Cofeb i Gwynfor yn y Barri

2010 Cofeb Gwynfor Y BarriAr ymddeoliad Gwenno Huws, dirprwy brifathrawes Ysgol Gymraeg Sant Baruc, yn nhre’r Barri penderfynodd hi ei fod yn hen bryd cydnabod cysylltiad Gwynfor Evans, Cyn Lywydd Plaid Cymru, â’r dre gan iddo gael ei eni a’i fagu yn y Barri gan fynychu Ysgol Gynradd Gladstone ac Ysgol Uwchradd y Bechgyn yna. Buodd farw yn 92 oed yn 2005 ac felly dan arweiniad Gwenno Huws aethpwyd ati i godi cronfa i dalu am benddelw o’r gŵr hynod hwn a chomisiynwyd y cerflunydd John Meirion Morris, Llanuwchllyn ger y Bala i gyflawni’r gwaith.

Daeth llawer ynghyd i Lyfrgell y Barri ar yr 28 Chwefror 2010 i weld yr Arglwydd Dafydd Ellis-Thomas yn dadorchuddio’r penddelw efydd o’r gwron hwn a gwireddwyd breuddwyd Gwenno Huws i weld cofeb deilwng iddo yn ei dref enedigol. Llywyddwyd y cyfarfod gan Dulyn Griffiths, prifathro Ysgol Sant Baruc a chafwyd cyfraniad swynol dros ben gan Gôr yr ysgol dan arweiniad Gwenno Huws a’r siaradwr gwadd oedd yr Athro Gareth Williams o Brifysgol Morgannwg.

Radio Cymru – Radio Wales 1958 – 1965

Voice of Free Wales

Gwynfor Evans on Radio Wales

Gwynfor Evans ar Radio Cymru

Casgliad Philip Lloyd 1

Phillip Lloyd 2 philliplloyd3b

Yn y dudalen o Golwg mae llun o Glyn James yn llwyddo i guddio ei wyneb wrth ddarlledu adeg is-etholiad Glyn Ebwy. Hefyd cartwn Gwilym Hughes o Wilson a Douglas-Home (‘Ban Plaid’).  Mae Gwilym wedi marw, ond cefais ganiatad ganddo i ddefnyddio’r cartwn fel y mynnwn. Soniaf am Gwilym a’r cartwn yn fy ysgrif am is-etholiad Glyn Ebwy.

 

philliplloyd4b

 

1965 Telediad Plaid Cymru

Carreg Goffa i Gwynfor

2006 Carreg Goffa GwynforDadorchuddiwyd cofeb i Gwynfor Evans ar y Garn Goch ar ddydd Sadwrn 15 Gorffenaf 2006 fel rhan o Rali Cofio ’66 i ddathlu deugain mlynedd union ers iddo gael ei ethol yn Aelod Seneddol cyntaf Plaid Cymru mewn is-etholiad hanesyddol ar Gorffennaf 14eg 1966. Mae pawb oedd ar sgwar Caerfyrddin y noson honno yn cofio’r gorfoledd bendigedig a’r gobaith afresymol a daniwyd yno.

Cloddiwyd y garreg enfawr, sy’n pwyso 7.5 tunnell, mewn chwarel ger Llandybie. Cerfiwyd enw Gwynfor arni gan yr artist enwog Ieuan Rees a fu’n gyfrifol am nifer o gerfiadau ar gofebion i enwogion yn hanes Cymru. Caiff ei ystyried yn un o artistiaid/crefftwyr mwyaf amryddawn Prydain ym maes llythrennu, cerfio llythrennau, caligraffeg, herodraeth a chyfathrebu graffeg.

 

 

Gwynfor.net   >>  Gwynfor

Newyddion  BBC  > BBC

Hanes Plaid Cymru