Darlith Ieuan Wyn Jones ‘O Gymru Fydd i Blaid Cymru-Y Siwrne’

CYMDEITHAS HANES PLAID CYMRU
PABELL Y CYMDEITHASAU EISTEDDFOD WRECSAM
12.30yp DYDD IAU 7 AWST 2025

‘O Gymru Fydd i Blaid Cymru-Y Siwrne’
Ieuan Wyn Jones

Darlith sy’n ystyried effaith y cynnydd mewn ymwybyddiaeth genedlaethol
ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg ar sefydlu Plaid Cymru yn 1925

Sain y Ddarlith >

 

‘Tom Ellis oedd y pennaf a’r cywiraf gwladgarwr o blith Aelodau Seneddol cyfnod “Cymru Fydd” yn niwedd y ganrif ddiwethaf (19C). Yn anffodus, cymerodd yntau swydd yn ei blaid Seisnig, eithr bu farw’n fuan wedyn, flwyddyn cyn troad y ganrif. Parhai’n arwr yn y sir, yn ein hardal ni o leiaf, ac nid oedd ei hen gartref nepell o Felin-y-Wig. Safai llun mawr ohono uwchben ein silff ben tân yn y Foty Fawr, a thano ei eiriau, “Ysbrydiaeth a nod cenedl yw hunanlywodraeth.” Ei safiad tros Gymru a arhosai yng nghof ein hardal ni ac a drosglwyddwyd i ni’r plant.’

Dyfyniad o gyfrol J.E. Jones, Ysgrifennydd Cyffredinol Plaid Cymru 1930-1962: ‘Tros Gymru’, 1970, t.21.

Dechreuaf y ddarlith hon gyda dyfyniad o lyfr J.E. Jones am ei fod yn crynhoi meddyliau a theimladau rhai o arweinwyr cynnar Plaid Cymru, sef ystyried sefydlu mudiad Cymru Fydd yn 1886 fel rhagflaenydd y Blaid, a dysgu’r gwersi amlwg o fethiant y mudiad hwnnw. Y wers bwysicaf o ddigon oedd mai prif fethiant cenedlaetholwyr mudiad Cymry Fydd – a’i hymlyniad at y Blaid Ryddfrydol Seisnig a Phrydeinig – oedd ceisio gweithredu oddi mewn i’r blaid honno. Erbyn 1925 rhaid oedd sefydlu Plaid Genedlaethol Gymreig a honno’n gyfan gwbl annibynnol o unrhyw blaid arall. Meddai Griffith John Williams yn 1935 ‘Yr oedd hi’n hanfodol sefydlu Plaid Wleidyddol Gymreig’. Rhaid oedd i bob aelod arwyddo ymrwymiad i ddiweddu pob cysylltiad efo pleidiau gwleidyddol eraill yng Nghymru a Lloegr. 

Ond dwi’n rhedeg ychydig o flaen f’hun rŵan. Nid yn 1886 mae’r stori’n dechrau. Rhaid inni fynd yn ôl i 1847. Ar lawer ystyr mae’n flwyddyn dyngedfennol yn ein hanes fel cenedl, gan mai’r flwyddyn honno cyhoeddwyd Adroddiad i Gyflwr Addysg yng Nghymru ac a adnabuwyd yn fuan fel ‘Brad y Llyfrau Gleision’. Bwriad y sefydliad Prydeinig wrth sefydlu’r Comisiwn a arweiniodd at yr Adroddiad oedd i geisio gwneud y Cymry’n fwy teyrngar i’r wladwriaeth. ‘Roedd y ffaith fod mwyafrif y Cymry’n siarad Cymraeg ac yn mynd i’r capel yn arwain iddyn nhw fod yn genedl wrthryfelgar, a’u protestiadau yng nghyfnod y Siartwyr a therfysgoedd Beca yn dystiolaeth glir o hynny. Rhaid oedd dysgu Saesneg i’w plant, eu denu nôl at yr Eglwys Wladol a thrwy hynny sicrhau dos o ymostyngiad i’w meistri.

Mae darllen rhannau o Adroddiad y Comisiynwyr nid yn unig yn dangos mor glir eu diffyg dealltwriaeth o genedl y Cymry, ond yn dangos haerllugrwydd a’u hagweddau nawddoglyd at siaradwyr Cymraeg a’u hymlyniad at ymneilltuaeth ac Anghydffurfiaeth. ‘Roedd cyflwr addysg yng Nghymru yn hynod o wael, a diffyg cymwysterau’r athrawon oedd i gyfrif am hynny. Nid oedd cyflwr addysg i’r werin fawr well yn Lloegr, ond wrth gwrs mi roedd y naratif a fynnai’r Comisiynwyr yn golygu mai diffyg sgiliau Saesneg oedd i gyfrif fod pethau mor ddrwg yng Nghymru. Un enghraifft ymhlith llawer sy’n britho’r Adroddiad yw’r disgrifiad o’r athro yn ysgol Frutanaidd Llandderfel. Yr oedd yn deall Saesneg yn weddol dda meddent, ond fe siaradai ‘with a Welsh idiom and not always grammatically!’.

Yr oedd yr awydd i ddysgu Saesneg i’r Cymry, a hynny ar draul y Gymraeg yn rhedeg ochr yn ochor â’r awydd i’w dwyn yn ôl i’r Eglwys. Ond ‘roedd y ffordd yr aethpwyd ati i ddilorni anghydffurfiaeth yn sen ar foesau’r Cymry. Gellir crynhoi eu safbwynt drwy ddweud mai ffau o anfoesoldeb oedd y capeli a lle i hel merched a hel dynion oedd y seiat! Mi ‘roedd ymateb yr arweinwyr crefyddol, yr unig arweinwyr a feddai’r Cymry bryd hynny, yn unfrydol ac yn chwyrn yn erbyn yr ymosodiad ar y capeli. Fodd bynnag, cymysg ac weithiau’n llugoer oedd ymateb llawer ohonynt at yr ymosodiad ar y Gymraeg.

Rhaid cofio cryfder dylanwad y capeli anghydffurfiol ar y werin Gymraeg. Yn hanner cyntaf y C19 arweinwyr yr enwadau crefyddol oedd arweinwyr naturiol y genedl. Prin iawn iawn oedd y teuluoedd bonedd, y tirfeddianwyr mawr a’u tebyg a oedd ganddynt unrhyw ymlyniad at Gymreictod, y Gymraeg a hunaniaeth Gymreig. A hyd at 1840 nid oedd llawer o’r arweinwyr crefyddol yn fodlon ymhél a gwleidyddiaeth – yr oeddynt yn Dorïaid ac yn frenhinwyr. Ac yna daeth Brad y Llyfrau Gleision, a Lewis Edwards, Prifathro Coleg y Methodistiad Calfinaidd yn y Bala yn dweud yn 1848 fod angen anfon ‘Ymneilltuwyr egwyddorol i’r Senedd dros bob sir a phob bwrdeistref yng Nghymru.’

Yr oedd llawer o’r radicaliaid gwleidyddol ymhlith yr ymneilltuwyr yng ngharfan yr Annibynwyr yn hytrach na’r Methodistiaid. Gadawodd Gwilym Hiraethog y Methodistiaid gan ymuno efo’r Annibynwyr a gwelir ei radicaliaeth wleidyddol ar ei fwyaf amrwd yn Yr Amserau, papur newydd Cymraeg a sefydlwyd yn Lerpwl yn 1846. Digon bregus oedd ffawd Yr Amserau ar y dechrau, fel llawer o bapurau Cymraeg y cyfnod. Ond pan ddechreuodd Hiraethog gyhoeddi erthyglau ar ffurf dafodieithol dan y teitl ‘Llythyrau ‘Rhen Ffarmwr’ denwyd cynulleidfa o ddarllenwyr newydd. Yn yr erthyglau rhain ac yn yr erthyglau golygyddol taranai yn erbyn gorthrwm y landlordiaid a dechreuodd gefnogi mudiadau gwladgarol dramor. Y ddau brif ffigur a ddenodd ei sylw a’i gefnogaeth oedd Lajos Kossouth o Hwngari a Giuseppe Mazzini o’r Eidal.

Cafwyd Chwyldro yn Hwngari yn 1848 ac am gyfnod byr bu Kossouth yn Arlywydd y wlad, ond methiant fu’r chwyldro ac o hynny ‘mlaen bu’n ffoadur gan dreulio amser ym Mhrydain. Canmolodd Hiraethog ei ddewrder a’i ganmol am ei fod yn deall ‘egwyddorion gwir ryddid gwladol…’.

Ymwelodd Hwngariaid â Hiraethog i ddiolch iddo am ei gefnogaeth. Daeth Kossouth i Lerpwl yn 1851 gan annerch cyfarfod cyhoeddus. Er nad oes tystiolaeth uniongyrchol fod Hiraethog a Kossouth wedi cyfarfod, mae’n hynod debyg fod hynny wedi digwydd yn ystod yr ymweliad.

Ac yna down at gefnogaeth Hiraethog i Mazzini y cenedlaetholwr a frwydrai dros uno’r Eidal fel gwladwriaeth. Daeth Mazzini i Loegr hefyd fel alltud a ffoadur ar gyfnodau gan geisio cefnogaeth radicaliaid gwleidyddol i’w achos. Un mater a ddenodd sylw Hiraethog at Mazzini oedd ei ymosodiad ar Babyddiaeth, rhywbeth a blesiai’r Anghydffurfiwr radical i’r dim! Bu gohebiaeth rhwng Hiraethog a Mazzini yn 1861 ple diolchodd Mazzini am gefnogaeth y Cymry ac yn eu hannog i ddeisebu’r Senedd er mwyn dwyn pwysau ar Ffrainc i alw ei milwyr yn ôl o’r Eidal. Cefnogodd Hiraethog frwydr yr Eidalwyr dros eu hiawnderau a’u hannibyniaeth a cheir tystiolaeth bendant fod Hiraethog a Mazzini wedi cwrdd nifer o weithiau yn Lerpwl.

O ystyried cefnogaeth gref Hiraethog i Kossouth a Mazzini yn eu hymdrechion i sicrhau annibyniaeth i’w gwledydd, gellid disgwyl y byddai ‘run mor frwd dros hawliau tebyg i Gymru. Medrwn ddweud i sicrwydd fod ei gefnogaeth i’r Gymraeg yn hynod o gryf ac fe ddadleuai o blaid penodi barnwyr a fedrai’r Gymraeg i lysoedd yng Nghymru.  Ond ni cheir unrhyw gofnod ei fod wedi cefnogi rhyddid gwleidyddol. Ac yn wir nid oedd ganddo fawr o gydymdeimlad â brwydr y Gwyddelod am hunanlywodraeth. Yr oedd eu hymlyniad wrth Babyddiaeth yn rhwystr iddo. Yn hyn o beth dangosodd anghysondeb sylweddol, gan mai Pabydd oedd Kossouth!

A symud oddi wrth Hiraethog, gellir dadlau mae’r person cyntaf i gefnogi hawliau gwleidyddol i Gymru yn y cyfnod hwn oedd Thomas Davis y Gwyddel o dras Cymreig yn ei lyfr ‘Literary and Historical Essays’ a gyhoeddwyd yn 1846. Dadleuai o blaid ‘a local senate’ ar ffurf ffederal fel yn nhaleithiau’r Amerig. Rhaid oedd disgwyl i Michael D. Jones ac Emrys ap Iwan ac yn ddiweddarach Tom Ellis i godi’r faner a phwysleisio rhyddid gwleidyddol ochr yn ochr â’r frwydr dros y Gymraeg.

Bu tipyn o ddadlau rhwng Michael D. Jones ac Emrys ap Iwan ynglŷn â phwy ohonyn nhw oedd y cyntaf i bleidio hawliau gwleidyddol. Mewn llythyr a gyhoeddwyd yn Y Genhinen yn Ebrill 1892, adeg etholiad cyffredinol y flwyddyn honno, mae Emrys yn bendant mai fo a fathodd y term ‘ymreolaeth’ am y tro cyntaf ac ymhellach mae fo ‘oedd y cyntaf yng Nghymru i ddadlau dros y peth y mae y gair yn ei olygu’. Gall hawlio perchnogaeth o’r gair ‘ymreolaeth’, ond beth am ei honiad mai ef oedd y cyntaf i ddadlau’r achos?

Yn ei erthygl ar Grefydd, Cenedlaetholdeb a’r Wladwriaeth yng Nghymru rhwng 1840-1890 dywed R. Tudur Jones mai Michael D. Jones oedd tad cenedlaetholdeb wleidyddol fodern yng Nghymru. Gwelai Michael D. fod ‘na gysylltiad rhwng hunaniaeth cenedl a grym gwleidyddol. Er bod y rhan fwyaf o arweinwyr crefyddol y genedl yn ddigon hapus fod Cymru’n rhan o Brydain, ‘roedd Michael D. yn dadlau fod Cymru’n grŵp diwylliannol lleiafrifol ym Mhrydain, a’r Saesneg fel iaith y mwyafrif yn iaith ddominyddol. Er mwyn iddi barhau byddai’n rhaid i’r Gymraeg sicrhau statws swyddogol yn sfferau gwleidyddiaeth, addysg a’r gyfraith. Unwaith ‘roedd hynny wedi digwydd, hunanlywodraeth fyddai’r canlyniad yn hytrach nag annibyniaeth. Yn wir prin iawn, os o gwbl, yw’r cyfeiriad at annibyniaeth fel prif nod cenedlaetholwyr Cymreig yn y C19. Penllanw dadl Michael D. oedd y dylid ystyried Cymru, fel yr Iwerddon a’r India, fel trefedigaethau. Ef oedd y cyntaf yn ei gyfnod i weld yr angen i Gymru reoli ei adnoddau naturiol, dŵr a mwynau a’u defnyddio er budd y genedl. Byddai hynny yn creu gwaith ac yn arafu’r ymfudo cynyddol o Gymru i Loegr a thramor. Yn y C19 gwelwyd patrymau trafnidiaeth yn clymu Cymru fwyfwy wrth Loegr a thrwy hynny gwelwyd, yng ngeiriau Prys Morgan, ‘system o anghyfartaledd economaidd gan bwysleisio i’r Cymry fod ei heconomi yn un israddol, ac yn bennaf yn gwasanaethu anghenion Cyfalafiaeth Seisnig.’

Erbyn y 1870au gwelwyd twf mewn sentiment Imperialaidd yng Nghymru, a hynny’n cyd-fynd efo twf aruthrol yn y trefedigaethau Prydeinig a bri honedig y wladwriaeth ar y llwyfan rhyngwladol. Yn hyn o beth, ‘roedd Michael D. yn rhwyfo yn erbyn y lli. Ni welai fod yna unrhyw gysylltiad rhwng imperialaeth a chydnabyddiaeth o hawliau cenhedloedd. Yr oedd ganddo ddiffyg ymddiriedaeth ddofn yn y sefydliad gwleidyddol Prydeinig gan ddatgan mai’r bwriad oedd dileu’r genedl Gymreig yn llwyr. Er hynny yr oedd yn ymwybodol o ymostyngiad lawer o’r Cymry gan fod y berthynas rhwng Cymru a Lloegr yn anghyfartal a hynny yn ei dro yn arwain at agweddau o wrogaeth.

Yr unig ffigur amlwg arall a gytunai efo safbwynt lleiafrifol Michael D. oedd Emrys ap Iwan. Aelod o’r Methodistiaid Calfinaidd oedd Emrys, o’i gymharu â Hiraethog a Michael D. a oedd yn Annibynwyr. A phan honnodd Emrys mai fo oedd y cyntaf i ymgyrchu o blaid hunanlywodraeth anfonodd Michael D. lythyr ato gan awgrymu yn hynod o gynnil ei fod wedi dylanwadu – heb yn wybod iddo o bosibl – ar ei ddaliadau cenedlaethol!

Amddiffyn y Gymraeg oedd wrth wraidd cenedlaetholdeb Michael D. ac Emrys. Y ffordd hawsaf i’r wladwriaeth gymhathu’r Cymry i mewn i un genedl Brydeinig oedd i ddileu’r Gymraeg. Dyna wedi’r cwbl oedd wrth wraidd yr Adroddiad a adnabyddid fel Brad y Llyfrau Gleision ac wrth wraidd y Deddfau Addysg a fynnai mai Saesneg oedd unig gyfrwng addysg yn yr ysgolion. Pan sefydlwyd Prifysgol Aberystwyth yn 1872, nid oedd y Gymraeg ar y cwricwlwm yn y blynyddoedd cynnar, a’r Prifathro T. Charles Edwards yn aelod yng nghapel Saesneg Aberystwyth. ‘Roedd hyn yn tanlinellu agweddau rhai o aelodau blaenllaw’r enwadau crefyddol ar y pryd a rhai ohonynt yn credu fod y Gymraeg yn debyg o farw ymhen amser. Yn y cyfnod hwn felly ‘roedd Emrys a Michael D. yn enghreifftiau prin iawn o bobl yn dadlau o blaid ymladd i gadw’r Gymraeg, ei dysgu yn yr ysgolion, a’i gwneud yn iaith swyddogol yn y llysoedd. Pan ymddangosodd Emrys fel tyst mewn achos llys yn 1889, fe wrthododd roi ei dystiolaeth yn Saesneg a mynnu siarad Cymraeg. Bu cythrwfl yn y llys, ac er i’r ynadon fynnu ei fod yn rhoi ei dystiolaeth yn Saesneg gwrthododd wneud hynny. Gohiriwyd yr achos a phan fu i’r llys ail ymgynnull ‘roedd cyfieithydd yno. Ond gan fod y diffynnydd wedi syrthio ar ei fai, nid oedd angen tystiolaeth Emrys wedi’r cwbl. Er hynny, cafodd ei safiad gryn sylw yn y Wasg Gymraeg, â’r Faner yn gefnogol iddo.

Hyd at 1886, lleisiau prin oedd rhai’r ddau wron. A doedd na ‘run gwleidydd etholedig yn dadlau o blaid hawliau cenedlaethol. Er cymaint â wnaeth Henry Richard, yr Apostol Heddwch, dros Gymru wedi ei ethol dros Ferthyr yn 1868, ni phlediodd achos hunanlywodraeth. Ac er bod tô newydd o Aelodau Seneddol Cymreig wedi‘i hethol yn 1886, un ohonynt yn unig a wnaeth hunanlywodraeth yn un o’i brif amcanion yn ei daflen etholiad. Hwnnw oedd Tom Ellis a etholwyd yn 27 oed i gynrychioli Meirionnydd. Yn ei anerchiad i’r etholwyr, nododd 5 maes y byddai’n ymgyrchu trostynt;

  • Ymreolaeth i’r Iwerddon
  • Datgysylltiad yr Eglwys Wladol
  • Gwell cyfundrefn addysg
  • Diwygio’r deddfau tir
  • Ymreolaeth i Gymru

Yn ystod ei gyfnod fel Aelod Seneddol gwelai’r tri phwnc, datgysylltiad, gwella’r gyfundrefn addysg a diwygio’r deddfau tir nid fel mesurau unigol, ond fel rhan o’r frwydr dros hunaniaeth Gymreig. O ble daeth hyn oll? Bu ym Mhrifysgol Aberystwyth rhwng 1875 ac 1879. Nid yno’n sicr, gan i’r Prifathro ei berswadio i ymaelodi yn y capel Saesneg yn y dref, a’r prif faterion yng nghymdeithas dadlau’r sefydliad oedd materion Prydeinig. Aeth i Rydychen yn 1879 ac yn ei ddyddiau cynnar yno, ‘doedd ganddo bron ddim cydymdeimlad ag achos y cenedlaetholwyr yn yr Iwerddon. Ond yn raddol bach, a thros gyfnod o bedair blynedd, aeth ei agweddau yn fwy radical a chenedlaetholgar.

Mae sawl rheswm i gyfri am hyn, ond cyfyngwn ein sylw i’r ffaith i syniadau Thomas Davis y Gwyddel a Mazzini ddod i’w sylw. Fel y gwelsom eisoes dadleuodd Thomas Davis o blaid ymreolaeth i Gymru yn 1846, a llais yn yr anialwch oedd yn y cyfnod hwnnw. Meddai Tom Ellis yn 1890, ‘Thomas Davis a Mazzini oedd fy nau athraw gwleidyddol a chenedlaethol’.

Pwy oedd Thomas Davis? ‘Doedd o ddim yn un o’r ffigurau mwyaf blaenllaw ymhlith mudiad cenedlaethol yr Iwerddon. Llenor a bardd oedd Davis ac un o olygyddion cyntaf ‘The Nation’ sef papur mudiad ‘Young Ireland’. Sefydlwyd ‘Young Italy’ gan Mazzini a’i gyfeillion ar gyfer cenedlaetholwyr yr Eidal ac fe sefydlwyd mudiadau cyffelyb led led Ewrop. Yr enw Saesneg ar Cymru Fydd oedd ‘Young Wales’.  Ysgrifennodd Davis farddoniaeth genedlaetholgar megis ‘A Nation Once Again’. Protestant oedd o gan ddadlau y dylid addysgu Protestaniaid a Chatholigion gyda’i gilydd ac o blaid y Wyddeleg fel yr iaith genedlaethol. Meddyg o Gymro oedd ei dad. Ceid ei adnabod fel cenedlaetholwr diwylliannol ac o blaid hunanlywodraeth gan ddadlau o blaid Senedd yn Nulyn ar ffurf ddatganoledig. Hawdd gweld sut y byddai Davis yn apelio i’r Tom Ellis ifanc, gan fod ‘na elfennau rhamantaidd a ddiwylliannol yn ogystal â deallusol i’w genedlaetholdeb yntau.

Person arall bu i’r Tom Ellis ifanc ddod ar ei draws oedd Gwyddel arall, sef Michael Davitt. Ymgyrchydd radical oedd Davitt, yn arbennig ar bwnc y tir ac yn un o sefydlwyr Cynghrair Tir yr Iwerddon. Fe’i carcharwyd yn 1870 ar ôl ei gael yn euog o fasnachu gynnau yn anghyfreithlon. Wedi ei ryddhau daeth yn siaradwr cyhoeddus poblogaidd gan ddadlau o blaid cenedlaetholi tir. Er ei fod yn gymeriad dadleuol yn y cyfnod, trefnwyd cyfres o gyfarfodydd cyhoeddus iddo yng Ngogledd Cymru yn ystod hanner cyntaf 1886. Trefnydd y gyfres oedd Michael D. Jones ac fe gynhaliwyd cyfarfod ym Mlaenau Ffestiniog ar 12 Chwefror. Croesawodd Tom Ellis y cyfarfod ym Mlaenau Ffestiniog mewn erthygl yn y South Wales Daily News. ‘Roedd 3,000 yn gwrando ar Davitt yn y Blaenau lle ddatganodd y dylai’r Cymry ethol aelodau seneddol gyda’r bwriad o gydweithio efo’r cenedlaetholwyr Gwyddelig dan arweiniad Parnell i ddiwygio’r deddfau tir yng Nghymru.

Bu peth gohebiaeth rhwng Davitt a Tom Ellis a’r naill a’r llall yn cefnogi mwy o gydweithredu rhwng cenedlaetholwyr yn yr Iwerddon a Chymru. Dyma’r adeg bu i Tom Ellis gyhoeddi erthygl eto yn y South Wales Daily News yn dadlau o blaid hunanlywodraeth. ‘Os ydi’r Iwerddon yn sicrhau hunanlywodraeth, onid ydio’n hen bryd i Gymru gael y grym i reoli ei materion ei hun?’ Cefnogodd ddulliau’r cenedlaetholwyr dan arweiniad Parnell i sicrhau eu hawliau.

Ac fel y gwelsom Tom Ellis oedd yr ymgeisydd cyntaf mewn etholiad i’r Senedd i gynnwys hunanlywodraeth fel rhan o’i anerchiad i’r etholwyr yn 1886. Ond mi ‘roedd o’n llais unig iawn pan etholwyd ef i’r Senedd yn y flwyddyn honno. Rhaid oedd ceisio lledaenu’r gefnogaeth yn ehangach ac o ganlyniad sefydlwyd mudiad Cymru Fydd hefyd yn 1886 a hynny yn Llundain. Y rhai a’i sefydlodd oedd Tom Ellis, yr hanesydd John Edward Lloyd, O.M. Edwards, Llewelyn Williams ac eraill.

Ei brif nod oedd gwneud yr achos o blaid hunanlywodraeth. Ond yr oedd agweddau diwylliannol i’r mudiad yn ogystal, a dyna oedd prif ddiddordeb O.M. Edwards mewn gwirionedd. Mudiad tu allan i Gymru oedd o yn ystod y blynyddoedd cynta’, a’r gangen gyntaf yn Llundain. Sefydlwyd ail gangen y mudiad yn Lerpwl. Dim ond yn 1891 a hynny yn y Barri sefydlwyd y gangen gyntaf yng Nghymru, a sefydlwyd eraill wedyn mewn rhannau eraill o Gymru, yn arbennig mewn ardaloedd ple roedd peirianwaith gan y Rhyddfrydwyr a lle ‘roedd yr ymneilltuwyr o’u plith yn gefnogol. Cyhoeddwyd y rhifyn cyntaf o gylchgrawn y mudiad hefyd a enwid Cymru Fydd yn 1888. Y golygydd cyntaf oedd Thomas John Hughes neu ‘Adfyfyr’ ac ef a ysgrifennodd yr erthygl olygyddol gyntaf ym mis Ionawr 1888 gan ddisgrifio’r cylchgrawn fel un ‘cenedlaetholgar’. Ar y dechrau ‘roedd y cylchgrawn yn cynnwys erthyglau ar raglen y Rhyddfrydwyr Cymreig, pwnc y tir, datgysylltu’r eglwys a gwella’r gyfundrefn addysg yng Nghymru. Tueddai’r mudiad i gadw’n glos at amcanion diwylliannol ac addysgol hyd nes i Tom Ellis a Lloyd George a etholwyd yn dilyn isetholiad Seneddol yn 1890 roi min gwleidyddol iddo.

Rhwng 1886 a mis Medi 1890, Tom Ellis oedd prif arweinydd y ddadl o blaid hunanlywodraeth gan ysgrifennu erthyglau, traddodi areithiau a cheisio dwyn pwysau ar ei gyd-aelodau Rhyddfrydol i ddilyn ei arweiniad. Ond tir caregog iawn oedd yn ei wynebu. Yr oedd o’n llais unig ymhlith ei gyd-aelodau seneddol o Gymru. ‘Roedd yr hen aelodau radical Cymreig, pobl fel Henry Richard a G. Osborne Morgan, yn ddigon bodlon dadlau’r achos o blaid Datgysylltiad a diwygio’r deddfau tir, ond doedden nhw ddim yn hapus i bledio achos hunanlywodraeth.

Penderfynodd Tom Ellis fod yn rhaid iddo godi’r tempo a cheisio dwysbigo cydwybod ei gyd-aelodau. Aeth ar daith i’r Aifft ddechrau 1890 ple dioddefodd gyfnod o salwch difrifol. Bu yno am rai misoedd mewn ymgais i adfer ei iechyd. Yn Luxor ar ddydd Gŵyl Dewi cyhoeddodd yn ei ddyddiadur yr hyn a oedd yr arwydd cliriaf hyd hynny o’i faniffesto gwleidyddol. Ie, byddai angen ymladd o blaid datgysylltiad, gwell cyfundrefn addysg a diwygio’r deddfau tir. Ond er mwyn sicrhau unoliaeth y genedl, byddai angen Senedd, Prifysgol a Theml i Gymru.                                                                      

Ar ddiwedd y cofnod yn y dyddiadur, yn 31 oed, ac yntau yn ymwybodol y gallai ei fywyd fod mewn perygl meddai;

Dyma fy adduned heddyw – i weithio hyd angeu i ennill Unoliaeth i Gymru yn ystyr lawnaf y gair. Rhodded Duw nerth i mi i fod yn ffyddlon i’r adduned hon.

Diddorol yw ei ddyfyniad o ddau bennill o gerdd gan Shelley y bardd rhamantaidd. Ystyrir ‘The Masque of Anarchy’ fel y gerdd wleidyddol orau yn Saesneg ac fe’i hysgrifennwyd mewn ymateb i gyflafan Peterloo yn 1819. Gan mai dwy thema yng ngweledigaeth Tom Ellis ydi ‘rhyddid’ ac ‘unoliaeth’, gwelir y rhain yn gweu drwy waith Shelley. Pan gyfeiria at ‘Let the laws of your own land’ mae’n cydnabod hawl pob cenedl i gael ei threfn gyfreithiol ei hun a hynny’n seiliedig ar sofraniaeth genedlaethol.

Wedi i Tom Ellis gyrraedd adref, a’i gyfeillion ym Meirionnydd yn sylweddoli mor fregus oedd ei iechyd a’i fod mae’n siŵr yn brin o arian lansiwyd tysteb iddo. Codwyd swm sylweddol o arian, £1,075 (gwerth tua £150,000 heddiw) a’i gyflwyno iddo mewn cyfarfod arbennig yn y Bala ym mis Medi 1890.

Mewn ymateb i’r cyflwyniad traddododd yr hyn a alwodd ei fab T.I. Ellis yn ‘gyffes ffydd’ (Cofiant II, t.108). Hon oedd ei araith bwysicaf a’r mwyaf arwyddocaol o’i yrfa fel gwleidydd. Sylweddolai nad oedd sefydlu grŵp o’r Blaid Seneddol Gymreig yn 1888 ymhlith rhai o Aelodau Cymru, a hynny o dan gadeiryddiaeth Henry Richard, yn debyg o gyflawni llawer gan nad oedd unoliaeth barn ar y cwestiwn cenedlaethol.

Prif themâu’r araith oedd:

  • Cyfeirio at Hanes Cymru, a phenderfyniad y genedl i sefyll dros ei rhyddid a’i hannibyniaeth;
  • Sôn am y deffroad cenedlaethol yn y chwarter canrif flaenorol a hynny wedi ei gadarnhau ers 1886;
  • Fod bywyd cenedl yn dibynnu ar weithredu gwleidyddol;
  • Ein prif ddyletswydd yw i Gymru;
  • Angen sefydliadau cenedlaethol, megis Prifysgol Cymru, Amgueddfa Genedlaethol, Llyfrgell Genedlaethol;
  • Gweithio dros Ddeddfwriaeth wedi ei ethol gan ddynion a merched Cymru;
  • Byddai Deddfwriaeth yn symbol o’n huniad fel cenedl, byddai’n llais i’n cenedligrwydd ac yn llenwi’n gobeithion fel pobl.

Nid oedd neb arall o blith aelodau seneddol Cymru wedi diffinio mor groyw beth oedd dyheadau cenedlaetholgar y to newydd o arweinwyr yn ystod y C19. Yn wir nid oedd Michael D. nac Emrys ap Iwan wedi darlunio dyheadau cenedlaetholgar mor glir. 

Dyma Tom Ellis felly yn gosod allan ei stondin, gan herio eraill i’w ddilyn. ‘Dyma ble rwy’n sefyll, pwy ddaw efo mi?’

‘Doedd o ddim yn obeithiol y byddai bonllefau o gymeradwyaeth i’w alwad. Meddai ar ddiwedd ei araith: ‘Nid dyma yw uchelgais pawb ohonom’.    

Er hynny, mi ‘roedd ambell un yn fodlon ymateb i’r alwad. Un ohonynt oedd Alfred Thomas, Aelod Seneddol Dwyrain Morgannwg. Mi ‘roedd o yn y cyfnod hwn yn agos at Tom Ellis ac wedi ymateb yn frwd i’r araith yn y Bala. Aeth ati gyda chefnogaeth Tom Ellis i gyflwyno mesur yn y Tŷ Cyffredin ar 15 Mehefin 1891 sef Mesur Sefydliadau Cenedlaethol (Cymru) gyda’r bwriad o sefydlu Swyddfa Cymru, Prifysgol Cymru, Amgueddfa Genedlaethol a Chyngor Cenedlaethol (Senedd). Fe’i cyflwynwyd ar gyfer darlleniad cyntaf ond ni aeth gam ymhellach. Fe’i cyflwynwyd yr ail waith ym mis Chwefror 1892 a dioddef yr un ffawd.

Cafwyd fwy o ymdrechion rhwng 1892 a 1896 i ail gynnau brwdfrydedd Cymry Fydd a hynny’r tro hwn dan arweiniad Lloyd George. Y cyfnod rhwng 1894 a 1896 sy’n bwysig fodd bynnag. Erbyn hyn, ‘mi roedd nifer o ganghennau Cymru Fydd wedi’u sefydlu yng Nghymru. Yn y cyfnod hwn gwnaed sawl ymdrech i uno Cynghrair Cymru Fydd a Chynghrair Rhyddfrydol y Gogledd er mwyn cael undod yn y ddadl o blaid hunanlywodraeth. Lloyd George a Thomas Gee oedd yn gyrru’r cais am undod gan fod Tom Ellis wedi cymryd swydd yn llywodraeth Gladstone. Y cam nesaf oedd ceisio uno’r Cynghreiriau yn y De a’r Gogledd. Bu sawl ymgais, ac fe gafwyd penderfyniad i’w huno ym mis Ionawr 1895. Ond nid oedd pawb yn hapus ar yr uniad, a’r pennaf o’r gwrthwynebwyr oedd David Alfred Thomas, AS Merthyr. Bu ef yn pendilio rhwng cefnogi amcanion Cymru Fydd a’u gwrthwynebu, ond yn y garfan elyniaethus y bwriodd ei goelbren yn y diwedd. Er bod rhai unigolion felly yn fodlon ymuno yn yr alwad am Senedd i Gymru megis Alfred Thomas, David Randell AS Gwyr, Herbert Lewis AS Bwrdeistrefi’r Fflint a David Lloyd George, rhyw leisiau ynysig oedden nhw mewn gwirionedd.

Ceisiwyd rhoi trefn ar yr ymgyrchu ganol 1895 drwy benodi Alfred Thomas yn Gadeirydd y Gynghrair Cenedlaethol a Beriah Gwynfe Evans yn Ysgrifennydd.  Fodd bynnag brau oedd ymlyniad llawer o gynrychiolwyr y De i’r syniad o Gynghrair Unedig ac fe ddaeth y cyfan i ben mewn cyfarfod a gynhaliwyd yng Nghasnewydd ym mis Ionawr 1896. Gwrthododd y cynrychiolwyr pob ymgais gan Lloyd George i sicrhau undod y Gynghrair Genedlaethol. Fe ddywedodd Robert Bird, llywydd Rhyddfrydwyr Caerdydd – a pherchennog cwmni distyllu tar glo – na fyddai Rhyddfrydwyr y De yn ildio i syniadau Cymreig!

Mae rhai haneswyr, ychydig yn arwynebol efallai, yn dod i’r casgliad syml mai rhwyg rhwng Rhyddfrydwyr gwledig Cymraeg eu hiaith a Rhyddfrydwyr trefol a dinesig Saesneg eu hiaith oedd prif reswm methiant Cymru Fydd. Ond fel y dadleua John Davies yn Hanes Cymru, mae ‘na fwy iddi na hynny. Ie mae ‘na wrthdaro rhwng y bywyd gwledig a threfol ond hefyd rhwng radicaliaeth, yn ymylu ar fod yn sosialaeth Tom Ellis a’r Lloyd George ifanc a cheidwadaeth arweinwyr y Rhyddfrydwyr yn ninasoedd y De. Byddai’r asiad rhwng radicaliaid y gogledd ac egin sosialwyr y De wedi bod yn gymhathiad llawer haws. Yn y pendraw, roedd ymlyniad Lloyd George ac eraill i’r Blaid Ryddfrydol yn gryf, a ‘doedd gwreiddiau syniadaeth Cymru Fydd ddim yn ddigon dwfn nac yn ddigon llydan i’w denu i’r gorlan honno yn llwyr. Er bod mudiad Cymru Fydd wedi llusgo ‘mlaen am flwyddyn neu ddwy yn dilyn ffiasgo Casnewydd, i bob pwrpas ‘roedd y cyfan ar ben. 

Er mai methiant fu ymdrechion arweinwyr Cymru Fydd, rhaid cydnabod hyd 1886 ‘doedd na neb, ar lefel seneddol, wedi bod yn ddigon dewr i godi achos Cymru fel hyn cyn hynny. Gwelwyd Tom Ellis fel arweinydd deallusol y mudiad, a Lloyd George yn ddiweddarach fel arweinydd ymgyrchol. Rhaid cofio hefyd mae gwrthblaid oedd y Blaid Ryddfrydol pan etholwyd Tom Ellis gyntaf, ac yn wir felly y bu am y rhan helaethaf o’i yrfa seneddol. Mae rhai haneswyr yn dadlau fod y blaid honno wedi cyrraedd ei huchafbwynt yn gynnar yn 1886, ac wedi iddi golli etholiad y flwyddyn honno, ni fu pethau ‘run fath. Cafodd ychydig o ail wynt yn nechrau’r C20 ond wedi i Lloyd George golli ei swydd fel Prif Weinidog yn 1922 yn yr anialwch gwleidyddol y bu hi wedyn.

I ba raddau fodd bynnag bu mudiad Cymru Fydd yn bont a arweiniodd at sefydlu Plaid Cymru yn 1925 ac a arweiniodd at sicrhau Cynulliad yn 1997 a Senedd yn 2011? A pham yr oedd cymaint o fwlch rhwng 1896 a 1925?

O edrych yn frysiog ar y 30 mlynedd, mwy neu lai, rhwng cyfarfod tanllyd ola’ Cymru Fydd a sefydlu’r Blaid, mae ychydig o bethau yn haeddu sylw. Un peth sy’n werth ei nodi ydi’r ddeddf i ddatgysylltu’r Eglwys wladol a sefydlu’r Eglwys yng Nghymru yn 1920. Mi gymrodd dros 70 o flynyddoedd i’r ymgyrch gyrraedd ei phenllanw, sy’n dangos pa mor anodd oedd sicrhau unrhyw newid o sylwedd drwy’r Senedd yn Llundain. O holl ymgyrchoedd cenhedlaeth Cymru Fydd, datgysylltu’r eglwys a sefydlu Prifysgol Cymru yw’r unig ddau a lwyddodd, er bod rhyw gymaint o welliannau wedi ei sicrhau yn y gyfundrefn addysg drwyddi draw, yn ogystal â gweld sefydlu Adran Gymreig oddi mewn i’r Bwrdd Addysg yn 1907 a Bwrdd Iechyd Cymru yn 1919. Penodwyd O.M. Edwards yn Brif Arolygydd Ysgolion yng Nghymru ac yntau’n brwydro dros sicrhau dysgu’r Gymraeg yn yr ysgolion. Fodd bynnag Saesneg oedd cyfrwng addysg yr ysgolion, yn enwedig ysgolion uwchradd. Yn y cyfnod hwn, sefydlwyd rhai sefydliadau cenedlaethol megis y Llyfrgell Genedlaethol a’r Amgueddfa Genedlaethol.

Dau enw sy’n werth sylw iddynt yn y cyfnod hwnnw ydi E.T. John a fu’n aelod seneddol Dwyrain Dinbych rhwng 1910 a 1918, a J. Arthur Price. ‘Roedd John yn genedlaetholwr brwd ac fe gyflwynodd fesur hunanlywodraeth yn y Senedd ym mis Mawrth 1914, ac wrth gwrs nid aeth y mesur yn bell iawn. Gwrthod ymuno â’r Blaid newydd yn 1925 a wnaeth John, gan gadw ei deyrngarwch i’r Blaid Lafur ar ôl gadael y Rhyddfrydwyr yn 1918. Er hynny mae J. E. Jones yn honni iddo droi at y Blaid ‘yn ei hen ddyddiau’. 

Bargyfreithiwr oedd J. Arthur Price ac fe ddaeth yn genedlaetholwr brwd gan ysgrifennu nifer o erthyglau ar Gymru i’r Genedl Gymreig, y Welsh Outlook a’r Ddraig Goch. Ysgrifennodd erthygl feirniadol iawn ar Tom Ellis gan ei gyhuddo o werthu ei egwyddorion wedi iddo gymryd swydd fel Chwip yn Llywodraeth Gladstone yn 1892. Er ei fod yn Uchel Eglwyswr, yr oedd yn gefnogol iawn i achosion Cymreig a bu’n gohebu efo Saunders Lewis.

Dylid nodi fod tair cynhadledd ar ymreolaeth wedi’u cynnal yn 1918, 1919 a 1922 ond ni ddeilliodd fawr ddim ohonynt. Cynhaliwyd Cynhadledd Llefarydd (Speaker’s Conference) ar ddatganoli yn 1919 ond ni chafwyd fawr o gytundeb ar y ffordd ymlaen efo’r Llefarydd yn cefnogi sefydlu Uwch Cynghorau yn unig i Gymru, yr Alban a Lloegr. Yn 1922, fe gyflwynwyd mesur i sefydlu Senedd Ddeddfwriaethol i Gymru gan Robert Thomas, Aelod Seneddol Wrecsam, ond methiant fu ei ymdrechion. Gyda llaw bu Robert Thomas yn AS Môn yn ddiweddarach.

A dyna ni’n dod at sefydlu Plaid Genedlaethol Cymru ym mis Awst 1925, gan mlynedd yn ôl i’r mis hwn. Gan mai llwyddiannau cymharol fach, er nad yn hollol ddibwys, oedd rhai Cymru Fydd a methiant ar y cyfan fu’r ymdrechion i ddadlau o blaid achosion Cymreig yn Senedd Llundain, ymwrthod â gwleidyddiaeth Brydeinig a wnaeth y blaid newydd. Er bod rhai, gan gynnwys J.E Jones, yn gweld Cymru Fydd yn fudiad rhagarweiniol, gweld yr angen i ymbellhau oddi wrth fethiannau’r mudiad oedd eraill.

Dangos pellter oedd bwriad Saunders Lewis drwy ddadlau y dylid torri pob cysylltiad â’r pleidiau Prydeinig. Ym marn Saunders, ni ddaethai ddim i Gymru drwy’r Senedd Seisnig. Meddai Lewis Valentine ‘Mae rhai yn mynnu bod y blaid newydd yn gyfystyr a’r hen blaid Ryddfrydol mewn ffurf newydd. Ond ni ellir ei wadu’n gryfach na dweud nad oes unrhyw gysylltiad rhyngddo a’r hen bleidiau’. Credai D.J. Williams na ddylai’r blaid fynegi safbwynt ar drafodaethau’r Senedd yn Llundain, meddai ‘Rwyf o’r farn na ddylai’r Blaid ymyrryd o gwbl ym materion y Senedd Seisnig’. Ac fel y cyfeiriais eisoes, meddai Griffith John Williams ‘Yr oedd hi’n hanfodol sefydlu Plaid Wleidyddol Gymreig’. Safbwynt cynnar ‘Sinn Feinaidd’ y Blaid newydd oedd na ddylid cymryd sedd yn San Steffan pe byddid yn ennill etholiad.

Fodd bynnag wrth i elfen o realpolitik dreiddio i ymwybyddiaeth y Blaid wedi etholiad 1929 – ac ymgeisyddiaeth Lewis Valentine denu 609 o bleidleisiau – fe ddechreuodd y polisi o arwahanrwydd lacio’i afael ac aelodau’r blaid yn mynnu y byddai’n rhaid mynd i San Steffan a chymryd y Senedd fel llwyfan i ddadlau achos Cymru. Ac fe welwyd teimladau fwy cymysg tuag at ymdrechion Cymru Fydd yn dechrau ymddangos. Yn wreiddiol, wfftio ymdrechion pobl fel Tom Ellis a wnâi Lewis Valentine yn nyddiau cynnar y blaid, a hynny’n fwriadol. Rhaid oedd creu pellter gwirioneddol er mwyn cyfiawnhau’r ddadl o blaid sefydlu plaid newydd, a dyna beth fyddem ninnau wedi’i wneud hefyd mae’n siŵr. Ond wrth i bethau setlo, fe newidiodd safbwyntiau rhai o’r aelodau cynnar. Fe adolygodd Lewis Valentine lyfryn a gyhoeddwyd gan Blaid Cymru yn 1956, sef Triwyr Penllyn. Cynnwys y llyfryn oedd tair pennod ar gyfraniadau Michael D. Jones, O. M. Edwards a Tom Ellis i fywyd Cymru. Yr awduron oedd Gwenallt, Saunders Lewis a Gwenan Jones. Gwenan Jones gyda llaw oedd y ferch gyntaf i sefyll mewn etholiad cyffredinol ar ran y blaid. Dywed Lewis Valentine am y llyfr ei fod yn un ‘i roddi tipyn o haearn yn y gwaed a thipyn o ddur yn ein hasgwrn cefn’ yn y frwydr yn erbyn boddi Capel Celyn.

Pan ddewiswyd Gwynfor Evans yn ymgeisydd y Blaid ym Meirionnydd ar gyfer etholiad 1945, gwelodd ei hun yn llinach Michael D. Jones, R.J. Derfel a Tom Ellis. Gwnâi’r Dydd, papur wythnosol yn ardal Dolgellau, gymhariaeth rhwng Tom Ellis a Gwynfor gan eu disgrifio fel ‘Dau ŵr ifanc ysbryd addfwyn a charuaidd ond cedyrn er hynny.’ Cymharodd Llwyd o’r Bryn safiad Gwynfor dros Gapel Celyn yn union fel safiad Tom Ellis dros ‘ferthyron’ Rhyfel y Degwm. Ond i roi safbwynt cytbwys o farn Gwynfor am Tom Ellis, meddai yn ‘Aros Mae’:

Hon (ei benderfyniad i gymryd swydd yn llywodraeth Gladstone) oedd y weithred unigol a wnaeth fwyaf i atal datblygiad plaid annibynnol Gymreig, ac felly rhwystro’r mudiad dros hunanlywodraeth.

Meddai wedyn:

Hawdd beio Tom Ellis yn awr, ond rhaid cofio nad oedd cenedlaetholdeb Cymreig ond ifanc pryd hynny, ac mai rhesymol oedd iddo gredu y gellid sicrhau enillion mawr i Gymru wrth weithio oddimewn i’r sistem.

Beth felly meddwn ni erbyn hyn oedd y cysylltiad rhwng mudiad Cymru Fydd a sefydlu Plaid Cymru yn y cyfarfod hwnnw ym Mhwllheli ar y 5 Awst 1925, gan mlynedd i echdoe? O ystyried geiriau’r rhai a oedd ym Mhwllheli yn 1925, fawr ddim. Eu bwriad nhw, bryd hynny, oedd creu cymaint o fwlch a oedd yn bosibl rhyngddyn nhw ac arweinwyr Cymru Fydd. Fel arall, sut y medran nhw gyfiawnhau sefydlu plaid annibynnol Gymreig a’r polisi gwreiddiol o wrthod gwneud dim a Senedd Lundain? Hyd y medraf i ei weld ni newidiodd Saunders Lewis ei farn am Gymru Fydd o gwbl.

Ond wrth i bethau ddatblygu, a Phlaid Cymru ddod yn blaid wleidyddol gyfansoddiadol dechreuodd y safbwynt newid. Os cymrwn ni eiriau J. E Jones, Lewis Valentine yn 1956 a Gwynfor ei hun, ‘roeddent yn derbyn fod sefydlu Cymru Fydd yn 1886, y mudiad cyntaf mewn canrifoedd i ddadlau am hunanlywodraeth i Gymru, am greu sefydliadau Cymreig a chynyddu’r ymwybyddiaeth o genedligrwydd ymhlith y Cymry, wedi creu’r amgylchiadau lle gellid sefydlu plaid Gymreig yn yr ugeinfed ganrif. Gan mai bregus oedd gafael Cymru Fydd ar y genedl, ac mai nifer gymharol fach o Aelodau Seneddol Rhyddfrydol oedd yn ei gefnogi mewn gwirionedd, ddim mwy na rhyw 5 ar y mwyaf, dim rhyfedd iddo fethu.

Ond o leiaf, mi roedd y drafodaeth wedi dechrau, a dysgu gwersi methiant Cymru Fydd oedd un o brif amcanion y Blaid newydd. Plaid a’i theyrngarwch i Gymru a heb gysylltiad â’r pleidiau Prydeinig oedd hi. Er mai bychan ac araf oedd ei thwf, yr hyn sy’n rhyfeddol amdani yw ei bod wedi cynnal ei bodolaeth am ganrif ac erbyn hyn, yn ôl rhai polau piniwn, o fewn cyrraedd i arwain Llywodraeth Cymru am y tro cyntaf.  

A fyddai Plaid Cymru wedi ei sefydlu yn 1925 pe na bai Cymru Fydd wedi dechrau’r drafodaeth? Cwestiwn amhosibl ei ateb wrth gwrs. Y cyfan dwi am fentro dweud ydi, bod syniadaeth a dylanwad Cymru Fydd wedi bod yn help i grisialu athroniaeth gynnar y Blaid, a chreu’r gofod i blaid newydd ddatblygu. A methiant Cymru Fydd roddodd iddi’r sicrwydd mai drwy sefydlu plaid annibynnol oedd yr unig ffordd

                                                                                                                               

                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                  

Llinell Amser hanes Plaid Cymru 1925-2025

Linc > Archif

Noson Lansio’r llyfr ‘Dros Gymru’n Gwlad’

“Dros Gymru’n Gwlad – Hanes Sefydlu Plaid Cymru”.

Ar 17 Gorffennaf 2025 daeth yr awduron Arwel Vittle a Gwen Gruffudd i Adeilad y Pierhead i drafod eu llyfr newydd gyda Karl Davies mewn achlysur a noddwyd gan Mabon ap Gwynfor AS ac a drefnwyd gan Gymdeithas Hanes Plaid Cymru.

Dyma gyfle i chi wrando ar y sgwrs hynod ddiddorol ar sefydlu Plaid Cymru yn y cyfnod cyn 1925.

Diolch i Senedd Cymru am ddarparu’r cofnod.

 

 

Dathlu Can Mlynedd Plaid Cymru ym Mhwllheli

Dydd Sadwrn, 21 Mehefin, 2025 dathlwyd can mlynedd ers sefydlu Plaid Cymru mewn Rali ym Mhwllheli.

Daeth torf i ddathlu a chlywed areithiau ar sgwâr y dref.

Dyma araith Dafydd Wigley –

Anerchiad Canmlwyddiant y Blaid: Pwllheli, Mehefin 2025

Gyfeillion a chyd- genedlaetholwyr!

Bydd Prif Weinidog nesaf Cymru yn fy nilyn – a dwi’n siwr y bydd Rhun yn edrych mlaen at etholiadau fis Mai nesaf. Felly dwi am edrych yn ôl, sy’n addas iawn  wrth ddathlu canmlwyddiant y Blaid.

Canrif nôl i heddiw, roedd  fy mam yn byw tri-chan llath o’r man yma; ei mam hithau’n Lywydd Merched Rhyddfrydol Pwllheli,  efo Lloyd George yr AS lleol.

Hanner canrif yn ôl, roeddwn innau’n newydd f’ethol fel AS y fro ac yn ceisio cyflawni yr hyn a fethodd LlG ei wneud – sef cael  Senedd i Gymru.

Ac mae’n  dda gallu deud i Bwllheli gael ei chynrychioli byth oddi ar hynny, gan ASau Plaid Cymru – yn San Steffan ac yn Senedd Cymru – Hywel Williams, Alun Ffred Jones, Dafydd Elis Thomas ( y diweddar, ysywaeth), Elfyn Llwyd, Liz Saville Roberts a Mabon ap Gwynfor; ac os ydi hynna’n dangos diffyg cyfartaledd, does gennyf ddim amheuaeth y bydd Sian Gwenllian a Becca Brown yn ymuno â nhw fis Mai; a does wybod y gwelwn Elin Hywel yno hefyd cyn hir.

A felly, dyma ni, heddiw, ar drothwy cyfle realistig i’r Blaid, fis Mai nesaf, arwain Llywodraeth nesaf  Cymru.

A bydd  y cyfrifoldeb ar ysgwyddau Rhun i  dywys yr hen genedl hon tuag at yr Annibyniaeth y bu Cymru’n dyheu i’w had-ennill byth oddi ar dyddiau Owain Glyndwr.

A, gyda llaw, mae’r Blaid hefyd yn parhau i reoli Cyngor Gwynedd; a dymunwn pob llwyddiant i’r Cynghorydd  Nia Jeffreys, ein harweinydd newydd yn ei gwaith pwysig.

Mae  crynhoi canrif o hanes y Blaid mewn cwta deng munud yn amhosibl. Felly dwi am sôn am gyfraniad rhai o brif gymeriadau’r Blaid – dynion a merched na ddylem fyth anghofio  eu hamrywiol gyfraniadau, o’r dyddiau cynnar; pobl a osododd y sylfaeni i dyfu i’r safle  gynhyrfus  ble cawn ein hunain heddiw.

Y cyntaf fydd y mwyaf yn ein mysg: Saunders Lewis, a ddiffiniodd cenedlaetholdeb Cymreig  mewn termau gwerthoedd diwylliannol, a hynny’n benodol o fewn cyd-destun Ewrop.

Yn ei ddarlith fawr,  yn Ysgol Haf gynta’r Blaid ym 1926, diffiniodd Saunders nod y Blaid Genedlaethol , sef Hawlio i Gymru  “ le  yn  Seiat y Cenhedloedd, ac yn Seiat Ewrop, yn rhinwedd gwerth ei gwareiddiad.”

Peidiwn byth golli gafael ar hyn: mae ein gwareiddiad yn cynnwys ein hiaith a’n llenyddiaeth yn y ddwy iaith ;  yn cynnwys ein cerddoriaeth, ein harlunwaith; ein crefydd ac yn arbennig, ein gwerthoedd cymdeithasol neilltuol a’n nod o hyrwyddo economi i wasanaethu’r gymuned.

Mynnwn annibyniaeth fel cyd-destun hanfodol i ni warchod a chyfoethogi   gwareiddiad unigryw ein cenedl.

Cynhaliwyd yr Ysgol Haf cyntaf yng nghysgod Senedd-dŷ Owain Glyndwr ym Machynlleth. Cynnal  ysgol haf oedd un o ddau benderfyniad allweddol a wnaed gan y Blaid yn ei blwyddyn gyntaf.

Y llall – eto dan ddylanwad Saunders – oedd i gyhoeddi papur newydd misol uniaith Gymraeg, y Ddraig Goch, a ddaeth yn brif  gyfrwng i ddatblygu syniadaeth y Blaid.

Ni allai plaid fechan newydd, gyhoeddi papur o’r math heb adnoddau ariannol sylweddol:  a’r un a wnaeth hyn yn bosib oedd y Fonesig Mallt Williams, Llandudoch , a dalodd arian cyson – canpunt ar y tro, tro ar ôl  tro, canput pryd hynny yn £7000 yn arian heddiw – hyn i gynnal y Ddraig Goch, a Swyddfa Ganol y Blaid. Mallt Williams sy’n haeddu ei lle yn oriel anfarwolion y Blaid.

Ond tydi papur newydd werth dim oll, heb bolisïau allweddol  i dyfu’r Blaid. A’r  bobl a wnaeth mwy na neb i ddatblygu ein gwerthoedd cymdeithasol ac economaidd oedd D. J Davies, mab i löwr o sir Gaerfyrddin, a’i wraig – Gwyddeles – Dr Noelle Davies.

Mae ei lyfr “Towards an Economic Democracy” – yn gweld sosialaeth cymunedol yn  ganolog i werthoedd ein gwlad, a syniadau Robert Owen yn perthyn i ni hefyd.

Ac mae’n werth dyfynnu, o’r deg pwynt polisi a gyhoeddodd Saunders Lewis yn 1933, pwynt 3 :

Y mae cyfalafiaeth ddiwydiannol a chystadleuaeth economaidd, rydd oddi wrth reolaeth llywodraeth gwlad, yn ddrwg dirfawr, ac yn gwbl groes i athrawiaeth cenedlaetholdeb cydweithredol.….”

Peidied neb a chyhuddo Saunders Lewis o fod yn adain dde adweithiol: rwtsh llwyr ydi hynny, fel y mae Richard Wyn Jones wedi dangos yn eglur yn ei lyfrau ar y testun; a diolch, Dicw, am dy ddewrder yn codi llais.

Ni allwn ddathlu canmlwyddiant heb dalu clod i ymgeisydd seneddol cyntaf Sir Gaernarfon, Lewis Valentine a safodd ym 1929, gan gasglu 609 pleidlais.

Valentine oedd  un o’r chwech a ddaeth ynghyd ym Mhwllheli yn Awst 1926, yn cynrychioli “Ffrwd y Gogledd” a chafodd ei ethol yn Lywydd cynta’r Blaid. Un oedd i fod yn y cyfarfod cyntaf hwnnw, oedd D J Williams, Abergwaun; – ond roedd ei drên yn hwyr!

 Dychwelodd  Saunders, DJ a Valentine  i Bwllheli, ym Medi 1936, i losgi adeilad pren ar safle’r Ysgol Fomio, ger Porth Neigwl. Gweithred symbolaidd, a arweiniodd at garcharu’r tri yn Wormwood Scrubs am naw mis.

 Roedd y  cyfarfod croeso iddynt yn hen bafiliwn  Caernarfon, ar ôl eu rhyddhau,  efo dros 12,000 yno i dalu teyrnged iddynt.

Dywedir, pe bai Saunders wedi dewis taflu matsian i’w canol, y gallai fod wedi tanio chwyldro; ond nid dyna dull gweithredu, y Blaid hon.

Mae un o’r tri hyn, D.J Williams yn haeddu ei le yn oriel anfarwolion y Blaid am reswm arall. Ym 1966,  ef a ddaeth i’r adwy pan oedd y Blaid yn wynebu mynd yn fethdalwyr. Roeddem wedi methu a chlirio dyledion etholiad siomedig 1964 a daeth etholiad arall pen deunaw mis.

Roedd y Blaid yn wynebu peidio a sefyll yn yr etholiad honno ym Mawrth 1966 – a D. J Williams achubodd y dydd, gan werthu ei hen gartref teuluol, yn Sir Gaerfyrddin,  gan rhoddi’r cyfan o’r £2,000 a gafodd, I’r Blaid.

 Roedd ei haelioni yn dod a gwynt i hwyliau ymgyrch Gwynfor Evans, yng Nghaerfyrddin, a chododd ei bleidlais o bum mil a hanner  i saith mil a hanner;   a da hynny. Oherwydd o fewn dau fis yr oedd yr AS, Megan Lloyd George, wedi marw. A dyma ni, yn isetholiad Caerfyrddin, ar 16 Gorffennaf 1966, pan gipiodd Gwynfor Evans y sedd, ac yn creu hanes drwy ddod yn AS cynta’r Blaid.

Wrth gofio haelioni digyfaddawd DJ,– a ninnau yma ym Mhwllheli, mae’n werth hefyd gofio’r  Cynghorydd Herbert Thomas, Llannor, un o hoelion wyth Cyngor  Dwyfor.

Pan fu farw yn yr wythdegau, gadawodd bron y cyfan o’i eiddo, i’r Blaid yng Ngwynedd, rhodd fyddai  gwerth dros chwarter miliwn o bunnoedd  yn arian heddiw.

Os ydan ni’n credu mewn annibyniaeth, rydan ni hefyd yn gorfod dangos ein parodrwydd i godi’r adnoddau  hanfodol i droi’r Blaid yn rym etholiadol ledled Cymru.

Os ydi Rhun a’r tîm am ennill etholiad Senedd Cymru, mae angen rhoddion o’r math; ac apeliaf i bawb yn y Blaid sydd mewn sefyllfa i efelychu D J Williams a Herbert Thomas,  i wneud hynny ar fyrder – a does dim rhaid marw i ddangos haelioni! 

Gwynfor oedd symbyliad y deffroad gwleidyddol yn y chwedegau, gyda’i fuddugoliaeth yn dod ar gynffon y deffroad hawliau iaith a ddeilliodd o ddarlith radio Saunders Lewis ym 1962.

Rhyngddynt daeth y deffroad iaith a’r deffroad wleidyddol i gyd-gerdded drwy’r chwedegau a’r saith degau, hyd at refferendwm trychinebus 1979.

 Ac, yn sgil hynny,   Gwynfor wnaeth y safiad dros S4C a sicrhaodd nid yn unig sianel deledu i’r iaith Gymraeg, ond hefyd yr hunanhyder i ni fel cenedl, i herio holl werthoedd Maggie Thatcher a’I chriw.

Ac eilun arall o bleidiwr, Dafydd Iwan, a osododd ein gwerthoedd a’n  dyheadau ar gan – neges yr ydym yn dal i ganu; rydan ni “Yma o hyd”.

Ac am hyn ac am bob safiad arall dros Gymru, rhaid gosod Dafydd Iwan ar restr anfarwolion y Blaid wrth ddathlu ein canmlwyddiant.

 Roedd Gwynfor yn San Steffan, byth a beunydd,  yn edliw nad oedd y Blaid yn llwyddo i gael menywod  yn aelodau seneddol; hyn o weld yr SNP efo Winnie Ewing, Margo Macdonald; a Maggie Bain yn Nhy’r Cyffredin.

Pam nad oedd hyn yn bosib i’r Blaid, meddai? Wel, fe gymerodd yn hirach nag oedd Gwynfor yn disgwyl, ond o’r hir hwyr mae gennym dair ardderchog – Liz, Llinos ac Ann – yno bellach, i gadw’r  Ben Lake, Aelod disglair Ceredigion, yn ei le!  

 Ac felly hefyd y menywod yn Senedd Cymru – Elin, Delyth, Heledd, Sioned a Sian, sy’n siapio  – yn nhîm y Blaid dan arweinyddiaeth Rhun – i gymryd y cyfrifoldeb o arwain ein Plaid i lwyddiant pellach yn ein hail ganrif; ac yn barod i arwain llywodraeth ein gwlad.

Dyma’r ffordd o ddathlu ein canmlwyddiant: I’r Blaid  ddod y Blaid fwyaf yn ein senedd; ac os ydi’n amhosib cael mwyafrif dros bawb efo’r system STV, yna  dangos yr un arweiniad a ddaru Alex Salmond a’ r SNP yn 2007, efo  ond un sedd mwy na Llafur,  i lywodraethu mor llwyddiannus, iddynt yn 2011 gael mwyafrif dros bawb.

 Dyna roddodd iddynt yr hawl i fynnu refferendwm ar Annibyniaeth. Ac fe allwn ni, dan arweinyddiaeth Rhun,  wneud  llawn cystal, a gwell.

Felly, o’r rali hanesyddol hon, awn ati i droi pob  carreg, fel y bydd ail ganrif y Blaid – yn fuan iawn – yn troi’n gyfle am annibyniaeth; ac o gael y cyfle, gyda n gilydd, dros Gymru, awn  rhagom i ailadeiladu’r hen genedl hon, a hynny yn rhinwedd gwerth ein gwareiddiad!

Diolch yn farw!

 

 

Lansio Llyfr “Dros Gymru’n Gwlad – Hanes Sefydlu Plaid Cymru”

Adeilad y Pierhead, Bae Caerdydd. 17 Gorffennaf 2025 6.30pm – 9pm

Linc i gael tocynnau> Linc

Dewch i glywed Arwel Vittle a Gwen Gruffudd yn trafod eu llyfr newydd gyda Karl Davies mewn achlysur a noddwyd gan Mabon ap Gwynfor AS ac a drefnwyd gan Gymdeithas Hanes Plaid Cymru, gyda chyfle i brynu copi o’r llyfr wedi ei lofnodi ganddynt. Does dim tal mynediad ond bydd angen i chwi bwcio lle ymlaen llaw drwy Eventbrite isod.

 

 

 

Llyfryn am Saunders Lewis

Mae Sefydliad Coppieters, mewn cydweithrediad â Fundació Josep Irla, wedi cyhoeddi pedwerydd rhifyn o Political Lives sy’n ymroddedig i Saunders Lewis (1893–1985).
 

 
Dolen i archebu’r rhifyn > Linc
 
Roedd Lewis yn wleidydd, awdur, academydd ac ymgyrchydd amlwg o Gymro y bu ei fywyd a’i waith yn llunio hunaniaeth ddiwylliannol a gwleidyddol Cymru yn sylweddol.
 
Wedi’i eni yn Lloegr i rieni oedd yn siarad Cymraeg, tyfodd Lewis i fyny wedi’i ymgolli yn yr iaith a’r diwylliant Cymraeg er gwaethaf ei amgylchedd.
 
Ar ôl gwasanaethu fel is-gapten yn y Rhyfel Byd Cyntaf, dilynodd addysg uwch, gan ennill graddau mewn Saesneg a Ffrangeg, ac yn ddiweddarach gradd Meistr yn canolbwyntio ar ddylanwad barddoniaeth Saesneg ar awduron Cymru.
 
Roedd ei yrfa gynnar fel darlithydd yng Ngholeg Prifysgol Abertawe yn gyfnod cynhyrchiol yn ei ddatblygiad llenyddol a gwleidyddol, ac yn ystod y cyfnod hwnnw ysgrifennodd ddramâu, traethodau a beirniadaethau a osododd y sylfaen ar gyfer ei athroniaeth genedlaetholgar.
 
Ym 1925, cyd-sefydlodd Blaid Cymru, y blaid genedlaethol Gymreig, gan eiriol dros gymdeithas sy’n siarad Cymraeg ac ymreolaeth rhag imperialaeth Brydeinig. Fe’i hystyrir hyd heddiw yn un o sylfaenwyr pwysicaf y mudiad Cymreig ac yn gyfeirnod y mae ei syniadau a’i esiampl wedi llunio Cymru hyd heddiw.
 
. . . Cefnogir y papur hwn yn ariannol gan Senedd Ewrop. Nid yw Senedd Ewrop yn atebol am gynnwys na barn yr awduron.
 

 

Cofio Graffitwyr Gwladgarol

COFIO GRAFFITWYR GWLADGAROL

Ymddangosodd gyntaf yn CwmNi, papur bro Cwm Rhymni a’r cyffiniau

Philip Lloyd

Ar wahoddiad Dafydd Islwyn cyhoeddais atgofion o’m magwraeth ym Margoed yn ystod y 3-degau a’r 4-degau yn Tua’r Goleuni (rhagflaenydd CwmNi) yn 2005 a 2006. Soniais am y triwyr gwladgarol Alf Williams (gwerthwr gyda’r Bwrdd Nwy) a Deri Smith a Dave Pritchard (cyd-weithwyr yn ffatri South Wales Switchgear, Pontllanfraith). Dyma hanes un o’u campau, fel y’i hadroddais yn rhifyn gwanwyn 2021 o’r Casglwr, cylchgrawn Cymdeithas Bob Owen. Yn Y Casglwr, roedd y golygydd wedi rhoi capsiynau i’r lluniau a oedd yn ymylu ar fod yn farddonol!

Pan ddeuthum i adnabod Alf, Deri a Dave yn 1961 roedden nhw wedi bod wrthi’n paentio’r slogan ‘Free Wales’ mewn safleoedd amlwg, yn y cymoedd yn bennaf. Mynnnodd y tri gyda chryn balchder fy mod i’n mynd â nhw yn fy Standard 9 hynafol i wylio eu campweithiau a’u rhoi ar gof a chadw gyda’m camera.

Un o’r safleodd oedd wal-gynnal ger y man lle roedd yr A470 yn croesi Afon Taf ar ei ffordd i Ferthyr Tudful drwy Dreharris, Ynysowen a Throed-y-rhiw. Nid degau o flynyddoedd o wynt a glaw barodd i’r enghraifft hon o’u murweithiau ddiflannu ond gwelliannau i’r A470 a dargyfeirio’r rhan honno ohoni yn ffordd ddeuol ar hyd ochr arall y cwm.

Ar fin yr hen A470

Rydw i’n hynod falch o’r llun a dynnais o’r ffens haearn-rhychog a safai y tu ôl i’r platfform lle disgynnai gweithwyr glofa Taff Merthyr o’u trenau ar y rheilffordd rhwng Nelson a Bedlinog. Roedd hi’n hwyr y dydd, a’r nos yn dechrau cau amdanom. Eisteddodd Deri ar fin y ffordd i fod yn flaendir i’r llun. Gosodais fy nghamera ar drybedd a’i roi ar waith am tua hanner munud (llawer mwy na’r ffracsiwn o eiliad arferol) – a gobeithio. Ond doedd dim rhaid imi bryderu. Pan gyrhaeddodd y print drwy’r post bu llawenydd mawr – fel mae’r ail lun yn cadarnhau.

Platfform rheilffordd glofa Taff Merthyr

Un safle ymhell o gynefin Alf, Deri a Dave yng Nghwm Rhymni oedd gatiau barics Aberhonddu. I ffwrdd â ni felly yn y Standard 9 dros y Bannau. Ond gwelir oddi wrth y llun (a dynnais yn llechwraidd rhag ofn imi gael fy ngweld gan filwr ar ddyletswydd) fod yr awdurdodau milwrol wedi gwneud eu gorau glas i ddiddymu’r llythrenwaith cyn inni gyrraedd.

Barics Aberhonddu  

Buom hefyd ar hyd yr ffordd fawr rhwng Merthyr ac Aberdâr, fel mae’r pedwerydd llun yn dangos.

Ar y ffordd rhwng Merthyr ac Aberdâr

 

Fy Standard 9 ar drywydd arall

Hanes Baneri’r Eisteddfod

Coch, Gwyn a Gwyrdd v Red, White and Blue

Yn ei adroddiad i’r Western Mail o faes Eisteddfod Genedlaethol Pwllheli am Ddydd Mercher Awst 3ydd 1955, dywedodd Herbert Davies: ‘To-day has been flag day. During the night someone climbed the centre flag-pole at the rear of the pavilion and removed the Union Jack. At 7.30 this evening another Union Jack fluttered on the flag-pole. This substitute flag was re-hoisted by a member of the local executive committee … The perpetrators are alleged to be Welsh Nationalists’.

Gwir oedd yr haeriad am ‘Welsh Nationalists’, er i Gwynfor Evans, llywydd Plaid Cymru a’r ysgrifennydd J.E. Jones ei wadu. Roeddwn i ymhlith y ‘perpetrators’ ac yn gweithio i J.E ar y pryd. Doedd dim sôn am Maes B yn eisteddfodau’r 50au, ac ar y nos Fawrth y cynhaliwyd Noson Lawen y Blaid yn sinema’r Palladium. Tra oedd y gynulleidfa yn y Pafiliwn yn mwynhau eu hunain, dringodd dau ddyn na fedraf eu henwi yma i ben yr adeilad. Fy rhan i yn yr antur heblaw bod ar wyliadwriaeth oedd lapio’r faner amdanaf o dan fy siaced, cerdded drwy strydoedd y dref i sinema’r Palladium a’i rhoi i swyddog yng nghefn llwyfan y Noson Lawen i’w dangos i’r gynulleidfa. Gallwch ddychmygu’r gymeradwyaeth!

Cefn Pafiliwn Eisteddfod Pwllheli 1955, gan ffotograffydd anhysbys

CAERNARFON 1932

Nid dyna’r tro cyntaf i faner Brydeinig ddiflannu o fan cyhoeddus yng Nghymru. Mae Llyfr y Ganrif yn adrodd hanes ‘ergyd anturus’ pedwar dyn a ddringodd Dŵr yr Eryr yng Nghastell Caernarfon ar Ddydd Gŵyl Dewi 1932, tynnu baner Jac yr Undeb i lawr, gosod Draig Goch yn ei lle a chanu Hen Wlad fy Nhadau.

Ond llwyddodd ceidwad y castell a rhai o’i gyd-weithwyr i dynnu’r Ddraig i lawr a rhoi Jac yr Undeb arall yn ei lle. Gwelir llun o ddarn o’r Jac ar dudalen 139 o Llyfr y Ganrif. Bu am flynyddoedd yn ‘addurn’ ar y wal yn hen swyddfa Plaid Cymru yn Stryd y Frenhines, Caerdydd. Pam? Am fod J.E. Jones, trefnydd y Blaid ar y pryd (a’i hysgrifennydd cyffredinol yn ddiweddarach) yn un o’r pedwar.

Yn y prynhawn daeth dwsinau o fyfyrwyr o Fangor ar yr un trywydd. Er iddyn nhw gael eu hel o’r castell, roedd un ohonyn nhw wedi cuddio’r ail Jac yr Undeb o dan ei got law. Ar ôl ymgais aflwyddiannus i’w llosgi ar y Maes fe’i rhwygwyd, a rhannwyd darnau ohoni rhwng y myfyrwyr.

YNG NGEIRIAU’R BARDD

Ym 1968 canodd Harri Webb gerdd i fawrygu Dewi Sant, Llywelyn Fawr ac Owain Glyndŵr, gyda phennill am arwyr eraill:-
So here’s to the sons of the gwerin
Who care not for prince or for queen,
Who’ll haul down the red, white and blue, lads,
And hoist up the red, white and green!
Dyfynnir y llinellau hyn o The Collected Poems of Harri Webb gyda chaniatâd Meic Stephens, y golygydd ac esgutor llenyddol y bardd. A ysbrydolwyd Webb gan griw J.E. Jones, myfyrwyr Bangor, neu ‘alleged Nationalists’ 1955? Hoffwn feddwl y byddai yn eu hystyried yn ‘sons of the gwerin’ i gyd. Ond dydi’r nodiadau esboniadol yng nghefn y llyfr ddim yn dweud.

RHOSLLANNERCHRUGOG 1961

Bu bron i’r athro ifanc a ddaeth yn ŵr imi yn y man gael cyfle i efelychu gweithredoedd 1932 a 1955. Ar faes Eisteddfod Genedlaethol Rhosllannerchrugog 1961 roedd carafán yn hybu gwerthiant y Liverpool Daily Post (fel y gelwid y papur yr adeg honno) a’r Liverpool Echo, a dwy faner yn cyhwfan uwchben: Jac y Undeb ac (yn llawer is) Ddraig Goch.

Felly, dyma griw bychan yn codi yn oriau mân y bore a sleifio i mewn i’r Maes gyda chyllell finiog, gan fwriadu rhwygo’r un Brydeinig oddi ar ei pholyn. Ond roedden nhw’n rhy hwyr – fel mae’r ail ffotograff yn dangos. Hwyrach y cawn hanes yr ‘anfadwaith’ hon yn rhifyn nesaf y Casglwr.

Carafán y Liverpool Daily Post, Eisteddfod Rhosllannerchrugog 1961 (ffotograff gan Philip Lloyd)

Lisa Lloyd

Cyhoeddwyd yn Y Casglwr, haf 2018

Hanes Plaid Cymru