Dyma recordiad o’r ddarlith a’r trawsysgrif isod.
Darlith Cymdeithas Hanes Plaid Cymru, Eisteddfod Pontypridd 2024
O Cymru Fydd i Blaid Cymru
Richard Wyn Jones
Cyfarwyddwr Canolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd.
Yn gyntaf, diolch i Gymdeithas Hanes Plaid Cymru am y gwahoddiad i draddodiâr ddarlith hon, i Eluned Bush am drefnuâr cyfan mor effeithiol, ac wrth gwrs i chithauân gynulleidfa hefyd am droi mewn i Babell y Cymdeithasau!
***
Fe gefais gyngor rhywdro na ddylai rywun fyth gychwyn darlith neu araith gyhoeddus hefo ymddiheuriad neu esgus. Gwell bwrw iddiân hyderus pa bynnag mor dennauâr deunydd sydd ar fin cael ei draethu…! Maeân siwr gennai fod hynnyân gyngor doeth. Serch hynny, yn yr achos bresenol, dwiân meddwl ei bod y briodol fy mod yn ei anwybyddu.
Da chiân gweld, fy mwriad gwreiddiol oedd treulioâr rhan fwyaf o fisoedd Mehefin a Gorffennaf yn ymchwilio ar gyfer ac wedyn yn ysgrifennuâr ddarlith hon. Hynny fel y cam cyntaf yn y broses o ysgrifennu llyfr newydd. Ysywaeth, fe benderfynodd Mr Sunak mai nid felly yr oedd hi i fod. Ac a bod yn onest, ddaru Mr Gething ddim helpu chwaith, naddo!?
Fellyâr gwir amdani yw fy mod wedi gallu treulio llawer iawn yn llai o amser yn darllen a meddwl a sgwennuâr canlynol nag a fwriedais. O ganlyniad, blas ar y ddadl yr wyf am geisio ei datblygu fydd hon yn hytrach naâr ddadl yn ei chyfanrwydd. Serch hynny, gobeithio y bydd yma rywbeth yma a fydd o ddiddordeb ac yn ddigon i godi eich harchwaeth am fwy…
***
Gadewch i mi ddechrau hefo dipyn oâr cyd-destun… Fel yr awgrymais, fe fydd y ddarlith hon yn garreg lamu ar gyfer sgwennu pennod mewn llyfr newydd. Dyma lyfr fydd yn cwblhau trioleg o gyfrolau syân trafod gwahanol agweddau ar syniadaeth Plaid Cymru. (Gyda llaw, Gwasg Prifysgol Cymru fydd wedi cyhoeddiâr cyfan, a fel rhywun sydd wedi cyhoeddi hefo gweisg academaidd uchel-eu-statws yn Lloegr aâr Unol Daleithiau, fe garwn i danlinellu pa mor ffodus ydan niân cael gwasg syân well naâr cyfan-oll ohonynt yma yng Nghymru…)
Fe gyhoeddwyd y cyntaf oâr dair, Rhoi Cymruân Gyntaf: Syniadaeth Plaid Cymru, Cyfrol 1, yn Ă´l yn 2007, a bydd cyfieithiad Saesneg yn ymddangos oâr wasg ym mis Hydref eleni â oâr diwedd!!! Fe gyhoeddwyd yr ail, Y Blaid Ffasgaidd yng Nghymru: Plaid Cymru aâr Cyhuddiad o Ffasgaeth yn 2013, gyda cyfieithiad Saesneg yn ymddangos y flwyddyn ganlynol. Erbyn hyn, dyma fi oâr diwedd yn gweithio o ddifrif ar drydedd aâr olaf, sef Rhoi Cymruân Gyntaf: Syniadaeth Plaid Cymru, Cyfrol 2.
Fy mwriad yw cychwyn y drydedd llyfr yn y drioleg â Cyfrol Dau! â hefo cymhariaeth o Blaid Cymru aâr peth agosaf oedd ganddi fel rhagflaenydd, sef mudiad Cymru Fydd; y mudiad gwleidyddol honno a fuân rym go iawn yn mywyd Cymru am gyfnod tua diwedd y bedwaredd ganrif-ar-bymtheg. Mudiad a gysylltir gyda enwau syân parhauân enwog â weithiauân ddrwg-enwog â fel Tom Ellis, David Lloyd George ac O.M. Edwards, ynghyd ag eraill sydd wedi eu hanghofio braidd erbyn hyn megis Beriah Gwynfe Evans, Ellis Jones Griffith aâr cwpl rhyfeddol yna, Herbert a Ruth Lewis.
Mae na sawl rheswm pam fy mod iân ystyried fod llunio cymhariaeth oâr fath yn werth-chweil. Rwyf am nodi tair ohonynt, a hynny er na fydd cyfle iâw trafod i gyd y prynhawn yma.
- Y lleiaf pwysig oâr rhesymau hyn o ran y llyfr ei hun, sydd yn y pendraw yn astudiaeth o Blaid Cymru nid Cymru Fydd, yw fy mod yn teimlo nad ydi ffenomenon Cymru Fydd (a bobl, fe roedd yn ffenomenon!) wedi cael ei lawn haeddiant yn y llyfrau hanes. Fel y gwelwn yn y man, mae hynnyân rhannol adlewyrchuâr ffaith fod dehongliadau a dealltwriaeth yr ail don o genedlaetholdeb Cymreig â y don a ffurfiodd ac wedyn a gynalwyd yn ei dro gan Blaid Cymru â wedi llurgunio i ryw raddau ein dealltwriaeth oâr don gyntaf o genedlaetholdeb a ymgorfforwyd ym mudiad Cymru Fydd. Mae Cymru Fydd yn haeddu ystyriaeth sydd dipyn yn fwy crwn nag y mae tueddu iâw dderbyn yn gorffenol. Yn ffodus mae gwaith lled-ddiweddar ysgolheigion megis Dewi Rowland Hughes a Hazel Walford Davies wedi dechrau gwneud hynny. Ond mae na fwy eto iâw ddweud, fe dybiaf.
- Ar ben hynny, o ran yr astudiaeth ehangach o syniadaeth Plaid Cymru, mae Cymru Fydd aâr don gyntaf o genedlaetholdeb Cymreig yn mynnu sylw oherwydd mae deall y rhesymau pam y gwrthodwyd etifeddiaeth Cymru Fydd a Chymru Fyddiaeth gan sylfaenwyr a chefnogwyr cynharaf Plaid Cymru yn fodd i ni ddeall yn well eu credoau gwleidyddol hwythau â ac yn arbennig, fe dybiaf, tarddiad y credoau hynny.
- Yn olaf â ac yma mae fy meddyliau ar eu mwyaf cychwynnol ac ansicr â mae gennaâi syniad fod ystyried y gwahaniaethau aâr tebygrwydd rhwng Cymru Fydd a Phlaid Cymru hefyd yn fodd o fwrw goleuni ar agweddau ar wleidyddiaeth y Gymru gyfoes. Yn benodol, maeân fodd i ni ddeall yn well y berthynas rhwng y Plaid Cymru gyfoes ac adain genedlaetholgar Gymreig y Blaid Lafur yng Nghymru.
Go brin fod yn rhaid tanlinellu pan mor ganolog y buâr berthynas hon i ddatblygiad gwleidyddol Cymru ers deg mlynedd ar hungain a mwy. Gan fod y system bleidleisio newydd ar gyfer ein senedd genedlaethol a fydd yn cael ei chyflwyno erbyn 2026 yn gwneud llywodraethau clymblaid mwy na heb yn gwbl anochel, maeân debyg o barhau felly. A thybed os oes yna unrhyw gymhareb well i adain gynnes-Gymreig y Blaid Lafur gyfoes na Chymru Fydd?
Fel yn achos Cymru Fydd oâu blaen, mae cefnogwyr yr adain honno oâr Blaid Lafur yn credu y gellir sicrhau seiliau sefydliadol a diwyddianol y genedl Gymreig trwyâr wladwriaeth Brydeinig ac y gall hunaniaethiau cenedlaethol Cymreig a Phrydeining nid yn unig gyd-fywân gyffyrddus ond hefyd gyd-gryfhau a chyd-ddyrchafu eu gilydd.
Fel Cymru Fydd, maent hefyd yn credu mai trwy ieuoâr achos cenedlaethol Gymreig at ffawd plaid fawr Brydeinig y gellir sicrhauâr buddion yma â yn eu tyb hwy, y perygl o ymneilltuo oâr gyfundrefn bleidiol Brydeinig ydi amherthnasedd a cholliâr cyfle i ddylanwadu.
Go brin y gellir gwadu chwaith, nad ydynt wedi profi llwyddiant arwyddocaol yn eu hymdrechion.
Eto fyth, fel yn achos selogion Cymru Fydd, mae cenedlaetholwyr âcâ fach yn Blaid Lafur hefyd wedi darganfod dro ar Ă´l tro mai âeglwysi eangâ ydiâr pleidiau mawr Prydeinig a bod rhai oâi gelynion mwyaf digymrodedd ac effeithiol yn cyd-fyw oddi mewn iâr un blaid â hwy. Wedyn, hyd yn oed a bwrw eu bod yn llwyddo i ennill eu brwydrau mewnol oddi mewn iâw plaid eu hunain, nid ywâr wladwriaeth ei hun mor hyblyg ac y maent wedi ei ddychmygu.
Beth, tybed, ywâr goblygiadau i Blaid Cymru o synio am eu âgelynionâ ond, ie, eu cyngrhreiriad anorfod ar adain Gymreig y Blaid Lafur, fel yr amlygiad diweddaraf o Gymru Fydd yn yr amgylchiadau gwleidyddol gwahanol iawn syân bodoli cant a thrideg o flynyddoedd ers fod y mudiad honno yn ei hanterth?
Dyna chi, felly, rai oâr rhesymau dros gredu ei bod hiân werth-chweil cymharu Cymru Fydd â Phlaid Cymruân â ac yn benodol y syniadau a fuân gysylltiedig a hwy â yn fwy systemataidd nag a wnaed oâr blaen.
***
Yn amlwg, nid oes amser i wneud mwy na chodi cwr y llen ar hyn oll yn y ddarlith. Fel man cychwyn gadewch i ni graffu ar natur Cymru Fydd aâi syniadau cyn bwrw ati i ystyried sut yr aeth sylfaenwyr a rhai o gefnogwyr diweddarach Plaid Cymru ati i ddehongli hanes eu rhagflaenwyr.
- Deall Cymru Fydd
Mae cynulleidfa Eisteddfodol yn un arbennig o wybodus a rwyân weddol sicr y bydd na fobl yn y babell hon syân gwybod llawer iawn (llawer iawn mwy na mi!) am hanes Cymru Fydd. Ond y tu hwnt iâr gwybodusion hynny, iâr graddau maeâr sawl syân ymddiddori yng ngwleidyddiaeth Cymruân ymwybodol o gwbl oâr hanes, rwyân tybio maiâr cyfarfod a ystyrir fel y cyfarfod a arweiniodd at dranc Cymru Fydd ydiâr unig ran oâr stori fydd yn gyfarwydd. Dymaâr cyfarfod drwg-enwog o Ffederasiwn Rhyddfrydwyr De Cymru a gynhaliwyd yng Nghasnewydd yn Ionawr 1896 pan safodd Robert Bird â Llywydd Cymdeithas Ryddfrydol Caerdydd â ar ei draed a datgan âThere are from Swansea to Newport, thousands upon thousands of Englishmen, as true Liberals as yourselves…who will never submit to the domination of Welsh ideas.â
Efallai y bydd rhai hefyd yn gyfarwydd â ymateb Aelod Seneddol Bwrdeistrefi Caernarfon, David Lloyd George, iâr hyn a ddigwyddodd yng Nghasnewydd. âA yw lliaws y genedl Gymreigâ, fe daranodd, âyn mynd i gymryd eu harglwyddiaethu gan glymblaid o gyfalafwyr Seisnig sydd yn dyfod i Gymru, nid i ddyrchafuâr bobl, ond i wneud eu ffortiwn?â Fe wnaf adael i John Davies (Bwlchllan) gwblhauâr hanesyn yn ei ddull dihafal ei hun:
âYdyntâ oedd yr ateb iâw gwestiwn rhethregol, canys er y gwelid yng Nghymru ymosodiadau ar gyfalafiaeth, nid yn enwâr genedl y câi ei herio. Buâr cyfarfod yng Nghasnewydd yn ergyd farwol i Gymru Fydd. Cynhaliwyd rhagor o gyfarfodydd yn 1897 a 1898, ond ni pherthynai fawr o argyhoeddiad iddynt; erbyn diwedd y ganrif roedd y mudiad wedi darfod oâr tir.
Fel y seren wĂŽb honno, digwyddodd a darfu Cymru Fydd.
Ond os mai dynaâr elfen mwyaf cyfarwydd o ddigon yn storiâr mudiad, gadewch i mi ychwanegu sawl vignette bach arall a fydd efallaiân dangos Cymru Fydd aâr don gyntaf o genedlaetholdeb Cymreig mewn golau sydd ychydig yn llai cyfarwydd:
- Cynhalwyd cyfarfod cyhoeddus ym Mlaenau Ffestiniog yn 1886 wedi ei threfnu gan Michael D Jones a Pan Jones gyda Michael Davitt yn anerch at bwnc yn tir. Roedd Davitt yn chwyldroadwr Gwyddelig â yn aelod oâr Irish Republican Brotherhood â a oedd eisoes wedi ei garcharu droeon gan y wladwriaeth Brydeinig ac, ar y pryd, ef oedd un o arweinwyr amlycaf yr Irish Land League. Ymysg y siaradwyr eraill roedd y twrna ifanc, David Lloyd George. Yn Ă´l yr hanes, yn dilyn y cyfarfod bu Davitt yn annog Lloyd George yn frwd i barhau â gyrfa wleidyddol. Ac yn wir felly y bu…
Nid dymaâr unig dro y daeth cenedlaetholwyr Cymreig y cyfnod i gysylltiad ââr ffrwd mwyaf milwriaethus oddi mewn i genedlaetholdeb Gwyddelig â ffrwd leiafrifol ar y pryd, wrth gwrs. Mae hanes arall ynglyn â T.E. Ellis yn teithio i gyfarfod cyhoeddus yn Iwerddon lle y lladdwyd rhai oâr mynychwyr gan aelodau o luoedd y goron.
- Union gant a thrideg o flynyddoedd yn Ă´l i eleni â yn 1894 â fe aeth pedwar oâr Aelodau Seneddol Rhyddfrydol Cymreig mwyaf cenedlaetholgar âar streicâ fel rhan oâr hyn a elwid ar y pryd y âGwrthryfel Cymreigâ. Y pedwar oedd:
- David Lloyd George;
- Herbert Lewis, Aelod Seneddol Bwrdeistrefi Fflint;
- A. Thomas â Aelod Seneddol Merthyr ac yn ddiweddarach Is-Iarll y Rhondda ac un oâr rheini a gyfranodd at sbaddu Cymru Fydd fel grym gwleidyddol yn rhannol oherwydd gwrthdaro personol hefo DLlG (er bod y ddau wedi cymodiân ddiweddarach); a,
- Frank Edwards, Aelod Seneddol Maesyfed ac yn ddiweddarach Aelod o Dšâr Arglwyddi.
Eu prif gĹľyn oedd y ffaith fod Llywodraeth Ryddfrydol y dydd dan arweiniad yr Imperialydd rhonc, Iarll Roseberry, wedi penderfynu oedi ar fater datgysylltuâr Eglwys Anglicanaidd yng Nghymru. Am gyfnod buâr pedwar âgwrthryfelwrâ yn areithio mewn cyfarfodydd cyhoeddus ar hyd ac ar led Cymru ac yn Ă´l pob tebyg yn ennyn cefnogaeth frwd. Hynny cyn iâr gwrthryfel chwythu ei phlwc, a hynnyân rhannol, fel ellir tybio, oherwydd ymdrechion TE Ellis, a oedd erbyn hynnyân chwip Rhyddfrydol.
Go brin y ellir gwadu nad âdatgysylltiadâ oedd y prif fater penodol-Gymreig ar yr agenda wleidyddol yng Nghymru yng nghanol y 1890au. A ninnauân byw mewn oes sydd nid yn unig yn gwbl seciwlar ond yn un lle mae ymdrin â Chymru fel endid weinyddol wedi mynd yn fater arferol, maeân hawdd diystyrru pa mor bell-gyrhaeddol oedd goblygiadau yr alwad hon. Hynny nid yn unig o safbwynt ysbrydol ond hefyd o ran ei harwyddocad cyfansoddiadol: o sicrhau datgysylltuâr eglwys wladol dyma arwyddo fod y Gymru a gymhathwyd mor drylwyr yn uned wahanol i Loegr wediâr cyfan. Ond maeân bwysig cofnodiâr ffaith mai nid dymaâr unig ddiwygiad yr oedd y don gyntaf o genedlaetholwyr Cymreig yn ei deisyf….
Ceir syniad oâr agenda ehangach un o digrif-luniau a gynhwyswyd yn y nofel, Dafydd Dafis â nofel a ysgrifenwyd gan Ysgrifenydd Cyffredinol Cymru Fydd, Beriah Gwynfe Evans, a gyhoeddwyd yn 1898; nofel sydd yn ddadlenol o ran gwleidyddol y cyfnod er ei bod, ysywaeth, bron iawn a bod yn gwbl anarllenadwy.

Yn ogystal â Datgysylltiad a Dadwaddoliad, maeân nodiâr canlynol fel dyheuadau:
- Diwygio deddfau claddu
- Swyddfa Addysg i Gymru
- Diwygio deddfauâr tir
- Dewisiad (sef veto) lleol, ac
- Ymreolaeth i Gymru
Fe ellid fod wedi ychwanegu ar y rhestr.
Mewn araith enwog yn y Bala yn 1890 roedd Aelod Seneddol Merionnydd, T.E. (Tom) Ellis, wedi dadlau maeâr olaf o rhain, ymreolaeth â sefydlu âCymanfa Ddeddfwriaetholâ i Gymru â oedd (neu ddylai fod) y ddolen gyswllt deallusol yn cysylltu gwahanol elfennauâr rhaglen bolisi genedlaethol Gymreig. Ac yn wir, pan luniwyd y rhestr o amcanion cyntaf ar gyfer Cymru Fydd mewn cyfarfod yn Llundain tair mlynedd ynghynt (DS fel cymaint o fudiadau cenedlaethol eraill yn Ewrop y G19, roedd alltudion yn ganolog i ddatblygiad y don gyntaf o genedlaetholdeb Cymreig), fe nodwyd yn eglur:
Mai prif amcan y gymdeithas fydd sicrhau Deddfwrfa Genedlaethol, i drafod materion Cymreig.
Wrth ddarllen ysgrifau hunangofiannol Thomas Jones yn ei gyfrol, Leeks and Daffodils, fe welwn i pa mor normal oedd trafod a chefnogi hunanlywodraeth i Gymru yn y ddegawd a ddilynodd araith Ellis. Maeân ddadlennol hefyd sylwi ar pa mor bwysig oedd dylanwad cenedlaetholdeb Gwyddelig ar gylchoedd cenedlaetholgar yng Nghymruâr 1890au. Yn Ă´l Jones, âHome Rule for Ireland was constantly under discussion…I brought and read the essays and poems of Thomas Davis.â Roedd y sgwrs am hunanlywodraeth â ymreolaeth â Gymreig yn digwydd yn llythrennol yn gyfochrog ââr sgwrs am ymreolaeth iâr Iwerddon.
Mae arwyddocad y sylwadau ymaân cael eu tanlinellu pan gofiwn ran Jones â fel llaw-dde Lloyd George â yn y broses o ymrannuâr Iwerddon trwy Ddeddf Llywodraeth Iwerddon 1920 ac yna Cytundeb Eingl-Wyddelig 1921. Maeân werth cofio hefyd, ar yr union adeg y cyhoeddwyd Leeks and Daffodils â sef 1942 â roedd Jones yn ganolog iâr ymdrech i geisio pardduo Plaid Cymru fel plaid a oedd yn cydymdeimlo â ffasgaeth.
- Yn olaf, gadewch i ni oedi am ychydig gyda Herbert Lewis. Go brin y bu gan y don gyntaf o genedlaetholdeb Cymreig ladmerydd mwy cyson ac effeithiol nag ef. Ef oedd cadeirydd cyntaf Cyngor Sir y Fflint yn 1889 cyn dyfod yn Aelod Seneddol Bwrdeistrefiâr Sir yn 1892, wedyn Sir y Fflint ei hun yn 1906 ac ar Ă´l hynnyân ddeilydd sedd Prifysgol Cymru yn Nhyâr Cyffredin wedi 1918. Buân un o sylfaenwyr yr gyfundrefn ysgolion canolradd yng Nghymru, ac yn rhinwedd ei rĂ´l fel ysgrifennydd seneddol y Bwrdd Addysg fe chwaraeodd rhan ganolog yn llunio Deddf Addysg enwog 1918 â âdeddf Fischerâ. Yn ogystal ââr pwyslais nodweddiadol ar addysg, maeân werth nodi fod Lewis wedi chwarae rhan ganolog â efallai y rhan ganolog â yn y broses o sicrhau fod y wladwriaeth Brydeinig yn ysgwyddoâr faich ariannol am gynnal y sefydliadau cenedlaethol Cymreig y llwyddwyd iâw creu yn y cyfnod dan sylw, ac yn arbennig y Llyfrgell aâr Amgueddfa Genedlaethol. Fel rhan o hynny, y fo a sicrhaodd y byddaiâr llyfrgell yn Aberystwyth yn dyfod yn lyfrgell hawlfraint.
Roedd ei ail wraig, Ruth Herbert Lewis, yn un o brif garedigion y Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru ag hefyd yn gasglwr caneuon gwerin â rhaid cyfaddef nad oeddwn iân ymwybodol mai hi gasglodd âHwp, ha wen! / Cadi ha, Morus stowt / Dros yr uchleân neidio / Hwp, dyna fo! / A chynffon buwch a chynffon llo / A chynffon Richard Parri go / Hwp, dyna fo!â, sef can hyfryd o wirion y bues iân canuân aml hefo fy mhlant i ers talwm, yn ogystal ââr carol plygain ysblennydd âO! Deued pob Cristion / i Fethlehem yr awron.â Bydd rhywun wedi derbyn Gwobr Goffa y Fonesig Ruth Herbert Lewis yr wythnos hon yn Eisteddfod Rhondda Cynon Taf.
Roedd gweddw T.E. Ellis, Annie Jane, yn yn arall o garedigion y Gymdeithas Alawon Gwerin. Fel Annie Jane Hughes Griffiths, daeth yn Llywydd Cymdeithas y Cenhedloedd yng Nghymru a hi a arweiniodd y ddirprwyaeth a fyddaiân tywys ApĂŞl Heddwch Menywod Cymru iâr Unol Daleithiau yn 1924. Fel arwydd arall o ymrwymiad y don gyntaf o genedlaetholwyr Cymreig i uchel-ddiwylliant Cymraeg â yn ogystal â diwylliant mwy gwerinol â maeân werth atgoffa ein hunain fod T.E. Ellis ei hun wrthiân golygu gwaith y cyfrinydd Morgan Llwyd ar gyfer ei gyhoeddi adeg ei farwolaeth annhymyg.
Mae na lawer iawn mwy y gellid ei ddweud ynglšn ââr holl weithgaredd, y personoliaethau, aâr gwahanol syniadau oedd yn gysylltiedig â Chymru Fydd. Ond mae na dri phwynt yn carwn dynnu sylw penodol atynt i berwyl y drafodaeth bresenol.
Yn gyntaf, rhaid pwysleisio drosodd a thro fod yr holl dystiolaeth yn awgrymru fod mwyafrif llethol y Cymru Fyddwyr yn ystyried y wladwriaeth Brydeinig a Phrydeindod nid fel gelynion i Cymru a Chymreictod, ond yn hytrach â oâu diwygio briodol â fel y moddion ar gyfer sicrhau a dyrchafu dyheuadau cenedlaethol Cymru. Noder fod hynny hynnyân wir hyd yn oed cyn i dwymyn ymerodraethol mawr y 1890au adael ei farc yng Nghymru, fel ac y gwnaeth yng ngweddill yr ynysoedd hyn.
Y diwygiadau a ddeisyfwyd ganddynt oedd (i) sefydlu senedd ddeddfwriaethol i Gymru, a hynny (ii) fel rhan o broses ehangach o sicrhau cydnabyddiaeth o le Cymru fel un o genhedloedd cyfansoddol Prydain Fawr. Un agwedd oâr gydnabyddiaeth hon â yr elfen negyddol, ar un ystyr â oedd sicrhau fod y wladwriaeth yn cydnabod realiti bywyd ysbrydol Cymru trwy ddatgysylltu a dadwaddoli eglwys wladol Lloegr yng Nghymru. Y wedd mwy gadarnhaol oedd creu sefydliadau sifig Cymreig ar batrwm y sefydliadau hynny oedd eisoes yn bodoli yn nhair diriogaeth gyfansoddol arall y wladwriaeth a throslwyddoâr gost oâu cynnal iâr Trysorlys Prydeinig.
Yn ail, o ystyried realitiâr gyfundrefn pleidiol Brydeinig, roedd hyn yn ei dro yn rhwym o olygu fod deheuadau cenedlaethol Cymru yn cael eu hieuo at ffawd etholiadol y Blaid Ryddfrydol. Fe fyddaâi hynny wedi parhauân wir pe baiâr Henadur Bird â dan ddylanwad DA Thomas â wedi methu yn ei ymdrechio i rwystroâr uniad o ffederasiynau rhyddfrydol de a gogledd Cymru â Chymru Fydd yn y cyfarfod drwg-enwog yna yng Nghasnewydd. Hyd yn oed petaiâr ffurfiant gwleidyddol arfaethedig wedi llwyddo i ddyfod yn fersiwn Cymreig, mwy blaengar oâr Irish Parliamentary Party â sef, does bosib, deisyfiad Lloyd George â roedd y ffaith fod gwleidyddiaeth Lloegr (ar Ă´l 1886, o leiaf) yn drwyadl unoliaethol aâu cynrychiolwyr etholiadol yn gwrthsefyll pob ymdrech i wireddu dyheuadau cenedlaethol Cymruân golygu mai dim ond yn y cyfnodau rheini pan yr oedd y Rhyddfrydwyr mewn grym y gellid gobeithio ennill diwygiadau newydd ystyrlon.
Er maiân anaml iawn y cydnabyddir y ffaith, dyma un oâr prif resymau pam fod y cyfnod rhwng 1895 a 1905 yn gyfnod mor ddifudd i genedlaetholwyr Cymreig. Gydaâr unoliaethwyr â y TorĂŻaid mewn cynghrair hefo adain unoliaethol y Rhyddfrydwyr â mewn grym yn Llundain trwy gydol y ddegawd honno, prin oedd y cyfleuon iâr don gyntaf o genedlaetholwyr Cymreig allu dylanwadu. Am yr un rheswm, roedd yn gyfnod llwm i genedlaetholwyr Gwyddelig a hynny er gwaethaf eu dominyddiaeth lwyr ar wleidyddiaeth etholiadol yr Iwerddon. Yn wir, roedd pethauân ddigon anodd hyd yn oed ar Ă´l buddugoliaeth enfawr y Rhyddfrydwyr yn etholiad 1906. Bryd hynny roedd mwyafrif y Rhyddfrydwyr mor fawr nes fod cenedlaetholwyr y cyrion Celtaidd wedi colli unrhyw rym bargeinio â yn syml, doedd dim oâu hangen. Llywodraeth gwrth-Geidwadol yn Llundain hefo mwyafrif bychan syân berffaith iâr rheini y tu allan i Loegr sydd am ennill consesiynau i genhedloedd y cyrion (gwers i ni gyd yn 2024, efallai?!)
A dyna ddod a mi at fy nhrydedd pwynt, ac efallai fy mhwynt mwyaf dadleuol, sef i nodi pa mor debyg oedd y don gyntaf o genedlaetholdeb Cymreig i brif ffrwd cenedlaetholdeb Gwyddelig yn yr un cyfnod. Roeddynt yn debyg nid yn unig o ran eu dibyniaeth ar lwyddiant (ac yn wir, graddau llwyddiant) y Blaid Ryddfrydol. Erbyn sefydlu Cymru Fydd, roeddynt hefyd lawer iawn yn debycach yn syniadaethol nad yr ydym yn tueddu iâw gydnabod erbyn heddiw. Roedd Cymryâr cyfnod yn deall hynnyân burion â cofiwch atgofion Thomas Jones y cyfeiriais atynt yn gynharach. Ond a ninnau erbyn hyn yn gweld cenedlaetholdeb Gwyddelig trwy brism Gwrthryfel y Pasg 1916 a phopeth a ddaeth yn ei sgĂŽl, rydym wedi tueddu i anghofio neu chamgofio be ddaeth cyn hynny.
Ond cymerwch John Redmond, fel enghraifft. Ef oedd un o brif arweinwyr cenedlaetholdeb Gwyddelig ar Ă´l marwolaeth Parnell yn 1891 ac, fel arweinydd yr Irish Parliamentary Party unedig, heb os fo oedd y prif arweinydd rhwng 1900 a 1918. Roedd Redmond yn credu yn gellid ac y dylid diwallu dyheuadau cenedlaethol Iwerddon trwy gyfrwng y wladwriaeth Brydeinig; yn wir, roedd yn chwenychu lle cyflawn iâr Iwerddon oddi mewn iâr Ymerodraeth Brydeinig. Gydaâr Rhyddfrydwyr yn ddibynol ar bleidleisiau ei blaid wedi etholiadau 1910, llwyddodd Redmond i sicrhau pasioâr Government of Ireland Act a dderbyniodd gyd-syniad brenhinol 1914. Fel y gwyddys, profodd yn fuddugoliaeth pyrig gan nas gweithredwyd y Ddeddf yn y diwedd oherwydd â ymysg pethau eraill â y Rhyfel Mawr, teyrn-frawdwriaeth rhannau oâr fyddin Brydeinig aâr Blaid Geidwadol, a Gwrthryfel y Pasg. Yn yr un flwyddyn, 1914, a dan yr union yr un amgylchiadau y derbyniodd y ddeddf a fyddaiân datgysylltu Eglwys Lloegr yng Nghymru hithau gydsyniad brenhinol.
Gwaredigaeth trwyâr wladwriaeth Brydeinig; sicrhau fod yr hunaniaeth genedlaethol gynhenid yn cymryd ei lleân anrhydeddus fel rhan o gynhysgaeth genedlaethol Brydeinig ehangach: dyma hanfod credo genedlaethol a syniadau cyfansoddiadol John Redmond a TE Ellis fel ei gilydd â a David Lloyd George hefyd, o ran hynny. Beth bynnag eu gwahaniaethau eraill, dymaâr tir cyffredin rhwng prif ffrwd cenedlaetholdeb Gwyddelig ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrauâr ugeinfed ganrif, a chredoauâr don gyntaf o genedlaetholwyr Cymreig.
- Dehongliad Plaid Cymru o Gymru Fydd
Fel yr awgrymais, nid ydi haneswyr wedi bod yn garedig â Chymru Fydd. Dichon fod na sawl rheswm am hynny. Yn un peth, bu tueddiad i ymdrin â hanes y mudiad fel rhywfath saig gyntaf iâw flasuân frysiog cyn symud ymlaen at y brif gwrs. O ran haneswyr y Cymru gyfoes, y brif saig honno â a hynnyân naturiol ddigon â yw twf ac wedyn goruchafiaeth y mudiad aâr blaid Lafur. Yn achos yr haneswyr lu sydd wedi ymddiddori yn hanes David Lloyd George, y brif saig yw rhan ganolog âDewin Dwyforâ yn nghyflafan y Rhyfel Mawr neu wrth gosod seiliauâr wladwriaeth les ym Mhrydain neu yn hanes rhannu ynys Iwerddon a chreuâr wladwriaeth rydd â y âFree Stateâ neu…neu… Rydych yn gweld fy mhwynt!
Os ydych yn troi at y math yma o weithiau gyda golwg ar yr hyn sydd ganddynt iâw ddweud yn benodol am hynt Cymru Fydd, mae rhywun yn aml yn gallu synhwyro awydd yr awduron i neidio mlaen at yr y materion eraill hynny y maent yn gwir-ymddiddori ynddynt. Maeân anffodus hefyd fod yr unig lyfr (?) a gyhoeddwyd yn ystod yr ugeinfed ganrif oedd yn ffocysuân benodol ar hanes Cymru Fydd â cyfrol William George oâr un teitl a gyhoeddwyd yn 1945 â yn ddryslyd mewn mannau traân sawru o ymdrech i achub cam brawd mawr yr awdur, sef wrth gwrs David Lloyd George.
Ond mae hyn yn ei droân codi cwestiwn arwyddocaol: sef pam yn y byd y byddaiâr brawd bach a fuodd yn gefn iâw frawd hšn yn teimlo fod angen gwneud ffasiwn beth ag achub ei gam pan fod y bachgen o Lanystumdwy wedi mynd ymlaen i arwain yr ymerodraeth fwyaf a mwyaf pwerus yn hanes y ddynoliaeth? Daw hyn a niân dwt at ffactor arall wedi dylanwaduân drwm iawn ar y cof hanesyddol ynglyn â Chymru Fydd a hynny, yn syml iawn, ydi dirmyg aelodauâr ail don o genedlaetholdeb Cymreig tuag ati â ac yn arbennig felly eu dirmyg llwyr tuag at David Lloyd George.
Yn ei gofiant i Lewis Valentine, mae Arwel Vittle yn darlunioâr hollt rhwng y to hyn o genedlaetholwyr Cymreig aâr to a fyddaiân mynd ati i sefydlu Plaid Cymru, gan gynnwys ei Llywydd cyntaf:
Seriwyd methiant Cymru Fydd ar feddyliau llawer o wladgarwyr ifanc aâr hyn a welid fel brad arweinwyr y mudiad yn hyrwyddo eu gyrfa eu hunain yn San Steffan ar draul eu cenedlaetholdeb. Crisialwyd hyn ym mherson Lloyd George ei hun, a fuân gymaint o eilun i genhedlaeth Samuel Valentine, ond a oedd bellach yn cael ei weld fel imperialydd rhonc gan ei fab.
Fe ellir pentyrru enghreifftiau lle bu aelodauâr ail don o genedlaetholdeb Cymreig yn ddeifiol o feirniadol oâr don gyntaf, a hynny â erbyn hyn â am gyfnod o ganrif a mwy. Maeân amlwg fod agwedd oâr fath hefyd wedi dylanwadu ar y sawl fuân ysgrifennu am rai oâr prif ffigurau a fuân gysylltied â Phlaid Cymru. Er enghrafft, mae Arwel Vittle ei hun yn ystyried maeâr hyn a gafwyd gan Cymru Fydd oedd âPrydeindod teyrngarol wediâi lapio yng ngwisg Cymreictod dagreuol.â
Roedd Saunders Lewis yn hallt ei feirniadaeth. Maeân tadogi methiant y mudiad iâr ffaith honedig mai âCymru oedd ar goll ym mudiad Cymru Fydd.â[2] Ymhellach, âA siarad yn fras…nid oedd rhyddfrydwyr Cymru Fydd nac yn gwybod nag yn deall hanes Cymru Fu.â[3] O ystyried rhai oâr enwau oedd yn cysylltiedig ââr mudiad, gan gynnwys J.E. Lloyd, siarad bras iawn oedd hynny! Serch hynny, yn Ă´l un o gofianwyr Saunders Lewis, D. Tecwyn Lloyd, a gosod ymreolaeth oâr neilltu, nid oedd dim yn benodol-Gymreig am y diwygiadau a gefnogwyd gan y Cymru Fyddwyr. Yn hytrach, nid oeddynt yn ddim amgen na âmoddion i wella a chynyddu ac effeithioli cyfraniad Cymru i Brydain ac iâw Hymerodraeth fyd-eangâ.[4] Ymhellach, erbyn degawd gyntaf yr ugeinfed ganrif, nid oedd ây sĂ´n aâr trafod am Gymru aâi harbenigrwyddâ gan wleidyddion megis Lloyd George, âyn ddim mwy na esgus chwareus dros hogi am ddyrchafiadau personolâ.
Ond efallai maeâr hanesyn bach ganlynol syân dadlennu orau agweddauâr ail don o genedlaetholwyr Cymreig tuag at eu rhagflaenwyr. Yn rhifyn Medi 1929 o bapur The Scots Independent ceir ysgrif gan Lewis Spence, Is-Gadeirydd y National Party of Scotland â sef, rhagfleynydd yr SNP â yn cofnodi hanes ei ymweliad â Ysgol Haf Plaid Genedlaethol Cymru a gynhaliwyd y flwyddyn honno ym Mhwlleli. Edrydd hanes y daith bws a drefnwyd er mwyn iâr mynychwyr gael gweld dipyn ar y cylch gan nodi fod y trafeilwyr wedi bžïo a hwtian pan yrrodd y siaribang heibio i fan geni Lloyd George! Go brin y byddai un o gyhoeddiadau Plaid Cymru ei hun wedi cynnwys stori mor blentynaidd â os doniol â gan y byddai wedi creu mwy o ffys a helynt naâi werth. Ond maeân cynnig mewnwelediad diddorol a thra-arwyddocaol i fydolwg aelodauâr Blaid Cymru ifanc.
Wrth reswm, roedd y to hyn yn gwybod yn iawn am agwedd y to iau, a â fel y gallech ddisgwyl â yn gwaredu at ffasiwn ddiffyg parch tuag at eu hynafiaid . Cafwyd sylw dolefus iâr perwyl yma gan Beriah Gwynfe Evans ym mhapur y South Wales Daily News pan gwynodd am y modd y clywyd âDe Valera compared and contrasted with Lloyd George, to the latterâs disadvantage.â Rwan, maeân bwysig nodi fod dewis Evans i bersonoli cenedlaetholdeb Gwyddelig y cyfnod yn ffurf Ăamon de Valera yn un bwriadol ddadleuol. Ar y pryd â sef mis Medi 1923 â roedd âDevâ newydd golli rhyfel cartref hyll yn erbyn y garfan fwyafrifol yn Sinn Fein ac ymysg poblogaeth y Dalaith Rhydd oedd o blaid y cytundeb Eingl-Wyddelig. Yn wir, roedd newydd ei garcharu yn Kilmainham â mangre a fydd yn gyfarwydd i lawer ohonoch. Byddaiân ddeuaw mis arall cyn iddo fynd ati i sefydlu plaid Fianna FaĂl a throi ei gefn yn derfynol ar yr elfen mwyaf digymrodedd a milwriaethus o blith y rheini yr oedd wedi eu swcro yn ystod y rhyfel cartref.
Ond o ddadbersonoli sylw cyn Ysgrifennydd Cymru Fydd, maeâr pwynt yn un teg. Fe roedd aelodauâr ail don o genedlaetholdeb Cymreig yn cloriannuâr don gyntaf trwy eu cymharu ââr cenedlaetholwyr Gwyddelig rheini a ysgogodd Wrthryfel y Pasg ac a lwyddodd i sicrhau rhyddid iâr rhan fwyaf o Iwerddon. Ac yn bendifaddau, yr oeddynt yn credu fod cymhariaeth oâr fath yn ffafrioâr Gwyddyl ar draul y Cymry. Syân dod a ni i drydedd pen fy narlith, sef dylanwad Iwerddon â ac yn benodol, dylanwad Sinn FeĂn â ar y Blaid Genedlaethol ifanc.
- Dylanwad Sinn FĂŠin ar ail don cenedlaetholdeb Cymreig
Nid oes dim yn newydd nag yn wreiddiol am ucheloleuo dylanwad y digwyddiadau yn Iwerddon wedi 1916 ar y Blaid Genedlaethol Cymru ifanc. Ni cheisiaf fynd ar Ă´l y gwahanol agweddau yma, chwaith. Mae llawer gormod iâw drafod i allu gwneud cyfiawnder ââr holl fater â o safiad dewr Lewis Valentine aâi gyd-fyfyrwyr ym Mangor, i gyfarfyddiadau personol yn Iwerddon rhwng, er enghraifft, D.J. Williams a Arthur Griffith a Michael Collins (yn 1919) ac, yn ddiweddarach, rhwng Saunders Lewis a De Valera (1925). Gyda llaw, roedd Saunders yn gofiadwy o ddilornus o Dev â âY mae ef yn deip oâr meddwl meddw, gwyntog, digyfundrefn…â â ond ni ddylai hynny ein synnu gan fod arweinydd y Blaid y gefnogwr cryf ochr y Treatyites yn Rhyfel Cartref Iwerddon. Gan hynny, ni fyddai disgwyl iddo gael unrhyw gydymdeimlad hefo Dev yn haf 1925. Erbyn 1938, fodd bynnag, gyda De Valera bellach wedi ymbarchuo a dyfod yn elyn digymrodedd oâr âeithafwyrâ gweriniaethol, roedd Lewis wedi newid ei gân ac yn cydnabod Dev fel un o wladweinwyr mwyaf y byd…
Rhag amlhau dyfyniadau ac enghreifftiau, gadewch i mi nodi eiriau J.E. Jones, Ysgrifennydd a Threfnydd Cyffredinol y Blaid rhwng 1930 a 1962(!). âYn ddi-os,â meddai
Iwerddon fuâr symbyliad aâr ysbrydiaeth gryfaf i genedlaetholdeb yng Nghymru yn ein cyfnod ni… Wedi rhyfel 1914-18,…[B]u amryw o Gymry ym myddin Lloegr yn Iwerddon a gweled a sylweddoliâr gormes yno; tyfodd cydymdeimlad tuag at Iwerddon, er gwaethaf propaganda Lloyd George. Yna ennillodd Iwerddon ei rhyddid yn 1921: y wlad gyntaf yn yr holl ymerodraeth iâw ennill… Trwy lyfrau daeth arwyr Iwerddon yn adnabyddus ac yn ysbrydiaeth i lu ohonom yng Nghymru… Daeth baledi Thomas Davis o ganol y gantrif ddiwethaf yn adnabyddus i lawer ohonom…aâr arwr rhamantus Michael Collins… Yn Iwerddon hefyd y cafodd H.R. Jones [Ysgrifennydd cyntaf y Blaid] hefyd ei bennaf ysbrydiaeth: bu yno droeon…. Parhaodd ysbrydiaeth Iwerddon ar nifer fawr yn y Blaid hyd Ryfel Mawr 1939-45 hyd yn oed. Praw o hynny oedd y galw cyson am lyfrau ar frwydr Iwerddon aâi harwyr trwyâr cyfnod, ac yr oeddwn yn gwerthuâr llyfrau hynny wrth y cannoedd o Swyddfaâr Blaid yng Nghaernarfon.
Rhag fod na unrhyw amwysedd, rhaid pwysleisio mai rhan o bechod mawr Lloyd George yn llygaid yr ail don o genedlaetholwyr oedd y rhan a chwaraeodd yn gyntaf yn gwrthsefyll â ac ynaân glastwreiddio â ârhyddidâ Iwerddon.
Y pwynt yr wyf am ychwanegu at y darlun cyfarwydd yma yw mai nid dim ond gweithredoedd ac âysbrydâ y Sinn Feiners oedd yn ysbrydoli yng Nghymru. Yn hytrach, rydym wedi colli golwg ar y ffaith fod prif syniadauâr Blaid Genedlaethol ifanc hefyd yn uniongred o Sinn Fein-aidd. Roedd dylanwad syniadau Sinn Fein iâw weld nid yn unig ar yr aelodau llawr-gwlad, ond hefyd ei arweinydd pwysicaf o ddigon, sef Saunders Lewis.
Mae llawer o inc wedi ei dywallt yn yr ymdrech i brofi dylanwad gwahanol feddylwyr ar syniadau Saunders Lewis. Wele draethawd haeddianol-enwog Dafydd Glyn Jones ar wleidyddiaeth Lewis syân trafod dylanwad gwahanol feddylwyr o Ffrainc ar ei syniadau neu ymdrechion D. Tecwyn Lloyd i brofi ddylanwad y meddyliwr Catholig Eingl-Ffrengig Hilaire Belloc. Yn fwy diweddar, mae Robin Chapman wedi heolio sylw at ddylanwad honedig âdau feirniad cymdeithasol o Saeson yr aeth eu henwau bellach yn anghofâ, sef Arthur Joseph Penty a Montague Edward Fordham.
Ond o ran ei syniadau gwleidyddol o leiaf, rwyân tybio fod y realiti ychydig yn fwy prosaic. Yn syml, roedd Saunders Lewis yn ddisgybl i Arthur Griffith. Neu a dweud y peth mewn modd ychydig yn llai pryfoclyd â roedd prif syniadau gwleidyddol Arthur Griffith yr oedd wedi eu poblogeiddio trwy fudiad Sinn Fein yn cydgordioân mor agos ââr syniadau a goleddwyd yn ddiweddarach gan Saunders Lewis fel na ond ellir ystyried fod y cyntaf wedi dylanwadu drwm iawn ar yr ail, boed hynnyân uniongyrchol neuâr anuniongyrchol. Gellir gweld hyn trwy graffu ar y rhaglen wleidyddol Arthur Griffith a Sinn Fein aâi gymharu ââr rhaglen wleidyddol a fabwysiadodd y Blaid Genedlaethol ifanc dan ddylanwad Saunders Lewis.
Credai Griffith na cheid achubiaeth iâr Iwerddon trwy bleidiau neu sefydliadau gwleidyddol eraill y wladwriaeth Brydeinig. Yn hytrach roedd angen ymddihatru ohonynt a chanolbwyntio ar weithredu ar ynys Iwerddon yn unig. Golyga hyn na ddylai unrhyw aelod a etholwyd ar ran Sinn Fein i Dšâr Cyffredin gymryd eu seddau yno (absentionism). Yn hytrach, dylid defnyddio cyfundrefn llywodraeth leol Iwerddon fel llwyfan ar gyfer adeiladu gwleidyddiaeth ac, yn wir, gwladwriaeth Wyddelig amgen oddi mewn i gragen y wladwriaeth Brydeinig.
Dymaân union weledigaeth a pholisiâr Blaid Genedlaethol ifanc hefyd. Dim ond yn dilyn methiant ymgyrch Plaid Cymru yn etholaeth Arfon yn etholiad cyffredinol 1929 y newidwyd y polisi o wrth-gilio o San Steffan. (Noder, ar y pryd, ystyrwyd 609 pleidlais fel siom fawr hyd yn oed os yw Dafydd Iwan wedi hudo cenedlaetholwyr cyfoes i feddwl yn wahanol!) A roedd angen holl ymdrechion cyngrheiriad agosaf Saunders Lewis iâw orfodi i dderbyn y newid polisi. Ac yn wir, mae na ddigonedd o dystiolaeth i awgrymu fod ei reddfau wedi parhauân rai absentionist gydol ei oes.
Roedd dadleuon economaidd yn ganolog i efengyl wleidyddol Arthur Griffith, a hunangynhaliaeth economaidd oedd un oâi syniadau mawr. Noder mai nid dyma gredo economaidd y don gyntaf o genedlaetholwyr Gymreig, ond fe newidiodd hynny erbyn brigoâr ail don. Yn ddiau, roedd mwy nag un dylanwad ar waith yn sicrhauâr newid yma. Ond roedd syniadau cenedlaetholwyr Gwyddelig â yr advanced nationalist a ddylanwadwyd gan Griffith â yn allweddol. Yn wir, gellir darllen â10 pwynt polisiâ drwg-enwog Saunders Lewis fel datganiad uniongred oâr syniadau economaidd a chymdeithasol a goleddwyd ar draws hollt y rhyfel cartref yn Iwerddon.
Roedd syniadau cyfansoddiadol Saunders Lewis aâr Blaid Genedlaethol cynnar hefyd yn rhyfeddol o debyg i rai Arthur Griffith â gwr a oedd, wrth gwrs, yn un o gefnogwyr y Cytundeb Eingl-wyddelig. Felly pan gyhoeddoedd Plaid Cymru ei chynllun ar gyfer dyfodol cyfansoddiadol Cymru ar droad yn 1930au, fe wnaed hiân gwbl eglur mai Gwladwriaeth Rydd Iwerddon oedd y model y dylai Cymru geisio ei hefelychu. Felly âstatws dominiwnâ yn hytrach nag annibyniaeth lwyr oedd hi i fod. Ac yn wir, wrth ddwyn i gof safbwynt (dadleuol, i rai) Saunders Lewis ynglšn ââr frenhiniaeth, maeân werth cofio fod Arthur Griffith yntauân cefnogi parhad y cysylltiad rhwng yr Iwerddon Rydd aâr frenhiniaeth, a hynny ar ffurf y math o âfrenhiniaeth ddeuolâ a gaed yn ymerodraeth Awstro-Hwngari.
Ond traân deisyf parhad rhai cysylltiadau aâr Goron aâr wladwriaeth Brydeinig, mae bwysig tanlinellu fod Arthur Griffith a Sinn Fein ar y naill law, a Saunders Lewis a Phlaid Genedlaethol Cymru ar y llaw arall, i gyd yn wrth-imperialwyr di-gymrodedd. Dymaân wir un oâr gwahaniaethau sylfaenol rhwng â yn Iwerddon â prif ffrwd cenedlaetholdeb fel yâi hymgorfforwyd yn yr Irish Parliamentary Party a âadvanced nationalistsâ Sinn FĂŠin. Yng Nghymru hefyd dyma efallaiâr gwahaniaeth mwyaf trawiadol rhwng y don gyntaf o genedlaetholwyr Cymreig â a hudwyd i gyd yn pendraw gan imperialaeth Brydeinig â aâr ail don o genedlaetholwyr Cymreig, sydd wastad wedi bod yn hallt iawn eu beirniadaeth o rwysg a rhyfyg imperialaeth Brydenig a phob imperialaeth arall, o ran hynny. Eto, roedd enghraifft Iwerddon, sef fel y soniodd JE Jones, y genedl gyntaf i ryddhau ei hunain o afael yr San Steffan, yn allweddol wrth osod y cywair.
Yn wir, wrth i ni gloi, efallai ei bod yn werth ystyried y canlynol.
Dros amser fe fwriwyd heibio y ran fwyaf oâr dylanwad Sinn Feinaidd a oedd ffurfiodd cymaint o fyd-olwg a rhaglen bolisiâr Blaid Genedlaethol cynnar. Cefnwyd ar absentionism; ar hunangynhaliaeth economaidd; bodlonodd y blaid ar gydweithredu hefo pleidiau Prydeinig â y âpleidiau Seisnigâ, fel y byddai cenhedlaeth y sylfaenwyr wedi ei ddweud â er mwyn ennill consesiynau i Gymru; ac yn 2003 fe benderfynodd y blaid arddel âannibyniaethâ fel ei nod gyfansoddiadol. Ond un peth syân aros ac yn wir syân parhauân gryfach nag erioed (bron iawn) ganrif yn ddiweddarach ydi ei gwrthwynebiad i imperialaeth ac, yn gysylltiedig a hynny, ei hagwedd wahanol iawn tuag at wleidyddiaeth ryngwladol. Yn wir, fe ellid dadlau mai dyma bellach y gwahaniaeth mwyaf â a mwyaf sylfaenol â mewn agweddau rhwng y Blaid Cymru gyfoes ac etifeddion y don gyntaf o genedlaetholdeb yng Nghymru ar adain twym-galon Cymreig y Blaid Lafur. Ond fe fydd yn rhaid i chi ddisgwyl am y llyfr i glywed mwy am hynny…
Diolch yn fawr iawn am eich gwrandawiad.
[1] Cyfarwyddwr Canolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd.
[2] Saunders Lewis, âO.M. Edwards,â yn Gwynedd Pierce (gol) Triwyr Penllyn (Caerdydd: Plaid Cymru, d.d.), t. 31
[3] Saunders Lewis, âO.M. Edwards,â yn Gwynedd Pierce (gol) Triwyr Penllyn (Caerdydd: Plaid Cymru, d.d.), t. 31
[4] D. Tecwyn Lloyd, John Saunders Lewis: Y Gyfrol Gyntaf (Dinbych: Gwasg Gee, 1988), t. 185