Categori: Digwyddiadau
Digwyddiadau y Gorffenol. Past Events
Radio Answyddogol Cymru yn Llundain
Dyma radio Cymru’n galw……o Lundain. Radio answyddogol Cangen Llundain o Blaid Cymru’n darlledu o Earl’s Court yn 1962. Cymerwyd y darlun unigryw hwn mewn atig rhywle yn Earl’s court ar 11eg o Hydref 1962. does dim angen dweud mai cefnogwyr answyddogol oedd y darlledwyr.
Daeth yr orsaf answyddogol ar yr awyr yn fuan wedi i’r Anthem Genedlaethol doddi i’r cefndir ar deledu’r B.B.C. Newyddion a sylwebaeth barodd 15 munud oedd prif bynciau’r darllediad.
Anelwyd ef ar y cyfan at etholwyr syfrdan Hampstead, etholaeth Mr henry Brooke (Roedd Mr Brooke yng nghynhadledd y Blaid Doriaidd yn Llandudno ar y pryd ac yn gwneud ei orau i ganu’r Anthem Genedlaethol)
Meddai Radio Cymru “ Mae ein gwrandawyr yn Hampstead heno yn gwybod gystal ac y gwyddom ni yng Nghymru sut ddyn ansensitif yw Henry Brooke.”
Cynddeiriogwyd pobl Cymru pan foddwyd Tryweryn, aeth ymlaen.
“Anghofiwn ni ddim ohonot ti Brooke a heno erfynwn ar etholwyr Hampstead i ddewis gwr bonheddig o feddylfryd ddemocrataidd, sensitif a theg” “Pryd a ble bydd Radio Cymru’n taro nesaf?”
Archif Cangen Llundain
Cofeb i Gwynfor yn y Barri
Ar ymddeoliad Gwenno Huws, dirprwy brifathrawes Ysgol Gymraeg Sant Baruc, yn nhre’r Barri penderfynodd hi ei fod yn hen bryd cydnabod cysylltiad Gwynfor Evans, Cyn Lywydd Plaid Cymru, â’r dre gan iddo gael ei eni a’i fagu yn y Barri gan fynychu Ysgol Gynradd Gladstone ac Ysgol Uwchradd y Bechgyn yna. Buodd farw yn 92 oed yn 2005 ac felly dan arweiniad Gwenno Huws aethpwyd ati i godi cronfa i dalu am benddelw o’r gŵr hynod hwn a chomisiynwyd y cerflunydd John Meirion Morris, Llanuwchllyn ger y Bala i gyflawni’r gwaith.
Daeth llawer ynghyd i Lyfrgell y Barri ar yr 28 Chwefror 2010 i weld yr Arglwydd Dafydd Ellis-Thomas yn dadorchuddio’r penddelw efydd o’r gwron hwn a gwireddwyd breuddwyd Gwenno Huws i weld cofeb deilwng iddo yn ei dref enedigol. Llywyddwyd y cyfarfod gan Dulyn Griffiths, prifathro Ysgol Sant Baruc a chafwyd cyfraniad swynol dros ben gan Gôr yr ysgol dan arweiniad Gwenno Huws a’r siaradwr gwadd oedd yr Athro Gareth Williams o Brifysgol Morgannwg.
Radio Cymru – Radio Wales 1958 – 1965
Voice of Free Wales
Gwynfor Evans on Radio Wales
Gwynfor Evans ar Radio Cymru
Yn y dudalen o Golwg mae llun o Glyn James yn llwyddo i guddio ei wyneb wrth ddarlledu adeg is-etholiad Glyn Ebwy. Hefyd cartwn Gwilym Hughes o Wilson a Douglas-Home (‘Ban Plaid’). Mae Gwilym wedi marw, ond cefais ganiatad ganddo i ddefnyddio’r cartwn fel y mynnwn. Soniaf am Gwilym a’r cartwn yn fy ysgrif am is-etholiad Glyn Ebwy.

Carreg Goffa i Gwynfor
Dadorchuddiwyd cofeb i Gwynfor Evans ar y Garn Goch ar ddydd Sadwrn 15 Gorffenaf 2006 fel rhan o Rali Cofio ’66 i ddathlu deugain mlynedd union ers iddo gael ei ethol yn Aelod Seneddol cyntaf Plaid Cymru mewn is-etholiad hanesyddol ar Gorffennaf 14eg 1966. Mae pawb oedd ar sgwar Caerfyrddin y noson honno yn cofio’r gorfoledd bendigedig a’r gobaith afresymol a daniwyd yno.
Cloddiwyd y garreg enfawr, sy’n pwyso 7.5 tunnell, mewn chwarel ger Llandybie. Cerfiwyd enw Gwynfor arni gan yr artist enwog Ieuan Rees a fu’n gyfrifol am nifer o gerfiadau ar gofebion i enwogion yn hanes Cymru. Caiff ei ystyried yn un o artistiaid/crefftwyr mwyaf amryddawn Prydain ym maes llythrennu, cerfio llythrennau, caligraffeg, herodraeth a chyfathrebu graffeg.
Gwynfor.net >> Gwynfor
Newyddion BBC > BBC







