Brian Arnold (1941-2023)

Mae gwefan Cymdeithas Hanes Plaid Cymru’n cyhoeddi teyrnged i’r diweddar gyn-gynghorydd Brian Arnold, Ynysybwl, aelod ffyddlon o’r Blaid a chynghorydd gweithgar ac ymroddedig i’w gymuned.

Ymunodd Brian â’r Blaid yn 1957 pan oedd 16 mlwydd oed ac fe’i etholwyd yn aelod Plaid Cymru o Gyngor Gymuned  Ynysybwl yn 1986, gan wasanaethu ar y cyngor hwnnw am gyfnod o 26 o flynyddoedd.

Nes ymlaen fe ddaeth yn aelod o Gyngor Bwrdeistref Cwm Cyngor a Chyngor Sir Rhondda Cynon Taf ac fe gadwodd ei sedd ar y cyngor am gyfnod o dair blynedd ar ddeg ac ennill parch gan bobl o bob plaid wleidyddol.

Awdur y deyrnged yw cyd-aelod o’r Blaid yng Nghwm Cynon, yr hanesydd D. Leslie Davies ac fe gewch ei darllen yma.

Charlotte Aull Davies, 1942-2023

Americanes ddawnus a ddaeth yn Gymraes frwd

Dafydd Williams

Rywbryd yng nghanol y saithdegau, cerddodd Americanes ifanc i mewn i brif swyddfa Plaid Cymru yng Nghaerdydd.  Yr oedd Charlotte Aull  a’i bryd ar ddarganfod popeth am Gymru a’i mudiad cenedlaethol. Bu disgwyl iddi ddychwelyd dros yr Iwerydd ar ôl cwblhau’i PhD, ond – yn ffodus i Gymru – fel arall y bu.

Cafodd Charlotte ei geni yn Lexington, Kentucky, un o dri o blant.  Enillodd radd mewn mathemateg ac yna MSc ym Mhrifysgol Mississippi cyn troi at anthropoleg gymdeithasol, hynny yw astudio cymunedau a’u diwylliant.  Ac ar gyfer ei PhD yng Ngogledd Carolina, Cymru oedd y wlad y dewisodd i’w hastudio.

Ynghyd â phersonoliaeth hyfryd, roedd gan Charlotte benderfyniad tawel.  Oriau ar ôl glanio yng ngwledydd Prydain, bu yn Nhŷ’r Cyffredin yn cyfweld â Gwynfor Evans, Aelod Seneddol cyntaf Plaid Cymru.  Nes ymlaen mewn siop lyfrau sylwodd ar ŵr bonheddig yn craffu ar res o lyfrau Cymreig – neb llai na’r bardd Harri Webb, ac fe gafodd yntau  ei gyfweld yn y fan a’r lle!

Diau mai Gwynfor a awgrymodd ymweliad â mi yn swyddfa’r Blaid i ddarganfod mwy a chael rhestr o bobl eraill i’w holi.  Ond go brin y gwelodd neb y canlyniad hapus – y byddai Charlotte yn priodi fy ffrind Hywel Davies, newyddiadurwr, cenedlaetholwr ac awdur llyfr safonol ar hanes ugain mlynedd gyntaf Plaid Cymru.  Daeth Charlotte yn rhugl yn y Gymraeg wrth gyflawni gwaith maes ar gyfer ei PhD ym Mangor a Chaerdydd.

Mudodd y pâr i’r Unol Daleithiau yn 1985 pan gafodd Charlotte gynnig swydd darlithydd ym Mhrifysgol De Carolina.  Erbyn hyn, roedd gyda nhw ferch ddyflwydd oed – Elen Gwenllian, a fabwysiadwyd yn 1983.  Yn ôl i Gymru daeth y teulu bach yn 1988, gan fyw mewn nifer o fannau yn y Gogledd a’r De cyn setlo yn Nhreforys – Hywel yn dilyn ei yrfa yn y byd teledu a Charlotte ym Mhrifysgol Abertawe.

Bydd nifer yn gyfarwydd â’i chlasur Welsh Nationalism in the Twentieth Century (1989).  Er i’r llyfr ymddangos ar adeg ddigon tywyll i obeithion Cymru, torrodd dir newydd drwy olrhain y perthynas rhwng cenedlaetholdeb a ffactorau strwythurol, megis datblygiad y wladwriaeth Gymreig. 

Yn 1992, penodwyd Charlotte yn ddarlithydd, ac yn 2000 yn uwch-ddarlithydd mewn cymdeithaseg ac anthropoleg.  Bu’n awdur toreithiog, a’i llyfr Reflexive Ethnography (1998) yn dal yn destun allweddol i’r sawl sy’n astudio pobloedd a’u diwylliannau.  Mae ei chydweithwyr yn cofio’i charedigrwydd, ei hysbryd cydweithredol a’i hymroddiad llwyr i gyfiawnder cymdeithasol.  Roedd yn awdurdod yn ei phwnc, ac yn hynod agos atoch chi ac yn boblogaidd ymhlith ei myfyrwyr.

Ysgrifennai nifer helaeth o bapurau academaidd, yn ogystal â chyfrannu at Barn a’r cylchgrawn Planet.  Rhwng 2007 a 2012 bu Hywel a hithau’n cynhyrchu’r Papur Gwyrdd, cylchgrawn amgylcheddol a gyflwynai’r frwydr fawr dros y blaned yn yr iaith Gymraeg.  Ail-lansiwyd y Papur Gwyrdd yn wefan yn 2021.  Roedd hi hefyd yn aelod gweithgar o Blaid Cymru, gan wasanaethu yn Ysgrifennydd ac yn Drysorydd i Gangen Dwyrain Abertawe.  Safodd yn ymgeisydd dros y Blaid ar gyfer sedd ar Gyngor Abertawe yn ward Treforys.

Arhosodd Charlotte yn Americanes frwd, gan gadw ei dinasyddiaeth Americanaidd, ymweld â’i theulu’n aml  a dathlu Dydd Annibyniaeth a’r Diolchgarwch mewn steil.  Cadwai olwg barcud ar wleidyddiaeth ei mamwlad – mae’n deg nodi nad oedd yn deyrngar i Donald Trump!  Yn ogystal â dwli ar jazz, roedd gyda hi ddiddordeb oes mewn ceffylau a marchogaeth, cariad a gyflwynodd i Hywel ac Elen – i’r fath raddau bod Hekkla,merlyn Ynys yr Iâ oedd yn rhodd i Elen, wedi croesi’r Iwerydd i fyw yng Nghymru!

Bu Charlotte yn frwd ei chefnogaeth i achos Cymru a’r iaith Gymraeg, i gyfiawnder cymdeithasol a heddwch.  Bu’n llywodraethwr Ysgol Gynradd Gymraeg Tan-y-Lan, Treforys.  Bu’n hoff o gerdded mynyddoedd, beicio a garddio, fel y nododd cyfaill a chymydog, y Prifardd Robat Powell:

Ein Charlotte ddoeth, Charlotte dda – a gofiwn

drwy nos gyfyng gaeaf’,

ac o’r ardd daw atgo’r ha’

i ddyn, a bydd hi yna!

Estynnwn ein cydymdeimad i Hywel ac Elen, a’i gŵr hithau Adam. 

Ganed Charlotte Aull Davies ar 8 Hydref, 1942.  Bu farw ar 18 Chwefror, 2023.

Mae’r deyrnged hon yn fersiwn estynedig o’r erthygl a ymddangosodd yn rhifyn Mis Mehefin 2023 o’r cylchgrawn Barn.  Diolchwn i’r golygydd Menna Baines am ei chydweithrediad caredig.

Ymladd Tlodi – Rhan o Hanes y Blaid

Mae gwybodaeth werthfawr wedi dod i law am ymgyrch Plaid Cymru i oresgyn tlodi yn y tridegau.  Mae papurau a drosglwyddwyd i ofal Cymdeithas Hanes Plaid Cymru gan Siôn ap Glyn yn dangos cymaint o waith ymarferol a wnaed i helpu’r di-waith a’u teuluoedd mewn ardaloedd difreintiedig yn y De a’r Gogledd.

Sefydlwyd ‘Clybiau Cinio Difiau’ gan y Blaid yn ystod y dirwasgiad a darodd Gymru’n galed bron nawdeg o flynyddoedd yn ôl, a hynny gan fudiad oedd wedi’i sefydlu ond ryw ddegawd ynghynt.

Fel y dywedodd Saunders Lewis, Llywydd y Blaid ar y pryd, pwrpas y clybiau oedd i bobl mewn gwaith helpu’r rhai llai ffodus drwy aberthu un pryd o fwyd yr wythnos a rhoi chwe cheiniog i ddarparu bwyd i’r di-waith.  Dydd Iau oedd y diwrnod a ddewiswyd – a hynny yn bennaf oherwydd yn aml iawn na fyddai teuluoedd tlawd yn bwyta ar y diwrnod hwnnw am y rheswm syml nad oedd dim arian ar ôl.  Aeth gwaith y Clybiau Difiau ymlaen tan ddechrau’r rhyfel yn 1939.  Talwyd cost y bwyd gan aelodau’r Blaid, gyda’r arian yn cael ei weinyddu gan ei swyddfa genedlaethol. Yn ôl yr hanesydd D. Hywel Davies, dyma’r ymgyrch elusennol fwyaf llwyddiannus a wnaed gan aelodau’r Blaid yn ystod y 1930au – “parhaodd llif y chwe-cheiniogau cenedlaetholgar yn ddi-dor.”

Ceir adroddiadau manwl am y flwyddyn 1937 am weithgarwch dau glwb ym maes glo’r De – Dowlais ger Merthyr a Dyfnant yn ymyl Abertawe – ac un yn ardal chwarelyddol y Gogledd-orllewin, sef Rhosgadfan.  Dowlais oedd man cychwyn y fenter, mae’n debyg, ac ymweliad gan Saunders Lewis fu’r sbardun i’w lledu i ardaloedd eraill.  Nes ymlaen, sefydlwyd clwb arall yn Nhreorci yn y Rhondda.

Mae manylion difyr yn dod i’r amlwg yn yr adroddiadau – yn Nyfnant, er enghraifft, yn ôl un arweinydd lleol Dr Gwent Jones, methiant fu’r cinio cyntaf – doedd pobl leol ddim am dderbyn cardod.  Llwyddodd i oresgyn y broblem honno drwy wahodd ‘gwesteion’ o blith di-waith yn y gymuned i gyfarfod gyda’r nos ble bydden nhw’n “annerch, darlithio, canu etc., yn ôl eu talent, ond o hyd i fwyta gyda ni”.  Ar ôl hynny, bu’r ciniawa’n llwyddiannus iawn.

Bydd y dogfennau gwreiddiol, y rhan fwyaf ohonyn nhw yn y Gymraeg, yn cael eu danfon i archif Plaid Cymru yn y Llyfrgell Genedlaethol ac mae modd eu darllen ar wefan Cymdeithas Hanes Plaid Cymru yma –

Clwb Cinio Difiau 1937

Wil Roberts 1943 – 2022

Wil Roberts, neu Wil Coed fel yr oedd pawb yn ei nabod, yn gymeriad amlwg ym Mhlaid Cymru a fu farw yn ystod Mis Hydref 2022.  Bu’n weithgar ymhob ymgyrch y Blaid o’r chwe-degau ymlaen ac yn ysgrifennydd effeithiol Cangen Pwllheli.  Cyn-lywydd Plaid Cymru Dafydd Wigley a draddododd deyrnged yn ei angladd ac fe’i cyhoeddir yma’n llawn.

Er cof am Wil Coed….Teyrnged.

Bore da! I shall be speaking mainly in Welsh; but on behalf of Siw and the family,  I want to thank everyone for their words of sympathy and to those of you from near and far, who are here today. I have made available an English translation of my script, which I hope will enable you to follow my address.

Gyfeillion annwyl –  Fe roddwn y byd am beidio â bod yma heddiw; ond does dim yn y byd a fyddai wedi’m hatal  rhag ymateb i gais Siw a’r teulu, i mi dalu gair o deyrnged  i un fu’n gyfaill arbennig i ni i gyd, mewn amrywiol ffyrdd ar wahanol adegau o’n bywydau. Un annwyl iawn sydd bellach a’i rawd wedi ei rhedeg; a chyfraniad oes – i’w deulu, i’w fro ac i’w genedl, ysywaeth, wedi dod i ben.

Borema, mae’n cydymdeimlad o waelod calon yn estyn allan i Siw, i Dewi ac Ifan; ac i Quintin sydd hefyd yn rhan o’r teulu;  ac i’r wyrion Jordan, Mia a Cai – yr oedd  Wil yn Daid hoffus iddynt; ac i’r teulu oll. A gwn y bydd pob un ohonom eisiau diolch i Siw am y gofal cariadus a roddodd i Wil dros y blynyddoedd; ac yn arbennig, yn ystod y cyfnod olaf heriol y bu raid iddynt ei wynebu fel teulu.

Mae Siw efo’r sicrwydd a gaiff o’i ffydd, wedi ei seilio yn achos yr Eglwys hon; a bydd hynny’n angor iddi yn y stormydd y mae’n byw drwyddynt. Siw, wrth gwrs, wedi ei magu yn y traddodiad Pabyddol yng Nghaerdydd ac wedi dod dan ddylanwad yr enwog Dad Gregory FitzGerald; ac mae ei ffydd, a’r Eglwys Babyddol, wedi bod yn nerth iddi drwy’r blynyddoedd. 

A diolch i’r Esgob Emeritws  Edwin Regan, am ei arweiniad heddiw, a hefyd drwy’r cyfnod anodd diweddar; ac i bawb sy’n gysylltiedig â’r achos  yma am eich cynhaliaeth o Siw a’r teulu; am eich caredigrwydd tuag atynt; a’ch help ymarferol mewn cyfyngder. A diolch, hefyd, i’r Archddiacon Andrew Jones am y cymorth eithriadol  a roddodd yntau, hefyd, i’r teulu.

Mae Siw wedi gofyn i mi dynnu sylw at y ffaith y bydd croeso i bawb ddod wedyn am luniaeth i Glwb Golff,  Pwllheli. Bydd y claddu ym mynwent Deneio wedi’r gwasanaeth; ond i’r rhai nad ydynt am ddod i’r fynwent, mae croeso iddynt fynd ar unwaith i’r Clwb Golff. 

Ganwyd William Owen Roberts ar 23 Rhagfyr, 1943; yn fab i J.O a Catherine Roberts, Cefn Coed, Chwilog – ac felly, fel Wil Cefn Coed yr oedd pawb yn ei nabod, neu Wil Coed, yn ddiweddarach. Roedd ei dad, J.O Roberts,  yn rheolwr y Ffatri Laeth yn Rhydygwystl; ac yn gynghorydd  Sir Gaernarfon.

Mae llawer o’n to ni ddim yn sylweddoli fod Wil yn efaill, ond, yn drychinebus o drist,   bu farw ei chwaer ar ei genedigaeth; a dan yr amgylchiadau, roedd yn wyrth i Wil oroesi. A  dioddefodd y teulu  drychineb arall pan fu i frawd iau Wil – sef Richard – gael ei ladd yn un ar bymtheg oed, mewn damwain motor-beic.

Ond dwi o dan orchymyn gan Siw i beidio â bod yn rhu lleddf yn fy sylwadau heddiw, ond yn hytrach i ni gofio Wil fel cyfaill llawen a llon, fel yr oedd i ni oll. Gwnaf fy ngorau i barchu hynny.

Ar ôl bod yn ddisgybl yn Ysgol Ramadeg Pwllheli, aeth Wil, yn y lle cyntaf, i astudio Milfeddygaeth yn  Lerpwl; ond tra roedd ei waith ar bapur yn wych, roedd yn cael anhawster gyda’r Saesneg ar lafar – rhywbeth digon cyffredin pryd hynny i blant o gefn gwlad Cymru.

Felly aeth adra i weithio yn y Ffatri Laeth am flwyddyn, cyn  cael ei dderbyn i Brifysgol Cymru, Bangor, ble roedd yn yr un flwyddyn â Dafydd Elis Thomas – da gweld Dafydd yma heddiw. Enillodd Wil radd dda iawn mewn amaethyddiaeth.

Tua pryd hynny cyfarfûm innau am y tro cyntaf âWil. Roeddwn yn gweithio dros wyliau’r haf i’r Blaid yn Arfon. Trefnais i gyfarfod â chriw ifanc ym Mhwllheli gan roddi iddynt doman o Welsh Nations – papur Saesneg y Blaid, i’w dosbarthu o ddrws i ddrws.

Synhwyrais fod gennyf  broblem: roedd Wil ac Osborn Jones (cyfaill ysgol i Wil, a da ei weld yntau, a Glesni yma heddiw hefyd) – roedd y ddau  yn sgyrnygu arnaf. Medda un ohonynt “Mae ‘na hen ddigon o bapurau Saesneg yn cael eu darllen ym Mhwllheli”; gan fygwth fy ngadael efo mynydd o bapurau gwrthodedig. Fe gafwyd cyfaddawd o ryw fath – a da deud bu Osborn, Wil a minnau yn gyfeillion gydol oes!

Ar ôl graddio ym Mangor,  enillodd Wil ysgoloriaeth i astudio am radd uwch mewn Economeg Amaethyddol yn Aberystwyth. Yn ddigon naturiol, aeth Wil ymlaen wedyn i weithio gydag Adran Amaeth Cymru yng Nghaerdydd; ac roedd wrth ei fodd yn teithio o amgylch ffermydd Bro Morgannwg – a synnu wrth ganfod faint o’r ffermwyr oedd, pryd hynny, yn Gymry Cymraeg; a hwythau mor falch o gael delio a gwas sifil Cymraeg ei iaith.

Aeth Wil ymlaen wedyn i weithio efo Amgueddfa Cymru yn Sain Ffagan, gyda’r cyfrifoldeb o deithio o amgylch Cymru, yn recordio sgyrsiau efo ffermwyr; ac mae ei waith, hyd heddiw,  yn un o drysorau’ r Amgueddfa Werin.

Roedd Wil yn Bleidiwr i’r carn, a dim ofn datgan hynny. Er gwaethaf ei atal deud, roedd yn fodlon curo ar ddrysau ledled Cymru; a ble bynnag yr oedd na rali, neu brotest, neu isetholiad, byddai Wil yno. 

Erbyn 1970, roedd Wil wedi cyfarfod Siw; a ble gredech chi oedd y fangre cariadus ble bu iddynt gyfarfod? Mewn cyfarfod o Bwyllgor Rhanbarth Plaid Cymru, yng Nghaerdydd! A Siw, bryd hynny, yn un ar bymtheg oed; a Wil deng mlynedd yn hŷn na hi.

Roedd Siw, er yn ei harddegau, wedi hen arfer canfasio – a gwerthu’r Welsh Nation o ddrws i ddrws yng Nghaerdydd.  Cystal nad oedd Wil wedi wfftio ar werthu papur Saesneg yng Nghaerdydd fel yr oedd ym Mhwllheli!

Bu i Wil a Siw  ddechrau canlyn y flwyddyn wedyn, ym 1971 – y flwyddyn y bu i Elinor a minnau symud i fyw ym Merthyr; a dyna ble cefais gyfarfod Siw am y tro cyntaf – hi a Wil yn canfasio mewn isetholiad enwog; ac yn aros  yn ein cartref, ble – yn gwbl ddi-steil, roedd hanner Cymru yn campio mewn cydau cysgu, ar lawr y tŷ!

Roedd Wil efo rhinwedd arbennig iawn – roedd yn gallu cysgu yn rhywle, dan unrhyw amgylchiadau – cymaint felly iddo, ar un achlysur, ddisgyn I gysgu tra roedd yn teithio ar gefn ei feic ar y Lôn Goed – a chael coblyn o godwm!

Roedd Wil yn un yr oedd damweiniau yn hoff o’i ganfod! Un tro, bu iddo falu ei droed yn yfflon gan beiriant torri gwair.

Damwain arall a gafodd Wil oedd, tra’n blentyn ysgol, yn chwarae yn y cae ac yn gosod ei got ar lawr; ni sylwodd fod moch yn y cae nesa; daeth un mochyn busneslyd,  i synhwyro beth oedd y dilledyn ar lawr – a bwyta’r got yn y man a‘r lle. Cafodd Wil andros o row gan ei fam!

Ar adeg arall, tra yn Aberystwyth, cafodd ddamwain car ddifrifol  tra’n teithio efo’i gyfaill mawr, Geraint Eckley pan – wrth fynd dros fryncyn, tarodd rew du ar y ffordd, a thorrwyd cefn Wil mewn tri lle. Ystyr arall i’w enw Wil Cefn Coed. Mae Geraint yn ymddiheuro gan, am resymau iechyd teulu, mae’n methu a bod efo ni.

Soniodd Geraint wrthyf sut y byddai Wil yn cael ryw syniad da i’w ben ar amrant; yna ffwrdd â fo. Un bore ym 1969,  cyhoeddodd Wil i’w gyd-letywyr yn Aberystwyth, ei fod am fynd i weld yr enwog D J Williams yn Abergwaun y diwrnod hwnnw. Aeth Geraint efo fo; a landio ar DJ yn gwbl ddirybudd; cael croeso mawr; a dod yn gyfeillion mynwesol. Bu Wil wedyn i Abergwaun hanner dwsin o weithiau, i sgwrsio â DJ a holi am ei hanes.

Ond rhaid dod ‘nôl at hanes Wil. Bu i Wil a Siw briodi yn 1973  yn Eglwys Pedr Sant, Caerdydd – ac roedd ‘na hanes i hynny hefyd! 

Roedd Wil eisoes wedi cyflwyno Siw i’r offeren Gymraeg a gynhaliwyd yn y Bontfaen; a gwasanaeth Cymraeg oedd y gwasanaeth priodas, efo’r enwog Esgob Mullins yn eu priodi. ‘Roedd ‘na  ddau swyddog yn gyfrifol am drefnu’r gwasanaeth – a hwythau heb drafod yn iawn pwy oedd  i forol fod y cofrestrydd yn bresennol; a chanfod yn ystod y gwasanaeth, nad oedd gofrestrydd yno! Panic glan!  Dyma anfon rhywun i chwilota o gwmpas Caerdydd am gofrestrydd.

Y delynores druan, Eleri Owen, hen ffrind i Elinor a minnau – yn gorfod canu’r delyn am dros hanner awr, tan ymddangosodd ddirprwy gofrestrydd i  gwblhau’r hanfodion cyfreithiol. Ar ddiwedd dwy awr hir iawn, roedd Wil a Siw  yn ŵr a gwraig!

Yn syth ar ôl y briodas, roedd Wil yn cychwyn ar swydd newydd, sef fel is-Ysgrifennydd Cymdeithas Gwartheg Duon Cymru, oedd â’i Swyddfa yng Nghaernarfon.

Bu raid torri’r mis mel yn fyr, gan fod bos newydd Wil  wedi ei gymryd yn wael.  Glaniodd Wil i swydd newydd, a thŷ newydd,  mewn cynefin newydd yn ogystal â phriodi!

Roedd eu cartref newydd mewn stad fechan yn Llandwrog; eu cymdogion  yn cynnwys  Huw Jones, Sain, a Siân;  Menna a Cheredig Davies, Cyngor Gwynedd; efo Osborn a Glesni ynghyd â Gerallt Lloyd Owen ac Alwena rownd y gornel; Richard Morris Jones a Manon Rhys i fyny’r ffordd; a John a Gwenno Hywyn fawr bellach. Sôn am bentref oedd yn nodweddu’r Gymru Newydd ifanc, obeithiol,  oedd ohoni yn y saithdegau.

Roedd yn newid byd sylweddol I Siw; ond roedd Wil yn ei gynefin; ac yn ei elfen. Yn ôl Osborn,  Wil oedd y cymeriad yn Llandwrog oedd cadw pawb at ei  gilydd. Roedd Wil efo dawn anghyffredin o allu gwneud efo pawb; un o’r bobl mwyaf hoffus a ganfûm erioed.

 Ac roedd Wil yn rhywun y gallwn innau, fel Aelod Seneddol, droi ato, am arweiniad; a gallwn bob amser ymddiried yn ei farn.

Tybia Siw y byddai Wil, o gael ei amser eto, wedi studio hanes a’r Gymraeg.  Deleit Wil oedd sgwennu i’r papur newydd. Bu ganddo golofn ar amaethyddiaeth yn y Cymro; a bu’n sgrifennu i bapurau’r Herald, dan y ffug enw Thomas Parry (rhai yn meddwl mai Prifathro Aberystwyth oedd y gohebydd, cystal ei arddull). A bu’n weithgar gyda’r criw bach oedd yn cynhyrchu’r Ddraig Goch a’r Welsh Nation.

Roedd hyn yn waith trwm a chyfrifol; ond roedd gan Wil hiwmor iach a welwyd wrth iddo ysgrifennu llythyrau gogleisiol a dadleuol i’r Herald, dan yr enw “Twtws Parri, Llandwrog”- gan fynegi safbwyntiau a fyddai’n gwylltio ambell drigolyn parchus yn y pentref. Ac roedd pawb yn methu â dyfalu pwy oedd y Twtws Parri ‘ma. Dim ond ychydig o gyfeillion agos oedd yn sylweddoli mai Twtws oedd enw cath Wil a Siw!                                         

Roedd Wil yn dynnwr lluniau o fri ac am gyfnod bu’n  ffotograffydd swyddogol dros y Western Mail mewn gemau rygbi rhyngwladol.

Bu Wil a Siw yn byw yn Llandwrog am bum mlynedd a phryd hynny cafodd Wil  ei benodi’n  brisiwr tir  ac eiddo i Gyngor Gwynedd. Ac yna, symud nôl i fyw yng Nghefn Coed am ddeng mlynedd;  ac oddiyno symud i’r Ala, ble buont fel teulu am drideg-chwe blynedd, hyd heddiw.

Roedd Wil yn un darbodus efo arian. Un tro daeth Siw ac yntau i lawr i Lundain i gael cinio gyda mi yn Nhŷ’r Arglwyddi. Ar ôl cyrraedd  cyrion Llundain, bu iddynt sylweddoli fod Wil wedi gadael ei siwt adra! Gan dybio y byddai’n rhaid iddo wisgo siwt yn ystafell bwyta grand yr Arglwyddi, aeth i sawl siop – a dychryn o weld y prisiau. Cafodd o hyd i siop elusen, ble dalodd bumpunt am siaced; a doeddwn innau ddim callach!

Fe gofiaf fel ddoe y diwrnod y dywedodd Wil wrthyf, ugain mlynedd yn ôl, a hynny yn stesion Crewe – ei fod newydd glywed fod cancr y brostad arno. Roedd wedi cael sgytiad; ond roedd yn derbyn y neges efo agwedd gwbl bositif, na fyddai’n gadael i’r cyflwr yn diffinio gweddill ei fywyd, o ba bynnag hyd y byddai hynny.  Ond bu iddo ymddeol o’i waith gyda Chyngor Gwynedd i roddi cyfle llawn i’w gorff ymwared â’r cancr; ac ar ôl pum mlynedd, cafodd y neges  bositif fod y cyflwr wedi diflannu.

A felly fu;  parhaodd Wil dros bymtheg mlynedd i chwarae ei ran ar ei aelwyd; a rhan yn ei gymdeithas yma ym Mhwllheli; yn weithgar efo Cangen y Blaid; yn cynorthwyo Siw yn ei gwaith gyda’r Eglwys hon; ac yn dal i ysgrifennu – gan gynnwys teyrnged  arbennig i’w gyfaill Ioan Roberts , yn y gyfrol “Cofio Ioan”.

Ac yna, ychydig cyn y Covid, daeth y cancr yn ôl. Oherwydd y Clo, ni chafodd Wil, am gyfnod, fynd i mewn i Ysbyty. Cafodd brofion niferus; a rheini’n dal i awgrymu fod y cancr wedi cilio eto. Ond wedyn, yn ddiweddarach, gwelwyd symptomau eilwaith a bu i Wil gael codwm yn y tŷ.

Roedd pryder ei fod wedi dioddef strôc; ond nid felly fu. Roedd y cancr wedi ymosod ar ei asgwrn cefn. A chafodd driniaeth hir yn Ysbyty Gwynedd ac Ysbyty Glan Clwyd. Yna, fis Mai eleni,  bu i’w asgwrn cefn chwalu. Wedi hynny, bu am wythnosau yn Ysbyty Bryn Beryl, ble y cafodd ofal rhagorol; roedd Wil a Siw yn hynod ddiolchgar i’r staff yno.

Pan fûm heibio Bryn Beryl yng Ngorffennaf, roedd Wil mewn hwyliau da; yn sgwrsio â phawb; ond yn ysu am gael adra at Siw. A gofynnodd Wil i mi ddiolch i bawb a fu’n cysylltu ag ef yn yr Ysbyty; ac i bawb  a adawodd negesau iddo efo Siw, yn ystod ei waeledd.

A phan gafodd Wil ddod adra ddiwedd Awst, darparwyd gwely arbennig iddo yn y tŷ; a  bu cyngor Gwynedd yn wych yn gosod ramp ar ei gyfer ac offer i’w helpu cael o gwmpas.

Cafodd help therapyddion Jo a Natasha o Bryn Beryl, a help gan Wasanaeth “Tuag Adref”, o Ysbyty Alltwen, yn darparu gofal yn y tŷ; ac roedd Wil a Siw yn uchel iawn eu canmoliaeth iddynt. A bu Nyrsys Ardal yn galw dydd a nos, dros saith wythnos.  Mae’r teulu yn talu‘r clod uchaf posib i’r gwasanaethau cymdeithasol a’r gwasanaeth iechyd; a braf yw clywed hynny. Ond mae un person y mae Siw eisiau i mi enwi’n benodol – sef Bonnie, y mae llawer ohonoch yn ei hadnabod, trwy ei gwaith yn yng Nghanolfan y Gwystl. Galwodd pob nos yng nghartref Wil a Siw, i’w lanhau a gofalu amdano; a heb ei chymorth hi, dywed Siw go brin y gallai fod wedi ymdopi .….a gwneud hynny yn gwbl ddi-dâl.  Yn ‘does ‘na bobl da yn yr hen fyd ma, dudwch?

Gwelais Wil am y tro olaf yn ei gartref yn yr Ala, bythefnos yn ôl, ar  ddydd Mercher y 5ed o Hydref.  Roedd yn ei wely; gyda chyffuriau  trwm yn ei lethu; ond bu’n bosib i mi gynnal sgwrs ddifyr ac ystyrlon gydag ef; ei feddwl yn dal yn sionc; a’i ddaliadau cenedlaetholgar mor frwd ag erioed.

Pan soniais am y Rali Fawr dros annibyniaeth yng Nghaerdydd y Sadwrn cynt, y cefais y fraint o’i hannerch,  roedd ei lygaid yn pefrio; roedd am glywed mwy o’r hanes. A phan soniais y byddwn yn cyflwyno Mesur yn Nhŷ’r Arglwyddi ddydd Gwener nesaf, i warchod pwerau Senedd Cymru, roedd Wil yn frwd ei gymeradwyaeth.

Dwn i ddim a oedd Wil, pryd hynny, yn gwybod – fel yr oedd Siw wedi’m rhybuddio minnau – mai go brin y byddai’n gweld diwedd y mis i glywed ffawd yr ymdrech seneddol. Cwta hanner awr gefais efo fo; roedd yn amlwg yn  blino; ac roedd yn briodol i mi gilio; ond ddim cyn iddo fyny ysgwyd llaw – a’r gafael hwnnw yn fy llaw mor gadarn, efallai’n fwy cadarn, nag erioed.

Does run ohonom yn gwybod beth ydi trefn rhagluniaeth – a gawn ni ddeall, wedi gadael y fuchedd hon, am beth sy’n digwydd i’n hanwyliaid, i’n dyheadau, i’n cymdeithas, i’n bro ac i’n cenedl. Ond os oes chwarae teg yn y Cynllun mawr yr ydym oll yn rhan ohoni, dylai ysbryd Wil fod gyda ni yn y brwydrau yr ydym yn dal i’w hymladd – dros ein hamgylchedd gwledig; a dros gyfiawnder cymdeithasol, dros  ryddid cenedlaethol, dros lewyrch diwylliannol a thros heddwch rhyngwladol.

Mae Wil gyda ni ym mhob un o’r ymdrechion hyn; ni aiff yn angof; a ni fydd yn segur; bydd yr atgof amdano yn ein tanio yn ein hymdrechion; a thrwy hynny, bydd yntau, hefyd, yn rhan o’r fuddugoliaeth fawr.

Diolch iddo; melys y goffadwriaeth a heddwch i’w lwch .

 

Dafydd Wigley

21 Hydref, 2022.

Kitch – Darlith M Wynn Thomas

“Kitchener Davies – o Dregaron i Drealaw “

Darlith yr Athro M Wynn Thomas Dydd Iau 4 Awst 2022 12.30pm Pabell y Cymdeithasau 2 yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Cadeirydd Dafydd Williams

Sain y ddarlith – 

Magwyd yn ardal Tregaron, Ceredigion, enillodd James Kitchener Davies glod fel bardd a dramodydd.  Bu hefyd yn amlwg o fewn Plaid Cymru ar adeg pan oedd yn fudiad bach yn chwilio am droedle yng nghymoedd y De.  Yn y ddarlith hon, mae’r awdur ac academydd Wynn Thomas yn cyflwyno dadansoddiad treiddgar o gymeriad pwysig yn hanes mudiad cenedlaethol Cymru.

‘Kitch’:  arwr gwleidyddol ac enaid coll

Wynn Thomas

 

Y tro nesa byddwch chi’n ymweld â Chaerdydd, mentrwch ychydig filltiroedd i’r gogledd ar hyd yr A470, heibio i Gastell Coch ac ymlaen nes cyrraedd y tro i Bontypridd. Ewch drwy’r dre ac anelwch tua’r Porth. Fan’na, dewiswch yr hewl sy’n mynd i gyfeiriad y Rhondda Fawr.  Heb fod yn hir, fe welwch chi fynwent y  ar y dde, mynwent Y Llethr Ddu. Ewch i mewn iddi, ac ymhlith y beddau di-ri fe gewch chi hyd i fedd yr enwog Tommy Farr. Mae pawb yn dal wrth gwrs i gofio am ei ornest arwrol e yn Efrog Newydd yn erbyn Joe Louis. Ac o fewn ergyd carreg wedyn fe ddewch chi ar draws bedd James Kitchener Davies, un a oedd yn ei ffordd yn ymladdwr llawn mor ddewr, llawn mor eofn, llawn mor ddygn – ac efallai llawn mor aflwyddiannus yn y diwedd – â Tommy Farr ei hun.  Fe roedd Kitch yn real ‘scrapper’ i ddefnyddio iaith y cymoedd. Fel y cyfaddefodd e wrth hel atgofion,

Teulu Siors yw’n teulu ni, pobol go sgaprwth, rai ohonom ni. Roedd yno gweryl gwaed rhyngom a theulu parchus arall unwaith ac un o’r rheini oedd y torrwr beddau ym Mwlchgwynt.  Daeth gŵr dieithr heibio iddo un diwrnod a sylwi ar y cerrig beddau. ‘Bachgen,’ meddai’r gŵr dieithr, ‘mae lot o Siorsiaid ‘ma wedi eu claddu yn y fan hyn.’ ‘Oes,’ oedd yr ateb swrth, ‘ond dim hanner digon o’r diawled.’

Pencampwr ym myd geiriau oedd Kitch, y ceiliog Bach dandi a arfere glochdar o un pen i gwm Rhondda i’r llall.  Yn yr ysgol lle dysgai, roedd e’n un o’r ‘suicide squad’ -yr athrawon isel iawn eu parch a ddysgai pynciau megis y Gymraeg, Cerddoriaeth a’r Ysgrythur.  Mewn ymdrech i berswadio’r plant bod y Gymraeg yn dal yn iaith hyfyw, fe fydde fe’n adrodd enwau prif afonydd Ewrop yn  y Gymraeg. ‘Nothing hurts more,’ meddai fe, ‘than to hear such phrases as “Oh isn’t it lovely to hear them talk in Welsh,” when this is said patronizingly of Welsh-speaking children. The Welsh-language, like every other, is because it is.’  Fe ddadleuodd e’n rymus o blaid sefydlu coleg prifysgol trwyadl Gymraeg ei hiaith – ac mae e’n haeddu cael ei gofio, a’i anrhydeddu, fel un o broffwydi’n Coleg Cymraeg Cenedlaethol presennol ni.   Yn y staff room fe ddaliai ei dir yn wyneb yr ymosodiadau gwawdlyd a gwenwynig arno fe gan selogion niferus y Blaid Lafur.  Pan fynnen nhw’n ddirmygus mai ‘England’s Glory’ oedd y matsys a ddefnyddiwyd gan losgwyr Penyberth, ei ateb parod e oedd na, Pioneer matches oedden nhw. Pioneer oedd Kitch ei hun, un a gyhoeddai ei genadwri genedlaethol  herfeiddiol a chwyldroadol ar bob cornel stryd.

Yng Ngholeg Prifysgol Cymru Aberystwyth, roedd Kitch wedi bod yn un o ddisgyblion T. Gwynn Jones, awdur ‘Ymadawiad Arthur.’  Ond yn y Rhondda fe gafodd e’i hun ymhlith disgyblion Arthur Horner ac Arthur J. Cook. Roedd y cymoedd yng ngafael creulon y Dirwasgiad Mawr, y mudiadau Llafur yn naturiol yn eu hanterth, a’r boblogaeth yn ymwybodol o fod nid yn aelodau o genedl y Cymry ond yn aelodau o’r dosbarth gweithiol. Dosbarth a wydde ei fod e’n hollol ddi-rym yn wyneb  prosesau annynol y gyfundrefn gyfalafol. Dosbarth hefyd a oedd yn gydwladol ei olygon – golygai Penyberth ddim yw dim i’r glowyr;  ond fe fedren nhw uniaethu â gwerin Sbaen ac arswydo wrth glywed yr hanes am fomio Guérnica.  Roedd canran uchel o’r gweithlu’n ddi-waith ac yn ddiobaith.  Roedd afiechyd ar gerdded yn rhemp.

Wrth ddwyn hyn oll yn ôl i gof mae’n briodol inni holi a oedd Kitchener yn medru wir adnabod cyflwr enbyd y cymoedd diwydiannol. Ac yna i holi ymhellach a oedd ganddo fe feddyginiaeth wleidyddol a oedd yn wir atebol i’r angen.

Yr ateb i’r cwestiwn cyntaf yn ddi-os yw ydoedd: yn ei ffordd o leiaf, a hyd eithaf ei allu, fe ‘roedd e’n teimlo argyfwng trychinebus y cymoedd i’r byw.  ‘A hwn,’ medde fe mewn ysgrif nodweddiadol dreiddgar,  ‘yw Cwm Rhondda y dirwasgiad, lle y mae pobl yn byw ar enillion dyddiau gwell, yn bwyta eu tai a difa addysg eu plant; yn bod ar gardod …; yn syrthio i ddyled, yn torri eu calonnau ac yn trengi o nychtod corff ac enaid.’’  Fe sylweddolai’r broblem o lunio darlun realaidd – fel y gwnaeth yn ei ddrama Cwm Glo – o fywyd y cymoedd diwydiannol.  ‘O sylwi ar y ddrama realaidd Gymraeg,’ meddai fe, ‘a fu farw cyn ei geni, gwelir mai haen denau rhwng dau drwch o Seisnigrwydd yw’r bywyd Cymraeg – tipyn o gig rhwng tafell Seisnigrwydd caethweision tlodi a thafell Seisnigrwydd caethweision ffug-fonheddig.’

Prif nod Kitch oedd dihuno’i gyd-Gymry o’u trwmgwsg cenedlaethol.  Ei nod, fe esbonia’n gryno, oedd ‘to make the sense of nationhood a fact to the thousands who under capitalism have been defrauded of their lawful past. Slumdom is like the dragon of fairy stories far enough away from us at normal times. But canvass a constituency.  If we cannot give life more abundantly there, we must not mock suffering with the twaddle of dying things.’  Fe ddaeth e’n ffrindiau â Chomiwnyddion fel yr awdur a’r arweinydd undeb Lewis Jones. Fe gofiai gydag afiaith am yr hwyl a gafwyd yn eu cwmni. ‘Anghofiaf i byth,’ medde fe ar ddiwedd ei ddyddiau, ‘mo’r hwyr haf hwnnw a’r gŵr ar ben y bocs yn llewys ei grys, wedi bod wrthi am awr a chwarter, yn sefyll ar ganol ei frawddeg, a dilyn ei law araf dros y dorf, ymlaen ac yn ôl: “Comrades,” mynte fe, “you do dant me, you look so bloody dull.”’

Ond oedd e’n medru wir amgyffred profiad y gŵr ‘na yn ei ymyl yn llewys ei grys, a’r dosbarth gweithiol diwydiannol y perthynai iddi? Wn i ddim.  Yn sicr, fe fethodd e’n lân â pherswadio trwch y boblogaeth y medrai wneud hynny.  Iddyn nhw, fe barablai mewn iaith oedd yn estron. Fel athro parchus yr ymddangosai Kitch iddyn nhw, hyd yn oed pan oedd e ar ei focs sebon ar gornel stryd. Un oedd e a fynne ddysgu iddyn nhw syllu arnyn nhw’u hunain mewn ffordd hollol ddiarth. 

Falle’i bod hi’n rhy hawdd i ninne heddi, sy’n byw uwchben ein digon, i wneud dim ond canmol Kitch  yn anfeirniadol am ei waith diarbed a digymar er lles y genedl. Yn bendifaddau fynne fe ei hun ddim y fath folawd. Un oedd yn anesmwyth ac yn aflonydd yn ei groen ei hun oedd Kitch ar hyd ei fywyd.  A doedd dim yn fwy atgas ganddo fe na methiant y Cymry i gwmpo ar eu bai ac i wynebu eu diffygion fel pobl.  Ar y diwedd oll, mynnodd droi ei olygon tuag yn ôl i syllu’n oeraidd ar ei ddiffygion ef ei hunan, mewn cerdd arswydus o onest.  Gwareder ni, felly, rhag troi ‘Kitch’ yn ‘kitsch’ – yn yr ystyr Saesneg sy’n awgrymu rhywbeth sentimental, ffuantus,  sathredig o boblogaidd.

Serch hynny, mae e’n sicr yn llawn haeddu cael ei fawrygu fel arwr cenedlaethol. Ac yn ddiamau Kitch, yn anad neb, a wnaeth baratoi’r ffordd ar gyfer sefydlu ysgolion Cymraeg yn y Rhondda, datblygiad sy erbyn hyn wedi sicrhau bod yr iaith i’w chlywed ar wefusau cynifer o’r trigolion. Ymhellach, fe fedrir  dadlau bod Kitch wedi bod yn ddigon hirben i ragweld y dirywiad anorfod a ddaeth i ran cymdeithas y cymoedd diwydiannol yn y cyfnod wedi’r rhyfel a’i fod wedi rhagweld ymhellach y bydde’n rhaid i Gymru o’r herwydd ddioddef y broses boenus o ddad-ddiwydiannu. Does dim dwywaith chwaith ei fod e wedi paratoi’r ffordd ar gyfer y chwyldro gwleidyddol a welwyd yn y cymoedd yn ystod y degawdau diwethaf.

Ond eto, yn y diwedd, roedd bwlch diadlam rhwng Kitch a’i gynulleidfa yn y Rhondda, bwlch a olygai na fedrai wir ddeall profiadau’r gweithwyr.  Fe roedd dau faen tramgwydd yn ei atal e rhag gwneud. Y cyntaf oedd ei addysg, a olygai  fod ganddo mewn gwirionedd fydolwg  dosbarth canol ei gyfnod – a hwnnw, yn ei achos ef, yn ddosbarth canol diwylliedig Cymraeg.   A’r ail faen tramgwydd oedd ei gefndir cynnar.  Oherwydd wrth gwrs crwt o’r wlad oedd Kitch yn y bôn, ac yma yn Nhregaron y cafodd ei eni, ei fagu, a’i fowldio. ‘Doedd y profiad diwydiannol ddim ym mêr ei esgyrn ef, er, fel y cewn ni weld, bod hanes ei deulu yn enghreifftio’n fyw y dolennau cymhleth a gysyllte cefn gwlad bryd hynny â’r ardaloedd  Seisnig ‘estron’ hynny a oedd wedi ymsefydlu mor ddisymwth yng nghymoedd y De.  Y duedd gan gynifer o edmygwyr Kitch yw i wrthgyferbynnu dau begwn eithaf ei brofiad.  Ar un adeg fe arferai rhai sôn am ei yrfa fel petai’n ymdrech genhadol i achub y Rhondda i’r genedl drwy ddwyn purdeb dilychwin pura Walia – y Gymru ‘wreiddiol’ bur a diledrith – i ganol cymdeithas sathredig y cymoedd. Ond nid fel’na y gwelai Kitch hi, ac nid dyna wir drywydd ei yrfa.  Fe roedd e’n ddigon craff i sylweddoli fod gan  y Gymru wledig a’r Gymru ddiwydiannol fel ei gilydd wendidau nid anghyffelyb.  Fe welwn ni hynny’n glir, dim ond i ni gyfosod dau o’i gampweithiau, sef Cwm Glo a Meini Gwagedd.  Ac wrth inni wneud hynny, fe fydde’n werth inni oedi am ychydig i ystyried rhai agweddau ar ei fywyd cynnar sy’n esbonio tarddiad rhai agweddau ar ei weledigaeth.

Ganed Kitch yn nhyddyn bach tlawd Y Llain, ‘bwthyn unllawr pridd,’ i’r gogledd o dre Tregaron. Dyna chi gychwyn felly yng nghôl y wlad, ond eto yn barod ‘bu cysgod y Pwll Glo tros fy nghof cynnar,’ fel y cyfaddefai ddegawdau ar ôl hynny.  Roedd ei dad eisoes yn treulio misoedd lawer oddi cartref yn gweithio fel saer dan ddaear ym mhyllau Blaengwynfi. Roedd ganddo fe fodryb hefyd a oedd wedi gadael cartref yn gynnar i weini yn Nhonypandy.  Yno fe aned iddi blentyn siawns – enghraifft gynnar o ffawd gyffredin y  ferch ddiamddiffyn yn y gymdeithas ddiwydiannol. Ac o gofio hynny mae’n hawdd inni ddeall shwd y llwyddodd Kitch maes o law i lunio darlun mor ysgytwol o onest o brofiadau gwraig briod a merch ifanc yn ei ddrama gythryblus Cwm Rhondda, ac i ddinoethi ysfaon rhywiol y dosbarth gweithiol.

Fe yrrodd Bodo Mari – sef modryb Kitch – ei phlentyn yn ôl i Dregaron, lle y cafodd ei godi fel plentyn ei chwaer. Dyna ichi felly enghraifft o drugaredd annisgwyl y Gymru wledig gapelog, ie; ond dyna ichi enghraifft o ragrith y Gymru honno hefyd — ei pharodrwydd i fygu’r gwir, i gelu’r annerbyniol, ac i fagu cymdeithas gelwyddog, rwystredig.  A dyna’r union ddarlun o’r bywyd gwledig a welir maes o law yn y ddrama fawr a rhyfedd honno,  Meini Gwagedd, un arall o gampweithiau chwyldroadol Kitch. Drama yw hi sy’n llawn o ysbrydion aflonydd y meirw, ysbrydion sy’n gaeth i’w hen aelwyd am na fedran nhw ddioddef dod wyneb yn wyneb â’r gwirionedd annerbyniol, rhyddhaol am y bywyd caethiwus, hunllefus a gawson nhw yno pan ar dir y byw. Oherwydd hynny mae eu cydberthynas yn ymylu ar fod yn llosgach ysbrydol afiach.  Dim rhyfedd fod Jacob Davies, a chwaraeodd ran un o’r prif gymeriadau, wedi dioddef chwalfa nerfau yn dilyn ei berfformiad.  Mae’n dal yn ddrama a all eich ysgwyd chi i’ch perfeddion. Ac mae’n chwalu’r myth am fywyd y werin wledig, yr un modd ag yr oedd Cwm Glo yn chwalu’r myth cyfatebol am ‘werin y graith.’

Drylliwr eiconau oedd Kitch wrth ei reddf. Ac fel y cawn ni weld, ar ei wely angau fe chwalodd e’r eicon mwyaf i gyd – yr eicon y mynnai rhai o’i ffrindiau ei lunio ohono fe ei hunan, delwedd ffals yr oedd Kitch yn rhannol feio ei hun am ei chreu. Mae gonestrwydd Kitch mor eithafol ac mor ddidrugaredd nes hala arswyd ar ddyn. Cerdd gyffesol yw’r gerdd radio fawr ‘Sŵn y Gwynt Sy’n Chwythu,’ cerdd lle mae’n diberfeddu ei hun yn gwbl ddiarbed. Dyma ichi harakiri o gerdd os bu un erioed.

Rwy wedi mentro awgrymu na fedrai Kitch wir uniaethu gyda phrofiad y glowyr. ‘Dyn dŵad ydw i,’ medde fe ei hun am ei fywyd yn y Rhondda. Gan ychwanegu ‘dyn dieithr ydwyf yma, draw mae fy ngenedigol wlad.’  Fe wydde bod hynny’n anfantais amlwg ar un olwg iddo fel llenor ac fel gwleidydd. ‘Iaith seiat Llwynpiod sydd ar Gwm Glo,’ fe gyfaddefodd – Llwynpiod, capel y Methodistiaid Calfinaidd lle’r arferai ef a’i deulu groesi’r gors bod dydd Sul i fynychu’r oedfaon.  Ond ar olwg arall roedd ei ddieithrwch e yn fantais hefyd.  Oherwydd fe olygai bod ganddo olwg oddi-allan ar y Gymru wledig a’r Gymru ddiwydiannol fel ei gilydd, golwg a’i galluogodd i sylwi ar rhai agweddau na fynne aelodau’r gymdeithas eu cydnabod. Sdim rhyfedd ei fod e’n ymddiddori yng ngwaith Sigmund Freud, a wnaeth cymaint i’n gwneud ni’n ymwybodol o’r cymhellion cudd gwaelodol sy’n ddirgel lywodraethu’n bywydau. Kitch, er enghraifft, wnaeth ddatgelu cyflwr yr iaith yn y cymoedd, gan egluro goblygiadau economaidd, gwleidyddol a diwylliannol y dirywiad syfrdanol hwnnw.

Rhwng 1931 a 1951 syrthiodd nifer y siaradwyr Cymraeg yn y Rhondda o bedwar deg pump y cant i naw ar hugain y cant.  Ateb Kitch a’i ddilynwyr oedd esgor ar fudiad i sefydlu ysgolion Cymraeg yn y cymoedd – Ynys-Wen yn y Rhondda Fawr i ddechrau, ac yna Pontygwaith yn y Rhondda Fach. Dyna chi’r fantais o fedru syllu oddi allan ar y gymdeithas, gan sylwi o’r herwydd ar ddiffygion a gwendidau a oedd yn ynghudd i’r gymdeithas ei hunan.  Ac fe wnaeth Kitch y llenor  elwa o’r un nodwedd.  Fe roddodd sylw arbennig yn Cwm Glo i gymeriad y glöwr Dai Dafis.  Pwdryn yw e sy’n barod iawn i buteinio ei ferch, i fradychu ei gydweithwyr, i gam-drin ei wraig, ac i wastraffu ei gyflog ar yfed a gamblo.  Doedd dim prinder ei debyg yng nghymoedd y Rhondda,, ond fe wrthodai’r trigolion a’u cefnogwyr â chydnabod hynny, ac o’r herwydd fe felltithiwyd Kitch am fentro i ddarlunio’r fath gymeriad. 

Ymhellach y mae’n werth cofio i Kitch adael ei gynefin gwledig – er yn anfoddog iawn, fel y cawn ni weld,  — gan droi’n alltud a meithrin golwg o’r tu allan ac o bell ar ei gymdeithas enedigol. A’r olwg honno a’i galluogodd  i lunio drama mor gignoeth a thanseiliol â Meini Gwagedd, gwrth-fugeilgerdd os y bu un erioed. Campwaith gŵr yr ymylon oedd y gwaith hwnnw, yn union run fath â Cwm Glo.

Ar un wedd ystyriai Kitch ardal Tregaron yn baradwys goll ar hyd ei fywyd. Dyma chi flas ar ei atgofion hynod hudolus o’r bywyd yno: ‘Daliodd felyn eiddil y brogaid bach-bach yn tasgu tan eiddilach melyn yr haul, a gwelodd (o gornel pellaf y clos lle y mae, fel cawod o betalau, glwstwr o blu’r iâr felen or-fentrus), lwybr y cadno yn cerdded ar ei union trwy’r gwlith.’    Mae’n ddisgrifiad cyfoethog a chynhyrfus o synhwyrus . Ac mae cyfoeth yr iaith – cyfoeth a gollwyd yn llwyr erbyn hyn – hefyd yn feddwol.  ‘Naddu gwernen yn llwyau pren o flaen tân, plethu gwiail yn lipau yn y sgubor, anadlu moethusrwydd tail yr eidonau wrth garthu crit y lloi….Crychydd cam yn codi a chwibanogl yn troi, sgrech cornicyll.’ Mae’n iaith dorcalannus o hiraethlon.

Ond yna yn sydyn fe ddewn ni ar draws sylw arall, wrth i Kitch gyfeirio at ‘sgrech oerach Ann druan wrth iddi’n sydyn fynd yn wallgo yn y gors.’  Mynnai gonestrwydd Kitch dorri ar draws pob darlun sentimental o fywyd, a’i chwalu’n deilchion. ‘Sgrech oeraidd Ann’ a glywir yn atseinio yn y ddrama Meini Gwagedd drwyddi. Ac fe glywir y sgrech yn adleisio ar nodyn personol iawn yn ‘Sŵn y Gwynt’ hefyd.

Bu rhaid i Kitch gefnu ar y baradwys hon yn lled gynnar yn ei hanes, a hynny am ddau reswm. Yn gyntaf fe fu farw ei fam pan oedd e ond yn chwech mlwydd oed.  Ac yna, ychydig flynyddoedd ar ôl hynny, fe benderfynodd ei dad yn ddisymwth i werthu  bwthyn bach Y Llain a phriodi ‘menyw fach o’r de,’ chwedl Kitch, llysfam farus.  O’r herwydd fe fu’n rhaid i Kitch adael ardal Tregaron am byth, a symud i fyw gyda’i fodryb annwyl yn Nhonypandy. Fe ddiwreiddiwyd Kitch yn greulon felly, ac fe’i ddadetifeddwyd hefyd – profiad chwerw a welai’n cael ei ail-adrodd yn y man ar draws cymoedd y De, lle roedd y boblogaeth gyfan wedi ei dad-etifeddu. Ar ôl priodi ac ymgartrefu yn y Brithweunydd, beth wnaeth Kitch, ond bwrw ati i greu gardd wrth ymyl y tŷ, gardd a oedd yn ddiarhebol o brydferth ac a oedd yn amlwg yn cynrychioli’r hyn a gollwyd ganddo fe pan werthwyd Y Llain.

Ond os y bu colli’r Llain yn golled ffurfiannol yn hanes natblygiad Kitch, fe fu colli ei fam yn brofiad mwy ysgytwol o ddylanwadol fyth.  Fe drodd e’n ôl at y golled waelodol honno wrth orwedd yn ei waeledd yn ysbyty Church Village, a hynny a esgorodd ar ei gerdd anhygoel ‘Sŵn y Gwynt sy’n Chwythu.’  Ynddi fe ddaw sawl llinyn eneiniol pwysig yn ei hanes ynghyd am y tro cyntaf.  Mynychu Seiat Profiad yn Llwynpiod pan oedd e’n grwt; sylw Saunders Lewis, yn ei astudiaeth arloesol o fywyd a gwaith Pantycelyn, fod cyfarfodydd y Seiat yn debyg i sesiynau dadansoddol y Seiciatryddion modern; dysgu’n ifanc bod pechod yn rhan annatod o wead pob bod dynol;  ymddiddori ym marddoniaeth ac yn nramâu ysbrydol T. S. Eliot;  awydd i ddefnyddio cyfryngau newydd megis y radio i hyrwyddo datblygiad yr iaith Gymraeg; y sylweddoliad fod y cyfrwng newydd hwn yn gyfrwng agos-atoch gwefreiddiol o chwyldroadol; ac yn y blaen ac yn y blaen.  Ac mae’r gerdd yn blethiad cywrain a chymhleth o nifer o symbolau pwerus.  Yn bennaf oll, fe ddefnyddir delwedd perth gysgodol Y Llain, clawdd oedd yn arbed y tyddyn rhag y gwynt. Ac fe wrthgyferbynnir  hynny â chymoedd noeth, diamddiffyn y Rhondda, cymoedd sy’n agored led y pen i gorwyntoedd dinistriol economaidd, gwleidyddol a diwylliannol.

Ond y mae yna wedd wrthwyneb ar berth warchodol Y Llain. Ar ddiwedd ei fywyd, sylweddola Kitch ei bod hi’n berth y cysgodai ef ei hun y tu ôl iddi er mwyn osgoi wynebu gwirioneddau deifiol am ei gymeriad ef ei hun. Oherwydd erbyn hyn, yn hwyr iawn yn ei ddydd, fe ystyriai Kitch ei hun nid fel arwr herfeiddiol dewr yn sefyll dros hawliau’r Cymry, ond fel un a fu’n ddim ond yn dwyllwr dirgel ar hyd ei fywyd, llwfrgi a lechai rhag cydnabod nifer o heriau gwaelodol. Un o’r rhain oedd yr her i gydnabod ei natur ef ei hun, i wir adnabod ei hanes ers yn fach. Ond yr her eithaf oll  oedd yr her i ymagor yn ufudd ac yn llwyr i alwad yr ysbryd, ac i blygu i’r gofynion hynny a ddeuai yn ei sgil. Cyfaddefai Kitch fod yr her hon yn ei arswydo’n lân.

Yn ‘Sŵn y Gwynt’ mae’n olrhain y gwendidau tybiedig hyn  yn ôl i’w tarddle, yn y profiad cynnar hwnnw o golli ei fam pan oedd e ond yn chwech.  Y cyhuddiad mwya creulon a’r cyhuddiad mwya deifiol – mae e’n mynnu dwyn yn ei erbyn ef ei hun, yw mai dim ond chwarae rhan y bu e ar hyd ei fywyd ers yn blentyn. Act oedd y cyfan, dyna i gyd. Ac mae’n mynnu ei fod e wedi dechrau acto pan gollodd e ei fam:

Wyt ti’n cofio dod ‘nôl yn nhrap Tre-wern
O angladd mam? Ti’n cael bod ar y sêt flaen gydag Ifan
A phawb yn tosturio wrthyt, yn arwr bach, balch.
Nid pawb sy’n cael cyfle i golli’i fam yn chwech oed,
A chael dysgu actio mor gynnar.

I fi, mae’r llinellau’n dor-calon o drist, yn orlawn o’r chwerwder a’r dicter na fedre’r un bach eu mynegi ar y pryd, ac na fynnai Kitch yr oedolyn chwaith gyfaddef iddyn nhw. Teimladau yw’r rhain sy’n mynnu brigo’n anorfod  i’r wyneb ar y diwedd oll, ac sy’n hawlio mynegiant cyhoeddus.  Ffrwydriad y teimladau hyn sy’n gwneud y gerdd hon yn gerdd gyffesol mor gofiadwy;  cerdd a all eich siglo chi i’ch gwreiddiau.   Bron na ddywedwn i ei bod hi’n embaras o gerdd, am ei bod hi mor ddiarbed o gignoeth.

Gan gofio am  ddiddordeb Kitch mewn seicoleg a seicdreiddiad, fe ddechreuais i ddyfalu beth yw barn seicolegwyr modern am y profiad o golli rhiant annwyl pan yn fach, ac fe ges fod gwaith ymchwil dadlennol wedi ei wneud.  Adeg yr ail ryfel byd, bu seicolegwyr wrthi’n astudio ymateb refugees o Lundain i’r profiad o orfod troi cefn ar eu mamau ac ymgartrefu mewn cartrefi cwbwl ddiarth.  Fe gafwyd bod nifer ohonyn nhw wedi amddiffyn eu psyche brau, briwedig, bryd hynny drwy chwarae rhan, a chymryd arnyn nhw bersona nad oedd yn cyfateb i’r hyn oedden nhw yn y bôn.  Ac fe sylweddolwyd ymhellach bod chwarae rhan fel hyn yn ifanc yn arwain at barhad yr arfer ar hyd eich bywyd.  Ar ôl tyfu’n oedolion ni fedre’r plant hyn fwrw heibio’r arfer o acto, gan y golygai hynny ddod wyneb yn wyneb am y tro cyntaf â’r loes gyntaf erchyll – y primal loss – o golli eu mam.  Fe’u twyllwyd nhw gan fywyd yn ifanc, ac ar ôl hynny rhaid oedd iddynt hwythau dwyllo yn eu tro er mwyn amddiffyn cnewyllyn ei bod rhag byth ddioddef y fath archoll eto.

Hyd y gwela i, dyna’n union a fu profiad Kitch. Ac fe awgrymwn i’n bellach y gellir synied am brofiad fel hyn fel math o ptsd.  Rwy’n llwyr dderbyn ein bod ni bellach yn or-barod i arfer y label hwnnw.  A fynnwn i ddim honni yn blwmp ac yn blaen bod Kitch yn dioddef o ptsd ar hyd ei fywyd. Ond fe fentren i awgrymu bod yna debygrwydd awgrymog, o leiaf, rhwng y trauma gwaelodol lloriol hwnnw y mae’n cyfaddef iddo yn ‘Sŵn y Gwynt’ a phrofiad y trueiniaid hynny sy’n ysglyfaeth i ptsd go iawn.  Ac o syllu ar ei fywyd drwy’r lens yma, fe ddaw sawl gwedd ddiddorol arno i’r amlwg.

Mae’n esbonio pam ei fod e’n medru uniaethu, fel y mae’n gwneud yn Meini Gwagedd, ag ysbrydion y meirw sy’n gaeth i’w hen gartref am na allan nhw wir wynebu goblygiadau’r bywyd arswydus ar yr aelwyd honno. Onid ysbryd aflonydd fel’na oedd ysbryd Kitch ei hun?   Mae e hefyd yn bwrw golau newydd ar ei obsesiwn e â’r theatr – y chwarae-dŷ go iawn wrth gwrs – a’i barodrwydd i lunio dramâu heriol.  A falle ei fod e ymhellach yn esbonio ei weledigaeth o gyflwr Cymru – y weledigaeth sydd wrth wraidd ei holl wleidydda.  Oherwydd fe dybiai Kitch mai gwlad oedd Cymru a oedd wedi dioddef trauma chwyldroad diwydiannol a oedd hefyd yn rhwyg diwylliannol. Gwlad oedd hi a oedd yn gwrthod wynebu’r gwirionedd poenus amdani hi ei hun.  Roedd y Cymry’n benderfynol o acto fel Saeson.  Twyll oedd y cyfan, yn ei farn ef – a hwyrach bod angen twyllwr, fel y gwelai Kitch ei hun – i adnabod twyllwr.  Mae pob twyllwr, yn ei hanfod, yn ystrywgar.

Esboniad secwlar yw esboniad y seicolegwyr. Ond nid dyna a geir yn ‘Sŵn y Gwynt.’  Oherwydd bydolwg crefyddol oedd gan Kitch, y  bydolwg Calfinaidd a wreiddiwyd mor ddwfn ynddo fe yng nghapel bach Llwynpiod yma yn ymyl y gors.  Golygai hynny ei fod e, ar y diwedd, yn ei ystyried ei hun yn bechadur llwyr, am nad oedd ei fywyd e wedi bod yn ddim ond twyll a rhagrith o’i ddechrau hyd ei ddiwedd.  Dyna ddagrau pethau. A dyna fawredd ei gerdd yn ogystal.  Mae’n gorffen gyda gweddi pechadur, gweddi ymbilgar, daer am achubiaeth sy’n ddigon i hala cryd ar ddyn.

Ymbil y  mae e’n baradocsaidd am gael ei achub drwy beidio cael ei achub. Mae e am osgoi gorfod dioddef i’r eithaf am ei ffydd. Mae e am i’r Goruchaf godi clawdd Y Llain o’r newydd rhyngddo fe ac artaith y groes: ac ar yr un pryd mae e’n gweddïo am gael ei arbed rhag gorfod dioddef artaith y canser sy’n ei araf ladd.

Quo vadis, quo vadis, I ble rwyt ti’n mynd?
Paid â’m herlid i Rufain, i groes, â ‘mhen tua’r llawr.
O Geidwad y colledig,
Achub fi, achub fi, achub fi
Rhag Dy fedydd sy’n golchi mor lân yr Hen Ddyn.
Cadw fi, cadw fi, cadw fi
Rhag merthyrdod anorfod Dy etholedig Di.
Achub fi a chadw fi
Rhag y gwynt sy’n chwythu lle y mynno.
Boed felly.  Amen

            Ac Amen.

Dyna chi cri de coeur yr ysbryd, cri enaid Calfinaidd clwyfedig de profundis.  Ond yn islais ynddi fe glywa i hefyd gri Ann yn gwallgofi yn y gors, a llef bachgen bach a fydd, byth bythoedd, newydd golli ei fam.

 

Mae’r Athro M.Wynn Thomas yn academydd ac awdur o fri sy’n dal Cadair Emyr Humphreys mewn Ysgrifennu Cymreig yn Saesneg ym Mhrifysgol Abertawe.  Traddodwyd y ddarlith hon yn ystod yr Eisteddfod  Genedlaethol yn Nhregaron Ddydd Iau 4 Awst 2022 dan nawdd Cymdeithas Hanes Plaid Cymru.  Ceir fersiwn Saesneg ar y wefan hon.

 

 

 

 

 

 

Kitchener Davies – o Dregaron i Drealaw

Dydd Iau 4 Awst 2022 12.30pm Pabell y Cymdeithasau 2 

yn yr Eisteddfod Genedlaethol

“Kitchener Davies – o Dregaron i Drealaw “

Darlithydd Athro M Wynn Thomas

Cadeirydd Dafydd Williams

Y bardd, dramodydd a chenedlaetholwr James Kitchener Davies (1902-1952) fydd testun cyflwyniad arbennig eleni, 120 o flynyddoedd ers ei eni. Bydd yr awdur M. Wynn Thomas yn bwrw goleuni ar hanes ryfeddol y brodor o ardal Tregaron a ysbrydolai’r mudiad cenedlaethol yng nghymoedd y De.

 

Gobeithiwn y byddwch yn gallu bod yn bresennol. Os na , recordir y ddarlith a bydd ar gael ar wefan y Gymdeithas

Penri Jones 1943 – 2021

Bu farw Penri Jones, Awdur Jabas, Cynghorydd a Cymro i’r carn yn 78 mlwydd oed.

Dyma ran o deyrnged Liz Saville Roberts:

Mae Penri’n adnabyddus i genedlaethau o Gymry ledled ein gwlad fel yr awdur a greodd y cymeriad Jabas. Ond roedd cymaint, cymaint mwy i Penri: yn awdur ar sawl nofel, roedd hefyd yn athro Cymraeg a gwleidydd lleol uchel ei barch.

Cefais y fraint o weithio gyda Penri pan agorwyd Coleg Meirion Dwyfor yn 1993. Roedd o’n un o blith nifer o athrawon uwchradd a ddewisodd ddod i’r coleg newydd er mwyn cynnig addysg o’r salon uchaf trwy gyfrwng y Gymraeg.

Yn ogystal â gweithredu fel athro arweiniol, cynrychiolai gymuned Llanbedrog ar Gyngor Gwynedd fel cynghorydd Plaid Cymru lle daliodd bortffolio addysg ar y Bwrdd am sawl blwyddyn gan chwarae rhan allweddol wrth ddatblygu a gweithredu polisi iaith y sir.

Roedd Penri hefyd yn gynrychiolydd undeb ar gyfer undeb athrawon, UCAC. Ar ei gais yntau ymunais ag UCAC, gan ddod yn gynrychiolydd undeb ar ei ôl, ac oherwydd ei anogaeth sefais fel cynghorydd sir yn 2004. Heb ei gefnogaeth, ni fyddwn erioed wedi mentro i wleidyddiaeth. Mae arnaf ddyled bersonol sylweddol iddo.

Pob cydymdeimlad â Mair a’r teulu a chyfeillion lu Penri.

‘Cariad angerddol tuag at Gymru’
Dywedodd arweinydd Cyngor Gwynedd, Dyfrig Siencyn fod Penri Jones yn
“genedlaetholwr, dyn y pethe, un oedd â dawn geiriau arbennig ac a
ddylanwadodd ar gannoedd o blant fel athro”.
“Roedd yn fraint cydweithio â Penri oedd mor gadarn ei farn, gŵr cwbl
ddiymhongar, dyn ei filltir sgwâr ac a oedd â chariad angerddol tuag at Gymru, y Gymraeg a phopeth oedd yn ymwneud â Llŷn,” meddai.
Ychwanegodd y Cynghorydd Simon Glyn, cadeirydd y cyngor: “Gwasanaethodd Penri yn frwd dros ei ardal a thros Gymru am flynyddoedd lawer a bydd coffa da amdano fel aelod o Gyngor Gwynedd ac yn arbennig waith allweddol wrth ddatblygu polisi iaith y sir.”

Pat Larsen 1926 – 2021

Talwyd teyrnged gan y teulu a chyfeillion i Pat Larsen a fu farw ar 20 Tachwedd 2021.

Cafodd ei hethol yn wreiddiol fel cynghorydd ym Mangor, a hynny yn gynnar yn y 1950au. Hi oedd yr unig aelod benywaidd ar gyngor y ddinas.

A hithau’n un o aelodau cyntaf Cyngor Gwynedd ar ôl ei sefydlu yn 1974, cynrychiolodd ward Penisarwaun ar sawl cyngor am flynyddoedd lawer.

Aeth yn ei blaen i gael ei hethol yn gynghorydd sir dros ward Llanddeiniolen ac yn hwyrach, dros ward Penisarwaun.

Bu’n athrawes, yn ogystal â gwasanaethu fel Maer ar hen Gyngor Dosbarth Arfon.

Roedd hi’n gadeirydd Cyngor Gwynedd rhwng 1996 a 1998.

Cafodd ei hethol am y tro cyntaf yng nghanol y 1960au, ac erbyn iddi ymddeol o siambr y cyngor yn 2012 hi oedd y cynghorydd a wasanaethodd am y cyfnod hiraf yng Ngwynedd.

“Gyda gwên rydym yn cofio am un o hoelion wyth Plaid Cymru Gwynedd, y diweddar Gynghorydd Sir dros Bensiarwaun, Pat Larsen,” meddai Dyfrig Siencyn, arweinydd Cyngor Gwynedd ar ran cynghorwyr Plaid Cymru.

“Yn wraig flaengar o fewn gwleidyddiaeth leol, yn benderfynol ac yn driw i’w hardal.

“Diolch am gael ei hadnabod ac am y cydweithio.

“Estynnwn ein cydymdeimlad cywiraf a’i theulu, yn arbennig felly, ein cyd-gynghorydd presennol, Cai Larsen.”

‘Barod i gymryd y dynion ymlaen’

Un fu’n cydweithio hi am ryw wyth mlynedd ar Gyngor Gwynedd yw Liz Saville Roberts, Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd ac arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan.

Wrth siarad â golwg360, dywedodd ei bod hi’n “barod i gymryd y dynion ymlaen a chymryd dim o’u lol nhw”.

“Roedd hi’n fodel rôl i fi yn gynghorydd benywaidd, di-brofiad, gweddol ifanc pan ddechreuais i ar y Cyngor,” meddai.

“Dw i’n cofio gweld Pat, ac roedd hi mor barod i siarad allan.

“Roedd ganddi egwyddorion mor gadarn, a hithau dipyn yn hŷn na fi, a jyst gweld hi’n barod i gymryd y dynion ymlaen a chymryd dim o’u lol nhw.

“Ar adegau fe wnaeth hi gymryd fi o dan ei hadain hi, ac mae gen i’r parch mwyaf ati hi.

“Ar adeg pan oedd menywod mewn llywodraeth leol, mewn gwleidyddiaeth, yn brin roeddwn i’n falch o fod yna ar adeg pan yr oedd hi yno. Mae dynion fel petae’n gwybod sut i siarad yn gyhoeddus a sut i leisio’u barn, ac mae dynion yn gwylio dynion eraill er mwyn gwybod sut i wneud hynny.

“Roeddwn i mor ffodus i’w chael hi yna, a’i ffordd hi o siarad, a’i ffordd hi o fod yn flaengar o flaen y Cyngor, yn ffordd i fi ddysgu.

“Roeddwn i’n dysgu ganddi hi, ac roedd hi’n rhoi hyder imi.

“Roeddwn i’n edmygu hi’n fawr.

“Mae hi’n drist ar ei hôl hi.

“Dynes gadarn, ddewr, yn barod i siarad allan, ac yn arloeswraig o ran gwleidyddiaeth Gwynedd.”

‘Dynes oedd o flaen ei hamser’

“Rwy’n drist iawn o glywed am farwolaeth Pat Larsen, dynes oedd o flaen ei hamser,” meddai Siân Gwenllian.

“Roedd ei chyfraniad yn un aruthrol, nid yn unig i’w chymuned leol, ond i Wynedd a Chymru gyfan.

“Arweiniodd y ffordd i ferched fel fi yn ei hysbryd penderfynol di-ildio ac roeddwn i’n ei ystyried yn fraint cael gwasanaethu ochr yn ochr â hi fel cynghorydd.

“Rwy’n meddwl am y teulu ar adeg o dristwch a galar anochel, ond byddaf hefyd yn dathlu bywyd Pat Larsen, ac ar lefel bersonol, byddaf yn diolch am gael ei ’nabod a dysgu o’i doethineb a’i dyfalbarhad.”

 

Jill Evans, Aelod Senedd Ewrop

Jill Evans

Aelod Senedd Ewrop 1999 – 2020

Jill EVANS  – Llun 9ed tymor y Senedd 

Wrth edrych yn ôl dros fy ngyrfa yn Senedd Ewrop, mae’n anodd credu ei fod wedi ymestyn dros ugain mlynedd. Nid yw’n bosibl mewn erthygl ond rhoi blas ar waith Aelod Senedd Ewrop a cheisio dangos pa mor werthfawr oedd yr Undeb Ewropeaidd i Gymru.

2020 Gadael Ewrop

Pan sefais dros y Blaid yn f’etholiad Ewropeaidd gyntaf ym 1989, doedd dim gobaith gennyf o ennill. Erbyn 1999 roedd y sustem bleidleisio wedi newid. Roedd pum aelod i’w hethol i Senedd Ewrop yn cynrychioli Cymru gyfan ar sail canran y bleidlais i bob Plaid yn genedlaethol. Gyda’r bleidlais uchaf gafodd y Blaid erioed a gyda chyffro mawr, cafodd Eurig Wyn a minnau ein hethol fel yr ASEau cyntaf. Roedd yn garreg filltir yn hanes y Blaid.

 

Roedd yn garreg filltir bersonol i fi hefyd. Roeddwn wedi ymweld â Senedd Ewrop yn yr wythdegau wrth gynrychioli’r Blaid mewn cyfarfod Cynghrair Rydd Ewrop (EFA). Fe es i mewn i siambr y senedd i wrando ar drafodaeth ar bolisi rhanbarthol. Doedd y siambr ddim mor olau a thrawiadol a’r hemicycle heddiw a sylwais mor anodd oedd dyfalu pa aelod oedd yn siarad. Roeddwn yn ffigurau bach bron yn ddinod. Er hynny, roedd pob un yn rhoi eu holl egni i mewn i gyflwyno dadl gref yn ystod eu munud neu ddau o amser siarad.

 

Ces i’m synnu a’m hysbrydoli. Roeddwn yn gyfarwydd â math o wleidyddiaeth lle’r oedd cymaint yn dibynnu ar bersonoliaeth. Roedd yn bosibl ennill dadl trwy sicrhau bod gwleidydd adnabyddus (dyn, bron yn ddieithriad) yn cefnogi un ochr neu’r llall, ac eraill yn ei ddilyn. Yr unigolion yn hytrach na’r pwnc oedd yn bwysig. Fel arall oedd e yn Senedd Ewrop. Roedd yn ddadl ystyrlon a pharch at bob aelod unigol.

 

Eironi o’r mwyaf yw’r ffaith bod yr ymgyrch i adael yr Undeb Ewropeaidd wedi’i ennill oherwydd penderfyniad Boris Johnson i’w gefnogi. Roedd penderfyniad mor dyngedfennol yn hongian ar ddewis un dyn. Mae’n adlewyrchu anhwylder gwleidyddiaeth y Deyrnas Gyfunol.

 

Mae’n ddiddorol hefyd i nodi bod UKIP wedi ceisio efelychu agweddau gwaethaf diwylliant San Steffan yn Senedd Ewrop. Daeth gweiddi, heclo a sarhad yn nodweddiadol o’u hymddygiad yn y siambr. Gwleidyddiaeth wenwynig.

 

Ces i fy meirniadu yn y wasg sawl gwaith am beidio cwrdd â gofynion ffug gwleidydd llwyddiannus yn ôl mesur Prydain. Doeddwn i ddim am gael fy nhynnu oddi wrth fy mhrif amcan.  Roedd Cymru yn Ewrop yn llawer mwy na slogan. Fe wnaeth e grynhoi delwedd o Gymru annibynnol yn cydweithio mewn heddwch gyda chenhedloedd eraill yr Undeb Ewropeaidd er mwyn adeiladu Ewrop mwy democrataidd a chyfartal: Ewrop y Bobloedd.

 

Ces i brofiad anhygoel ac unigryw fel ASE Plaid Cymru. Ces i’r anrhydedd o arwain grŵp EFA yn y Senedd am bum mlynedd fel Llywydd EFA ac fel Is-lywydd Grŵp Gwyrddiaid/EFA. Eleni, derbyniais Wobr EFA Coppieters am fy ngwaith mewn hyrwyddo gwerthoedd EFA yn y senedd.

 

Bues i’n ymgyrchu ar newid hinsawdd, polisïau masnach deg, yn erbyn GMOs, dros amaeth a chefn gwlad Cymru, dros heddwch a chyfiawnder a dros hawliau ieithoedd lleiafrifol. Yn 2008 enillon ni statws cyd-swyddogol i’r iaith Gymraeg yn Ewrop: nid oedd yn statws swyddogol llawn ond o leiaf roedd ein hiaith yn cael cydnabyddiaeth. Yn 2019 derbyniais wobr Ewropeaidd METANET am fy ngwaith ar gyfartaledd digidol i bob iaith. Ystyrir fy adroddiad yn safon aur ar gyfer ieithoedd lleiafrifol.

 

Fe ges i gyfleoedd unigryw i fynd i Fforwm Cymdeithasol y Byd yn Porto Allegre ym Mrasil, i Uwchgynadleddau’r Cenhedloedd Unedig yn Johannesburg, Copenhagen a Pharis, ac i gyfarfod y WTO yn Hong Kong. Fe es i hefyd i Irac cyn y rhyfel ac i Gatalonia sawl gwaith ar gais ei llywodraeth i fod yn sylwedydd swyddogol ar gyfer y refferenda ar annibyniaeth. Fe ddes i yn gyfarwydd iawn hefyd a Phalesteina ac Israel trwy ymweld â’r wlad sawl gwaith gyda dirprwyaeth y senedd.

 

Mae teithio yn rhan o fywyd wythnosol ASE. Byddwn yn gadael fy nghartref yn Llwynypia bob bore dydd Llun i ddal y trên i Frwsel. Nos Iau, byddwn yn cychwyn am adre. Unwaith ym mhob mis byddai’r senedd yn cwrdd yn Strasbourg a oedd yn golygu symud popeth i’r ddinas am wythnos. Y penwythnosau oedd fy amser teithio o gwmpas Cymru.

 

Cyfrifoldeb o’r mwyaf oedd bod yn llais i Gymru. Anrhydedd o’r mwyaf ar yr un pryd. Roedd yn cymryd llawer o waith cynllunio a pharatoi strategaeth er mwyn codi proffil ac agor pob drws i Gymru. Roedd yn cynnwys son am Gymru ymhob araith yn y senedd, trefnu digwyddiadau cymdeithasol, arddangosfeydd a chynadleddau, cyhoeddi adroddiadau a gwahodd siaradwyr a grwpiau o Gymru er bob cyfle posibl.

 

Ces i gefnogaeth anhygoel gan gynhyrchwyr bwyd a diod Cymru, corau, prifysgolion, mudiadau gwirfoddol a chymunedol a llawer, llawer mwy yn y gwaith yma. Mae lobïwyr o Gymru heb eu hail!

 

Roedd yn bleser arbennig hefyd i gynnig profiad gwaith i gymaint o bobl ifanc o Gymru yn y swyddfa ym Mrwsel. Braint oedd rhoi cyfle iddynt a hefyd i ddangos y dalent a’r potensial anferth sydd yn argoeli’n dda ar gyfer dyfodol ein cenedl.

 

Mae Cymru yn genedl Ewropeaidd. Roeddwn i’n ymgyrchu tan y funud olaf i gadw Cymru yn yr Undeb Ewropeaidd ac rwyf yn dorcalonnus ein bod ni wedi gadael. Pan adewais i Frwsel, gadewais faner draig goch gyda’n grŵp yn y senedd. Maent yn gofalu amdani nes bod Cymru yn ôl i gymryd ei lle priodol gyda chenhedloedd eraill Ewrop a chaiff ein baner ei chodi eto.

 


2009


2009


2010 Fferm Gwern


2010 Gaza


2010


2010 Yr Urdd


2012


2014


2015

2019 Plaid Cymru EU election candidates Patrick McGuinness, Jill Evans MEP, Carmen Smith, and Ioan Bellin

 

Canmlwyddiant Geni Dr Tudur Jones

Robert Tudur Jones (1921 – 1998)

Eleni mae’n ganmlwyddiant geni un o Is-Lywyddion amlycaf Plaid Cymru, Dr Tudur Jones, a fu yn y swydd o 1957 hyd 1964. Fel Is-Lywydd bu’n gefn i Gwynfor yn yr amlwg ac yn hael gyda’i gyngor gwerthfawr iddo yn y dirgel. Gan ei fod yn byw ym Mangor, yr oedd hefyd mewn cysylltiad cyson gyda’r Ysgrifennydd Cyffredinol, Elwyn Roberts, a weithredai o swyddfa Bangor. Roedd y tri, Gwynfor, Tudur ac Elwyn, ar yr un donfedd gan gynrychioli cenedlaetholdeb a godai o sêl dros yr iaith Gymraeg ac a sylfaenwyd ar werthoedd Cristnogol. Fel mae’n digwydd, yr oedd y tri yn Annibynwyr Yn chwedgau’r ganrif ddiwethaf mynegodd Unbeb yr Annibynwyr Cymraeg eu cefnogaeth i hunan-lywodraeth i Gymru, gyda’r datganiad cofiadwy mai problem Cymru oedd ei bod yn rhy bell oddi wrth Dduw ac yn rhy agos i Loegr!

Bu Tudur Jones, ‘Dr Tudur’ ar lafar gwlad, yn ymgeisydd seneddol dros Fôn yn etholiadau cyffredinol 1959 a 1964. O 1952 hyd 1964 bu’n golygu’r Welsh Nation, a golygodd Y Ddraig Goch rhwng 1964 a 1973. Yr wir, yr oedd yn newyddiadurwr cynhyrchiol iawn. Bu ganddo golofn wythnosol yn Y Cymro, a thybir iddo gyfrannu dros fil a hanner o erthyglau iddi. Yn ystod saithdegau’r ganrif ddiwethaf rhoddodd gefnogaeth foesol a deallusol, yn breifat a chyhoeddus, i ymgyrchoedd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.

Ganed Dr Tudur yn Rhos-lan ger Cricieth, ond maged ef yn Y Rhyl, yn Nyffyn Clwyd. Yn 1939 aeth i Goleg y Brifysgol, Bangor, lle cafodd ei ethol yn Llywydd Undeb y Myfyrwyr, ac ennill gradd dosbarth cyntaf mewn Athroniaeth. Yn 1945 cofrestrodd yng Ngholeg Mansfield, Rhydychen, lle bu’n astudio efrydiau diwinyddol ar gyfer ennill gradd D.Phil. Cafodd ei ordeinio yn Weinidog yr Efengyl yn 1948, a chyflawnodd yr alwedigaeth honno yn wych fel pregethwr, ysgolhaig ac athro. Yn 1966 fe’i apwyntwyd yn Brifathro Coleg Diwinyddol Bala-Bangor, Bangor, ac ar ei ymddeoliad cafodd ei apwyntio yn athro er anrhydedd yn ei alma mater. Dengys ei ddewis yn Llywydd Ffederasiwn Rhyngwladol yr Annibynwyr o 1981 hyd 1985 y parch a enillasai a raddfa ryngwladol.

Yn 1974 trafododd ei syniadau ar genedligrwydd a chenedlaetholdeb yn y cyd-destun Cymreig mewn cyfrol yn dwyn y teitl, The Desire of Nations. Mae tair gwedd i’r drafodaeth – athronyddol, hanesyddol a gwleidyddol. Ceisia’r wedd athronyddol ddadansoddi’r cysyniad o ‘genedl’.

Er ei fod yn gwrthod y damcaniaethau hynny sy’n sylfaenu cenedligrwydd ar ffactorau goddrychol fel teimlad ac ewyllys, nid yw Dr Tudur yn eu diystyru fel elfennau cyfansoddol. Efallai yn wir eu bod yn elfennau hanfodol mewn cenedligrwydd, ond ar eu pennau eu hunain, nid ydynt yn elfennau digonol.

Gyda golwg ar criteria gwrthrychol cenedligrwydd, mae Dr Tudur yn gwrthod maentumiad yr Athro J.R. Jones (1960) fod cenedligrwydd pobl yn gorwedd ar y ffaith eu bod yn ‘sefyll mewn trac hanesyddol’ sydd yn ‘anghyffelyb’ ac ‘anailadroddiadwy’. Y ffaith yw, gallai sawl cymundod nad ydynt yn genedl wenud yr un honiad. Mae hefyd yn gwrthod damcaniaeth ddiweddarach (1966) J.R., sef, i fod yn genedl mae’n rhaid i bobl fod wedi eu trefnu fel gwladwriaeth. Serch hynny, mae’n cydnabod fod agwedd wleidyddol (mewn ystyr estynedig) i genedligrwydd yn gymaint ag y bydd pobl sydd yn synied eu bod yn genedl yn ymwybodol o strwythurau mewnol cymdeithasol a diwylliannol sydd yn unigryw iddynt hwy. Efallai y bydd y strwythurau hynny yn cynnwys sefydliadau gwladwriaethol, ac efallai na fyddant, ond pa un os ydynt neu beidio, does a wnelo hynny ddim â’u cenedligrwydd.

Adlewyrchir syniadau tebyg yn nadansoddiad Dr Tudur o genedlaetholdeb. Teimlad yw gwladgarwch: cariad at ein gwlad. Ideoleg yw cenedlaethodeb. Y mae iddo weddau gwrthrychol, ymresymol a chyhoeddus. Mae’n gosod cyswllt rhwng y genedl a’r wladwriaeth. Ystyria cenedlaethodeb y wladwriaeth fel offeryn yng ngwasanaeth y genedl. Yn y byd modern, global, mae ar genhedloedd angen sefydliadau gwladwriaethol i ffynnu, a hyd yn oed i oroesi.

Mae i’r math o genedlaetholdeb a arddelir yn The Desire of Nations wreiddiau dwfn yn ffydd Gristnogol Dr Tudur. Y mae’n ymwybodol iawn o’r perygl o eilunaddoli’r genedl neu’r wladwriaeth. Dyma sy’n cyfrif am ei amharodrwydd (fel Saunders Lewis a chefnogwyr cynnar y Blaid) i siarad yn nhermau ‘annibyniaeth’ wrth drafod hunan-lywodraeth i Gymru. Dyma hefyd wraidd ei wrthwynebiad chwyrn i syniadau’r mudiad Adfer ganol y saithdegau.

Bydd y sawl oedd yn adnabod Dr Tudur yn cofio am ei urddas personol, a huodledd ei fynegiant yn y Gymraeg a’r Saesneg. Yr oedd ei osgo yn awdurdodol, ond gyda haen o hiwmor direidus. Wrth ymateb i honiad George Thomas nad oedd y fath beth â dŵr Cymru gan mai eiddo Duw oedd y dŵr mewn gwirionedd, heriodd Thomas i hysbysu brenin Saudi Arabia nad oedd y fath beth ag olew Saudi gan mai eiddo Duw oedd yr olew mewn gwirionedd!

 

Gwynn Matthews

Hanes Plaid Cymru