Darlith Ieuan Wyn Jones ‘O Gymru Fydd i Blaid Cymru-Y Siwrne’

CYMDEITHAS HANES PLAID CYMRU
PABELL Y CYMDEITHASAU EISTEDDFOD WRECSAM
12.30yp DYDD IAU 7 AWST 2025

‘O Gymru Fydd i Blaid Cymru-Y Siwrne’
Ieuan Wyn Jones

Darlith sy’n ystyried effaith y cynnydd mewn ymwybyddiaeth genedlaethol
ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg ar sefydlu Plaid Cymru yn 1925

Sain y Ddarlith >

 

‘Tom Ellis oedd y pennaf a’r cywiraf gwladgarwr o blith Aelodau Seneddol cyfnod “Cymru Fydd” yn niwedd y ganrif ddiwethaf (19C). Yn anffodus, cymerodd yntau swydd yn ei blaid Seisnig, eithr bu farw’n fuan wedyn, flwyddyn cyn troad y ganrif. Parhai’n arwr yn y sir, yn ein hardal ni o leiaf, ac nid oedd ei hen gartref nepell o Felin-y-Wig. Safai llun mawr ohono uwchben ein silff ben tân yn y Foty Fawr, a thano ei eiriau, “Ysbrydiaeth a nod cenedl yw hunanlywodraeth.” Ei safiad tros Gymru a arhosai yng nghof ein hardal ni ac a drosglwyddwyd i ni’r plant.’

Dyfyniad o gyfrol J.E. Jones, Ysgrifennydd Cyffredinol Plaid Cymru 1930-1962: ‘Tros Gymru’, 1970, t.21.

Dechreuaf y ddarlith hon gyda dyfyniad o lyfr J.E. Jones am ei fod yn crynhoi meddyliau a theimladau rhai o arweinwyr cynnar Plaid Cymru, sef ystyried sefydlu mudiad Cymru Fydd yn 1886 fel rhagflaenydd y Blaid, a dysgu’r gwersi amlwg o fethiant y mudiad hwnnw. Y wers bwysicaf o ddigon oedd mai prif fethiant cenedlaetholwyr mudiad Cymry Fydd – a’i hymlyniad at y Blaid Ryddfrydol Seisnig a Phrydeinig – oedd ceisio gweithredu oddi mewn i’r blaid honno. Erbyn 1925 rhaid oedd sefydlu Plaid Genedlaethol Gymreig a honno’n gyfan gwbl annibynnol o unrhyw blaid arall. Meddai Griffith John Williams yn 1935 ‘Yr oedd hi’n hanfodol sefydlu Plaid Wleidyddol Gymreig’. Rhaid oedd i bob aelod arwyddo ymrwymiad i ddiweddu pob cysylltiad efo pleidiau gwleidyddol eraill yng Nghymru a Lloegr. 

Ond dwi’n rhedeg ychydig o flaen f’hun rŵan. Nid yn 1886 mae’r stori’n dechrau. Rhaid inni fynd yn ôl i 1847. Ar lawer ystyr mae’n flwyddyn dyngedfennol yn ein hanes fel cenedl, gan mai’r flwyddyn honno cyhoeddwyd Adroddiad i Gyflwr Addysg yng Nghymru ac a adnabuwyd yn fuan fel ‘Brad y Llyfrau Gleision’. Bwriad y sefydliad Prydeinig wrth sefydlu’r Comisiwn a arweiniodd at yr Adroddiad oedd i geisio gwneud y Cymry’n fwy teyrngar i’r wladwriaeth. ‘Roedd y ffaith fod mwyafrif y Cymry’n siarad Cymraeg ac yn mynd i’r capel yn arwain iddyn nhw fod yn genedl wrthryfelgar, a’u protestiadau yng nghyfnod y Siartwyr a therfysgoedd Beca yn dystiolaeth glir o hynny. Rhaid oedd dysgu Saesneg i’w plant, eu denu nôl at yr Eglwys Wladol a thrwy hynny sicrhau dos o ymostyngiad i’w meistri.

Mae darllen rhannau o Adroddiad y Comisiynwyr nid yn unig yn dangos mor glir eu diffyg dealltwriaeth o genedl y Cymry, ond yn dangos haerllugrwydd a’u hagweddau nawddoglyd at siaradwyr Cymraeg a’u hymlyniad at ymneilltuaeth ac Anghydffurfiaeth. ‘Roedd cyflwr addysg yng Nghymru yn hynod o wael, a diffyg cymwysterau’r athrawon oedd i gyfrif am hynny. Nid oedd cyflwr addysg i’r werin fawr well yn Lloegr, ond wrth gwrs mi roedd y naratif a fynnai’r Comisiynwyr yn golygu mai diffyg sgiliau Saesneg oedd i gyfrif fod pethau mor ddrwg yng Nghymru. Un enghraifft ymhlith llawer sy’n britho’r Adroddiad yw’r disgrifiad o’r athro yn ysgol Frutanaidd Llandderfel. Yr oedd yn deall Saesneg yn weddol dda meddent, ond fe siaradai ‘with a Welsh idiom and not always grammatically!’.

Yr oedd yr awydd i ddysgu Saesneg i’r Cymry, a hynny ar draul y Gymraeg yn rhedeg ochr yn ochor â’r awydd i’w dwyn yn ôl i’r Eglwys. Ond ‘roedd y ffordd yr aethpwyd ati i ddilorni anghydffurfiaeth yn sen ar foesau’r Cymry. Gellir crynhoi eu safbwynt drwy ddweud mai ffau o anfoesoldeb oedd y capeli a lle i hel merched a hel dynion oedd y seiat! Mi ‘roedd ymateb yr arweinwyr crefyddol, yr unig arweinwyr a feddai’r Cymry bryd hynny, yn unfrydol ac yn chwyrn yn erbyn yr ymosodiad ar y capeli. Fodd bynnag, cymysg ac weithiau’n llugoer oedd ymateb llawer ohonynt at yr ymosodiad ar y Gymraeg.

Rhaid cofio cryfder dylanwad y capeli anghydffurfiol ar y werin Gymraeg. Yn hanner cyntaf y C19 arweinwyr yr enwadau crefyddol oedd arweinwyr naturiol y genedl. Prin iawn iawn oedd y teuluoedd bonedd, y tirfeddianwyr mawr a’u tebyg a oedd ganddynt unrhyw ymlyniad at Gymreictod, y Gymraeg a hunaniaeth Gymreig. A hyd at 1840 nid oedd llawer o’r arweinwyr crefyddol yn fodlon ymhél a gwleidyddiaeth – yr oeddynt yn Dorïaid ac yn frenhinwyr. Ac yna daeth Brad y Llyfrau Gleision, a Lewis Edwards, Prifathro Coleg y Methodistiad Calfinaidd yn y Bala yn dweud yn 1848 fod angen anfon ‘Ymneilltuwyr egwyddorol i’r Senedd dros bob sir a phob bwrdeistref yng Nghymru.’

Yr oedd llawer o’r radicaliaid gwleidyddol ymhlith yr ymneilltuwyr yng ngharfan yr Annibynwyr yn hytrach na’r Methodistiaid. Gadawodd Gwilym Hiraethog y Methodistiaid gan ymuno efo’r Annibynwyr a gwelir ei radicaliaeth wleidyddol ar ei fwyaf amrwd yn Yr Amserau, papur newydd Cymraeg a sefydlwyd yn Lerpwl yn 1846. Digon bregus oedd ffawd Yr Amserau ar y dechrau, fel llawer o bapurau Cymraeg y cyfnod. Ond pan ddechreuodd Hiraethog gyhoeddi erthyglau ar ffurf dafodieithol dan y teitl ‘Llythyrau ‘Rhen Ffarmwr’ denwyd cynulleidfa o ddarllenwyr newydd. Yn yr erthyglau rhain ac yn yr erthyglau golygyddol taranai yn erbyn gorthrwm y landlordiaid a dechreuodd gefnogi mudiadau gwladgarol dramor. Y ddau brif ffigur a ddenodd ei sylw a’i gefnogaeth oedd Lajos Kossouth o Hwngari a Giuseppe Mazzini o’r Eidal.

Cafwyd Chwyldro yn Hwngari yn 1848 ac am gyfnod byr bu Kossouth yn Arlywydd y wlad, ond methiant fu’r chwyldro ac o hynny ‘mlaen bu’n ffoadur gan dreulio amser ym Mhrydain. Canmolodd Hiraethog ei ddewrder a’i ganmol am ei fod yn deall ‘egwyddorion gwir ryddid gwladol…’.

Ymwelodd Hwngariaid â Hiraethog i ddiolch iddo am ei gefnogaeth. Daeth Kossouth i Lerpwl yn 1851 gan annerch cyfarfod cyhoeddus. Er nad oes tystiolaeth uniongyrchol fod Hiraethog a Kossouth wedi cyfarfod, mae’n hynod debyg fod hynny wedi digwydd yn ystod yr ymweliad.

Ac yna down at gefnogaeth Hiraethog i Mazzini y cenedlaetholwr a frwydrai dros uno’r Eidal fel gwladwriaeth. Daeth Mazzini i Loegr hefyd fel alltud a ffoadur ar gyfnodau gan geisio cefnogaeth radicaliaid gwleidyddol i’w achos. Un mater a ddenodd sylw Hiraethog at Mazzini oedd ei ymosodiad ar Babyddiaeth, rhywbeth a blesiai’r Anghydffurfiwr radical i’r dim! Bu gohebiaeth rhwng Hiraethog a Mazzini yn 1861 ple diolchodd Mazzini am gefnogaeth y Cymry ac yn eu hannog i ddeisebu’r Senedd er mwyn dwyn pwysau ar Ffrainc i alw ei milwyr yn ôl o’r Eidal. Cefnogodd Hiraethog frwydr yr Eidalwyr dros eu hiawnderau a’u hannibyniaeth a cheir tystiolaeth bendant fod Hiraethog a Mazzini wedi cwrdd nifer o weithiau yn Lerpwl.

O ystyried cefnogaeth gref Hiraethog i Kossouth a Mazzini yn eu hymdrechion i sicrhau annibyniaeth i’w gwledydd, gellid disgwyl y byddai ‘run mor frwd dros hawliau tebyg i Gymru. Medrwn ddweud i sicrwydd fod ei gefnogaeth i’r Gymraeg yn hynod o gryf ac fe ddadleuai o blaid penodi barnwyr a fedrai’r Gymraeg i lysoedd yng Nghymru.  Ond ni cheir unrhyw gofnod ei fod wedi cefnogi rhyddid gwleidyddol. Ac yn wir nid oedd ganddo fawr o gydymdeimlad â brwydr y Gwyddelod am hunanlywodraeth. Yr oedd eu hymlyniad wrth Babyddiaeth yn rhwystr iddo. Yn hyn o beth dangosodd anghysondeb sylweddol, gan mai Pabydd oedd Kossouth!

A symud oddi wrth Hiraethog, gellir dadlau mae’r person cyntaf i gefnogi hawliau gwleidyddol i Gymru yn y cyfnod hwn oedd Thomas Davis y Gwyddel o dras Cymreig yn ei lyfr ‘Literary and Historical Essays’ a gyhoeddwyd yn 1846. Dadleuai o blaid ‘a local senate’ ar ffurf ffederal fel yn nhaleithiau’r Amerig. Rhaid oedd disgwyl i Michael D. Jones ac Emrys ap Iwan ac yn ddiweddarach Tom Ellis i godi’r faner a phwysleisio rhyddid gwleidyddol ochr yn ochr â’r frwydr dros y Gymraeg.

Bu tipyn o ddadlau rhwng Michael D. Jones ac Emrys ap Iwan ynglŷn â phwy ohonyn nhw oedd y cyntaf i bleidio hawliau gwleidyddol. Mewn llythyr a gyhoeddwyd yn Y Genhinen yn Ebrill 1892, adeg etholiad cyffredinol y flwyddyn honno, mae Emrys yn bendant mai fo a fathodd y term ‘ymreolaeth’ am y tro cyntaf ac ymhellach mae fo ‘oedd y cyntaf yng Nghymru i ddadlau dros y peth y mae y gair yn ei olygu’. Gall hawlio perchnogaeth o’r gair ‘ymreolaeth’, ond beth am ei honiad mai ef oedd y cyntaf i ddadlau’r achos?

Yn ei erthygl ar Grefydd, Cenedlaetholdeb a’r Wladwriaeth yng Nghymru rhwng 1840-1890 dywed R. Tudur Jones mai Michael D. Jones oedd tad cenedlaetholdeb wleidyddol fodern yng Nghymru. Gwelai Michael D. fod ‘na gysylltiad rhwng hunaniaeth cenedl a grym gwleidyddol. Er bod y rhan fwyaf o arweinwyr crefyddol y genedl yn ddigon hapus fod Cymru’n rhan o Brydain, ‘roedd Michael D. yn dadlau fod Cymru’n grŵp diwylliannol lleiafrifol ym Mhrydain, a’r Saesneg fel iaith y mwyafrif yn iaith ddominyddol. Er mwyn iddi barhau byddai’n rhaid i’r Gymraeg sicrhau statws swyddogol yn sfferau gwleidyddiaeth, addysg a’r gyfraith. Unwaith ‘roedd hynny wedi digwydd, hunanlywodraeth fyddai’r canlyniad yn hytrach nag annibyniaeth. Yn wir prin iawn, os o gwbl, yw’r cyfeiriad at annibyniaeth fel prif nod cenedlaetholwyr Cymreig yn y C19. Penllanw dadl Michael D. oedd y dylid ystyried Cymru, fel yr Iwerddon a’r India, fel trefedigaethau. Ef oedd y cyntaf yn ei gyfnod i weld yr angen i Gymru reoli ei adnoddau naturiol, dŵr a mwynau a’u defnyddio er budd y genedl. Byddai hynny yn creu gwaith ac yn arafu’r ymfudo cynyddol o Gymru i Loegr a thramor. Yn y C19 gwelwyd patrymau trafnidiaeth yn clymu Cymru fwyfwy wrth Loegr a thrwy hynny gwelwyd, yng ngeiriau Prys Morgan, ‘system o anghyfartaledd economaidd gan bwysleisio i’r Cymry fod ei heconomi yn un israddol, ac yn bennaf yn gwasanaethu anghenion Cyfalafiaeth Seisnig.’

Erbyn y 1870au gwelwyd twf mewn sentiment Imperialaidd yng Nghymru, a hynny’n cyd-fynd efo twf aruthrol yn y trefedigaethau Prydeinig a bri honedig y wladwriaeth ar y llwyfan rhyngwladol. Yn hyn o beth, ‘roedd Michael D. yn rhwyfo yn erbyn y lli. Ni welai fod yna unrhyw gysylltiad rhwng imperialaeth a chydnabyddiaeth o hawliau cenhedloedd. Yr oedd ganddo ddiffyg ymddiriedaeth ddofn yn y sefydliad gwleidyddol Prydeinig gan ddatgan mai’r bwriad oedd dileu’r genedl Gymreig yn llwyr. Er hynny yr oedd yn ymwybodol o ymostyngiad lawer o’r Cymry gan fod y berthynas rhwng Cymru a Lloegr yn anghyfartal a hynny yn ei dro yn arwain at agweddau o wrogaeth.

Yr unig ffigur amlwg arall a gytunai efo safbwynt lleiafrifol Michael D. oedd Emrys ap Iwan. Aelod o’r Methodistiaid Calfinaidd oedd Emrys, o’i gymharu â Hiraethog a Michael D. a oedd yn Annibynwyr. A phan honnodd Emrys mai fo oedd y cyntaf i ymgyrchu o blaid hunanlywodraeth anfonodd Michael D. lythyr ato gan awgrymu yn hynod o gynnil ei fod wedi dylanwadu – heb yn wybod iddo o bosibl – ar ei ddaliadau cenedlaethol!

Amddiffyn y Gymraeg oedd wrth wraidd cenedlaetholdeb Michael D. ac Emrys. Y ffordd hawsaf i’r wladwriaeth gymhathu’r Cymry i mewn i un genedl Brydeinig oedd i ddileu’r Gymraeg. Dyna wedi’r cwbl oedd wrth wraidd yr Adroddiad a adnabyddid fel Brad y Llyfrau Gleision ac wrth wraidd y Deddfau Addysg a fynnai mai Saesneg oedd unig gyfrwng addysg yn yr ysgolion. Pan sefydlwyd Prifysgol Aberystwyth yn 1872, nid oedd y Gymraeg ar y cwricwlwm yn y blynyddoedd cynnar, a’r Prifathro T. Charles Edwards yn aelod yng nghapel Saesneg Aberystwyth. ‘Roedd hyn yn tanlinellu agweddau rhai o aelodau blaenllaw’r enwadau crefyddol ar y pryd a rhai ohonynt yn credu fod y Gymraeg yn debyg o farw ymhen amser. Yn y cyfnod hwn felly ‘roedd Emrys a Michael D. yn enghreifftiau prin iawn o bobl yn dadlau o blaid ymladd i gadw’r Gymraeg, ei dysgu yn yr ysgolion, a’i gwneud yn iaith swyddogol yn y llysoedd. Pan ymddangosodd Emrys fel tyst mewn achos llys yn 1889, fe wrthododd roi ei dystiolaeth yn Saesneg a mynnu siarad Cymraeg. Bu cythrwfl yn y llys, ac er i’r ynadon fynnu ei fod yn rhoi ei dystiolaeth yn Saesneg gwrthododd wneud hynny. Gohiriwyd yr achos a phan fu i’r llys ail ymgynnull ‘roedd cyfieithydd yno. Ond gan fod y diffynnydd wedi syrthio ar ei fai, nid oedd angen tystiolaeth Emrys wedi’r cwbl. Er hynny, cafodd ei safiad gryn sylw yn y Wasg Gymraeg, â’r Faner yn gefnogol iddo.

Hyd at 1886, lleisiau prin oedd rhai’r ddau wron. A doedd na ‘run gwleidydd etholedig yn dadlau o blaid hawliau cenedlaethol. Er cymaint â wnaeth Henry Richard, yr Apostol Heddwch, dros Gymru wedi ei ethol dros Ferthyr yn 1868, ni phlediodd achos hunanlywodraeth. Ac er bod tô newydd o Aelodau Seneddol Cymreig wedi‘i hethol yn 1886, un ohonynt yn unig a wnaeth hunanlywodraeth yn un o’i brif amcanion yn ei daflen etholiad. Hwnnw oedd Tom Ellis a etholwyd yn 27 oed i gynrychioli Meirionnydd. Yn ei anerchiad i’r etholwyr, nododd 5 maes y byddai’n ymgyrchu trostynt;

  • Ymreolaeth i’r Iwerddon
  • Datgysylltiad yr Eglwys Wladol
  • Gwell cyfundrefn addysg
  • Diwygio’r deddfau tir
  • Ymreolaeth i Gymru

Yn ystod ei gyfnod fel Aelod Seneddol gwelai’r tri phwnc, datgysylltiad, gwella’r gyfundrefn addysg a diwygio’r deddfau tir nid fel mesurau unigol, ond fel rhan o’r frwydr dros hunaniaeth Gymreig. O ble daeth hyn oll? Bu ym Mhrifysgol Aberystwyth rhwng 1875 ac 1879. Nid yno’n sicr, gan i’r Prifathro ei berswadio i ymaelodi yn y capel Saesneg yn y dref, a’r prif faterion yng nghymdeithas dadlau’r sefydliad oedd materion Prydeinig. Aeth i Rydychen yn 1879 ac yn ei ddyddiau cynnar yno, ‘doedd ganddo bron ddim cydymdeimlad ag achos y cenedlaetholwyr yn yr Iwerddon. Ond yn raddol bach, a thros gyfnod o bedair blynedd, aeth ei agweddau yn fwy radical a chenedlaetholgar.

Mae sawl rheswm i gyfri am hyn, ond cyfyngwn ein sylw i’r ffaith i syniadau Thomas Davis y Gwyddel a Mazzini ddod i’w sylw. Fel y gwelsom eisoes dadleuodd Thomas Davis o blaid ymreolaeth i Gymru yn 1846, a llais yn yr anialwch oedd yn y cyfnod hwnnw. Meddai Tom Ellis yn 1890, ‘Thomas Davis a Mazzini oedd fy nau athraw gwleidyddol a chenedlaethol’.

Pwy oedd Thomas Davis? ‘Doedd o ddim yn un o’r ffigurau mwyaf blaenllaw ymhlith mudiad cenedlaethol yr Iwerddon. Llenor a bardd oedd Davis ac un o olygyddion cyntaf ‘The Nation’ sef papur mudiad ‘Young Ireland’. Sefydlwyd ‘Young Italy’ gan Mazzini a’i gyfeillion ar gyfer cenedlaetholwyr yr Eidal ac fe sefydlwyd mudiadau cyffelyb led led Ewrop. Yr enw Saesneg ar Cymru Fydd oedd ‘Young Wales’.  Ysgrifennodd Davis farddoniaeth genedlaetholgar megis ‘A Nation Once Again’. Protestant oedd o gan ddadlau y dylid addysgu Protestaniaid a Chatholigion gyda’i gilydd ac o blaid y Wyddeleg fel yr iaith genedlaethol. Meddyg o Gymro oedd ei dad. Ceid ei adnabod fel cenedlaetholwr diwylliannol ac o blaid hunanlywodraeth gan ddadlau o blaid Senedd yn Nulyn ar ffurf ddatganoledig. Hawdd gweld sut y byddai Davis yn apelio i’r Tom Ellis ifanc, gan fod ‘na elfennau rhamantaidd a ddiwylliannol yn ogystal â deallusol i’w genedlaetholdeb yntau.

Person arall bu i’r Tom Ellis ifanc ddod ar ei draws oedd Gwyddel arall, sef Michael Davitt. Ymgyrchydd radical oedd Davitt, yn arbennig ar bwnc y tir ac yn un o sefydlwyr Cynghrair Tir yr Iwerddon. Fe’i carcharwyd yn 1870 ar ôl ei gael yn euog o fasnachu gynnau yn anghyfreithlon. Wedi ei ryddhau daeth yn siaradwr cyhoeddus poblogaidd gan ddadlau o blaid cenedlaetholi tir. Er ei fod yn gymeriad dadleuol yn y cyfnod, trefnwyd cyfres o gyfarfodydd cyhoeddus iddo yng Ngogledd Cymru yn ystod hanner cyntaf 1886. Trefnydd y gyfres oedd Michael D. Jones ac fe gynhaliwyd cyfarfod ym Mlaenau Ffestiniog ar 12 Chwefror. Croesawodd Tom Ellis y cyfarfod ym Mlaenau Ffestiniog mewn erthygl yn y South Wales Daily News. ‘Roedd 3,000 yn gwrando ar Davitt yn y Blaenau lle ddatganodd y dylai’r Cymry ethol aelodau seneddol gyda’r bwriad o gydweithio efo’r cenedlaetholwyr Gwyddelig dan arweiniad Parnell i ddiwygio’r deddfau tir yng Nghymru.

Bu peth gohebiaeth rhwng Davitt a Tom Ellis a’r naill a’r llall yn cefnogi mwy o gydweithredu rhwng cenedlaetholwyr yn yr Iwerddon a Chymru. Dyma’r adeg bu i Tom Ellis gyhoeddi erthygl eto yn y South Wales Daily News yn dadlau o blaid hunanlywodraeth. ‘Os ydi’r Iwerddon yn sicrhau hunanlywodraeth, onid ydio’n hen bryd i Gymru gael y grym i reoli ei materion ei hun?’ Cefnogodd ddulliau’r cenedlaetholwyr dan arweiniad Parnell i sicrhau eu hawliau.

Ac fel y gwelsom Tom Ellis oedd yr ymgeisydd cyntaf mewn etholiad i’r Senedd i gynnwys hunanlywodraeth fel rhan o’i anerchiad i’r etholwyr yn 1886. Ond mi ‘roedd o’n llais unig iawn pan etholwyd ef i’r Senedd yn y flwyddyn honno. Rhaid oedd ceisio lledaenu’r gefnogaeth yn ehangach ac o ganlyniad sefydlwyd mudiad Cymru Fydd hefyd yn 1886 a hynny yn Llundain. Y rhai a’i sefydlodd oedd Tom Ellis, yr hanesydd John Edward Lloyd, O.M. Edwards, Llewelyn Williams ac eraill.

Ei brif nod oedd gwneud yr achos o blaid hunanlywodraeth. Ond yr oedd agweddau diwylliannol i’r mudiad yn ogystal, a dyna oedd prif ddiddordeb O.M. Edwards mewn gwirionedd. Mudiad tu allan i Gymru oedd o yn ystod y blynyddoedd cynta’, a’r gangen gyntaf yn Llundain. Sefydlwyd ail gangen y mudiad yn Lerpwl. Dim ond yn 1891 a hynny yn y Barri sefydlwyd y gangen gyntaf yng Nghymru, a sefydlwyd eraill wedyn mewn rhannau eraill o Gymru, yn arbennig mewn ardaloedd ple roedd peirianwaith gan y Rhyddfrydwyr a lle ‘roedd yr ymneilltuwyr o’u plith yn gefnogol. Cyhoeddwyd y rhifyn cyntaf o gylchgrawn y mudiad hefyd a enwid Cymru Fydd yn 1888. Y golygydd cyntaf oedd Thomas John Hughes neu ‘Adfyfyr’ ac ef a ysgrifennodd yr erthygl olygyddol gyntaf ym mis Ionawr 1888 gan ddisgrifio’r cylchgrawn fel un ‘cenedlaetholgar’. Ar y dechrau ‘roedd y cylchgrawn yn cynnwys erthyglau ar raglen y Rhyddfrydwyr Cymreig, pwnc y tir, datgysylltu’r eglwys a gwella’r gyfundrefn addysg yng Nghymru. Tueddai’r mudiad i gadw’n glos at amcanion diwylliannol ac addysgol hyd nes i Tom Ellis a Lloyd George a etholwyd yn dilyn isetholiad Seneddol yn 1890 roi min gwleidyddol iddo.

Rhwng 1886 a mis Medi 1890, Tom Ellis oedd prif arweinydd y ddadl o blaid hunanlywodraeth gan ysgrifennu erthyglau, traddodi areithiau a cheisio dwyn pwysau ar ei gyd-aelodau Rhyddfrydol i ddilyn ei arweiniad. Ond tir caregog iawn oedd yn ei wynebu. Yr oedd o’n llais unig ymhlith ei gyd-aelodau seneddol o Gymru. ‘Roedd yr hen aelodau radical Cymreig, pobl fel Henry Richard a G. Osborne Morgan, yn ddigon bodlon dadlau’r achos o blaid Datgysylltiad a diwygio’r deddfau tir, ond doedden nhw ddim yn hapus i bledio achos hunanlywodraeth.

Penderfynodd Tom Ellis fod yn rhaid iddo godi’r tempo a cheisio dwysbigo cydwybod ei gyd-aelodau. Aeth ar daith i’r Aifft ddechrau 1890 ple dioddefodd gyfnod o salwch difrifol. Bu yno am rai misoedd mewn ymgais i adfer ei iechyd. Yn Luxor ar ddydd Gŵyl Dewi cyhoeddodd yn ei ddyddiadur yr hyn a oedd yr arwydd cliriaf hyd hynny o’i faniffesto gwleidyddol. Ie, byddai angen ymladd o blaid datgysylltiad, gwell cyfundrefn addysg a diwygio’r deddfau tir. Ond er mwyn sicrhau unoliaeth y genedl, byddai angen Senedd, Prifysgol a Theml i Gymru.                                                                      

Ar ddiwedd y cofnod yn y dyddiadur, yn 31 oed, ac yntau yn ymwybodol y gallai ei fywyd fod mewn perygl meddai;

Dyma fy adduned heddyw – i weithio hyd angeu i ennill Unoliaeth i Gymru yn ystyr lawnaf y gair. Rhodded Duw nerth i mi i fod yn ffyddlon i’r adduned hon.

Diddorol yw ei ddyfyniad o ddau bennill o gerdd gan Shelley y bardd rhamantaidd. Ystyrir ‘The Masque of Anarchy’ fel y gerdd wleidyddol orau yn Saesneg ac fe’i hysgrifennwyd mewn ymateb i gyflafan Peterloo yn 1819. Gan mai dwy thema yng ngweledigaeth Tom Ellis ydi ‘rhyddid’ ac ‘unoliaeth’, gwelir y rhain yn gweu drwy waith Shelley. Pan gyfeiria at ‘Let the laws of your own land’ mae’n cydnabod hawl pob cenedl i gael ei threfn gyfreithiol ei hun a hynny’n seiliedig ar sofraniaeth genedlaethol.

Wedi i Tom Ellis gyrraedd adref, a’i gyfeillion ym Meirionnydd yn sylweddoli mor fregus oedd ei iechyd a’i fod mae’n siŵr yn brin o arian lansiwyd tysteb iddo. Codwyd swm sylweddol o arian, £1,075 (gwerth tua £150,000 heddiw) a’i gyflwyno iddo mewn cyfarfod arbennig yn y Bala ym mis Medi 1890.

Mewn ymateb i’r cyflwyniad traddododd yr hyn a alwodd ei fab T.I. Ellis yn ‘gyffes ffydd’ (Cofiant II, t.108). Hon oedd ei araith bwysicaf a’r mwyaf arwyddocaol o’i yrfa fel gwleidydd. Sylweddolai nad oedd sefydlu grŵp o’r Blaid Seneddol Gymreig yn 1888 ymhlith rhai o Aelodau Cymru, a hynny o dan gadeiryddiaeth Henry Richard, yn debyg o gyflawni llawer gan nad oedd unoliaeth barn ar y cwestiwn cenedlaethol.

Prif themâu’r araith oedd:

  • Cyfeirio at Hanes Cymru, a phenderfyniad y genedl i sefyll dros ei rhyddid a’i hannibyniaeth;
  • Sôn am y deffroad cenedlaethol yn y chwarter canrif flaenorol a hynny wedi ei gadarnhau ers 1886;
  • Fod bywyd cenedl yn dibynnu ar weithredu gwleidyddol;
  • Ein prif ddyletswydd yw i Gymru;
  • Angen sefydliadau cenedlaethol, megis Prifysgol Cymru, Amgueddfa Genedlaethol, Llyfrgell Genedlaethol;
  • Gweithio dros Ddeddfwriaeth wedi ei ethol gan ddynion a merched Cymru;
  • Byddai Deddfwriaeth yn symbol o’n huniad fel cenedl, byddai’n llais i’n cenedligrwydd ac yn llenwi’n gobeithion fel pobl.

Nid oedd neb arall o blith aelodau seneddol Cymru wedi diffinio mor groyw beth oedd dyheadau cenedlaetholgar y to newydd o arweinwyr yn ystod y C19. Yn wir nid oedd Michael D. nac Emrys ap Iwan wedi darlunio dyheadau cenedlaetholgar mor glir. 

Dyma Tom Ellis felly yn gosod allan ei stondin, gan herio eraill i’w ddilyn. ‘Dyma ble rwy’n sefyll, pwy ddaw efo mi?’

‘Doedd o ddim yn obeithiol y byddai bonllefau o gymeradwyaeth i’w alwad. Meddai ar ddiwedd ei araith: ‘Nid dyma yw uchelgais pawb ohonom’.    

Er hynny, mi ‘roedd ambell un yn fodlon ymateb i’r alwad. Un ohonynt oedd Alfred Thomas, Aelod Seneddol Dwyrain Morgannwg. Mi ‘roedd o yn y cyfnod hwn yn agos at Tom Ellis ac wedi ymateb yn frwd i’r araith yn y Bala. Aeth ati gyda chefnogaeth Tom Ellis i gyflwyno mesur yn y Tŷ Cyffredin ar 15 Mehefin 1891 sef Mesur Sefydliadau Cenedlaethol (Cymru) gyda’r bwriad o sefydlu Swyddfa Cymru, Prifysgol Cymru, Amgueddfa Genedlaethol a Chyngor Cenedlaethol (Senedd). Fe’i cyflwynwyd ar gyfer darlleniad cyntaf ond ni aeth gam ymhellach. Fe’i cyflwynwyd yr ail waith ym mis Chwefror 1892 a dioddef yr un ffawd.

Cafwyd fwy o ymdrechion rhwng 1892 a 1896 i ail gynnau brwdfrydedd Cymry Fydd a hynny’r tro hwn dan arweiniad Lloyd George. Y cyfnod rhwng 1894 a 1896 sy’n bwysig fodd bynnag. Erbyn hyn, ‘mi roedd nifer o ganghennau Cymru Fydd wedi’u sefydlu yng Nghymru. Yn y cyfnod hwn gwnaed sawl ymdrech i uno Cynghrair Cymru Fydd a Chynghrair Rhyddfrydol y Gogledd er mwyn cael undod yn y ddadl o blaid hunanlywodraeth. Lloyd George a Thomas Gee oedd yn gyrru’r cais am undod gan fod Tom Ellis wedi cymryd swydd yn llywodraeth Gladstone. Y cam nesaf oedd ceisio uno’r Cynghreiriau yn y De a’r Gogledd. Bu sawl ymgais, ac fe gafwyd penderfyniad i’w huno ym mis Ionawr 1895. Ond nid oedd pawb yn hapus ar yr uniad, a’r pennaf o’r gwrthwynebwyr oedd David Alfred Thomas, AS Merthyr. Bu ef yn pendilio rhwng cefnogi amcanion Cymru Fydd a’u gwrthwynebu, ond yn y garfan elyniaethus y bwriodd ei goelbren yn y diwedd. Er bod rhai unigolion felly yn fodlon ymuno yn yr alwad am Senedd i Gymru megis Alfred Thomas, David Randell AS Gwyr, Herbert Lewis AS Bwrdeistrefi’r Fflint a David Lloyd George, rhyw leisiau ynysig oedden nhw mewn gwirionedd.

Ceisiwyd rhoi trefn ar yr ymgyrchu ganol 1895 drwy benodi Alfred Thomas yn Gadeirydd y Gynghrair Cenedlaethol a Beriah Gwynfe Evans yn Ysgrifennydd.  Fodd bynnag brau oedd ymlyniad llawer o gynrychiolwyr y De i’r syniad o Gynghrair Unedig ac fe ddaeth y cyfan i ben mewn cyfarfod a gynhaliwyd yng Nghasnewydd ym mis Ionawr 1896. Gwrthododd y cynrychiolwyr pob ymgais gan Lloyd George i sicrhau undod y Gynghrair Genedlaethol. Fe ddywedodd Robert Bird, llywydd Rhyddfrydwyr Caerdydd – a pherchennog cwmni distyllu tar glo – na fyddai Rhyddfrydwyr y De yn ildio i syniadau Cymreig!

Mae rhai haneswyr, ychydig yn arwynebol efallai, yn dod i’r casgliad syml mai rhwyg rhwng Rhyddfrydwyr gwledig Cymraeg eu hiaith a Rhyddfrydwyr trefol a dinesig Saesneg eu hiaith oedd prif reswm methiant Cymru Fydd. Ond fel y dadleua John Davies yn Hanes Cymru, mae ‘na fwy iddi na hynny. Ie mae ‘na wrthdaro rhwng y bywyd gwledig a threfol ond hefyd rhwng radicaliaeth, yn ymylu ar fod yn sosialaeth Tom Ellis a’r Lloyd George ifanc a cheidwadaeth arweinwyr y Rhyddfrydwyr yn ninasoedd y De. Byddai’r asiad rhwng radicaliaid y gogledd ac egin sosialwyr y De wedi bod yn gymhathiad llawer haws. Yn y pendraw, roedd ymlyniad Lloyd George ac eraill i’r Blaid Ryddfrydol yn gryf, a ‘doedd gwreiddiau syniadaeth Cymru Fydd ddim yn ddigon dwfn nac yn ddigon llydan i’w denu i’r gorlan honno yn llwyr. Er bod mudiad Cymru Fydd wedi llusgo ‘mlaen am flwyddyn neu ddwy yn dilyn ffiasgo Casnewydd, i bob pwrpas ‘roedd y cyfan ar ben. 

Er mai methiant fu ymdrechion arweinwyr Cymru Fydd, rhaid cydnabod hyd 1886 ‘doedd na neb, ar lefel seneddol, wedi bod yn ddigon dewr i godi achos Cymru fel hyn cyn hynny. Gwelwyd Tom Ellis fel arweinydd deallusol y mudiad, a Lloyd George yn ddiweddarach fel arweinydd ymgyrchol. Rhaid cofio hefyd mae gwrthblaid oedd y Blaid Ryddfrydol pan etholwyd Tom Ellis gyntaf, ac yn wir felly y bu am y rhan helaethaf o’i yrfa seneddol. Mae rhai haneswyr yn dadlau fod y blaid honno wedi cyrraedd ei huchafbwynt yn gynnar yn 1886, ac wedi iddi golli etholiad y flwyddyn honno, ni fu pethau ‘run fath. Cafodd ychydig o ail wynt yn nechrau’r C20 ond wedi i Lloyd George golli ei swydd fel Prif Weinidog yn 1922 yn yr anialwch gwleidyddol y bu hi wedyn.

I ba raddau fodd bynnag bu mudiad Cymru Fydd yn bont a arweiniodd at sefydlu Plaid Cymru yn 1925 ac a arweiniodd at sicrhau Cynulliad yn 1997 a Senedd yn 2011? A pham yr oedd cymaint o fwlch rhwng 1896 a 1925?

O edrych yn frysiog ar y 30 mlynedd, mwy neu lai, rhwng cyfarfod tanllyd ola’ Cymru Fydd a sefydlu’r Blaid, mae ychydig o bethau yn haeddu sylw. Un peth sy’n werth ei nodi ydi’r ddeddf i ddatgysylltu’r Eglwys wladol a sefydlu’r Eglwys yng Nghymru yn 1920. Mi gymrodd dros 70 o flynyddoedd i’r ymgyrch gyrraedd ei phenllanw, sy’n dangos pa mor anodd oedd sicrhau unrhyw newid o sylwedd drwy’r Senedd yn Llundain. O holl ymgyrchoedd cenhedlaeth Cymru Fydd, datgysylltu’r eglwys a sefydlu Prifysgol Cymru yw’r unig ddau a lwyddodd, er bod rhyw gymaint o welliannau wedi ei sicrhau yn y gyfundrefn addysg drwyddi draw, yn ogystal â gweld sefydlu Adran Gymreig oddi mewn i’r Bwrdd Addysg yn 1907 a Bwrdd Iechyd Cymru yn 1919. Penodwyd O.M. Edwards yn Brif Arolygydd Ysgolion yng Nghymru ac yntau’n brwydro dros sicrhau dysgu’r Gymraeg yn yr ysgolion. Fodd bynnag Saesneg oedd cyfrwng addysg yr ysgolion, yn enwedig ysgolion uwchradd. Yn y cyfnod hwn, sefydlwyd rhai sefydliadau cenedlaethol megis y Llyfrgell Genedlaethol a’r Amgueddfa Genedlaethol.

Dau enw sy’n werth sylw iddynt yn y cyfnod hwnnw ydi E.T. John a fu’n aelod seneddol Dwyrain Dinbych rhwng 1910 a 1918, a J. Arthur Price. ‘Roedd John yn genedlaetholwr brwd ac fe gyflwynodd fesur hunanlywodraeth yn y Senedd ym mis Mawrth 1914, ac wrth gwrs nid aeth y mesur yn bell iawn. Gwrthod ymuno â’r Blaid newydd yn 1925 a wnaeth John, gan gadw ei deyrngarwch i’r Blaid Lafur ar ôl gadael y Rhyddfrydwyr yn 1918. Er hynny mae J. E. Jones yn honni iddo droi at y Blaid ‘yn ei hen ddyddiau’. 

Bargyfreithiwr oedd J. Arthur Price ac fe ddaeth yn genedlaetholwr brwd gan ysgrifennu nifer o erthyglau ar Gymru i’r Genedl Gymreig, y Welsh Outlook a’r Ddraig Goch. Ysgrifennodd erthygl feirniadol iawn ar Tom Ellis gan ei gyhuddo o werthu ei egwyddorion wedi iddo gymryd swydd fel Chwip yn Llywodraeth Gladstone yn 1892. Er ei fod yn Uchel Eglwyswr, yr oedd yn gefnogol iawn i achosion Cymreig a bu’n gohebu efo Saunders Lewis.

Dylid nodi fod tair cynhadledd ar ymreolaeth wedi’u cynnal yn 1918, 1919 a 1922 ond ni ddeilliodd fawr ddim ohonynt. Cynhaliwyd Cynhadledd Llefarydd (Speaker’s Conference) ar ddatganoli yn 1919 ond ni chafwyd fawr o gytundeb ar y ffordd ymlaen efo’r Llefarydd yn cefnogi sefydlu Uwch Cynghorau yn unig i Gymru, yr Alban a Lloegr. Yn 1922, fe gyflwynwyd mesur i sefydlu Senedd Ddeddfwriaethol i Gymru gan Robert Thomas, Aelod Seneddol Wrecsam, ond methiant fu ei ymdrechion. Gyda llaw bu Robert Thomas yn AS Môn yn ddiweddarach.

A dyna ni’n dod at sefydlu Plaid Genedlaethol Cymru ym mis Awst 1925, gan mlynedd yn ôl i’r mis hwn. Gan mai llwyddiannau cymharol fach, er nad yn hollol ddibwys, oedd rhai Cymru Fydd a methiant ar y cyfan fu’r ymdrechion i ddadlau o blaid achosion Cymreig yn Senedd Llundain, ymwrthod â gwleidyddiaeth Brydeinig a wnaeth y blaid newydd. Er bod rhai, gan gynnwys J.E Jones, yn gweld Cymru Fydd yn fudiad rhagarweiniol, gweld yr angen i ymbellhau oddi wrth fethiannau’r mudiad oedd eraill.

Dangos pellter oedd bwriad Saunders Lewis drwy ddadlau y dylid torri pob cysylltiad â’r pleidiau Prydeinig. Ym marn Saunders, ni ddaethai ddim i Gymru drwy’r Senedd Seisnig. Meddai Lewis Valentine ‘Mae rhai yn mynnu bod y blaid newydd yn gyfystyr a’r hen blaid Ryddfrydol mewn ffurf newydd. Ond ni ellir ei wadu’n gryfach na dweud nad oes unrhyw gysylltiad rhyngddo a’r hen bleidiau’. Credai D.J. Williams na ddylai’r blaid fynegi safbwynt ar drafodaethau’r Senedd yn Llundain, meddai ‘Rwyf o’r farn na ddylai’r Blaid ymyrryd o gwbl ym materion y Senedd Seisnig’. Ac fel y cyfeiriais eisoes, meddai Griffith John Williams ‘Yr oedd hi’n hanfodol sefydlu Plaid Wleidyddol Gymreig’. Safbwynt cynnar ‘Sinn Feinaidd’ y Blaid newydd oedd na ddylid cymryd sedd yn San Steffan pe byddid yn ennill etholiad.

Fodd bynnag wrth i elfen o realpolitik dreiddio i ymwybyddiaeth y Blaid wedi etholiad 1929 – ac ymgeisyddiaeth Lewis Valentine denu 609 o bleidleisiau – fe ddechreuodd y polisi o arwahanrwydd lacio’i afael ac aelodau’r blaid yn mynnu y byddai’n rhaid mynd i San Steffan a chymryd y Senedd fel llwyfan i ddadlau achos Cymru. Ac fe welwyd teimladau fwy cymysg tuag at ymdrechion Cymru Fydd yn dechrau ymddangos. Yn wreiddiol, wfftio ymdrechion pobl fel Tom Ellis a wnâi Lewis Valentine yn nyddiau cynnar y blaid, a hynny’n fwriadol. Rhaid oedd creu pellter gwirioneddol er mwyn cyfiawnhau’r ddadl o blaid sefydlu plaid newydd, a dyna beth fyddem ninnau wedi’i wneud hefyd mae’n siŵr. Ond wrth i bethau setlo, fe newidiodd safbwyntiau rhai o’r aelodau cynnar. Fe adolygodd Lewis Valentine lyfryn a gyhoeddwyd gan Blaid Cymru yn 1956, sef Triwyr Penllyn. Cynnwys y llyfryn oedd tair pennod ar gyfraniadau Michael D. Jones, O. M. Edwards a Tom Ellis i fywyd Cymru. Yr awduron oedd Gwenallt, Saunders Lewis a Gwenan Jones. Gwenan Jones gyda llaw oedd y ferch gyntaf i sefyll mewn etholiad cyffredinol ar ran y blaid. Dywed Lewis Valentine am y llyfr ei fod yn un ‘i roddi tipyn o haearn yn y gwaed a thipyn o ddur yn ein hasgwrn cefn’ yn y frwydr yn erbyn boddi Capel Celyn.

Pan ddewiswyd Gwynfor Evans yn ymgeisydd y Blaid ym Meirionnydd ar gyfer etholiad 1945, gwelodd ei hun yn llinach Michael D. Jones, R.J. Derfel a Tom Ellis. Gwnâi’r Dydd, papur wythnosol yn ardal Dolgellau, gymhariaeth rhwng Tom Ellis a Gwynfor gan eu disgrifio fel ‘Dau ŵr ifanc ysbryd addfwyn a charuaidd ond cedyrn er hynny.’ Cymharodd Llwyd o’r Bryn safiad Gwynfor dros Gapel Celyn yn union fel safiad Tom Ellis dros ‘ferthyron’ Rhyfel y Degwm. Ond i roi safbwynt cytbwys o farn Gwynfor am Tom Ellis, meddai yn ‘Aros Mae’:

Hon (ei benderfyniad i gymryd swydd yn llywodraeth Gladstone) oedd y weithred unigol a wnaeth fwyaf i atal datblygiad plaid annibynnol Gymreig, ac felly rhwystro’r mudiad dros hunanlywodraeth.

Meddai wedyn:

Hawdd beio Tom Ellis yn awr, ond rhaid cofio nad oedd cenedlaetholdeb Cymreig ond ifanc pryd hynny, ac mai rhesymol oedd iddo gredu y gellid sicrhau enillion mawr i Gymru wrth weithio oddimewn i’r sistem.

Beth felly meddwn ni erbyn hyn oedd y cysylltiad rhwng mudiad Cymru Fydd a sefydlu Plaid Cymru yn y cyfarfod hwnnw ym Mhwllheli ar y 5 Awst 1925, gan mlynedd i echdoe? O ystyried geiriau’r rhai a oedd ym Mhwllheli yn 1925, fawr ddim. Eu bwriad nhw, bryd hynny, oedd creu cymaint o fwlch a oedd yn bosibl rhyngddyn nhw ac arweinwyr Cymru Fydd. Fel arall, sut y medran nhw gyfiawnhau sefydlu plaid annibynnol Gymreig a’r polisi gwreiddiol o wrthod gwneud dim a Senedd Lundain? Hyd y medraf i ei weld ni newidiodd Saunders Lewis ei farn am Gymru Fydd o gwbl.

Ond wrth i bethau ddatblygu, a Phlaid Cymru ddod yn blaid wleidyddol gyfansoddiadol dechreuodd y safbwynt newid. Os cymrwn ni eiriau J. E Jones, Lewis Valentine yn 1956 a Gwynfor ei hun, ‘roeddent yn derbyn fod sefydlu Cymru Fydd yn 1886, y mudiad cyntaf mewn canrifoedd i ddadlau am hunanlywodraeth i Gymru, am greu sefydliadau Cymreig a chynyddu’r ymwybyddiaeth o genedligrwydd ymhlith y Cymry, wedi creu’r amgylchiadau lle gellid sefydlu plaid Gymreig yn yr ugeinfed ganrif. Gan mai bregus oedd gafael Cymru Fydd ar y genedl, ac mai nifer gymharol fach o Aelodau Seneddol Rhyddfrydol oedd yn ei gefnogi mewn gwirionedd, ddim mwy na rhyw 5 ar y mwyaf, dim rhyfedd iddo fethu.

Ond o leiaf, mi roedd y drafodaeth wedi dechrau, a dysgu gwersi methiant Cymru Fydd oedd un o brif amcanion y Blaid newydd. Plaid a’i theyrngarwch i Gymru a heb gysylltiad â’r pleidiau Prydeinig oedd hi. Er mai bychan ac araf oedd ei thwf, yr hyn sy’n rhyfeddol amdani yw ei bod wedi cynnal ei bodolaeth am ganrif ac erbyn hyn, yn ôl rhai polau piniwn, o fewn cyrraedd i arwain Llywodraeth Cymru am y tro cyntaf.  

A fyddai Plaid Cymru wedi ei sefydlu yn 1925 pe na bai Cymru Fydd wedi dechrau’r drafodaeth? Cwestiwn amhosibl ei ateb wrth gwrs. Y cyfan dwi am fentro dweud ydi, bod syniadaeth a dylanwad Cymru Fydd wedi bod yn help i grisialu athroniaeth gynnar y Blaid, a chreu’r gofod i blaid newydd ddatblygu. A methiant Cymru Fydd roddodd iddi’r sicrwydd mai drwy sefydlu plaid annibynnol oedd yr unig ffordd

                                                                                                                               

                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                  

Llinell Amser hanes Plaid Cymru 1925-2025

Linc > Archif

Noson Lansio’r llyfr ‘Dros Gymru’n Gwlad’

“Dros Gymru’n Gwlad – Hanes Sefydlu Plaid Cymru”.

Ar 17 Gorffennaf 2025 daeth yr awduron Arwel Vittle a Gwen Gruffudd i Adeilad y Pierhead i drafod eu llyfr newydd gyda Karl Davies mewn achlysur a noddwyd gan Mabon ap Gwynfor AS ac a drefnwyd gan Gymdeithas Hanes Plaid Cymru.

Dyma gyfle i chi wrando ar y sgwrs hynod ddiddorol ar sefydlu Plaid Cymru yn y cyfnod cyn 1925.

Diolch i Senedd Cymru am ddarparu’r cofnod.

 

 

Dathlu Can Mlynedd Plaid Cymru ym Mhwllheli

Dydd Sadwrn, 21 Mehefin, 2025 dathlwyd can mlynedd ers sefydlu Plaid Cymru mewn Rali ym Mhwllheli.

Daeth torf i ddathlu a chlywed areithiau ar sgwâr y dref.

Dyma araith Dafydd Wigley –

Anerchiad Canmlwyddiant y Blaid: Pwllheli, Mehefin 2025

Gyfeillion a chyd- genedlaetholwyr!

Bydd Prif Weinidog nesaf Cymru yn fy nilyn – a dwi’n siwr y bydd Rhun yn edrych mlaen at etholiadau fis Mai nesaf. Felly dwi am edrych yn ôl, sy’n addas iawn  wrth ddathlu canmlwyddiant y Blaid.

Canrif nôl i heddiw, roedd  fy mam yn byw tri-chan llath o’r man yma; ei mam hithau’n Lywydd Merched Rhyddfrydol Pwllheli,  efo Lloyd George yr AS lleol.

Hanner canrif yn ôl, roeddwn innau’n newydd f’ethol fel AS y fro ac yn ceisio cyflawni yr hyn a fethodd LlG ei wneud – sef cael  Senedd i Gymru.

Ac mae’n  dda gallu deud i Bwllheli gael ei chynrychioli byth oddi ar hynny, gan ASau Plaid Cymru – yn San Steffan ac yn Senedd Cymru – Hywel Williams, Alun Ffred Jones, Dafydd Elis Thomas ( y diweddar, ysywaeth), Elfyn Llwyd, Liz Saville Roberts a Mabon ap Gwynfor; ac os ydi hynna’n dangos diffyg cyfartaledd, does gennyf ddim amheuaeth y bydd Sian Gwenllian a Becca Brown yn ymuno â nhw fis Mai; a does wybod y gwelwn Elin Hywel yno hefyd cyn hir.

A felly, dyma ni, heddiw, ar drothwy cyfle realistig i’r Blaid, fis Mai nesaf, arwain Llywodraeth nesaf  Cymru.

A bydd  y cyfrifoldeb ar ysgwyddau Rhun i  dywys yr hen genedl hon tuag at yr Annibyniaeth y bu Cymru’n dyheu i’w had-ennill byth oddi ar dyddiau Owain Glyndwr.

A, gyda llaw, mae’r Blaid hefyd yn parhau i reoli Cyngor Gwynedd; a dymunwn pob llwyddiant i’r Cynghorydd  Nia Jeffreys, ein harweinydd newydd yn ei gwaith pwysig.

Mae  crynhoi canrif o hanes y Blaid mewn cwta deng munud yn amhosibl. Felly dwi am sôn am gyfraniad rhai o brif gymeriadau’r Blaid – dynion a merched na ddylem fyth anghofio  eu hamrywiol gyfraniadau, o’r dyddiau cynnar; pobl a osododd y sylfaeni i dyfu i’r safle  gynhyrfus  ble cawn ein hunain heddiw.

Y cyntaf fydd y mwyaf yn ein mysg: Saunders Lewis, a ddiffiniodd cenedlaetholdeb Cymreig  mewn termau gwerthoedd diwylliannol, a hynny’n benodol o fewn cyd-destun Ewrop.

Yn ei ddarlith fawr,  yn Ysgol Haf gynta’r Blaid ym 1926, diffiniodd Saunders nod y Blaid Genedlaethol , sef Hawlio i Gymru  “ le  yn  Seiat y Cenhedloedd, ac yn Seiat Ewrop, yn rhinwedd gwerth ei gwareiddiad.”

Peidiwn byth golli gafael ar hyn: mae ein gwareiddiad yn cynnwys ein hiaith a’n llenyddiaeth yn y ddwy iaith ;  yn cynnwys ein cerddoriaeth, ein harlunwaith; ein crefydd ac yn arbennig, ein gwerthoedd cymdeithasol neilltuol a’n nod o hyrwyddo economi i wasanaethu’r gymuned.

Mynnwn annibyniaeth fel cyd-destun hanfodol i ni warchod a chyfoethogi   gwareiddiad unigryw ein cenedl.

Cynhaliwyd yr Ysgol Haf cyntaf yng nghysgod Senedd-dŷ Owain Glyndwr ym Machynlleth. Cynnal  ysgol haf oedd un o ddau benderfyniad allweddol a wnaed gan y Blaid yn ei blwyddyn gyntaf.

Y llall – eto dan ddylanwad Saunders – oedd i gyhoeddi papur newydd misol uniaith Gymraeg, y Ddraig Goch, a ddaeth yn brif  gyfrwng i ddatblygu syniadaeth y Blaid.

Ni allai plaid fechan newydd, gyhoeddi papur o’r math heb adnoddau ariannol sylweddol:  a’r un a wnaeth hyn yn bosib oedd y Fonesig Mallt Williams, Llandudoch , a dalodd arian cyson – canpunt ar y tro, tro ar ôl  tro, canput pryd hynny yn £7000 yn arian heddiw – hyn i gynnal y Ddraig Goch, a Swyddfa Ganol y Blaid. Mallt Williams sy’n haeddu ei lle yn oriel anfarwolion y Blaid.

Ond tydi papur newydd werth dim oll, heb bolisïau allweddol  i dyfu’r Blaid. A’r  bobl a wnaeth mwy na neb i ddatblygu ein gwerthoedd cymdeithasol ac economaidd oedd D. J Davies, mab i löwr o sir Gaerfyrddin, a’i wraig – Gwyddeles – Dr Noelle Davies.

Mae ei lyfr “Towards an Economic Democracy” – yn gweld sosialaeth cymunedol yn  ganolog i werthoedd ein gwlad, a syniadau Robert Owen yn perthyn i ni hefyd.

Ac mae’n werth dyfynnu, o’r deg pwynt polisi a gyhoeddodd Saunders Lewis yn 1933, pwynt 3 :

Y mae cyfalafiaeth ddiwydiannol a chystadleuaeth economaidd, rydd oddi wrth reolaeth llywodraeth gwlad, yn ddrwg dirfawr, ac yn gwbl groes i athrawiaeth cenedlaetholdeb cydweithredol.….”

Peidied neb a chyhuddo Saunders Lewis o fod yn adain dde adweithiol: rwtsh llwyr ydi hynny, fel y mae Richard Wyn Jones wedi dangos yn eglur yn ei lyfrau ar y testun; a diolch, Dicw, am dy ddewrder yn codi llais.

Ni allwn ddathlu canmlwyddiant heb dalu clod i ymgeisydd seneddol cyntaf Sir Gaernarfon, Lewis Valentine a safodd ym 1929, gan gasglu 609 pleidlais.

Valentine oedd  un o’r chwech a ddaeth ynghyd ym Mhwllheli yn Awst 1926, yn cynrychioli “Ffrwd y Gogledd” a chafodd ei ethol yn Lywydd cynta’r Blaid. Un oedd i fod yn y cyfarfod cyntaf hwnnw, oedd D J Williams, Abergwaun; – ond roedd ei drên yn hwyr!

 Dychwelodd  Saunders, DJ a Valentine  i Bwllheli, ym Medi 1936, i losgi adeilad pren ar safle’r Ysgol Fomio, ger Porth Neigwl. Gweithred symbolaidd, a arweiniodd at garcharu’r tri yn Wormwood Scrubs am naw mis.

 Roedd y  cyfarfod croeso iddynt yn hen bafiliwn  Caernarfon, ar ôl eu rhyddhau,  efo dros 12,000 yno i dalu teyrnged iddynt.

Dywedir, pe bai Saunders wedi dewis taflu matsian i’w canol, y gallai fod wedi tanio chwyldro; ond nid dyna dull gweithredu, y Blaid hon.

Mae un o’r tri hyn, D.J Williams yn haeddu ei le yn oriel anfarwolion y Blaid am reswm arall. Ym 1966,  ef a ddaeth i’r adwy pan oedd y Blaid yn wynebu mynd yn fethdalwyr. Roeddem wedi methu a chlirio dyledion etholiad siomedig 1964 a daeth etholiad arall pen deunaw mis.

Roedd y Blaid yn wynebu peidio a sefyll yn yr etholiad honno ym Mawrth 1966 – a D. J Williams achubodd y dydd, gan werthu ei hen gartref teuluol, yn Sir Gaerfyrddin,  gan rhoddi’r cyfan o’r £2,000 a gafodd, I’r Blaid.

 Roedd ei haelioni yn dod a gwynt i hwyliau ymgyrch Gwynfor Evans, yng Nghaerfyrddin, a chododd ei bleidlais o bum mil a hanner  i saith mil a hanner;   a da hynny. Oherwydd o fewn dau fis yr oedd yr AS, Megan Lloyd George, wedi marw. A dyma ni, yn isetholiad Caerfyrddin, ar 16 Gorffennaf 1966, pan gipiodd Gwynfor Evans y sedd, ac yn creu hanes drwy ddod yn AS cynta’r Blaid.

Wrth gofio haelioni digyfaddawd DJ,– a ninnau yma ym Mhwllheli, mae’n werth hefyd gofio’r  Cynghorydd Herbert Thomas, Llannor, un o hoelion wyth Cyngor  Dwyfor.

Pan fu farw yn yr wythdegau, gadawodd bron y cyfan o’i eiddo, i’r Blaid yng Ngwynedd, rhodd fyddai  gwerth dros chwarter miliwn o bunnoedd  yn arian heddiw.

Os ydan ni’n credu mewn annibyniaeth, rydan ni hefyd yn gorfod dangos ein parodrwydd i godi’r adnoddau  hanfodol i droi’r Blaid yn rym etholiadol ledled Cymru.

Os ydi Rhun a’r tîm am ennill etholiad Senedd Cymru, mae angen rhoddion o’r math; ac apeliaf i bawb yn y Blaid sydd mewn sefyllfa i efelychu D J Williams a Herbert Thomas,  i wneud hynny ar fyrder – a does dim rhaid marw i ddangos haelioni! 

Gwynfor oedd symbyliad y deffroad gwleidyddol yn y chwedegau, gyda’i fuddugoliaeth yn dod ar gynffon y deffroad hawliau iaith a ddeilliodd o ddarlith radio Saunders Lewis ym 1962.

Rhyngddynt daeth y deffroad iaith a’r deffroad wleidyddol i gyd-gerdded drwy’r chwedegau a’r saith degau, hyd at refferendwm trychinebus 1979.

 Ac, yn sgil hynny,   Gwynfor wnaeth y safiad dros S4C a sicrhaodd nid yn unig sianel deledu i’r iaith Gymraeg, ond hefyd yr hunanhyder i ni fel cenedl, i herio holl werthoedd Maggie Thatcher a’I chriw.

Ac eilun arall o bleidiwr, Dafydd Iwan, a osododd ein gwerthoedd a’n  dyheadau ar gan – neges yr ydym yn dal i ganu; rydan ni “Yma o hyd”.

Ac am hyn ac am bob safiad arall dros Gymru, rhaid gosod Dafydd Iwan ar restr anfarwolion y Blaid wrth ddathlu ein canmlwyddiant.

 Roedd Gwynfor yn San Steffan, byth a beunydd,  yn edliw nad oedd y Blaid yn llwyddo i gael menywod  yn aelodau seneddol; hyn o weld yr SNP efo Winnie Ewing, Margo Macdonald; a Maggie Bain yn Nhy’r Cyffredin.

Pam nad oedd hyn yn bosib i’r Blaid, meddai? Wel, fe gymerodd yn hirach nag oedd Gwynfor yn disgwyl, ond o’r hir hwyr mae gennym dair ardderchog – Liz, Llinos ac Ann – yno bellach, i gadw’r  Ben Lake, Aelod disglair Ceredigion, yn ei le!  

 Ac felly hefyd y menywod yn Senedd Cymru – Elin, Delyth, Heledd, Sioned a Sian, sy’n siapio  – yn nhîm y Blaid dan arweinyddiaeth Rhun – i gymryd y cyfrifoldeb o arwain ein Plaid i lwyddiant pellach yn ein hail ganrif; ac yn barod i arwain llywodraeth ein gwlad.

Dyma’r ffordd o ddathlu ein canmlwyddiant: I’r Blaid  ddod y Blaid fwyaf yn ein senedd; ac os ydi’n amhosib cael mwyafrif dros bawb efo’r system STV, yna  dangos yr un arweiniad a ddaru Alex Salmond a’ r SNP yn 2007, efo  ond un sedd mwy na Llafur,  i lywodraethu mor llwyddiannus, iddynt yn 2011 gael mwyafrif dros bawb.

 Dyna roddodd iddynt yr hawl i fynnu refferendwm ar Annibyniaeth. Ac fe allwn ni, dan arweinyddiaeth Rhun,  wneud  llawn cystal, a gwell.

Felly, o’r rali hanesyddol hon, awn ati i droi pob  carreg, fel y bydd ail ganrif y Blaid – yn fuan iawn – yn troi’n gyfle am annibyniaeth; ac o gael y cyfle, gyda n gilydd, dros Gymru, awn  rhagom i ailadeiladu’r hen genedl hon, a hynny yn rhinwedd gwerth ein gwareiddiad!

Diolch yn farw!

 

 

Llyfryn am Saunders Lewis

Mae Sefydliad Coppieters, mewn cydweithrediad â Fundació Josep Irla, wedi cyhoeddi pedwerydd rhifyn o Political Lives sy’n ymroddedig i Saunders Lewis (1893–1985).
 

 
Dolen i archebu’r rhifyn > Linc
 
Roedd Lewis yn wleidydd, awdur, academydd ac ymgyrchydd amlwg o Gymro y bu ei fywyd a’i waith yn llunio hunaniaeth ddiwylliannol a gwleidyddol Cymru yn sylweddol.
 
Wedi’i eni yn Lloegr i rieni oedd yn siarad Cymraeg, tyfodd Lewis i fyny wedi’i ymgolli yn yr iaith a’r diwylliant Cymraeg er gwaethaf ei amgylchedd.
 
Ar ôl gwasanaethu fel is-gapten yn y Rhyfel Byd Cyntaf, dilynodd addysg uwch, gan ennill graddau mewn Saesneg a Ffrangeg, ac yn ddiweddarach gradd Meistr yn canolbwyntio ar ddylanwad barddoniaeth Saesneg ar awduron Cymru.
 
Roedd ei yrfa gynnar fel darlithydd yng Ngholeg Prifysgol Abertawe yn gyfnod cynhyrchiol yn ei ddatblygiad llenyddol a gwleidyddol, ac yn ystod y cyfnod hwnnw ysgrifennodd ddramâu, traethodau a beirniadaethau a osododd y sylfaen ar gyfer ei athroniaeth genedlaetholgar.
 
Ym 1925, cyd-sefydlodd Blaid Cymru, y blaid genedlaethol Gymreig, gan eiriol dros gymdeithas sy’n siarad Cymraeg ac ymreolaeth rhag imperialaeth Brydeinig. Fe’i hystyrir hyd heddiw yn un o sylfaenwyr pwysicaf y mudiad Cymreig ac yn gyfeirnod y mae ei syniadau a’i esiampl wedi llunio Cymru hyd heddiw.
 
. . . Cefnogir y papur hwn yn ariannol gan Senedd Ewrop. Nid yw Senedd Ewrop yn atebol am gynnwys na barn yr awduron.
 

 

Cofio O.P. Huws 1943 – 2025

COFIO O.P. HUWS

Ar ran aelodau Cangen Dyffryn Nantlle.

Roedd O.P. yn ysbrydoliaeth i ni i gyd; yn arweinydd wrth reddf ac yn llawn hwyl a direidi. Gweithiodd yn ddiflino ar gynghorau ac yn y gymuned dros les pobl y Dyffryn, i hybu cyfleon gwaith ac i warchod y Gymraeg a’n hetifeddiaeth. Dyn y bobol oedd yn gwneud y ‘pethau bychain’ ond un a oedd yn gweld ymhell. Bu ardal Nebo a Dyffryn Nantlle yn ffodus o gael y fath arian byw o gymeriad yn ein plith.

Doedd O.P. byth yn llonydd. Roedd gormod i’w wneud. Un o’i ddywediadau mynych oedd, “Os wyt ti isio rwbeth wedi’i wneud, gofyn i ddyn prysur.” A roedd O.P. yn ddyn prysur.

Ei arwr mawr oedd Wmffra Roberts, – Cynghorydd Sir ac Asiant Dafydd Wigley yn Etholiad Cyffredinol 1974. Dyn carismataidd ac yn ysbrydoliaeth i lawer. Roedd gan O.P. ddigon o dân yn ei fol fel Cymro ond dangosodd Wmffra iddo sut i sianelu hynny i ennill pleidleisiau, ennill etholiadau ac ennill calonnau gwerin gwlad.

A dyn pobol oedd O.P. A dyn y bobol; yn gwneud efo pawb. A nid rhyw genedlaetholdeb ‘welwch-chi-fi’ oedd un O.P. – ond un ymarferol. Dyn oedd yn cychwyn wrth ei draed bob amser.

Mewnlifiad i Nebo? Un ateb oedd creu Cymdeithas Fro i geisio cymhathu’r newydd ddyfodiaid. A dechrau dosbarth dysgwyr.

Prisiau tai yn codi’n afresymol? Trefnu protest yn Nebo ac yna meddiannu tir tŷ cyfagos oedd ar werth am grocbris a chysgu mewn pabell ar y lawnt i dynnu sylw at yr argyfwng. A hynny’n codi gwrychyn cymdogion wrth gwrs.

Sylwi wrth ganfasio rhyw bentref bod y boblogaeth yn heneiddio a diffyg teuluoedd ifanc. Be wnaethen ni? Sefydlu Antur Nantlle a blynyddoedd o bwyllgora a threfnu. Ond bellach mae dros gant o bobl yn gweithio yn swyddfeydd a gweithdai’r Antur.

Ond nid hynny’n unig.Pan ddaeth ymgyrch dros sefydlu Sianel Deledu Gymraeg gwrthododd dalu’r ffi drwydded, – fo a’i gyfaill Bryn Mosely o Nebo, a’r ddau yn cael cyfnod yn Walton. Byddai’r straeon yn llifo am ei arhosiad byr yn y carchar a’r ‘cymeriadau’ ymhlith ei gyd letywyr. Ond roedd yna hefyd gydymdeimlad dwfn efo’r rhai hynny oedd wedi eu dal mewn cylch di-ddiwedd o fod mewn ac allan o garchar. “Pa obaith oedd gynnyn nhw?” oedd ei gwestiwn.

Ond nid dyn i anobeithio oedd O.P. Roedd gormod i’w wneud a syniadau i’w gwireddu! Galwais i’w weld yn Bryngwyn pan oedd y cancr wedi ei gaethiwo ac er ei boen llifodd y sgwrs. Wrth adael dyma fo’n dweud, “Diolch am alw. Diolch am y sgwrs. I ble’r aeth y blynyddoedd dwed?” Doedd gen i ddim ateb wrth gwrs. Ond dw i’n gwybod un peth, sef bod Owen Pennant Huws wedi gwneud defnydd llawn o’i flynyddoedd o yn ei Ddyffryn mabwysiedig ynghanol ei deulu a’i gymdogaeth. Bydd bwlch mawr ar ei ôl.

 

Alun Ffred

 

 

Teyrnged i’r Arglwydd Dafydd Ellis Thomas 1946 – 2025

Teyrnged traddodwyd yn Angladd Yr Arglwydd Dafydd Ellis Thomas yn Eglwys Gadeiriol Llandaf ar 14 Mawrth 2025  gan Aled Eirug   

Rydym yma i ddathlu bywyd y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Dafydd Elis-Thomas o Nant Conwy – a oedd yn fwy adnabyddus i’r mwyafrif ohonom ni yma, fel ‘Dafydd Êl’. Fe’i ganed ar y 18fed o Hydref 1946, a bu farw ar y 7fed o Chwefror 2025.

Mae e wedi ei gydnabod fel un o wleidyddion mwyaf dylanwadol Cymru dros yr hanner can mlynedd diwethaf, yn ‘garreg sylfaen’ Senedd Cymru ac yn gawr gwleidyddol.

Fe’i ganed yng Nghaerfyrddin, a’i fagu yn Llanrwst yn Nyffryn Conwy. Roedd ei dad, W. E. Thomas, yn weinidog amlwg gyda’r Presbyteriaid, a’i fam, Eirlys, yn arweinydd diwylliannol yn ei chymuned. Mewn cyngherddau capel ac ysgol, roedd Dafydd yn blentyn aeddfed cyn ei amser; fe’i hyfforddwyd i berfformio’n gyhoeddus, ac o’i ddyddiau cynnar, magodd y gallu i ddadlau’n gyhoeddus. Ei gof gwleidyddol cyntaf oedd yr ymgyrch o blaid Senedd i Gymru yn y 1950au, a bechgyn Llanrwst yn cael eu hanfon i’r Fyddin dan orfodaeth milwrol, adeg argyfwng Suez.

Yn 1958, daeth yn aelod o CND, ac yn 1962, ymunodd â Phlaid Cymru. Yn 1964, aeth i Brifysgol Bangor, lle, fel myfyriwr hynod o ddisglair, yr enillodd radd dosbarth cyntaf yn y Gymraeg, a chlod fel dadleuwr cyhoeddus galluog, gwleidydd myfyrwyr a beirniad llenyddol craff.

Fel cadeirydd adran ieuenctid Plaid Cymru, gwrthwynebodd Arwisgiad Tywysog Cymru yn 1969, yn eirionig ddigon ag ystyried y cyfeillgarwch cynnes a ddatblygodd rhwng Dafydd a’r Tywysog Charles yn ddiweddarach. Yn Chwefror 1974, enillodd Dafydd sedd Meirionnydd a dod yn Aelod Seneddol ieuengaf Tŷ’r Cyffredin, yn 27ain mlwydd oed. Fel Aelod Seneddol egnïol ac ymgyrchydd gweithgar, cefnogodd argymhellion Llafur ar gyfer datganoli grym i Gymru, ond methu wnaeth yr ymdrech honno. Yn dilyn y siom, symudodd Plaid Cymru tuag at y chwith.

Yn Nhŷ’r Cyffredin, dangosodd ddewrder wrth wrthwynebu rhyfel y Falklands/Malvinas, a pharodrwydd i fod yn amhoblogaidd wrth symud y gwrit ar gyfer isetholiad Fermanagh a De Tyrone ar ôl marwolaeth ei Haelod Seneddol, yr ymprydiwr o’r IRA, Bobby Sands.

Yn 1984, daeth yn Llywydd ar Blaid Cymru. Arweiniodd hi i gefnogi streic y glowyr, ac uniaethodd gydag achosion mawr y degawd – gwrth-Thatcheriaeth, y mudiad iaith, Comin Greenham, a’r ymgyrch gwrth-apartheid.

Trwy gydol ei fywyd, bu ganddo gysylltiad agos gyda chefn gwlad. Roedd e’n gerddwr a rhedwr bwdfrydig yn ei thirwedd , ac yn gefnogwr cynnar i’r mudiad amgylcheddol.

Ar ôl 18 mlynedd yn Nhŷ’r Cyffredin, yn 1992, cymerodd y cam dadleuol o dderbyn sedd yn Nhŷ’r Arglwyddi ac fe’i penodwyd yn Gadeirydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg, lle sicrhaodd bod yr iaith yn cael ei gweld fel iaith i bawb, a’i bod uwchlaw gwleidyddiaeth plaid.

Ym Mai 1999, etholwyd Dafydd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, ac yn ddiamau, uchafbwynt mwyaf ei yrfa oedd dod yn Llywydd cyntaf y Cynulliad. Gweithiodd gyda’r Prif Weinidog, Rhodri Morgan, i wreiddio’r sefydliad newydd ym mywyd Cymru, a sicrhaodd gartref eiconig i’r Cynulliad – adeilad y Senedd, a enillodd wobrau am ei chynllun, sydd yn cyfleu egwyddorion democratiaeth dryloyw.

Daeth refferendwm 2011 â breuddwyd y Dafydd ifanc o Senedd ddeddfwriaethol yn fyw. Ar ôl iddo sefyll i lawr fel Llywydd y flwyddyn honno, gadawodd Blaid Cymru – ar ddiwrnod ei benblwydd yn saith deg oed – i ddod yn Aelod annibynnol. Yn 2017, fe’i penodwyd yn Weinidog dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth yn Llywodraeth Cymru – swydd yr oedd yn ei charu ac a oedd yn gwbl addas iddo fe.

Roedd yn ddrygionus, yn heriol, yn ddifyr a phryfoclyd, ond roedd Dafydd hefyd yn ddyn dwys a difrifol – cynhaliodd ei ddiddordeb mewn semioteg iaith, athroniaeth a’r celfyddydau, ac mewn crefydd; symudodd yn raddol o Galfiniaeth asgetig yr eglwys Bresbyteriadd, trwy ryddfrydiaeth yr Annibynwyr, i’r Eglwys yng Nghymru, lle bu’n ganon lleyg yma yn y Gadeirlan hon.

Credai ei gyfeillion hyd yn oed y gallai Dafydd fod yn anghyson yn ei farn wleidyddol – byddai e’n dadlau yn hytrach mai addasu i realiti gwleidyddol y cyfnod a wnai. Roedd yn graff, yn fywiog, yn rhyfeddol o swynol, yn gwrtais ac yn ysbrydoledig. Mae ei feirniaid wedi ei gymharu i gameleon gwleidyddol, a’i farnu am fethu ffrwyno ei hyblygrwydd deallusol. Yn sicr, gallai fod yn gyndyn a thynnu’n groes, ac roedd ei allu i gyflwyno barn wleidyddol anghonfensiynol yn medru bod yn rhyfeddol. Ond roedd yn driw i’w gred sylfaenol fod yr hyn a wnai er lles Cymru.

Deallodd yr angen i Blaid Cymru ymestyn ei thiriogaeth wleidyddol, ac fel Llywydd, gwyddai am bwysigrwydd sicrhau cyfreithlondeb y Cynulliad newydd, a gydnabyddid gan aelodau’r teulu Brenhinol er enghraifft, a fynychodd bob agoriad o’r Senedd.

Bu ei gyfrifoldebau cyhoeddus yn niferus, ond talodd bris amdanynt. Aberthodd amser gyda’r teulu ar gyfer anghenion ei blaid, Seneddau a’r cyhoedd. Daeth ei fuddugoliaeth etholiadol gyntaf yn 1974 fel sioc seismig iddo ef ac Elen, ac fe’i cafodd hi’n anodd i gydbwyso’r galwadau lu ar ei amser. Dywedodd un o’i feibion, yn gofiadwy, mai dull Dafydd o ymdopi oedd ‘byth i edrych yn y drych ôl – y rear-view mirror – ond wastad i edrych ymlaen.

Nid yn y byd cyhoeddus a gwleidyddol yn unig, wrth gwrs, y gwelir ei golli. Mae’n golled enfawr i’w deulu – i Mair, ei wraig, ei feibion Rolant, Meilyr a Cai, eu mam a chyfaill Dafydd, Elen, a’i wyrion – Mali, Osian, Llew a Bleddyn, sydd wedi colli taid cariadus.

Yn dilyn marwolaeth Dafydd, derbyniodd Mair gannoedd o lythyrau o gydymdeimlad. Hoffwn ddarllen darn o un llythyr yn unig:

‘Roeddwn i yn ofnadwy o flin i glywed y newyddion trist iawn am eich gŵr, ac roeddwn am ysgrifennu er mwyn anfon fy nghydymdeimlad dyfnaf posib. Ym mhopeth, daeth eich gŵr ag annibyniaeth meddwl a haelioni ysbryd, heb sôn am ei ffraethineb, a oedd yn arbennig o drawiadol i mi. Bydd ein bywyd cyhoeddus gymaint tlotach heb ei bresenoldeb meddylgar ac ysgogol.

‘Ychydig iawn o bobl sydd wedi cyfrannu gymaint i fywydau eu cenedl, mewn cymaint o feysydd, am gyhyd. Rwy’n gobeithio y bydd o gysur i chi yn eich colled, i wybod am y parch enfawr at eich gŵr sydd gan gymaint o bobl o bob rhan o gymdeithas.’

Teyrnged emosiynol ddofn gan y Brenin Charles, y bu i’w gyfeillgawrch gyda Dafydd barhau dros gyfnod o hanner can mlynedd.

Yn fy achos i, Dafydd oedd fy nghyfaill agosaf, weithiau yn gynghorydd doeth, ‘weithiau yn heriol, bob amser yn ddifyr’. , a dyn braf i rannu gwydraid o win gydag e. Gwleidydd dewr a beiddgar, carwr diwylliant a ieithoedd Cymru, a gwladgarwr i’r carn. Mae Cymru, ei deulu, a phob un ohonom ni, yn dlotach o’i golli. Fodd bynnag, diolchwn am fywyd llawn wedi’i fyw yn dda, a dathlwn Dafydd El, un o benseiri ein cenedl.

 

 

 

Teyrngedau i Emrys Roberts 1931 – 2025

EMRYS ROBERTS  1931-2025

Cenedlaetholwr a radical digyfaddawd a ddaeth yn arweinydd cyntaf Cyngor dan reolaeth Plaid Cymru.

Dafydd Williams

Y tro cyntaf i mi gwrdd ag Emrys Roberts oedd mewn sesiwn o’r Gymdeithas Ddadlau ym Mhrifysgol Caeresg, ble roeddwn i’n fyfyriwr economeg yn y chwedegau cynnar.  Cawsom araith effeithiol, gyda chryn dipyn o sôn am faterion rhyngwladol a’r bom niwclear.  Gyda’i wallt du cyrliog, dyma rywun llawn carisma, un o areithwyr huotlaf Plaid Cymru.  Ond yr hyn y cofiaf orau yw ei hiwmor cynnil wrth ddelio gyda chwestiynau pryfoclyd.   Mynnodd rhywun mai’r unig reswm dros ddymuno ennill hunanlywodraeth i Gymru oedd cael yr hawl i fynd i ryfel.  Na, meddai Emrys, cynllun y Blaid oedd palu ar hyd Clawdd Offa a thynnu Cymru mas i ganol yr Iwerydd!

Cafodd Emrys Roberts ei eni yn 1931, a’i fagu yn Leamington Spa.  Gyda’i dad yn hanu o Flaenau Ffestiniog roedd Cymraeg yn y teulu, ond Saesneg oedd iaith yr aelwyd – dysgodd Gymraeg yn drwyadl ar ôl i’r teulu symud i Gaerdydd yn 1941.  Yn ddeng mlwydd oed, aeth i Ysgol Uwchradd Cathays gan ymuno â’r dosbarth Cymraeg, a chael Elvet Thomas yn athro Cymraeg.

Yn ystod ei arddegau fe drodd yn genedlaetholwr pybyr, ond wastad yn un a fynnai dorri’i gwys ei hun.  Dangosodd yn gynnar ei gyfuniad o radicaliaeth a digrifwch: er iddo benderfynu nad oedd yn credu mewn Duw, daliai i fynychu’r capel ac fe’i penodwyd yn Ysgrifennydd yr Ysgol Sul – ar yr amod eu bod nhw’n deall ei fod yn anffyddiwr!  Treuliodd gyfnod yng ngharchar Caerdydd am ymwrthod ag ymuno â’r lluoedd arfog, a hynny ar sail cenedlaetholdeb.  Ar ôl ei ddiswyddo o’r gwasanaeth suful oherwydd ei safiad, aeth i’r Brifysgol yng Nghaerdydd a’i ethol yn Llywydd Undeb y Myfyrwyr ar gyfer y flwyddyn 1954/55.

Ymunodd â staff Plaid Cymru yn 1957, i ddechrau gyda’r dasg o drefnu’r ymgyrch i rwystro boddi Cwm Tryweryn.  Helpodd drefnu darlledu rhaglenni anghyfreithlon ar sianeli teledu’r BBC wrth i’w rhaglenni nhw gau i lawr am y noson, a safodd yn ymgeisydd San Steffan mewn nifer o etholaethau’r De.  Daeth yn Ysgrifennydd Cyffredinol y Blaid yn 1960: ychydig a wyddwn wrth wrando arno’n areithio yng Nghaeresg y byddwn innau’n dilyn yn ei gamau ymhen rhyw ddegawd.  Ond roedd ei gyfnod ef wrth y llyw yn y blynyddoedd cyn is-etholiad Caerfyrddin yn un anodd, gyda thyndra rhwng carfannau gwahanol yn y mudiad, gan orfodi Emrys i adael ei swydd yn 1964 yn dilyn ffrwgwd cyhoeddus.

Er hynny, gadawodd argraff fawr ar aelodau’r Blaid, yn enwedig yng nghymoedd De Cymru.  Ar ôl cyfnod yn trefnu eisteddfod ryngwladol yn ardal Teeside, dychwelodd ef a Margaret i Gymru, a maes o law daeth yn swyddog cysylltiadau cyhoeddus i Fwrdd Ysbytai Cymru.  Fyddai neb wedi synnu pe byddai wedi cadw ei ben dan y pared ar ôl blynyddoedd o ansicrwydd.  Ond gŵr o argyhoeddiad dwfn oedd Emrys, a phan ddaeth gwahoddiad yn 1972 i sefyll yn ymgeisydd y Blaid yn is-etholiad Merthyr Tudful bu raid iddo gytuno.

Bu’r cyfnod yn dyngedfennol i Blaid Cymru.  Ar ôl y fuddugoliaeth felys yng Nghaerfyrddin, a’r canlyniadau agos yng Ngorllewin y Rhondda a Chaerffili, erbyn 1970 doedd gan y Blaid yr un sedd yn San Steffan.  Prysurodd Llafur i alw’r is-etholiad yn sydyn, ac rwy’n cofio i Neil Kinnock broffwydo y bydden nhw’n claddu’r Blaid.  Ond nid felly y bu: llifodd cenedlaetholwyr o bob cwr o Gymru i weithio yn y gwynt a’r glaw.  Ymddangosodd posteri ymhobman yn yr etholaeth a thorrwyd mwyafrif y Blaid Lafur i 3,710.

O hynny ymlaen, cryfhaodd sefyllfa’r Blaid yn y De yn gyffredinol.  Cipiodd Emrys sedd ar Gyngor Merthyr yn ardal Troedyrhiw, ac yn 1976 daeth buddugoliaeth syfrdanol yn y fwrdeistref – aeth Plaid Cymru â 21 o’r 33 sedd, gydag Emrys yn arweinydd y Cyngor, yr un cyntaf erioed dan reolaeth swyddogol Plaid Cymru.  Ceir darllen ei hunangofiant ar wefan Cymdeithas Hanes Plaid Cymru, www.hanesplaidcymru.org (edrychwch am Chwilen neu Ddwy yn fy Mhen, yn yr adran Cyhoeddiadau).

 

*Ganed Emrys Pugh Roberts ar 30 Tachwedd 1931.  Bu farw ar 9 Ionawr 2025.

————————————

Hefyd ar wefan y BBC  > Emrys Roberts BBC Cymru Fyw 

 

————————————-

Datganiad yn y Senedd gan Rhys ab Owen AS 29/01/2025

Yr areithiwr gorau iddo glywed erioed. Dyna farn Vaughan Roderick am Emrys Roberts. Ganed yn Leamington Spa, ond yn 10 mlwydd oed symudodd i Gaerdydd. Trwy Gapel Minny Street, ysgol Cathays a’i fodryb Bet, dysgodd Emrys y Gymraeg. Yn Cathays, roedd e’n un o griw o fechgyn a ddaeth yn rhugl yn yr iaith, gan gynnwys Bobi Jones a Tedi Millward.

Yn wrthwynebydd cydwybodol, gwrthododd wneud gwasanaeth milwrol wedi’r ail ryfel byd, ac fe’i dedfrydwyd i garchar Caerdydd. Tra roedd e yno, fe grogwyd Mahmood Mattan. Gwelodd Emrys Roberts yr hiliaeth yn erbyn Mahmood, a gwelodd ei gyd-garcharorion Somali yn gorfod cloddio’r bedd, a quicklime yn cael ei roi yn y bedd.

Roedd meddylfryd rhyngwladol gan Emrys. Roedd yn flaenllaw yn yr Ymgyrch Diarfogi Niwclear, ac roedd ganddo barch enfawr tuag at Castro a Chiwba. Ei ddyhead mawr oedd gweld Cymru yn eistedd yn ochr yn ochr â Chiwba yn y Cenhedloedd Unedig.

Fe safodd dros y Blaid mewn sawl isetholiad amlwg, a fe oedd arweinydd cyngor Merthyr ar ddiwedd y 1970au. Ef hefyd oedd yn gyfrifol am y darllediadau anghyfreithlon a ddigwyddodd pan wnaeth y BBC wahardd darllediadau gwleidyddol gan y Blaid.

Er iddo ddal swyddi blaenllaw o fewn Plaid Cymru, mae’n deg i ddweud na welodd llygaid yn llygaid ag arweinyddiaeth y blaid ar bob achlysur. Roedd yn sosialydd wrth reddf, ac fe weithiodd yn galed i wthio’r blaid i’r cyfeiriad hynny. Roedd popeth a wnaeth Emrys wedi’i wreiddio yn yr hyn oedd orau i Gymru ac i bobloedd y byd. Roedd e’n ddyn caredig, ac fe brofais innau o’r caredigrwydd hynny ar hyd y blynyddoedd.

Mae’n fraint talu teyrnged i Emrys yn y Senedd. Roedd yn rhan o griw bychan a fynnodd bod Cymru yn genedl, a ffrwyth eu hymdrechion hwy yw’r Senedd yma. Diolch yn fawr.


Teyrnged o’r papur bro ‘CwmNi’

Emrys Roberts (1931 – 2015)

 thristwch derbyniwyd y newyddion ym mis Ionawr am farwolaeth un o gewri gwleidyddol ein gwlad. Bydd nifer o’n darllenwyr yn cofio’r cyfaill Emrys Roberts pan oedd yn byw yn nalgylch “Cwmni” ym Maesycwmer.

Bu’n  ymgyrchydd diflino dros genedlaetholdeb Cymru drwy sefyll etholiadau niferus ac wrth ei waith fel golygydd un o’n papurau lleol. Yn Lloegr cafodd ei eni ond dysgodd siarad Cymraeg wedi i’r teulu symud i Gaerdydd ac i Emrys ddysgu Cymraeg yn Ysgol Uwchradd Cathays. Parhau gwnaeth e yn y ddinas drwy ddilyn cwrs gradd yn y Brifysgol yno. Yn y brifysgol bu’n llywydd Undeb y Myfyrwyr rhwng 1954 ac 1955. Hefyd bu’n mynychu capel Annibynnol Minny Street y ddinas a  bu’n wrthwynebydd cydwybodol rhag consgripsiwn.  

 Cawsom erthygl ddiddorol gan Philip Lloyd yn rhifyn mis Chwefror am ymgyrch wych Emrys ym Merthyr Tudful yn 1972. Cawsom ein hatgoffa am yr hyn ddigwyddodd wedi marwolaeth yr enwog S.O.Davies a fu’n Aelod Seneddol y fwrdeistref rhwng 1934 a 1970. Yn ei erthygl am “S.O.” roedd Philip Lloyd yn ein hatgoffa o’r ffordd anffodus y cafodd S.O wybod nad oedd wedi’i enwebu i sefyll yn enw’r Blaid Lafur yn Etholiad Cyffredinol 1970. Ond doedd S.O. ddim yn ddyn i dderbyn y fath sarhad a phenderfynodd sefyll yn yr Etholiad hwnnw fel ymgeisydd Llafur Annibynnol. Yn dilyn ei farwolaeth yn 1972 dewisodd Llafur Ted Rowlands i sefyll yn enw’r blaid honno. Ac Emrys Roberts gododd i’r her o wrthwynebu’r ymgeisydd newydd hwn. Cafwyd ymgyrchu tanbaid ac wedi i Ted Rowlands wrthod her i gymryd rhan mewn trafodaeth gyhoeddus  gydag Emrys, bedyddiodd nifer o gefnogwyr y Blaid Ted Rowlands yn ‘Yellow Teddy’ gan chwifio tedi bêrs bach melyn o’i flaen. Ond yn y diwedd traddodiad Llafuraidd etholwyr Merthyr a orfu. Cafodd y Blaid ganlyniad calonogol yn 1972  ond colli tir wnaethon nhw pan safodd Emrys yn erbyn Ted Rowlands yn Etholiad Cyffredinol Chwefror 1974.

Is Etholiad 13eg o Ebrill 1972
Ted Rowlands 15,562 48.5%
Emrys Roberts 11,852 37.09%

Etholiad 28ain Chwefror 1974
Ted Rowlands 20,486  64.1%
Emrys Roberts  7,336  22.9%          

Etholiad 10fed o Hydref1974
Ted Rowlands 22,386  71.3%
Eurfyl ap Gwilym2,962  9.4%

Ond doedd dylanwad Emrys ddim wedi dod i ben gyda chanlyniadau’r etholiadau seneddol oherwydd enillodd sedd ar Gyngor Bwrdeistref Merthyr gan ei dal rhwng 1975 ac 1981. Ac ef fu’n arwain grŵp Plaid Cymru pan enillon nhw reolaeth fel y blaid fwyaf yn y fwrdeistref rhwng 1976 ac 1979.

Enillodd Blaid Cymru fuddugoliaeth yma yn ardal “Cwmni” drwy ennill rheolaeth dros Gyngor Dosbarth Cwm Rhymni yn ystod yr un cyfnod. Dyma  oedd y tro cyntaf i’r Blaid Genedlaethol ennill rheolaeth ar gynghorau pwysig. Bydd Pleidwyr Cwm Rhymni hefyd yn cofio i Emrys fod yn olygydd y Caerphilly Advertiser ddechrau’r saith degau.

Fe gofiwn hefyd mai yn ystod Etholiadau Cyffredinol 1974 yr enillodd Dafydd Wigley, Caernarfon a Dafydd Elis Thomas, Meirionydd eu seddi yn y ddwy etholiad. A bu Dafydd ac Elinor Wigley yn byw ym Merthyr yr adeg yma ac yn gyfranwyr sylweddol i lwyddiant y Blaid yma yn y De.

                                                                               Ben Jones

 

Hanes Plaid Cymru