawd yn bwyta ar y diwrnod hwnnw am y rheswm syml nad oedd dim arian ar ôl. Aeth gwaith y Clybiau Difiau ymlaen tan ddechrau’r rhyfel yn 1939. Talwyd cost y bwyd gan aelodau’r Blaid, gyda’r arian yn cael ei weinyddu gan ei swyddfa genedlaethol. Yn ôl yr hanesydd D. Hywel Davies, dyma’r ymgyrch elusennol fwyaf llwyddiannus a wnaed gan aelodau’r Blaid yn ystod y 1930au – “parhaodd llif y chwe-cheiniogau cenedlaetholgar yn ddi-dor.”
Ceir adroddiadau manwl am y flwyddyn 1937 am weithgarwch dau glwb ym maes glo’r De – Dowlais ger Merthyr a Dyfnant yn ymyl Abertawe – ac un yn ardal chwarelyddol y Gogledd-orllewin, sef Rhosgadfan. Dowlais oedd man cychwyn y fenter, mae’n debyg, ac ymweliad gan Saunders Lewis fu’r sbardun i’w lledu i ardaloedd eraill. Nes ymlaen, sefydlwyd clwb arall yn Nhreorci yn y Rhondda.
Mae manylion difyr yn dod i’r amlwg yn yr adroddiadau – yn Nyfnant, er enghraifft, yn ôl un arweinydd lleol Dr Gwent Jones, methiant fu’r cinio cyntaf – doedd pobl leol ddim am dderbyn cardod. Llwyddodd i oresgyn y broblem honno drwy wahodd ‘gwesteion’ o blith di-waith yn y gymuned i gyfarfod gyda’r nos ble bydden nhw’n “annerch, darlithio, canu etc., yn ôl eu talent, ond o hyd i fwyta gyda ni”. Ar ôl hynny, bu’r ciniawa’n llwyddiannus iawn.
Bydd y dogfennau gwreiddiol, y rhan fwyaf ohonyn nhw yn y Gymraeg, yn cael eu danfon i archif Plaid Cymru yn y Llyfrgell Genedlaethol ac mae modd eu darllen ar wefan Cymdeithas Hanes Plaid Cymru yma –