Radio Answyddogol Cymru yn Llundain

Dyma radio Cymru’n galw……o Lundain.  Radio answyddogol Cangen Llundain o Blaid Cymru’n darlledu o Earl’s Court yn 1962.  Cymerwyd y darlun unigryw hwn mewn atig rhywle yn Earl’s court ar 11eg o Hydref 1962.  does dim angen dweud mai cefnogwyr answyddogol oedd y darlledwyr.

1962 Radio Cymru LlundainDaeth yr orsaf answyddogol ar yr awyr yn fuan wedi i’r Anthem Genedlaethol doddi i’r cefndir ar deledu’r  B.B.C.  Newyddion a sylwebaeth barodd 15 munud oedd prif bynciau’r darllediad.

Anelwyd ef ar y cyfan at etholwyr syfrdan Hampstead, etholaeth Mr henry Brooke (Roedd Mr Brooke yng nghynhadledd y Blaid Doriaidd yn Llandudno ar y pryd ac yn gwneud ei orau i ganu’r Anthem Genedlaethol)

Meddai Radio Cymru “ Mae ein gwrandawyr yn Hampstead heno yn gwybod gystal ac y gwyddom ni yng Nghymru sut ddyn ansensitif yw Henry Brooke.”

Cynddeiriogwyd  pobl Cymru pan foddwyd Tryweryn, aeth ymlaen.

“Anghofiwn ni ddim ohonot ti Brooke a heno erfynwn ar etholwyr Hampstead i ddewis gwr bonheddig o feddylfryd ddemocrataidd, sensitif a theg”  “Pryd a ble bydd Radio Cymru’n taro nesaf?”

Archif Cangen Llundain

Atgofion am Is-etholiad Maldwyn 1962

RHAI ATGOFION AM IS-ETHOLIAD 1962

gan Trefor Edwards

Mae’n syn meddwl fod naw mlynedd wedi mynd heibio er Is-etholiad 1962 ym Maldwyn. Dyna’r tro cyntaf i’r Blaid ddangos y faner ac o ystyried hynny mae’n deg dweud i’n cynnydd fod arwyddocaol iawn. Pe bai’r Blaid wedi sefyll ym Maldwyn er 1945, dyweder, yna mae lle i gredu y byddai’r cynnydd yn amlycach fyth. Ac fel y sylwodd Dr. Phil Williams ar ôl yr Etholiad diwethaf, yn yr etholaethau hynny y bu ymladd dros gyfnod helaeth o amser y cafwyd yr ymateb gorau. Ond nid bwriad hyn o lith yw tynnu llinyn mesur dros weithwyr cynnar y Blaid yn y sir, oherwydd fe wn yn dda am yr anawsterau, a’r gwaith a gyflawnwyd ganddynt.

Etholiad diddorol a dweud y lleiaf a fu’r Is-etholiad ym 1962, ac mae rhai profiadau prin, bythgofiadwy yn mynnu ymwthio i’r cof. Un ohonynt oedd mynd i Fangor un noson i geisio dwyn perswâd ar Islwyn Ffowc Elis i sefyll fel ymgeisydd. Bu’r daith yn ôl o Fangor yng nghwmni’r Parch. Arthur Thomas ar ôl cael ateb cadarnhaol yn felys fer a’n hysbrydoedd ar ei huchelfannau. Nid edrychodd Maldwyn yn brydferthach na’r noson honno ac ysbryd y ‘Gwanwyn’ yn y tir.

Yr ail atgof yw ymweliad y diweddar J.E. Jones â’r sir i baratoi am yr ymgyrch. Nid oedd ei iechyd yn dda o gwbl, fe wyddwn hynny, ond ni wyddwn ei fod mewn cymaint o boen corfforol, fel y cyfaddefodd wrthyf rai blynyddoedd yn ddiweddarach. Roedd ei dasg yn enfawr ond aeth ati yn ei ffordd gadarn i wneud yr hyn a allai. Daeth i’n gweld i’r tŷ ryw fin nos ac amlinellu cynlluniau’r frwydr er gwaethaf ei salwch. Siaradai ac ysgrifennai yn ddi-stop â’i feddwl yn glir a threfnu ar hyd yr amser. Nodweddiadol o’i drylwyredd oedd y modd yr ai ati i drefnu cyfarfodydd. Map O.S. manwl ar y bwrdd o’n blaenau a J.E. am gynnal cyfarfod mewn pob tref, pentref a hyd yn oed y mân bentrefi a’r ardaloedd. Lle bynnag y gwelai J.E. glwstwr o dai ar y map roedd rhaid cynnal cyfarfod yno. Y Belan a Threfnannau a Phenygarnedd! Roedd Bwlchyddâr yn cael ystyriaeth hefyd, ond sylweddolwyd fod hwnnw yn Sir Ddinbych! Braint i mi oedd cael cydweithio â dyn a ddisgyblodd ei hunan mor llwyr i achos rhyddid Cymru, ac a wnaeth hynny heb golli dim o anwyldeb cynhenid ei bersonoliaeth fawr.

Fe drefnwyd nifer fawr o gyfarfodydd yn ystod yr Is-etholiad hwnnw, diolch i drylwyredd J.E. ac hefyd, wrth gwrs, oherwydd y gallem alw ar hufen siaradwyr cyhoeddus Cymru. Fel y cyfeiriodd Islwyn Ffowc Elis at yr ymgyrch yn ddiweddar, ymgyrch plannu’r had fu’r Is-etholiad ac fe’i plannwyd yn rymus iawn cyn belled ag yr oedd cyfarfodydd yn y cwestiwn.

Yr un a wnaeth fwyaf o waith gyda’r cyfarfodydd corn siarad oedd yr enwog Glyn James o’r Rhondda, y “corniwr” mwyaf effeithiol a glywais i erioed. Nid anghofiaf fyth ei araith ar brif stryd Llanfair Caereinion. Ninnau’r gweithwyr yn y swyddfa yn Brook House un amser cinio yn gorfod rhoi heibio’n gwaith a gwrando’n fud arno. Yna, y diweddar, anfarwol Fred Jones, Llanfair Caereinion, un o aelodau cynnar y Blaid yn y sir yn rhuthro i mewn i’r swyddfa, y dagrau’n treiglo i lawr ei ruddiau, ac yn ebychu fel tôn gron, “Rasol inne!” a “Fachgien bech!”.

Ie’n wir, etholiad i’w gofio oedd Is-etholiad 1962. Erbyn hyn mae’r had wedi egino a’r egin yn glasu bryniau Maldwyn. Fe ddaw’r cynhaeaf a bydd melys y medi. Ni all ein gelynion ond ei ohirio mwyach.

(Allan o MALDWYN, Montgomery Newsletter of Plaid Cymru. Rhif 2. Haf 1971.)

Glyn James 1922 – 2010

Teyrnged i Glyn James

Mae Llywydd Plaid Cymru, Jill Evans ASE wedi datgan ei thristwch mawr yn dilyn marwolaeth Glyn James o’r Rhondda.

Glyn JamesYn enedigol o Langrannog, daeth Glyn i’r Rhondda i weithio ym Mhendyrys ac yna i lofeydd Lady Windsor. Safodd am y tro cyntaf mewn isetholiad yn Ystrad Rhondda yn 1959, gan golli o 4 pleidlais yn unig. Daeth dros y siom o golli drwy ennill sedd gyntaf Plaid Cymru yn y Rhondda yn y flwyddyn ddilynol. Cafodd ei ail-ethol sawl gwaith a daeth yn Faer y Rhondda.
Roedd Glyn yn gynghorydd fyddai’n ymgyrchu. Cadwynodd ei hun i ysbyty Llwynypia mewn protest i gadw gwasanaethau; dringo ar ben to swyddfeydd y cyngor i alw am fwy o wasanaethau ar gyfer y Rhondda Fach; ac fe ddarlledodd ar ei orsaf radio anghyfreithlon, ‘Radio Cymru Rydd/Radio Free Wales’ fferm Pen-rhys Isaf. Safodd am y Rhondda sawl gwaith mewn etholiadau cyffredinol a chaiff ei gofio hefyd am ddraig a anadlai fwg ar gefn lori oedd mor nodweddiadol o’r modd byddai’n cyfleu ei neges.

Dywedodd Jill Evans,
“Roedd Glyn yn gyfaill agos ac yn gydweithiwr yn y Blaid. Roedd yn brif ffigwr yn y Rhondda ac ym Mhlaid Cymru ac yn wir ysbrydoliaeth i fi. Carai’r Rhondda a Chymru yn angerddol a byddai ei frwdfrydedd yn cael ei adlewyrchu yn ei ymgyrchoedd lliwgar a chyffrous. Byddai byth yn rhoi stop ar ei ymgyrchu. Fe oedd yr optimist tragwyddol na wnaeth amau fyth na fyddai Cymru yn ennill ei rhyddid. Hwn yn fwy na dim, fydda i yn ei gofio am Glyn ac a fydd yn parhau i ysbrydoli cymaint ohonom ym Mhlaid Cymru am flynyddoedd i ddod. Roedd yn ddyn mawr ac arbennig a byddaf yn ei golli ac yn gweld ei eisiau’n fawr iawn. Hoffwn gynnig ein cydymdeimlad dwfn i Hawys a’r teulu ar ran Plaid Cymru.”

 

2010 Glyn James

Stephen Griffith 1908 – 2010

Teyrnged i Stephen Griffith

Ganwyd Stephen Griffith yn 1908 ym Mlaenau Ffestiniog,  ardal y chwareli llechi yng Ngogledd Cymru.  Bu farw yn ei gartref yn Neyland ar y 12 Rhagfyr yn 102 oed yng ngofal ei deulu.

Stephen GriffithAeth i brifysgol Bangor i astudio Ffiseg a dyfarnwyd MSc iddo yn 1958 am ei waith ystadegol a dadansoddiad o’r rhesymau dros fethiant mewn ysgolion Gramadeg.  Treuliodd ei yrfa fel athro Ffiseg yn Henffordd, Swydd Buckingham ac o 1949 yn Sir Benfro. Yn 1942 priododd a Clemency  a ganwyd tair merch iddynt, Dilys ,Margaret ac Enid.  Fel gwrthwynebydd cydwybodol a heddychwr brwdfrydig, bu’n yrrwr ambiwlans yn ystod yr ail ryfel byd ac ar ôl y rhyfel ymunodd ef a Clemency â’r Crynwyr.  Yna daeth yn aelod o Blaid Cymru ac yn gyfaill i’w gyd Grynwr Waldo Williams.  Bu’n gefnogol i Waldo yn ei ymgyrch dros fod yn ymgeisydd Plaid Cymru yn Sir Benfro’r 50au.

Yn ystod ei ddyddiau yn Ysgol Ramadeg Penfro bu ef a’i gyfaill mawr a’i gydweithiwr Islwyn Griffiths, gyda chymorth pobl eraill yn rhedeg Gwersyll Rhyngwladol am bythefnos bob Haf am bymtheg mlynedd yn olynol.  Roedd hon  ar gyfer myfyrwyr tramor ac eraill oedd yn astudio ym Mhrydain.  Roeddynt yn awyddus i feithrin dealltwriaeth a pherthynas dda rhwng y gwledydd a gynrychiolid.  Ar ôl ei ddyddiau ysgol ym Mhenfro gwirfoddolodd i addysgu Ffiseg mewn ysgol yn Ghana fel cyfraniad i’r trydydd byd.  Wedi hynny bu’n dysgu Gwyddoniaeth, Mathemateg a Chymraeg yn lleol.

Y degawd dilynol oedd ei fwyaf ffrwythlon cyn belled ag yr oedd ei gyfraniad llenyddol yn y cwestiwn.  Roedd yn awdur 7 cyfrol a 5 o’r rheiny yn y Gymraeg.  Roedd yn Eisteddfodwr brwd ac fel teyrnged i’w waith llenyddol yng Nghymru derbyniodd y wisg wen  Yn Eisteddfod Genedlaethol y Rhyl yn 1985.

Roedd ganddo amryw o ddiddordebau, yn cynnwys cadw gwenyn,  rhwyfo yn ei gwch bach ar ddyfrffyrdd y Cleddau, gwylio rhaglenni teithio ar y teledu a darllen llyfrau Cymraeg.  Ymhyfrydai yn y pwll bach yn ei ardd gyda’i brogaod, lili’r dŵr, a’i ffynnon solar.  Brwydrai yn erbyn y cythreuliaid bach ar ei gyfrifiadur!  Roedd yn frwd dros yr amgylchedd ac roedd wedi gosod paneli solar ar ei fyngalo yn Neyland.

Yn ei flynyddoedd olaf gwelid ef ar ei sgwter ar gyfer yr anabl.  Cyn belled ag y gallai cymerai ddiddordeb mawr mewn bywyd a materion y dydd.

Cynhaliwyd ei angladd ym Mharc Gwyn ar y 17 Rhagfyr 2010 ac mewn Cyfarfod Coffa iddo yn Nhŷ  Cwrdd y Crynwyr yn Priory Rd Aberdaugleddau Sadwrn y 29 Ionawr 2011 diolchwyd am ras Duw ym Mywyd Stephen Griffith.

Hanes Plaid Cymru