Cofio 80 mlynedd ers llosgi’r Ysgol Fomio

Digwyddiadau y Gorffenol. Past Events
PAM?
Am fod y Swyddfa Ryfel yn ystyried meddiannu 27,000 acer o dir amaethyddol yn ardal Tregaron er mwyn creu gwersyll i hyfforddi’r Royal Engineers. Roedd hyn yn dilyn gweithredoedd tebyg ym Mhenyberth, Epynt, y Preselau ayyb. Yn nes ymlaen, ystyriwyd ehangu’r gwersyll milwrol ym Mronaber ger Trawsfynydd hefyd. Roedd Plaid Cymru ar flaen y gad yn gwrthwynebu’r rhain i gyd yn eu tro.
PRYD?
Parhaodd yr ymgyrch i achub Tregaron yn benodol rhwng hydref 1947 a haf 1948. Dyddiad y brotest a welir yn y ddau lun hyn oedd dydd Iau, 16 Hydref 1947.
BLE?
Cynhaliwyd y brotest sydd yn y ddau lun (‘gorymdaith faneri’) yn Park Place, Caerdydd, ddydd Iau, 16 Hydref 1947. Y diwrnod hwnnw, roedd y Swyddfa Ryfel mewn cynhadledd â gweinyddiaethau eraill y llywodraeth yn trafod y cynlluniau. Cyflwynwyd ‘degau o delegramau … o bob rhan o Gymru yn gwrthdystio yn erbyn y bwriad’ i Swyddog Cynllunio Gwlad a Thref yn Park Place y bore hwnnw
PWY?
Plaid Cymru oedd yn arwain yr ymgyrch yn Nhregaron, mewn cydweithrediad â ffermwyr lleol ac Undeb Cymru Fydd. Protest gan Blaid Cymru yn benodol oedd yr un yng Nghaerdydd, ac 20 o aelodau’r Blaid a gymerodd ran ynddi. Yn yr ail lun, mae’r gorymdeithwyr yn cael eu harwain gan Nans Jones oedd yn gweithio yn Swyddfa’r Blaid yng Nghaerdydd. Mae hi i’w gweld yn y llun cyntaf hefyd, yn sefyll yn ail o’r dde wrth ymyl J. E. Jones, yr Ysgrifennydd Cyffredinol (sy’n sefyll ar y palmant).
Roedd rhai o’r brwydrau yn cael eu hennill ac eraill yn cael eu colli. Un a enillwyd oedd hon, a bu’n rhaid i’r Swyddfa Ryfel roi’r gorau i’r cynlluniau i feddiannu’r tir yn Nhregaron erbyn haf 1948.
Etholaeth Meirionydd yn diolch i Gwynfor Evans ar ôl Etholiad 1959


Cyfarfod Mabwysiadu Elystan Morgan 1964

Cynhaliwyd cynhadledd ac ysgol haf y Blaid ym Merthyr Tudful ym 1958. Y lleoliad oedd yr ysgol ramadeg yng Nghastell Cyfarthfa, hen gartref y Crawshays, lle gallai’r teulu edrych ar draws y cwm ar eu heiddo proffidiol, sef gwaith haearn Cyfarthfa. Mae’r tri ffotograff yn dangos trafodaethau cynhadledd yn neuadd yr ysgol. Yn eistedd wrth y bwrdd ar y llwyfan mae’r Dr R. Tudur Jones (Is-lywydd y Blaid), Gwynfor Evans (Llywydd), J.E. Jones (Ysgrifennydd Cyffredinol) ac Emrys Roberts (Ysgrifennydd Cynorthwyol). Er i’r gynhadledd hon gael ei chynnal yng nghyfnod y gwaharddiad radio a theledu ar Blaid Cymru gan y Blaid Lafur a’r TorÏaid, mae rhaid bod rhyw gymaint o sylw’n cael ei roi iddi gan y cyfryngau: mae meicroffôn y BBC i’w weld ymhob llun.
Llun 1: siaradwr anhysbys. A oes rhywun yn gwybod pwy ydyw?
Llun 2: y siaradwr yw Trefor Beasley, rwy’n meddwl. Ydw i’n gywir? Wrth y bwrdd y tu draw i’r llwyfan mae’r cyfieithwyr, Meirion Lloyd Davies a Chris Rees. Dywedodd Meirion wrthyf yn ddiweddarach nad oedd offer cyfieithu-ar-y-pryd i’w cael yr adeg honno: byddai’r cyfieithwyr yn cymryd nodiadau tra oedd y siaradwr wrthi a chodi ar ôl iddo/iddi orffen i gyflwyno crynhoad Saesneg ar lafar er mwyn yr aelodau di-Gymraeg. Bu Meirion yn weinidiog gyda’r Presbyteriaid ar hyd ei oes wedyn. Roedd Chris wedi ymladd Gwyr yn Etholiad Cyffredinol 1955. Symudodd i Ddwyrain Abertawe ar gyfer 1959, pan oedden ni’n dau yn gyd-athrawon yn Ysgol Glan Clwyd, Y Rhyl. A phan gafodd y Blaid gwta pum munud ar y radio ac ar y teledu ym 1965 fe fu’n gyfrifol am y darllediad radio, gyda Gwynfor ar y teledu. Yn rhinwedd ei swydd fel Maer Merthyr, estynnodd y Cynghorydd (Llafur) Tal Lloyd groeso dinesig i gynadleddwyr 1958. Yna, ym 1970, ddeuddeng mlynedd yn ddiweddarach, cafodd ei fabwysiadu’n ymgeisydd Llafur dros etholaeth Merthyr. Roedd S.O. Davies wedi bod yn AS ers 1934, gan gyflwyno mesur senedd i Gymru i Dy’r Cyffredin ym 1955, yn gwbl groes i bolisi ei blaid. Ac ym 1970 fe’i dyfarnwyd ganddyn nhw yn rhy hen i barhau yn ei swydd ac yntau’n 84 oed. Ond safodd fel Llafurwr Annibynnol – ac ennill. Chris Rees oedd ymgeisydd Plaid Cymru yn yr etholiad hwnnw. Pan gyhoeddwyd y canlyniad, cymerodd Chris y cam anarferol, nid yn unig o longyfarch S.O. yn galonnog ond hefyd o ddweud mor falch ydoedd, dan yr amgylchiadau, nad oedd yntau wedi ennill!
Llun 3: y siaradwr yw Arthur Donaldson, cynrychiolydd yr SNP (daeth yn arweinydd ar y blaid honno ym 1960). Ar y wal y tu ôl i Emrys Roberts mae poster yn cyhoeddi cyfarfod cyhoeddus dan nawdd y Blaid yn erbyn y bom-H, i’w gynnal yn ystod cyfnod y gynhadledd mewn capel yn y dref, gydag anerchiadau gan y Dr Glyn [O.] Phillips, Gwynfor Evans a Michael Scott o’r Direct Action Committee against nuclear war Roedd y Direct Action Committee (1957-1961) yn gorff pasiffistaidd a sefydlwyd mewn ymateb i un o brofion Bom-H Prydain ar Christmas Island yn y Môr Tawel rhwng 1956 a 1967. Y nôd oedd cynorthwyo ‘the conducting of non-violent direct action to obtain the total renunciation of nuclear war and its weapons by Britain and all other countries as a first step in disarmament’.
GEMAU’R GYMANWLAD, CAERDYDD 1958, gan Philip Lloyd Roedd prif swyddfa’r Blaid i fyny’r grisiau mewn adeilad yn Stryd y Frenhines, Caerdydd yr adeg honno. Cafwyd cyflenwad o raglenni i’w gwerthu i’r cyhoedd, a’r elw’n mynd i’r Blaid. Yn y llun yma gwelir Glyn James yn eu gwerthu wrth y fynedfa ar waelod y grisiau. Sylwch ar y fersiwn Saesneg o enw’r Blaid. 
Isetholiad Glyn Ebwy, 17 Tachwedd 1960
Philip Lloyd
Dyma’r isetholiad a ddilynodd farwolaeth Aneurin Bevan. Es i yno i helpu yn ystod wythnos hanner tymor Mis Hydref, ynghyd â’m cyd-athro yn Ysgol Glan Clwyd (y Rhyl), Gwilym Hughes. Arhoson ni gyda Mr a Mrs Dewi Samuel, aelodau lleol o’r Blaid. Nes ymlaen fe safodd Gwilym yn ymgeisydd Plaid Cymru mewn etholiadau cyffredinol ar gyfer Dwyrain Fflint, Gorllewin Flint a Chonwy, yn ogystal â chael ei ethol i Gyngor Dosbarth Dinesig y Rhyl. Lluniodd gartwn yn y Welsh Nation yn dangos Harold Wilson ac Alec Douglas-Home yn arwain gorymdaith ddwy-blaid yn cario baneri’n dweud: ‘Ban Plaid’; sylwadau miniog ar y cyd-gynllwynio gan Lafur a’r Torïaid i wadu darllediadau gwleidyddol i Blaid Cymru.
Dyma luniau a dynnais yn ystod yr wythnos honno, gan ddangos:-
Ymgeisydd Plaid Cymru Emrys Roberts gyda chorn siarad ar ben y car ac yn sgwrsio gyda phleidleiswyr Swyddfa’r Blaid yn Nhredegar Posteri mawr etholiadol ar hysbysfyrddau Meddygfa Tredegar a ddyddiai o’r ddarpariaeth wedi’i hariannau’n lleol oedd yn sail i’r gwasanaeth iechyd gwladol a sefydlwyd gan Aneurin Bevan yn ystod y llywodraeth Lafur a etholwyd yn 1945
Hefyd ceir dau lun o ddarlledu anghyfreithlon yn ystod ymgyrch yr etholiad (rhan o’m casgliad ‘Radio Wales’o luniau)
Y canlyniad:- Michael Foot (Llafur) 20,528 Sir Brandon Rhys Williams, Bart (Tori) 3,799 Patrick Lort-Phillips (Rhyddfrydol) 3,449 Emrys Roberts (Plaid Cymru) 2,091
Canran yn pleidleisio: 76.1%