Vic Davies, Y Rhondda, yn 96oed, Rhagfyr 2013

Daeth cant o bobl i gyfarfod arbennig i gofio 90ain pen-blwydd o’r cyfarfod cyntaf o’r Mudiad Cymreig, grŵp a arweiniodd at ffurfio Plaid Cymru – gan synnu’r gŵr gwadd, yr Athro Richard Wyn Jones, un o brif ysgolheigion ym maes gwleidyddiaeth.
Fe gynhaliwyd y cyfarfod hanesyddol, cudd yn Bedwas Place, Penarthar Ionawr 7, 1924, ac ymhlith y rhai fu yno bryd hynny oedd y darlithydd a dramodydd, Saunders Lewis, a drigai ym Mhenarth dros flynyddoedd lawer.
Yn ystod y digwyddiad y mis yma, siaradodd yr Athro Richard Wyn Jones am bwysigrwydd cyfarfodydd y grŵp a’u dylanwad wrth ddatblygu cysylltiadau gyda chenedlaetholwyr yng ngogledd Cymru a sefydliad swyddogol Plaid Cymru’r flwyddyn ddilynol.
Eglurodd sut y daeth y polisïau a luniwyd gan y grŵp yn bolisïau i Blaid Cymru ei hun yn ei blynyddoedd cyntaf.
Yn ogystal â Saunders Lewis, yn bresennol yn y cyfarfod hanesyddol cyntaf oedd yr hanesydd, Ambrose Bebb, a pherchnogion y tŷ yn Bedwas Place, yr hanesydd ac ysgolhaig Cymreig, G. J. Williams a’i wraig Elizabeth.
Trefnwyd y dathliad diweddar gan Gymdeithas Hanes Plaid Cymru a Changen Penarth o’r Blaid, ac ymhlith y cant a ddaeth oedd criw teledu.
Clywodd ystafell dan ei sang yn y Windsor Arms groeso i’r Athro Jones, aelodau a chefnogwyr y Blaid a thrigolion lleol â diddordeb yn hanes gwleidyddiaeth ym Mhenarth gan Gadeirydd y Gangen leol Adrian Roper.
Cadeirydd y cyfarfod oedd Alun Ffred Jones, sy’n Aelod Cynulliad ac yn ŵyr i’r Parchedig Ffred Jones, a ymunodd â’r grŵp ar ôl ei gyfarfod cyntaf.
Rhoddodd Cadeirydd Cymdeithas Hanes Plaid Cymru, Dafydd Williams, bleidlais o ddiolch i’r siaradwyr a’r trefnwyr.
Sain Darlith Richard Wyn Jones-
Ymhlith y gynulleidfa yn y dathliad oedd ymgeiswyr San Steffan a Chynulliad y Blaid ar gyfer De Caerdydd a Phenarth, Ben Foday a Dr Dafydd Trystan Davies, a etholwyd yn gadeirydd cenedlaethol Plaid Cymru’r llynedd.
Y Newyddion ar S4C
Yng Nghynhadledd y Blaid,, Hydref 2013, roedd Yvonne Balakrishnan ar ran y Gymdeithas Hanes wedi paratoi arddangosfa o Ferched ym Mhlaid Cymru yn ystod y Blynyddoed Cynnar.
Ymhlith y merched a gofnodir yn yr arddangosfa mae –
Cassie Davies, Tegwen Clee, Eileen Beasley, Nesta Roberts
Priscie Roberts, Mai Roberts, Efelyn Williams, Kate Roberts
Dr Ceinwen H. Thomas, Cathrin Huws, Caerdydd, Jennie Gruffydd
Nans Jones, Nora Celyn Jones, Llinos Roberts, Lerpwl
Dyma rhai o’r protreadau –

Rôl gudd Penarth yn hanes Cymru
Nos Fawrth, 7fed Ionawr 2014, Windsor Arms, Windsor Rd. Penarth am 7.30pm.
Darlith gan Athro Richard Wyn Jones a bwffe i gofio yr achlysur 90 mlynedd yn ôl – cyfarfod cyntaf ‘Mudiad Cymreig’.
Tocyn ar gael am £10.00 . Anfonwch eich siec at Alan Jobins , 47, Wingfield Rd Eglwys Newydd , Caedydd CF141NJ.
Bydd noson arbennig yn nodi 90ain pen-blwydd cyfarfod cyntaf Y Mudiad Cymreig, a arweiniodd at ffurfio Plaid Cymru’r flwyddyn ganlynol, i’w gynnal ym Mhenarth ym Mis Ionawr.
Cynhaliwyd y cyfarfod hanesyddol yn 11, Bedwas Place, Penarth ar noson Ionawr 7fed, 1924, ac fe fydd y digwyddiad coffa yng ngwesty’r Windsor Arms Nos Fawrth, Ionawr 7 (am 7.30pm).
Trefnir ar y cyd gan Gymdeithas Hanes Plaid Cymru a Changen Penarth o’r Blaid.
Y gŵr gwadd fydd yr Athro Richard Wyn Jones, sy’n hanesydd, sylwebydd gwleidyddol a darlledwr o fri.
Yn y cyfarfod yn 1924, dechreuodd grŵp bychan o genedlaetholwyr dan arweiniad y darlithydd a dramodydd Saunders Lewis lunio polisïau ac amcanion oedd â’r nod o achub Cymru rhag difodiant diwylliannol a gwleidyddol.
Yn ogystal â Saunders Lewis, mynychwyd y cyfarfod cyntaf gan yr hanesydd Ambrose Bebb a pherchnogion y tŷ, yr hanesydd ac ysgolhaig Cymreig G. J. Williams a’i wraig, Elizabeth.
Mewn cyfarfod diweddarach ar 5 Chwefror, ymunodd D.J. Williams a Ben Bowen Thomas ac ym Mis Mawrth daeth gweinidog o Dreorci, y Parchedig Ffred Jones, tad-cu canwr gwerin a chyn-Lywydd Plaid Cymru Dafydd Iwan a’r Aelod Cynulliad Alun Ffred Jones, fydd yn cadeirio’r cyfarfod pen-blwydd.
Bu’r grŵp yn cwrdd yn gyfrinachol drwy gydol 1924 tra fo grŵp arall o genedlaetholwyr yn cwrdd yng Ngwynedd tua’r un adeg.
Yn gynnar yn 1925, cysylltodd arweinydd y grŵp gogleddol, H.R. Jones, â Saunders Lewis i’w wahodd i helpu wrth greu plaid wleidyddol newydd. Fe gadwodd y ddwy garfan mewn cysylltiad agos ac ar Awst 5, 1925, teithiodd Mr Lewis a’r Parch Ffred Jones i Bwllheli i ymuno ag H.R. Jones a thri arall – y Parchedig Lewis Valentine, y gwyddonydd Moses Griffiths a’r saer D.E. Williams – mewn cyfarfod i sefydlu Plaid Genedlaethol Cymru yn fudiad cenedlaethol i Gymru.
Cafodd rhai o’r polisïau a luniwyd ym Mhenarth gan y Mudiad Cymreig eu rhoi o’r neilltu ers llawer dydd, ond daeth ei weledigaeth o blaid annibynnol i Gymru ei gwireddu, gyda’r bwriad penodol, yng ngeiriau D.J. Williams, o roi i Gymru, yng nghyflawnder amser, hunanlywodraeth a’i senedd ei hun, ynghyd â holl freintiau cenedl rydd.
Mae modd olrhain dadeni Cymru yn genedl hunanlywodraethol i raddau helaeth yn ôl i’r trafodaethau cudd hynny yn Bedwas Place yn 1924.
Gobeithir y bydd y rhai yn y digwyddiad coffaol yn cynnwys disgynyddion prif aelodau’r Mudiad Cymreig yn ogystal â chynrychiolwyr o Gangen Pwllheli o Blaid Cymru.
Ceir tocynnau (£10 y pen i gynnwys bwffe) oddi wrth Rowland Davies o Gangen Penarth, ardbear@btinternet.com neu (029) 20702603 a 07769 195025, neu oddi wrth Alan Jobbins o Gymdeithas Hanes Cymru, asjobbins@btinternet.com
neu (029) 20623275 a 07790 868686.